Papur polisi

Gofyniad Plismona Strategol 2023

Mae'r Gofyniad Plismona Strategol yn nodi barn yr Ysgrifennydd Cartref am beth yw'r bygythiadau cenedlaethol presennol, a'r galluoedd plismona cenedlaethol sydd eu hangen i fynd i'r afael 芒'r bygythiadau hynny.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch alternativeformats@homeoffice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Cyhoeddwyd y Gofyniad Plismona Strategol (SPR) am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2012, yn unol ag adran 77 o Ddeddf Diwygio鈥檙 Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Cafodd y Gofyniad Plismona Strategol blaenorol ei ddiweddaru ddiwethaf yn 2015.

Rhaid i gomisiynwyr heddlu a throsedd a phrif gwnstabliaid ystyried yr SPR wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Bygythiadau cenedlaethol

Mae fersiwn 2023 yn cyflwyno trais yn erbyn menywod a merched fel bygythiad cenedlaethol ychwanegol, ac yn ailddatgan dilysrwydd y bygythiadau presennol.

Y bygythiadau cenedlaethol a nodir yn yr SPR yw:

  • trais yn erbyn menywod a merched
  • terfysgaeth
  • troseddau difrifol a chyfundrefnol
  • digwyddiad seibr cenedlaethol
  • cam-drin plant yn rhywiol
  • anrhefn cyhoeddus
  • argyfyngau sifil

Mae cynnwys trais yn erbyn menywod a merched fel bygythiad cenedlaethol yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer:

  • galluoedd heddlu lleol a rhanbarthol i fynd i鈥檙 afael 芒 thrais yn erbyn menywod a merched
  • sut mae heddluoedd lleol yn gweithio gydag eraill, gan gynnwys cydweithio ag asiantaethau eraill

Diweddariadau eraill

Mae newidiadau eraill yn cynnwys:

  • disgrifiad manylach o sut y dylai bygythiadau gael eu taclo gan luoedd heddlu
  • trefniadau llywodraethu a sicrwydd cryfach, gan gynnwys gofyniad am gyfeiriadau mwy penodol at SPR mewn cynlluniau heddlu a throsedd
  • adran troseddau difrifol a threfnedig well, er mwyn sicrhau amlygrwydd i fathau o droseddau fel twyll a throseddau mewnfudo cyfundrefnol

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Mehefin 2023 show all updates
  1. Accessible English version added.

  2. Added Welsh translation.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon