Canllawiau

Dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru (cyfarwyddyd ymarfer 49)

Diweddarwyd 27 Awst 2024

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

I weld hanes diweddariadau鈥檙 cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: hanes diweddariadau.

1. Cyflwyniad

Mae鈥檙 cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyngor ar sut i osgoi gwrthod ceisiadau i newid y gofrestr. Mae鈥檔 rhoi enghreifftiau o ddiffygion rydym yn ystyried eu bod yn ddigon difrifol i wrthod y cais a dychwelyd y papurau.

Rydym wedi adolygu鈥檔 polisi gwrthod fel y byddwn, fel rheol, yn gwrthod dim ond ceisiadau nad oes disgwyl iddynt lwyddo (gweler Enghreifftiau o geisiadau nad oes disgwyl iddynt gael eu cymeradwyo); neu rai a ddil毛wyd yn flaenorol ac sy鈥檔 cael eu hailgyflwyno heb ddelio 芒鈥檙 pwyntiau dileu. Rydym hefyd yn gwrthod ceisiadau a gyflwynir yn electronig na ch芒nt eu cyflwyno gan y cwsmer a enwir ym mhanel 7 yr AP1, eAP1 neu gyfwerth, oherwydd dim ond y cwsmer sy鈥檔 cyflwyno sydd wedi cytuno i gael ei rwymo gan amodau defnyddio鈥檙 porthol.

Lle y gallwn adnabod diffygion sylweddol yn y cais, byddwn hefyd yn egluro pa gamau y mae鈥檔 rhaid eu cymryd i osgoi gwrthod pan gaiff y cais ei ailgyflwyno.

Caiff pob pwynt arall a fyddai (o dan ein polisi gwrthod blaenorol) wedi peri i鈥檙 cais gael ei wrthod, ei godi bellach fel ymholiadau.

Am wybodaeth gyffredinol am ymholiadau ac awgrymiadau ar sut i鈥檞 hosgoi gweler cyfarwyddyd ymarfer 50: trefnau ymholi a dileu.

2. Ystyr gwrthod

Yn 么l rheol 16(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003, gallwn wrthod cais ar 么l ei dderbyn neu ei ddileu ar unrhyw bryd lle mae鈥檔 ymddangos i ni ei fod yn sylweddol ddiffygiol. Yn y cyfarwyddyd hwn rydym yn defnyddio鈥檙 term 鈥榞wrthod鈥 ar gyfer pob enghraifft lle bo rheol 16(3) yn briodol.

Gallwn wrthod ceisiadau lle y mae鈥檙 diffygion ynddynt yn parhau heb eu datrys yn dilyn trafodaethau rhyngom ni a鈥檙 ceisydd.

Os cymerir y camau hyn yn eithriadol, caiff rhybudd ei anfon yn nodi鈥檙 diffygion a fydd yn arwain at y gwrthod a鈥檙 cyfnod y bydd y gwrthod yn gymwys.

Pan fyddwn yn gwrthod cais, byddwn yn dychwelyd yr holl bapurau a dogfennau a gyflwynwyd yn wreiddiol at yr anfonwr. Byddwn hefyd yn datgan y rheswm dros y gwrthodiad fel bod modd datrys hyn cyn ei ailgyflwyno. Mae cais a wrthodwyd yn colli ei flaenoriaeth. Bydd unrhyw daliad a anfonwyd gyda鈥檙 cais yn cael ei ddychwelyd neu ei ad-dalu oni bai y cyflwynwyd y cais ar bapur a鈥檌 fod yn cael ei wrthod ar 么l inni ddechrau ei brosesu. Os felly, byddwn yn cadw鈥檙 taliad a naill ai鈥檔 ei gredydu i gais newydd neu鈥檔 rhoi ad-daliad ar gais.

3. Terfyn amser ar wrthod

Ein nod yw canfod unrhyw ddiffygion a gwrthod cais ar ddiwrnod ei dderbyn. Ni fyddwn, fel rheol, yn gwrthod cais sydd wedi bod gyda ni am 5 niwrnod gwaith ond byddwn yn gwneud hynny o dan rai amgylchiadau, gan gynnwys:

  • lle nad oes gan y cais obaith o lwyddo
  • lle cyflwynir y cais heb ffi
  • lle bo鈥檙 cais i ryddhau arwystl

Lle na fydd cais yn cael ei wrthod, bydd yn cadw ei flaenoriaeth a byddwn yn delio 芒鈥檙 mater trwy ymholiad.

4. Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf.

Hyd at Hydref 2024, gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail cop茂au ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf 鈥 Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr 鈥 derbyn cop茂au ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond cop茂au ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o鈥檙 dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chop茂au ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gop茂au gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

Wrth lanlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir o鈥檙 gwreiddiol gan ddefnyddio鈥檙 datganiadau ardystio sydd ar gael.

Mae hyn yn golygu os yw eich cais yn cael ei ddychwelyd atoch, cop茂au o鈥檙 dogfennau a sganiwyd a anfonir atoch.

5. Enghreifftiau o geisiadau nad oes disgwyl iddynt gael eu cymeradwyo

5.1 Buddion na ellir eu cofrestru

Mae buddion na ellir eu cofrestru鈥檔 cynnwys:

  • mathau penodol o brydlesi a roddir am ddim hirach na 7 mlynedd
  • gwarediadau buddion ecwit茂ol
  • prydles a ddylai fod, ond nad yw, yn brydles cymalau penodedig

5.2 Nid oes hawl gan y ceisydd wneud cais oherwydd nid yw鈥檙 ystad gyfreithiol wedi ei breinio ynddo

Er enghraifft buddiolwr o dan ewyllys nad yw鈥檙 ystad gyfreithiol wedi ei breinio ynddo.

5.3 Ceisiadau i gofnodi cyfyngiadau

Lle y mae鈥檙 canlynol yn wir am gais i gofnodi cyfyngiad:

  • nid oes hawl o dan adran 42 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • mae warchod dyled heb ei gwarantu
  • mae am gyfyngiad Ffurf A lle y mae cyfyngiad o鈥檙 fath eisoes yn y gofrestr

5.4 Meddiant gwrthgefn

Cais am feddiant gwrthgefn lle:

  • y cyflwynir y math anghywir o gais, fel FR1 pan fo鈥檙 tir yn gofrestredig
  • y mae amser annigonol yn cael ei hawlio i arwain at feddiant gwrthgefn
  • y mae鈥檙 dystiolaeth o feddiant yn annigonol

5.5 Rhybuddion

Rhybuddion lle:

  • nad oes budd wedi ei ddangos
  • y mae鈥檙 budd o dan ymddiried
  • y mae鈥檙 budd mewn prydles tymor byr

6. Rhestr adolygu ceisiadau: osgoi gwrthod ceisiadau i gofrestru

Mae鈥檙 wybodaeth isod yn dangos ein meini prawf, gan roi awgrymiadau ar sut i osgoi gwrthodiad. Oherwydd natur hynod amrywiol y ceisiadau a dderbyniwn, nid yw鈥檙 rhestr yn cynnwys popeth. Fe all fod enghreifftiau prin lle bo gan gais ddiffyg sylweddol nad yw鈥檔 cael sylw yn y cyfarwyddyd hwn.

Gweler hefyd cyfarwyddyd ymarfer 50: trefnau ymholi a dileu am awgrymiadau ar osgoi ymholiadau.

6.1 Cynlluniau i weithredoedd gyda deliadau 芒 rhan a phrydlesi

Mae pob un o鈥檙 gofynion hyn yr un mor berthnasol i gynlluniau sy鈥檔 dod gyda chwiliadau trwy ffurflen OS2 neu ffurflen OS3.

Rydym yn gwrthod

Rydym yn gwrthod ceisiadau lle y mae鈥檔 amhosibl nodi maint y tir sy鈥檔 destun y cais, megis:

  • lle bo鈥檙 weithred yn cyfeirio at gynllun ond nad yw ynghlwm
  • lle nad oes modd cyfateb y maint ar y cynllun i fap yr Arolwg Ordnans
  • lle nad yw鈥檙 maint ar y cynllun wedi ei ddiffinio鈥檔 eglur, megis trwy ymylu, lliwio neu linellu
  • y mae鈥檙 cynllun wedi ei wyrdroi鈥檔 sylweddol i atal nodi鈥檙 maint

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • rhaid amg谩u cynllun gyda throsglwyddiadau, arwystlon a phrydlesi o ran oni bai fod modd dynodi鈥檙 rhan yn eglur naill ai:
  • tu hwnt i amheuaeth ar gynllun teitl y prydleswr neu werthwr o鈥檙 disgrifiad yn nhestun y weithred
  • trwy gyfeirio at union liwiad ar gynllun teitl y prydleswr neu werthwr, er enghraifft 鈥溾 dangoswyd wedi ei liwio鈥檔 las ar gynllun teitl rhif teitl 鈥︹. Rhaid iddo beidio 芒 chyfeirio at gynllun ystad cymeradwy
  • sicrhewch nad yw unrhyw ymylon yn rhy drwchus ac yn cuddio unrhyw fanylyn arall ar y cynllun. Ar gynllun ar raddfa fechan gall llinellau trwchus fod yn amryw fetrau ar draws yn y maes. Os na allwn benderfynu鈥檙 union faint, gallwn wrthod y cais
  • byddwn yn derbyn ymwadiad sy鈥檔 ymddangos ar gynlluniau gweithredoedd a gr毛wyd gan National Grid Gas ccc (Rhif Cofrestru Cwmni 2006000) (Transco ccc gynt) lle bo鈥檙 ymwadiad yn berthnasol i leoliad a/neu fodolaeth pibelli, offer ac ati
  • dylid paratoi unrhyw gynllun ar gyfer gweithred neu gais newydd gyda golwg ar y canllawiau canlynol. Mae rhagor o wybodaeth i鈥檞 chael yng nghyfarwyddyd ymarfer 40: Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF: trosolwg.
    • tynnu a dangos ar ei wir raddfa
    • dangos ei ogwydd (ee gogledd)
    • defnyddio graddfeydd ffafriedig o 1/1250 鈥 1/500 ar gyfer eiddo trefol
    • defnyddio graddfeydd ffafriedig o 1/2500 ar gyfer eiddo gwledig (caeau a ffermydd ac ati)
    • peidio 芒 seilio ar raddfa o fesuriad imperial (er enghraifft, 16 troedfedd i 1 fodfedd)
    • peidio 芒 gostwng y raddfa (gweler cyfarwyddyd ymarfer 40: Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF: trosolwg
    • peidio 芒 nodi na chyfeirio ato fel bod at ddiben dynodi鈥檔 unig
    • peidio 芒 dangos datganiadau ymwadiad sy鈥檔 cael eu defnyddio o dan Ddeddf Camddisgrifiadau Eiddo 1991
    • dangos manylion digonol i鈥檞 adnabod ar fap yr Arolwg Ordnans
    • dangos ei leoliad cyffredinol trwy ddangos ffyrdd, cyffyrdd neu dirnodau eraill
    • dangos tir yr eiddo, gan gynnwys tir unrhyw fodurdy neu ardd
    • dangos adeiladau yn eu lle cywir (neu arfaethedig
    • dangos mynedfeydd neu lwybrau os ydynt yn ffurfio rhan o derfynau鈥檙 eiddo
    • dangos y tir a鈥檙 eiddo鈥檔 eglur (er enghraifft, trwy ymylu, lliwio neu linellu)
    • bod ag ymylon o drwch nad ydynt yn cuddio unrhyw fanylion eraill
    • dangos rhannau ar wah芒n trwy farciau addas ar y cynllun (t欧, man parcio, lle biniau)
    • nodi gwahanol lefelau lloriau (pan fo鈥檔 briodol)
    • dangos terfynau cymhleth gyda chynllun ar raddfa fwy neu gynllun mewnosod
    • dangos mesuriadau mewn unedau metrig yn unig, i 2 le degol
    • dangos terfynau amhenodol yn gywir a, lle bo angen, trwy gyfeirio at fesuriadau
    • dangos mesuriadau sy鈥檔 cyfateb, cyn belled ag y bo modd, i fesuriadau graddedig

6.2 Cynlluniau i weithredoedd gyda chofrestriadau cyntaf

Rydym yn gwrthod

  • lle bo鈥檙 weithred neu ffurflen FR1 yn cyfeirio at gynllun ond nad yw ynghlwm
  • lle nad oes unrhyw gynllun a bod disgrifiad y tir i鈥檞 gofrestru yn annigonol
  • lle nad oes modd cysylltu鈥檙 stent ar y cynllun 芒 map yr Arolwg Ordnans

6.3 Gwneud cais am gofrestriad cyntaf

Rydym yn gwrthod ceisiadau:

  • lle cyflwynir ffurflen gais AP1 yn lle ffurflen gais FR1
  • lle nad yw panel 3 y ffurflen FR1 wedi ei gwblhau (stent y tir i鈥檞 gofrestru)
  • lle nad yw panel 5 y ffurflen FR1 wedi ei gwblhau na ffi wedi ei chyflwyno (gwerth y tir a鈥檙 ffi a dalwyd) (ni chynhwysir ceisiadau sy鈥檔 cynnwys datganiadau statudol yn ymwneud 芒 meddiant gwrthgefn neu weithredoedd coll yn y pwynt gwrthod hwn)
  • lle nad yw panel 12 y ffurflen FR1 wedi ei gwblhau (tystysgrif teitl)

6.4 Cofrestru prydlesi newydd

6.3.1 A roddwyd ar neu ar 么l 13 Hydref 2003 allan o dir cofrestredig

Mae鈥檙 adran hon yn berthnasol i brydlesi a roddwyd allan o dir a gofrestrwyd eisoes ar ddyddiad y grant. Os cofrestrwyd y teitl rifersiwn ar 么l dyddiad y grant, yna mae A roddwyd ar neu ar 么l 13 Hydref 2003 allan o dir digofrestredig yn berthnasol.

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i gofrestru prydlesi a roddwyd am gyfnod o 7 mlynedd neu lai o ddyddiad y grant oni bai:
    • y gwnaed y brydles yn unol 芒 Rhan 5 neu adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles amharhaol, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles a roddwyd allan o ystad sy鈥檔 rhyddfraint neu faenor heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles rifersiwn sydd naill ai:
  • yn brydles sy鈥檔 dod i rym 芒 meddiant ar 么l diwedd cyfnod o fwy na thri mis o ddyddiad y grant, heb ystyried y cyfnod
  • yn brydles sydd i ddod i rym o fewn mis i ddiwedd prydles gyfredol 芒 meddiant, o鈥檙 un tir, i鈥檙 un person, ond bod cyfnodau鈥檙 2 brydles sy鈥檔 weddill gyda鈥檌 gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle nad oes dyddiad dechrau sicr i鈥檙 brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bo鈥檙 prydleswr a鈥檙 prydlesai yr un person oni bai y daw llythyr gyda鈥檙 cais i egluro pam nad yw Rye yn erbyn Rye [1962] A C 496 yn berthnasol
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi (sydd 芒 rhent neu bremiwm yn daladwy arnynt) lle bo鈥檙 cyfnod yn dechrau dros 21 mlynedd o ddyddiad y brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat
  • bydd ceisiadau i gofrestru prydlesi a roddwyd ar neu ar 么l 19 Mehefin 2006 sy鈥檔 gorfod cynnwys y cymalau penodedig yn 么l Atodlen 1A i Reolau Cofrestru Tir 2003 yn rhinwedd rheol 58A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cael eu gwrthod naill ai lle:
    • nad ydynt yn cynnwys y cymalau penodedig
    • na chwblhawyd unrhyw un o gymalau LR4

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • mae鈥檔 ofynnol i chi gofrestru prydles a roddwyd am gyfnod o fwy na 7 mlynedd o ddyddiad y grant, hyd yn oed os oes 7 mlynedd neu lai o鈥檙 cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar y dyddiad cofrestru
  • rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestru鈥檙 prydlesi sy鈥檔 dod o dan yr adran hon trwy ddewis 鈥榩rydles newydd鈥 oni bai ei bod yn brydles rifersiwn sy鈥檔 dod i rym o fewn un mis i ddiwedd prydles gyfredol 芒 meddiant, o鈥檙 un tir, i鈥檙 un person. Nid oes modd cofrestru prydlesi o鈥檙 fath ond trwy gais gwirfoddol ar ffurflen FR1, lle bo cyfnodau鈥檙 2 brydles sy鈥檔 weddill gyda鈥檌 gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
  • enghreifftiau o brydles amharhaol yw cyfnodrannu a phrydlesi marchnad (hawl i fasnachu ar ddiwrnodau arbennig o鈥檙 wythnos am gyfnod o flynyddoedd)
  • mae modd nodi prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan, neu nad oes angen ei chofrestru, ar gyfer teitl y prydleswr 鈥 gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr.
  • fodd bynnag gall prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan gynnwys budd y mae modd ei nodi ar gyfer teitl y prydleswr 鈥 gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr
  • gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig i gael rhagor o wybodaeth am ofynion prydlesi cymalau penodedig ac i gael manylion y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cwblhau pob cymal a roddwyd ar neu ar 么l 13 Hydref 2003 allan o dir digofrestredig

6.3.2 A roddwyd ar neu ar 么l 13 Hydref 2003 allan o dir digofrestredig

Mae鈥檙 adran hon yn berthnasol i brydlesi a roddwyd allan o dir oedd yn ddigofrestredig ar ddyddiad y grant, heb ystyried a yw鈥檙 teitl rifersiwn wedi ei gofrestru ar y dyddiad cofrestru.

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i gofrestru prydlesi a roddwyd am gyfnod o 7 mlynedd neu lai o ddyddiad y grant oni bai:
    • y gwnaed y brydles yn unol 芒 Rhan 5 neu adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles amharhaol, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles a roddwyd allan o ystad sy鈥檔 rhyddfraint neu faenor heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles rifersiwn sydd naill ai鈥檔:
      • ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig
      • ystad brydlesol ddigofrestredig oedd, ar ddyddiad rhoi鈥檙 brydles rifersiwn, 芒 mwy na 7 mlynedd o鈥檌 chyfnod gwreiddiol heb ddarfod, sy鈥檔 dod i rym 芒 meddiant ar 么l diwedd cyfnod o fwy na thri mis o ddyddiad y grant, heb ystyried y cyfnod
      • yn brydles sydd i ddod i rym o fewn un mis i ddiwedd prydles gyfredol 芒 meddiant, o鈥檙 un tir, i鈥檙 un person, ond bod cyfnodau鈥檙 2 brydles sy鈥檔 weddill gyda鈥檌 gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle nad oes dyddiad dechrau sicr i鈥檙 brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bo鈥檙 prydleswr a鈥檙 prydlesai yr un person oni bai y daw llythyr gyda鈥檙 cais sy鈥檔 egluro pam nad yw Rye yn erbyn Rye [1962] A C 496 yn berthnasol
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi (sydd 芒 rhent neu bremiwm yn daladwy arnynt) lle bo鈥檙 cyfnod yn dechrau dros 21 mlynedd o ddyddiad y brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

6.5 Cofrestriad cyntaf ystad brydlesol bresennol a roddwyd cyn 13 Hydref 2003

Mae鈥檙 adran hon yn berthnasol:

  • i ystadau prydlesol a roddwyd allan o naill ai dir cofrestredig neu ddigofrestredig
  • lle na fu digwyddiad i beri cofrestriad gorfodol

Os bu digwyddiad peri cofrestriad (fel trosglwyddiad trwy werthu), mae Trosglwyddiadau, aseiniadau a morgeisi cyfreithiol cyntaf gwarchodedig dyddiedig ar neu ar 么l 13 Hydref 2003 o ystad brydlesol ddigofrestredig yn berthnasol.

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bo 7 mlynedd neu lai o鈥檙 cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar y dyddiad cofrestru, am nad oes modd eu cofrestru, oni bai naill ai:
    • y gwnaed y brydles yn unol 芒 Rhan 5 neu adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles amharhaol, heb ystyried y cyfnod
    • ei bod yn brydles rifersiwn sydd i ddod i rym o fewn un mis i ddiwedd prydles gyfredol 芒 meddiant, o鈥檙 un tir, i鈥檙 un person, ond bod cyfnodau鈥檙 2 brydles sy鈥檔 weddill gyda鈥檌 gilydd yn dod i fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad cofrestru
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle nad oes dyddiad dechrau sicr i鈥檙 brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi lle bo鈥檙 prydleswr a鈥檙 prydlesai yr un person oni bai y daw llythyr gyda鈥檙 cais sy鈥檔 egluro pam nad yw Rye yn erbyn Rye [1962] A C 496 yn berthnasol
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi (sydd 芒 rhent neu bremiwm yn daladwy arnynt) lle bo鈥檙 cyfnod yn dechrau dros 21 mlynedd o ddyddiad y brydles
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestru prydlesi sy鈥檔 dod o dan yr adran hon, a roddwyd am gyfnod o 21 mlynedd neu lai allan o naill ai dir cofrestredig neu ddigofrestredig, fel cofrestriad cyntaf gwirfoddol ar ffurflen FR1. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cyfarwyddyd ar sut i wneud ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF 鈥 gweler cyfarwyddyd ymarfer 25: prydlesi: pryd i gofrestru
  • rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestru prydlesi sy鈥檔 dod o dan yr adran hon a roddwyd am gyfnod o fwy nag 21 mlynedd (hy sy鈥檔 gallu cael eu cofrestru ar adeg y grant) allan o dir cofrestredig trwy ddewis 鈥榩rydles newydd鈥 a lanlwytho copi ardystiedig o鈥檙 brydles wreiddiol
  • rhaid cyflwyno ceisiadau i gofrestru prydlesi sy鈥檔 dod o dan yr adran hon a roddwyd am gyfnod o fwy nag 21 mlynedd (hy sy鈥檔 gallu cael eu cofrestru ar adeg y grant) allan o dir digofrestredig fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1
  • enghreifftiau o brydles amharhaol yw cyfnodrannu a phrydlesi marchnad (hawl i fasnachu ar ddiwrnodau arbennig o鈥檙 wythnos am gyfnod o flynyddoedd
  • mae modd nodi prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan, neu nad oes angen ei chofrestru, ar gyfer teitl cofrestredig y prydleswr 鈥 gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr
  • fodd bynnag gall prydles nad oes modd ei chofrestru ei hunan gynnwys budd y mae modd ei nodi ar gyfer teitl cofrestredig y prydleswr 鈥 gweler Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr

6.6 Trosglwyddiadau, aseiniadau a morgeisi cyfreithiol cyntaf gwarchodedig, dyddiedig ar neu ar 么l 13 Hydref 2003, o ystad brydlesol ddigofrestredig

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i gofrestru aseiniadau, trosglwyddiadau neu gydsyniadau, gan gynnwys cydsyniadau breinio (trwy werthu, trwy rodd neu trwy orchymyn y llys), ystad brydlesol ddigofrestredig 芒 7 mlynedd neu lai o鈥檙 cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y trosglwyddiad neu aseiniad yn peri cofrestriad, am nad oes modd eu cofrestru, oni bai ei fod naill ai:
    • yn drosglwyddiad, aseiniad neu gydsyniad o brydles amharhaol ddigofrestredig, heb ystyried y cyfnod, neu
    • yn drosglwyddiad o brydles ddigofrestredig a wnaed yn unol ag adran 171A o Ddeddf Tai 1985, heb ystyried y cyfnod
  • ceisiadau i gofrestru morgais cyfreithiol cyntaf gwarchodedig o ystad brydlesol ddigofrestredig 芒 7 mlynedd neu lai o鈥檙 cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y morgais yn peri cofrestriad, am nad oes modd eu cofrestru

鈥楳orgais cyfreithiol cyntaf鈥 yw morgais cyfreithiol sydd 芒 blaenoriaeth dros holl forgeisi eraill sy鈥檔 effeithio ar eiddo 鈥 gweler adran 4(8)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

鈥楳orgais gwarchodedig鈥 yw morgais sy鈥檔 cael ei warchod trwy adneuo dogfennau perthnasol i鈥檙 ystad a forgeisiwyd, er enghraifft gweithredoedd cyn-gofrestru a dogfennau teitl.

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • Mae鈥檔 ofynnol i chi gofrestru aseiniadau, trosglwyddiadau neu gydsyniadau, gan gynnwys cydsyniadau breinio, trwy werthu, trwy rodd neu trwy orchymyn y llys, ystad brydlesol ddigofrestredig lle bo mwy na 7 mlynedd o鈥檙 cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y trosglwyddiad neu aseiniad yn peri cofrestriad (ond gweler Sylwer isod). Rhaid cyflwyno鈥檙 ceisiadau hyn fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1

Sylwer: Mae鈥檙 trosglwyddiadau/aseiniadau canlynol wedi eu heithrio o gofrestru gorfodol, ond gall fod modd cofrestru鈥檙 ystad brydlesol ddigofrestredig ei hun yn wirfoddol 鈥 gweler Cofrestriad cyntaf ystad brydlesol bresennol a roddwyd cyn 13 Hydref 2003.

  • trosglwyddiad trwy weithredu鈥檙 gyfraith, er enghraifft pan fo eiddo rhywun ymadawedig yn breinio yn eu hysgutor 鈥 gweler adran 4(4)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • aseiniadau o gyfnod morgais, hy morgais trwy brydles 鈥 gweler adran 4(4)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • aseinio neu ildio prydles i鈥檙 rifersiynydd uniongyrchol lle bo鈥檙 cyfnod i ymdoddi i鈥檙 cyfryw rifersiwn 鈥 gweler 4(4)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

  • mae鈥檔 ofynnol i chi gofrestru naill ai:
    • trosglwyddiad neu aseiniad o brydles amharhaol ddigofrestredig
    • drosglwyddiad o brydles ddigofrestredig a wnaed yn unol ag adran 171A o Ddeddf Tai 1985 heb ystyried y cyfnod. Rhaid cyflwyno鈥檙 ceisiadau hyn fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1.
  • mae鈥檔 ofynnol i chi gofrestru morgais cyfreithiol cyntaf gwarchodedig o ystad brydlesol ddigofrestredig lle鈥檙 oedd mwy na 7 mlynedd o鈥檙 cyfnod gwreiddiol heb ddod i ben ar ddyddiad y morgais yn peri cofrestriad. Rhaid cyflwyno鈥檙 ceisiadau hyn fel cofrestriad cyntaf gorfodol ar ffurflen FR1

Sylwer: Mae morgeisi eraill wedi eu heithrio o gofrestru gorfodol, ond gall fod modd cofrestru鈥檙 ystad brydlesol ddigofrestredig ei hun 鈥 gweler Cofrestriad cyntaf ystad brydlesol bresennol a roddwyd cyn 13 Hydref 2003

6.7 Nodi prydlesi, ac opsiynau a hawddfreintiau mewn prydlesi, ar gyfer teitl y prydleswr

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i nodi prydlesi a roddwyd am gyfnod o dair blynedd neu lai o ddyddiad y grant, ac nad oes angen eu cofrestru yn safonol

Sylwer: Mae hyn yn berthnasol i unrhyw brydlesi amharhaol nad yw鈥檔 orfodol eu cofrestru, a lle bo cyfanswm y cyfnod yn dair blynedd neu lai.

  • ceisiadau i nodi prydlesi partneriaeth gyhoeddus-breifat

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • gallwch wneud cais penodol i nodi prydles (gweler adrannau 32, 33 a 34 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ar yr amod:
    • ei bod yn cael ei rhoi am gyfnod o fwy na 3 blynedd o ddyddiad y grant
    • nad oes angen ei chofrestru
    • nad yw鈥檔 berthnasol i ymddiried o dir neu setliad o dan Ddeddf Tir Setledig 1925

Sylwer 1: Pan fydd cais yn cael ei gyflwyno i gofrestru prydles a roddwyd ar neu ar 么l 13 Hydref 2003 allan o deitl (deitlau) cofrestredig, y mae angen ei chofrestru, byddwn yn ddiofyn yn nodi鈥檙 brydles yn unol ag adran 38 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Sylwer 2: Wrth roi teitl prydlesol llwyr ar gofrestriad cyntaf, byddwn yn ddiofyn yn nodi鈥檙 brydles (ond bod uwch-deitl y prydleswr wedi ei gofrestru ac na nodwyd y brydles eisoes), yn amodol ar gyflwyno rhybudd i鈥檙 prydleswr. Os lanlwythwyd cydsyniad y prydleswr eisoes gyda鈥檙 cais, ni fydd angen i ni gyflwyno rhybudd i鈥檙 prydleswr 鈥 gweler rheol 37 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Sylwer 3: Os nad yw cofrestriad cyntaf teitl prydlesol wedi ei gwblhau gyda theitl llwyr, ni fyddwn yn gwneud cofnod yn nheitl y prydleswr, heb gais penodol i gofnodi rhybudd.

6.8 Trosglwyddo cyfran

Rydym yn gwrthod

  • trosglwyddiadau sydd wedi eu llunio鈥檔 anghywir. Er enghraifft, os A a B yw鈥檙 perchnogion cofrestredig, nid oes modd cofrestru trosglwyddiad cyfran B gan ymddiriedolwr mewn methdaliad A a B

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • fel arfer rhaid i鈥檙 holl berchnogion cofrestredig fod yn drosglwyddwyr, hyd yn oed lle bo un (neu fwy) ohonynt hefyd yn drosglwyddai, er enghraifft A, B ac C yn trosglwyddo i A ac C
  • lle bo cyfyngiad cydberchnogaeth yn Ffurf A yn y gofrestr, rhaid bod o leiaf 2 drosglwyddwr ar unrhyw drosglwyddiad am werth (mae modd penodi ymddiriedolwr newydd i鈥檙 diben)

Sylwer: Nid yw鈥檙 uchod yn berthnasol lle bo鈥檙 perchennog sy鈥檔 weddill yn gorfforaeth ymddiried.

6.9 Terfynau a bennwyd

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau heb ddim cynllun wedi ei gyflwyno
  • cynlluniau nad oes modd gweld y berthynas rhyngddynt a map yr Arolwg Ordnans
  • ceisiadau lle na chyflwynwyd tystiolaeth o deitl i鈥檙 tir hyd at y terfyn

6.10 Ceisiadau鈥檔 ymwneud ag endidau tramor

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau i gofrestru endid tramor yn berchennog ystad gofrestredig a gyflwynir heb rif adnabod yr endid tramor a ddyroddir gan D欧鈥檙 Cwmn茂au. Rydym hefyd yn gwrthod ceisiadau i gofrestru gwarediad gan endid tramor (lle mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodaeth) 2022 yn effeithio arno) a gyflwynir heb rif adnabod yr endid tramor neu鈥檙 dystiolaeth sydd ei hangen i gydymffurfio 芒 chyfyngiad yn y gofrestr lle bo hyn yn ofynnol

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • gweler ein cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor i gael gwybodaeth am y ceisiadau y mae Deddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 yn effeithio arnynt a鈥檙 dystiolaeth sydd ei hangen arnom

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

6.11 Ceisiadau a ddil毛wyd sy鈥檔 aros yn ddiffygiol

Rydym yn gwrthod

  • ceisiadau a ddil毛wyd neu a wrthodwyd yn flaenorol lle bo鈥檙 diffygion gwreiddiol heb eu datrys
  • ceisiadau a ddil毛wyd neu a wrthodwyd yn flaenorol lle bo angen ffurflen gais ac na ddefnyddiwyd un

Awgrymiadau ar gyfer osgoi gwrthod

  • pan fyddwn yn dileu neu鈥檔 gwrthod cais rhown y rhesymau鈥檔 ysgrifenedig. Os cafodd cais ei ddileu neu ei wrthod yn flaenorol, cofiwch sicrhau bod y diffygion a nodwyd gennym wedi cael eu cywiro cyn ei ailgyflwyno

7. Pethau i鈥檞 cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.