Canllawiau

Ymateb i hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth (T422)

Diweddarwyd 16 Mai 2025

Canllawiau鈥檙 Llywyddion

Dan Reolau鈥檙 Tribiwnlys Cyflogaeth, gall Llywyddion y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr a鈥檙 Alban gyhoeddi Canllawiau. Nod y canllawiau hyn yw gwella cysondeb o ran y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn rheoli achosion a galluogi鈥檙 part茂on i ddeall yn well yr hyn a ddisgwylir ganddynt a鈥檙 hyn i鈥檞 ddisgwyl gan y tribiwnlys. Nid ydynt yn orfodol ond dylid eu dilyn lle bo hynny鈥檔 bosib.

Cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i ganllawiau鈥檙 ddau Lywydd yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal 芒 chanllaw Llywydd yr Alban:

Gall Tribiwnlys Cyflogaeth gymryd nifer o fisoedd i benderfynu yngl欧n 芒 hawliad. Bydd yr amser y mae鈥檔 ei gymryd i gwblhau鈥檙 broses yn dibynnu ar beth sydd dan sylw a beth yw鈥檙 materion yn yr hawliad - os oes llawer o faterion, neu fod y materion yn gymhleth, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ddelio 芒鈥檙 achos.

Pennir yr achosion a dderbynnir i mewn, ac sy鈥檔 mynd yn eu blaenau yn y system tribiwnlysoedd cyflogaeth ar sail teilyngdod bob achos unigol. Os bydd y tribiwnlys cyflogaeth yn penderfynu o blaid yr hawlydd, bydd y tribiwnlys yn ystyried faint o ddyfarndal sydd i鈥檞 dalu, gan gyfrifo faint ddylai fod wedi cael ei dalu pe na bai hawliau鈥檙 hawlydd wedi cael ei diystyru. Nid yw鈥檙 mwyafrif o awdurdodaethau (mathau o hawliadau) yn caniat谩u dyfarniadau anghyfyngedig, a hyd yn oed lle maent yn caniat谩u hynny a lle bo hawliadau鈥檔 cael eu gwneud am symiau mawr o iawndal, bydd y tribiwnlys yn ystyried yr wybodaeth berthnasol er mwyn sicrhau bod unrhyw ddyfarndal yn briodol.

Bydd tribiwnlysoedd yn penderfynu faint o ddyfarndal y mae gan yr hawlydd hawl iddo, yn 么l ei amgylchiadau personol, gan gynnwys ei oed, ei enillion, ac ar gyfer achosion sy鈥檔 ymwneud 芒 gwahaniaethu, niwed i鈥檞 deimladau. Bydd dyfarndaliadau am niwed i deimladau yn seiliedig ar y canllawiau presennol, a bennwyd mewn cyfraith achosion. Ar gyfer hawliadau diswyddo annheg, gall y tribiwnlys bennu dyfarndal am golli enillion yn y dyfodol. Pwrpas y dyfarndaliadau yw digolledu gweithwyr, nid cosbi cyflogwyr.

Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data

Mae鈥檙 Weinyddiaeth Cyfiawnder a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi yng nghyd-destun achosion tribiwnlys. Darllenwch am y safonau rydym yn eu dilyn wrth brosesu eich data.

I gael copi papur o鈥檙 hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch 芒鈥檔 Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid. Ceir manylion ar dudalen gefn y cyhoeddiad hwn. Noder: gellir anfon copi o鈥檙 ffurflen hawlio neu鈥檙 ffurflen ymateb ac unrhyw ohebiaeth arall sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 Tribiwnlys at y parti arall ac Acas at ddibenion achosion Tribiwnlys neu er mwyn setlo鈥檙 hawliad.

Deddf yr Iaith Gymraeg

Os ydych yn ymateb i hawliad yng Nghymru, cewch ofyn am gael gohebiaeth a galwadau ff么n yn Gymraeg. Os bydd y ddwy ochr yn cytuno, gellir cynnal y gwrandawiadau yn y Gymraeg yn unig. Os defnyddir y Gymraeg a鈥檙 Saesneg mewn gwrandawiad, gallwn ddarparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd, dim ond ichi ofyn.

Beth mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn ei wneud?

Mae tribiwnlysoedd cyflogaeth yn gwrando achosion ac yn gwneud penderfyniadau yngl欧n 芒 materion sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chyflogaeth megis diswyddo annheg, taliadau dileu swydd, gwahaniaethu ac amrywiaeth o wahanol hawliadau sy鈥檔 ymwneud 芒 chyflogau a thaliadau eraill. Er nad yw Tribiwnlys Cyflogaeth mor ffurfiol 芒 llys, rhaid iddo gydymffurfio 芒 rheolau gweithdrefnau a gweithredu鈥檔 annibynnol.

Rhagor o wybodaeth

Mae gan y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid a all ateb ymholiadau cyffredinol, rhoi gwybodaeth am gyhoeddiadau tribiwnlysoedd ac egluro sut y mae鈥檙 system tribiwnlysoedd yn gweithio. Efallai y gallant eich helpu i lenwi鈥檙 ffurflen, ond ni allant roi cyngor cyfreithiol ichi, megis p鈥檜n a yw鈥檙 hawliad a wnaed yn eich erbyn yn debygol o fod yn llwyddiannus.

听颁谤测苍辞诲别产听辞鈥檙听产谤辞蝉别蝉听丑补飞濒颈辞听

1.听顿补迟谤测蝉听补苍驳丑测诲蹿辞诲听

1.听础苍驳丑测诲蹿辞诲听测苍听肠辞诲颈听

2.听Ceisio听datrys听y mater听yn听anffurfiol听gyda鈥檙听cyflogwr听

3.听Cymodi听cynnar听gydag听Acas (y听gwasanaeth听cynghori,听cymodi听a听chyflafareddu)听

2.听颁测蹿濒飞测苍辞听丑补飞濒颈补诲听颈鈥檙听迟谤颈产颈飞苍濒测蝉听

Amcangyfrif听amser: 5听diwrnod听

1.听础苍蹿辞苍听丑补飞濒颈补诲听颈听诲谤颈产颈飞苍濒测蝉听

2.听Derbyn听yr听hawliad听(neu dim听ei听dderbyn听a鈥檌听ddychwelyd)听a鈥檌听anfon听at yr听atebydd.听

3.听驰尘补迟别产听测谤听补迟别产测诲诲听

惭补别听驳补苍听测谤听补迟别产测诲诲听28听诲颈飞谤苍辞诲听颈听测尘补迟别产.听

4.听搁丑别辞濒颈听补肠丑辞蝉听

Amcangyfrif听amser: 26听wythnos听

1.听翱蝉听苍补听飞苍补别迟丑听测谤听补迟别产测诲诲听测尘补迟别产听颈鈥檙听丑补飞濒颈补诲,听产测诲诲听诲测蹿补谤苍颈补诲听测苍听肠补别濒听别颈听驳测丑辞别诲诲颈.听

2.听Os听cafwyd听ymateb, gall y听ddau听barti听wneud听ceisiadau听o听fewn听yr听achos.听

3.颁测苍丑别濒颈谤听驳飞谤补苍诲补飞颈补诲听

5.听顿测蹿补谤苍颈补诲听

颁测丑辞别诲诲颈谤听诲测蹿补谤苍颈补诲听辞听蹿别飞苍听4听飞测迟丑苍辞蝉听补谤听么濒听测听驳飞谤补苍诲补飞颈补诲听迟别谤蹿测苍辞濒.听听

惭补别听诲测蹿补谤苍颈补诲补耻听补听驳测蹿濒飞测苍颈谤听补谤听产补谤迟茂辞苍听别谤蝉听尘颈蝉听颁丑飞别蹿谤辞谤听2017听测尘濒补别苍听测苍听肠补别濒听别耻听肠测丑辞别诲诲颈听补谤听测听驳辞蹿谤别蝉迟谤听驳测丑辞别诲诲耻蝉听补谤-濒别颈苍.

Rhagor o gymorth a chyngor

Nid oes angen i chi ofyn am gyngor cyn llenwi鈥檙 ffurflen ymateb, ond efallai y byddai o fudd pe baech yn gwneud hynny. Gallwch gael gwybodaeth am gyfraith cyflogaeth gan Acas a allai hefyd eich helpu i ddatrys yr hawliad yn eich erbyn drwy gymodi a heb fod angen gwrandawiad Tribiwnlys. Rhif llinell gymorth Acas yw 0300 123 1100. Cyfeiriad gwefan Acas yw .

Gallwch gael fwy o gymorth a chyngor gan:

  • Gwasanaethau cyngor di-d芒l megis canolfan Cyngor ar Bopeth neu un o ganolfannau鈥檙 gyfraith. Cyfeiriad gwefan Cyngor ar Bopeth yng Nghymru a Lloegr yw ac yn yr Alban,
  • Sefydliadau cyflogwyr 鈥 os ydych yn aelod
  • Cyfreithwyr a chynghorwyr proffesiynol eraill.

Sut mae ymateb i鈥檙 hawliad?

Ni fydd eich ymateb yn cael ei dderbyn gan swyddfa鈥檙 tribiwnlys oni bai ei fod ar ffurflen wedi鈥檌 chymeradwyo a ddarperir gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM. Mae鈥檙 ffurflen ar gael yn y fformatau canlynol:

Rhaid i chi lenwi a dychwelyd eich ffurflen ymateb i swyddfa鈥檙 tribiwnlys i鈥檔 cyrraedd erbyn y dyddiad ar y llythyr a anfonwyd gyda鈥檙 ffurflen hawlio. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod swyddfa鈥檙 tribiwnlys yn cael eich ymateb cyn y terfyn amser perthnasol; hynny yw, 28 diwrnod o鈥檙 dyddiad yr anfonasom gopi o ffurflen hawlio鈥檙 hawlydd atoch.

Ymateb ar-lein

Gallwch ymateb heb gynrychiolaeth cyfreithiol yn 听

Os ydych yn weithiwr proffesiynol yn y maes cyfreithiol, neu鈥檔 weithiwr proffesiynol arall sydd wedi cael cyfeirnod 16 digid yn eich pecyn ymateb, gallwch ymateb ar-lein drwy ddefnyddio cyfrif MyHMCTS.

Pan fyddwch yn ymateb ar-lein, bydd yn cael ei anfon i鈥檙 swyddfa tribiwnlys sy鈥檔 delio 芒鈥檙 achos yn awtomatig. Nid oes angen i chi anfon copi o鈥檆h ffurflen neu unrhyw ddogfennau eraill trwy鈥檙 post ar hyn o bryd.

Dylech gadw copi o鈥檆h ffurflen ymateb ar gyfer eich cofnodion. Pa bryd bynnag y byddwch yn cysylltu 芒 ni ddylech ddyfynnu rhif yr achos ar ein llythyr ac unrhyw ddogfennau perthnasol. Pan fyddwch yn ysgrifennu atom drwy lythyr neu e-bost, dylech anfon copi at yr hawlydd ac unrhyw atebydd arall yn yr achos, a dweud wrthym eich bod wedi gwneud hynny. Os ydych yn gofyn i鈥檙 Tribiwnlys wneud gorchymyn neu gymryd rhyw gamau eraill, rhaid i chi hefyd ddweud wrth yr hawlydd i anfon unrhyw wrthwynebiadau i鈥檙 Tribiwnlys cyn gynted 芒 phosib.

Os yw鈥檙 hawlydd yn hawlio taliad diswyddo neu d芒l yn lle rhybudd, cyflog neu d芒l gwyliau na allwch ei dalu oherwydd anawsterau ariannol, dylech egluro hyn yn eich ymateb a rhoi gwybod i ni am unrhyw achos ffurfiol sy鈥檔 cael ei gynnal ynghylch eich sefyllfa ariannol.

Beth allaf ei wneud os nad wyf yn gallu anfon fy ymateb o fewn y cyfnod penodol?

Gallwch ofyn i鈥檙 tribiwnlys ymestyn y terfyn amser os nad yw鈥檔 bosibl i chi lenwi鈥檙 ffurflen mewn pryd. Er enghraifft, os oes arnoch angen rhagor o amser gan fod tyst pwysig (megis y sawl a wnaeth y penderfyniad i ddiswyddo鈥檙 hawlydd) dramor ar wyliau a bod arnoch angen gwybodaeth ganddynt. Os na fyddwch yn gofyn am ragor o amser o fewn y terfyn amser 28 diwrnod, mae鈥檔 debyg y bydd yr hawliad yn cael ei drin fel hawliad nad oedd amddiffyniad wedi鈥檌 gyflwyno ar ei gyfer ac mae鈥檔 debyg y gwneir dyfarniad yn eich erbyn chi. Rhaid i鈥檆h cais am estyniad fod yn ysgrifenedig a rhoi rhesymau llawn i egluro pam rydych yn gofyn am yr estyniad. Os ydych chi鈥檔 gwneud cais ar 么l i鈥檙 terfyn amser 28 diwrnod ddod i ben rhaid i chi hefyd naill ai anfon drafft o鈥檙 ymateb rydych chi am ei gyflwyno neu esbonio pam na ellir gwneud hyn. Yna bydd Barnwr Cyflogaeth yn penderfynu a ddylid caniat谩u estyniad. Byddwch yn cael eich hysbysu yngl欧n 芒鈥檜 penderfyniad ac ni allwch gymryd bod estyniad wedi cael ei ganiat谩u tan hynny.

Gwybodaeth sydd ei hangen cyn y gellir derbyn eich ymateb

Ni all y tribiwnlys dderbyn eich ymateb oni bai eich bod yn darparu gwybodaeth benodol. Yn 么l y gyfraith, rhaid i chi ddweud wrthym:

  • eich enw llawn a鈥檆h cyfeiriad
  • a oes arnoch eisiau gwrthod (amddiffyn) yr hawliad cyfan neu ran ohono;

Os na fydd eich ymateb ar ffurflen wedi鈥檌 chymeradwyo (darparwyd) gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM neu os nad yw鈥檔 cynnwys yr wybodaeth a ddangoswyd uchod, bydd yn cael ei dychwelyd ac ymdrinnir 芒鈥檙 hawliad fel pe na baem wedi derbyn ymateb.

Beth fydd yn digwydd os nad yw鈥檙 tribiwnlys yn derbyn fy ymateb?

Ni fydd eich ymateb yn cael ei dderbyn, ac felly ni allwch wrthod yr hawliad os:

  • nad yw eich ymateb ar ffurflen a ddarparwyd gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM;
  • nad yw eich ymateb yn cyrraedd swyddfa鈥檙 tribiwnlys o fewn y terfyn amser ac nad oes estyniad amser wedi鈥檌 ganiat谩u;
  • nad yw eich ymateb yn darparu鈥檙 holl wybodaeth sydd ei hangen

Yn yr amgylchiadau hyn, gall Barnwr Cyflogaeth roi dyfarniad os yw鈥檔 teimlo bod hynny鈥檔 briodol. Os na dderbynnir ymateb yng nghyswllt hawliad, gall Barnwr Cyflogaeth benderfynu ynghylch yr hawliad heb orfod cynnal gwrandawiad, er y bydd angen gwrandawiad weithiau i benderfynu ar iawndal. Dim ond i鈥檙 graddau y byddai鈥檔 cael ei ganiat谩u gan y Barnwr Cyflogaeth sy鈥檔 gwrando鈥檙 achos y byddai gennych hawl i gymryd rhan mewn gwrandawiad o鈥檙 fath.

Beth fydd yn digwydd pan fydd y tribiwnlys yn cael fy ymateb?

Os bydd y tribiwnlys yn derbyn eich ymateb, byddwn yn anfon copi at yr hawlydd. Yn y mwyafrif o achosion byddwn hefyd yn anfon copi o鈥檆h hawliad at Acas.

R么l Acas

Pan fyddwn yn anfon copi o鈥檆h ymateb at Acas, y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu, bydd un o gymodwyr Acas yn cysylltu 芒 chi, i weld a oes modd datrys yr hawliad yn eich erbyn, drwy gymodi, a heb orfod cynnal gwrandawiad tribiwnlys.

Hawliadau Datgelu er Lles y Cyhoedd

Pan fydd hawliad yn hawlio bod yr hawlydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (neu 鈥榗hwythu鈥檙 chwiban鈥), neu鈥檔 cynnwys hawliad o鈥檙 fath, mae鈥檔 ofynnol i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, pan fydd yr hawlydd wedi cydsynio y dylem wneud hynny drwy roi tic ym mlwch 10.1 ar y ffurflen ET1, anfon copi o ffurflen yr hawliad neu ddarnau ohoni at y Rheoleiddiwr perthnasol. Pan fydd yr hawliad yn cynnwys cwynion ar wah芒n i鈥檙 g诺yn 鈥榗hwythu chwiban鈥, bydd pob cyfeiriad at y cwynion eraill yn cael ei ddileu cyn i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM anfon copi o鈥檙 hawliad at y Rheoleiddiwr.

Pan fydd yr hawlydd wedi cydsynio y dylem anfon copi o鈥檙 ffurflen hawlio, neu ddarnau ohoni, at y Rheoleiddiwr, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud pryd ac at bwy yr anfonwyd y ffurflen.Y Rheoleiddiwr fydd yn penderfynu a oes angen ymchwilio i鈥檙 mater sylfaenol sydd yn y ffurflen hawlio.

Ni fydd hyn yn effeithio o gwbl ar y ffordd y bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn prosesu eich hawliad. Gallwch ddod o hyn i ragor o ganllawiau yn www.gov.uk/whistleblowing.

Beth ddylwn i ei wneud os bydd yr achos yn cael ei setlo?

Dylai鈥檙 holl bart茂on roi gwybod i ni ar unwaith os bydd yr achos yn cael ei setlo cyn y gwrandawiad. Bydd y swyddog cymodi鈥檔 rhoi gwybod i ni os bydd eich achos yn cael ei setlo trwy Acas.

Os bydd eich hawliad yn setlo trwy ACAS, bydd yr hawliad yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr ar gyfer gwrandawiadau (os rhestrwyd ar gyfer gwrandawiad), a bydd ffeil yr achos yn cael ei dinistrio yn unol 芒鈥檔 polisi dinistrio 12 mis o ddyddiad y setliad.

Hawliadau torri contract

Os nad yw hawlydd yn gyflogedig mwyach, gall ef neu hi wneud hawliad yn erbyn cyflogwr am dorri contract. Mewn rhai amgylchiadau, mae hyn yn rhoi hawl i chi wneud hawliad contract cyflogwr.

Rhaid cynnwys unrhyw hawliad contract cyflogwr o鈥檙 fath yn y ffurflen ymateb a rhaid ei wneud cyn pen 28 diwrnod i鈥檙 dyddiad yr anfonwyd copi o鈥檙 ffurflen hawlio gan y Tribiwnlys.

Gohebiaeth

Pan fyddwn yn ysgrifennu atoch, byddwn yn cyfeirio atoch fel yr 鈥榓tebydd鈥. Byddwn yn anfon copi o鈥檆h ffurflen ymateb at yr hawlydd. Dan y Rheolau Gweithdrefn, mae鈥檔 ofynnol i bart茂on anfon copi o unrhyw lythyrau neu ddogfennau y byddant yn eu hanfon i鈥檙 tribiwnlys (ar wah芒n i gais am orchymyn tyst) at bob parti arall a nodi eu bod wedi gwneud hyn. Gallwch ddangos eich bod wedi gwneud hyn, er enghraifft, drwy ddefnyddio 鈥渃c鈥.

Byddwn yn anfon unrhyw benderfyniad neu ddyfarniad y bydd y tribiwnlys yn ei wneud atoch chi ac at yr hawlydd. Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich manylion cyswllt yn newid. Os oes gennych gynrychiolydd yn gweithredu ar eich rhan, byddwn yn anfon pob gohebiaeth am yr achos atynt ef ac nid atoch chi. Yn ychwanegol at hyn, rhaid i chi anfon unrhyw geisiadau pellach am wybodaeth drwyddynt ac nid yn syth atom ni.

A gaf i ohebu drwy e-bost?

Cewch 鈥 gellir gweld rhestr gyflawn o gyfeiriadau e-bost y tribiwnlysoedd cyflogaeth ar gefn y cyhoeddiad hwn. Dylech sicrhau eich bod yn dyfynnu rhif yr achos mewn unrhyw ohebiaeth ym mar teitl yr e-bost a鈥檌 anfon i swyddfa鈥檙 tribiwnlys sy鈥檔 ymdrin 芒鈥檙 hawliad.

Bydd y swyddfa yn cyfathrebu trwy e-bost os yw鈥檔 well gennych.

Rhaid i鈥檙 dogfennau a anfonir i鈥檙 tribiwnlys fod mewn fformat sy鈥檔 gydnaws 芒 鈥榃ord鈥. Ni fyddwn yn derbyn dogfennau mewn fformatau eraill. Pan fyddwn wedi derbyn eich e-bost, byddwn yn anfon cydnabyddiaeth electronig atoch. Peidiwch ag anfon rhagor o negeseuon e-bost na ffonio swyddfa鈥檙 tribiwnlys oni fyddwch heb dderbyn cydnabyddiaeth cyn pen dau ddiwrnod gwaith wedi ichi anfon eich e-bost.

Chi sy鈥檔 gyfrifol am sicrhau bod unrhyw ohebiaeth a anfonir drwy e-bost yn cyrraedd y tribiwnlys o fewn y terfyn amser perthnasol.

Os ydych eisiau i ni gyfathrebu 芒 chi drwy e-bost, bydd angen i chi roi cyfeiriad e-bost dilys. Gallwch wneud hyn drwy lenwi bwlch 2.6 ar y ffurflen ymateb neu unrhyw bryd ar 么l hynny. Wrth ofyn i ni gyfathrebu 芒 chi drwy e-bost rydych yn cytuno y byddwch yn edrych am e-byst sy鈥檔 dod i mewn o leiaf unwaith y dydd ac y cawn roi eich cyfeiriad e-bost i bobl eraill sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 hawliad.

Y gwrandawiad

Bydd dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad, ac amcan o鈥檙 hyd a gymerir ar y llythyr a anfonasom atoch gyda鈥檙 ffurflen hawlio. Os nad ydych yn si诺r pryd ac ymhle y cynhelir y gwrandawiad, cysylltwch 芒 swyddfa鈥檙 tribiwnlys.

Gwnewch yn si诺r eich bod yn cyrraedd y ganolfan wrandawiadau o leiaf 30 munud cyn mae鈥檙 gwrandawiad i fod i ddechrau, gan ganiat谩u amser ar gyfer unrhyw oedi posibl wrth deithio. Ar 么l i chi gyrraedd efallai y bydd rhaid i chi aros nes i鈥檙 tribiwnlys gwblhau gwrandawiadau eraill.

A allaf ofyn am gael gohirio鈥檙 gwrandawiad?

Rhaid i chi wneud unrhyw gais am ohiriad yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo modd gan roi rhesymau llawn dros eich cais. Dylech hefyd anfon copi o鈥檆h cais at yr hawlydd er mwyn iddynt fod yn ymwybodol ohono.

Bydd Barnwr Cyflogaeth yn penderfynu wedyn a ddylid caniat谩u estyniad. Os byddwch chi neu鈥檙 hawlydd (neu rywun arall sy鈥檔 gweithredu ar eich rhan chi neu鈥檙 hawlydd) yn methu ag ymddangos mewn gwrandawiad, gall y tribiwnlys benderfynu鈥檙 achos yn eich absenoldeb.

Materion rhagarweiniol

Cewch wybod os oes unrhyw faterion rhagarweiniol y bydd angen i鈥檙 tribiwnlys benderfynu arnynt, er enghraifft a yw鈥檙 hawliad wedi ei gyflwyno i鈥檙 tribiwnlys o fewn y cyfnod penodol. Pan fydd materion o鈥檙 fath yn codi, fel arfer fe ymdrinnir 芒 hwy mewn gwrandawiad rhagarweiniol.

Paratoi ar gyfer gwrandawiad

Gall fod yn ddefnyddiol gwylio gwrandawiad mewn tribiwnlys er mwyn i chi ddeall y broses a beth sy鈥檔 digwydd. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu ag unrhyw swyddfa tribiwnlys a gofyn a oes gwrandawiad addas i chi ei arsylwi.

Pa ddogfennau fydd angen i mi eu cael ar gyfer y gwrandawiad?

Efallai fod gennych ddogfennau sy鈥檔 cefnogi鈥檆h amddiffyniad ac rydych am eu cyflwyno gerbron y tribiwnlys fel tystiolaeth. Os yw鈥檙 hysbysiad o wrandawiad a gafodd ei anfon gyda鈥檙 ffurflen hawlio yn cynnwys gorchmynion rheoli achos sy鈥檔 ymwneud 芒 dogfennau, rhaid i chi gydymffurfio 芒 hwy. Os nad ydyw, rhaid i chi dal sicrhau bod yr hawlydd yn cael rhybudd rhesymol (o leiaf saith diwrnod) o鈥檙 dogfennau yr ydych yn bwriadu eu defnyddio yn y gwrandawiad.

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad?

Bydd y tribiwnlys yn penderfynu a fydd yr hawliad yn llwyddo ynteu鈥檔 methu, ac os yw鈥檔 llwyddo, beth ddylai鈥檙 hawlydd ei gael.

Mae鈥檔 arferol mewn hawliadau fel yr un rydych chi鈥檔 ei amddiffyn, i鈥檙 Barnwr Cyflogaeth eistedd ar ben ei hun. Os ydych yn meddwl y dylai tribiwnlys llawn ei wrando, rhowch wybod i鈥檙 tribiwnlys yn ysgrifenedig, gan roi eich rhesymau.

Yn ystod y gwrandawiad, bydd y Barnwr Cyflogaeth yn gwneud yn si诺r eich bod yn cymryd y camau a ddisgrifir isod mewn ffordd gymedrol a chall. Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid iddo/iddi fod yn gadarn o ran symud yr achos ymlaen i sicrhau ei fod yn mynd rhagddo mewn modd a fydd yn golygu y gellir delio ag ef yn y cyfnod a glustnodwyd.

Fel arfer bydd yr hawlydd yn rhoi tystiolaeth ac yn galw unrhyw dystion yn gyntaf. Fodd bynnag, nid oes rheol bendant o ran pa ochr sy鈥檔 mynd gyntaf. Bydd rhaid i chi a鈥檆h tystion roi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhau. Os byddwch yn dweud celwydd ar 么l tyngu llw neu gadarnhau, gellid eich cael yn euog o anudoniaeth (perjury). Yng Nghymru a Lloegr, os bydd gorchmynion rheoli achos wedi cael eu hanfon gyda鈥檙 ffurflen hawlio, mae鈥檔 debyg y byddant yn mynnu bod y part茂on yn cyfnewid datganiadau tystion erbyn dyddiad penodedig. Bydd datganiadau鈥檙 tystion yn cael eu darllen gan y tribiwnlys ac fel arfer ni fydd y tyst yn eu darllen yn uchel yn y gwrandawiad. Yn yr Alban, nid yw datganiadau tystion yn cael eu defnyddio fel arfer ond, mewn rhai achosion, byddant yn cael eu defnyddio os bydd barnwr yn gorchymyn hynny.

Gallwch ofyn cwestiynau i鈥檙 hawlydd a鈥檌 dystion (gelwir hyn yn 鈥榗roesholi鈥). Yn olaf, mai鈥檔 bosib y bydd y Barnwr Cyflogaeth yn gofyn cwestiynau. Yna, dilynir yr un drefn fel arfer ar gyfer y tystion eraill ac yna gyda鈥檆h tystiolaeth chi.

Yng Nghymru a Lloegr, ar 么l gwrando鈥檙 holl dystiolaeth, bydd y Barnwr Cyflogaeth fel arfer yn cyhoeddi鈥檙 dyfarniad ac yn rhoi鈥檙 rhesymau dros hynny. Yn yr Alban, nid yw鈥檙 dyfarniad yn cael ei gyhoeddi mor aml ar ddiwedd gwrandawiad.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pryd bynnag y bydd hynny鈥檔 bosibl, byddwch chi neu eich cynrychiolydd yn cael copi o ddyfarniad y tribiwnlys ar ddiwrnod y gwrandawiad. Os nad yw鈥檔 bosib gwneud hyn, byddwch chi neu鈥檆h cynrychiolydd yn cael copi o鈥檙 dyfarniad ysgrifenedig cyn gynted ag y bodd ar 么l y gwrandawiad. Rhaid i Tudalen 11 chi gadw at ddyfarniad y Tribiwnlys Cyflogaeth gan ei fod yn eich rhwymo鈥檔 gyfreithiol.

Pan roddir y dyfarniad a鈥檙 rhesymau drosto ar lafar yn y gwrandawiad, bydd y rhesymau ysgrifenedig dros y dyfarniad yn cael eu rhoi hefyd os gofynnwch amdanynt yn y gwrandawiad neu wneud cais ysgrifenedig cyn pen 14 diwrnod o ddyddiad yr anfonwyd y dyfarniad atoch.

Rhaid i chi fynychu鈥檙 gwrandawiad gan fod yn barod i ddelio gyda鈥檙 ateb a gynigir er mwyn unioni cam pe bai鈥檙 hawlydd yn llwyddiannus.

Os nad ydych yn rhoi鈥檙 wybodaeth angenrheidiol i鈥檙 Tribiwnlys, efallai bydd angen gwrandawiad pellach, a all arwain at orchymyn costau (neu yn Yr Alban, treuliau) yn cael ei wneud yn eich erbyn.

A oes rhaid i mi dalu costau鈥檙 hawlydd?

Fel arfer, nac oes. Fodd bynnag, gall y tribiwnlys wneud gorchymyn am gostau neu amser paratoi os yw鈥檔 credu eich bod chi neu eich cynrychiolydd wedi ymddwyn yn ymosodol, aflonyddgar neu鈥檔 afresymol mewn ffordd arall o ran sut rydych wedi trin eich achos neu os yw鈥檔 meddwl bod eich amddiffyniad mor wan fel na ddylai fod wedi ei godi. Cyfeirir at gostau fel treuliau yn Yr Alban.

Hefyd, mae gan Farnwyr Cyflogaeth a thribiwnlysoedd y p诺er, pan fo鈥檙 gwrandawiad yn ymwneud 芒 hawliad a wnaed ar neu ar 么l 6 Ebrill 2012, i orchymyn bod parti yn talu costau i unrhyw dyst neu dystion y gofynnwyd iddynt fynychu鈥檙 gwrandawiad ar ei ran.

Cosbau ariannol

Bydd gan Tribiwnlysoedd Cyflogaeth b诺er dewisol, pan fo hawliad wedi鈥檌 wneud ar 么l 6 Ebrill 2014, i orchymyn bod atebydd sydd wedi colli achos yn talu cosb ariannol hyd at 拢5,000 os yw鈥檔 ystyried bod 鈥榰n neu fwy o nodweddion gwaethygol鈥 pan dorrodd y cyflogwr hawliau cyflogaeth yr hawlydd. Pennir isafswm unrhyw gosb yn 拢100.

Gellir gorchymyn cosb ariannol yn erbyn cyflogwr hyd yn oed os nad oes dyfarniad ariannol wedi鈥檌 roi i鈥檙 hawlydd. Fodd bynnag, os rhoddwyd dyfarniad ariannol, rhaid i鈥檙 gosb ariannol fod yn 50% o swm y dyfarniad. Rhaid i dribiwnlysoedd ystyried gallu鈥檙 cyflogwr i dalu pan fydd yn penderfynu gorchymyn cosb neu beidio.

Ni thelir cosbau ariannol i鈥檙 hawlydd yn yr achos, ond i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol ac i Gronfa Gyfunol y Llywodraeth. Os bydd y cyflogwr yn talu鈥檙 gosb o fewn 21 diwrnod, bydd y swm sy鈥檔 daladwy yn cael ei haneru.

Anabledd neu anghenion arbennig

Os oes gennych chi, neu unrhyw un sy鈥檔 dod i dribiwnlys gyda chi, unrhyw anabledd neu angen penodol, dylech gysylltu 芒鈥檙 swyddfa tribiwnlys sy鈥檔 ymdrin 芒鈥檆h achos i drafod y mater. Mae enghreifftiau o鈥檙 cymorth y gallwn ei ddarparu yn cynnwys trosglwyddo dogfennau i Braille neu brint mwy, a thalu am ddehonglwyr iaith arwyddion. Gallwn hefyd ddarparu dolenni sain ar gyfer teclynnau clywed yn yr ystafell lle cynhelir y gwrandawiad os byddwch eu hangen. Cysylltwch 芒 ni cyn gynted ag sy鈥檔 bosibl er mwyn i ni allu gwneud trefniadau priodol neu addas.

Treuliau

Nid yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, pan fo鈥檙 hawliad wedi鈥檌 wneud ar neu ar 么l 6 Ebrill 2012, yn talu treuliau na lwfansau part茂on, tystion a chynrychiolwyr gwirfoddol sy鈥檔 mynychu unrhyw fath o dribiwnlys cyflogaeth (heblaw pan fydd yr unigolyn sy鈥檔 mynychu wedi cael ei alw gan y tribiwnlys i roi tystiolaeth feddygol).

Os gwnaethpwyd yr hawliad ar 5 Ebrill 2012, neu cyn hynny, mae taflen 鈥楾reuliau a lwfansau sy鈥檔 daladwy i bart茂on a thystion sy鈥檔 mynychu Tribiwnlys Cyflogaeth鈥 ar gael yn: .

Safonau鈥檙 gwasanaeth

Os ydych yn anhapus ynghylch ein gwasanaeth, cysylltwch ag unrhyw swyddfa tribiwnlys neu ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid i gael copi o鈥檔 taflen EX343 - Anhapus 芒鈥檔 gwasanaeth - beth allwch chi ei wneud? Mae鈥檔 esbonio ein trefn gwyno.

Swyddfeydd tribiwnlysoedd cyflogaeth

Aberdeen

Ground floor, AB1
48 Huntly Street
Aberdeen
AB10 1SH

Ff么n. 01224 593 137
E-bost: aberdeenet@justice.gov.uk

Bryste

Bristol Civil and Family Justice Centre
2 Redcliff Street
Bryste
BS1 6GR

Ff么n: 0117 929 8261
E-bost: bristolet@justice.gov.uk

Dundee

Ground Floor
Endeavour House
Greenmarket
Dundee
DD1 4BZ

Ff么n: 01382 221578
E-bost: dundeeet@justice.gov.uk

Dwyrain Llundain

2nd Floor, Import Building
2 Clove Crescent
London
E14 2BE

Ff么n: 020 7538 6161
E-bost: eastlondon@justice.gov.uk

Caeredin

54-56 Melville Street
Caeredin
EH3 7HF

Ff么n: 0131 226 5584
E-bost: edinburghet@justice.gov.uk

Glasgow

The Glasgow Tribunals Centre
20 York Street
Glasgow
G2 8GT

Ff么n: 0141 204 0730
E-bost: glasgowet@justice.gov.uk

Leeds

West Gate
6 Grace Street
Leeds
LS1 2RP

Ff么n: 0113 245 9741
E-bost: leedset@justice.gov.uk

Canol Llundain

Victory House
30-34 Kingsway
Llundain
WC2B 6EX

Ff么n: 020 7273 8603
E-bost: londoncentralet@justice.gov.uk

De Llundain

Montague Court
101 London Road
West Croydon
CR0 2RF

Ff么n: 020 8667 9131
E-bost: londonsouthet@justice.gov.uk

Manceinion

Alexandra House
14-22 The Parsonage
Manceinion
M3 2JA

Ff么n: 0161 833 6100
E-bost: manchesteret@justice.gov.uk

Canolbarth Lloegr (Dwyrain)

Nottingham Justice Centre
Carrington Street
Nottingham
NG2 1EE

Ff么n: 0115 947 5701
E-bost: midlandseastet@justice.gov.uk

Canolbarth Lloegr (Gorllewin)

Centre City Tower
7 Hill Street
Birmingham
B5 4UU

Ff么n: 0121 600 7780
E-bost: midlandswestet@justice.gov.uk

Newcastle

Newcastle Civil Family Courts and Tribunal Centre
Barras Bridge
Newcastle Upon Tyne
NE1 8QF

Ff么n: 0191 2058750
E-bost: newcastleet@justice.gov.uk

Cymru

Llys Ynadon Caerdydd a鈥檙 Fro
Plas Fitzalan
Caerdydd
De Cymru
CF24 0RZ

Ff么n: 029 2067 8100
E-bost: waleset@justice.gov.uk

Watford

3rd Floor
Radius House
51 Clarendon Rd
Watford
WD17 1HP

Ff么n: 01923 281 750
E-bost: watfordet@justice.gov.uk

Mae ein swyddfeydd ar agor o 9.00 y bore tan 5.00 yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Byddwn yn eich cyfeirio at fap sy鈥檔 dangos lleoliad y swyddfa lle mae鈥檙 gwrandawiad wedi鈥檌 drefnu.