Hysbysiad

TA5 1UD, NNB Generation Company (HPC) Limited: cais am hawlen amgylcheddol

Diweddarwyd 6 Mehefin 2019

Yn berthnasol i Loegr

Manylion y cais

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi derbyn cais i amrywio hawlen amgylcheddol o dan Reoliadau Caniat谩u Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 gan NNB Generation Company (HPC) Limited.

Rhif y cais

EPR/HP3228XT/V004

Math o gyfleuster rheoledig

Gweithgaredd Arllwys D诺r

Lleoliad cyfleuster rheoledig

Gorsaf B诺er Hinkley Point C
Hinkley Point
Ger Bridgwater
Gwlad yr Haf
TA5 1UD

Cyfeirnod grid cenedlaethol y pwynt arllwys

ST 19176 47521 a ST 19128 47578

Amgylchedd derbyn

Sianel Bryste

Math o elifiant

Elifiant masnach (yn cynnwys d诺r oeri ac elifiant proses) ac elifion carthion wedi鈥檜 trin

Cyfaint

Cyfradd gyfartalog uchaf yr arllwys o 132 metr ciwbig yr eiliad

Y cynnig yw amrywio鈥檙 hawlen i ddiwygio neu ddileu鈥檙 amodau yn ymwneud 芒 chynllun a gweithrediad ar y system Atal Pysgod Acwstig (AFD).

Caniatawyd yr hawlen wreiddiol yn 2013 ac roedd yn caniat谩u arllwys elifion masnach yn cynnwys d诺r oeri echdynedig a ddychwelir (Ffrwd gwastraff A). Roedd y cynllun gwreiddiol arfaethedig ar gyfer y system d诺r oeri yn gofyn i鈥檙 cwmni echdynnu ac arllwys y d诺r oeri hwn gan ddefnyddio tri mesur a fyddai鈥檔 cydweithio i ostwng effaith amgylcheddol y gweithgaredd hwn. Y mesurau oedd wedi鈥檜 cynnwys yn yr hawlen wreiddiol oedd mewnlif Mynediad Ochr Cyflymder Isel (LVSE), system Adfer a Dychwelyd Pysgod (FRR) a system Atal Pysgod Acwstig (AFD).

Nid yw鈥檙 Cwmni yn dymuno mwyach gosod system Atal Pysgod Acwstig (AFD) a chan hynny mae鈥檔 ymgeisio i amrywio ei hawlen gyfredol i ddileu鈥檙 amodau yn ymwneud 芒鈥檙 mesur hwn.

Sylwer bod yr ymgynghoriad hwn yn perthyn i鈥檙 dogfennau cais am amrywiad i鈥檙 hawlen. Rhaid i ni benderfynu caniat谩u neu wrthod y cais am amrywiad i鈥檙 hawlen. Os byddwn yn ei ganiat谩u, rhaid i ni benderfynu pa amodau i鈥檞 cynnwys yn yr hawlen a byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellach os byddwn yn cyrraedd y cam hwn.

Bydd y Cwmni hefyd yn gwneud ceisiadau am ddiwygiadau i鈥檙 Gorchymyn Caniat谩u Datblygiad (DCO) sy鈥檔 awdurdodi adeiladu鈥檙 orsaf b诺er (Gorchymyn 2013: S.I. 2013:248), ac am amrywiad i鈥檙 drwydded forol yn ymwneud ag adeiladu鈥檙 System D诺r Oeri sy鈥檔 gorwedd islaw lefel y d诺r (rhif trwydded L201300178/3).

Bydd llwybrau ymgynghori ar wah芒n yn cael eu hysbysebu ac ar gael gan y Cwmni ac Awdurdodau Cymwys mewn perthynas 芒鈥檙 ceisiadau hyn. Mae鈥檔 rhain yn debyg o gael eu cynnal ochr yn ochr 芒鈥檙 cais hwn am amrywiad i hawlen. Gallwch ddarllen mwy am ymgynghoriad cyn-ymgeisio鈥檙 cwmni ar y Gorchymyn Caniat芒d Datblygu (DCO) yn

Sut i weld y cais

Ar-lein:

Cedwir y wybodaeth hon mewn cofrestrau yn y lleoliadau a ganlyn:

Hinkley Point Visitor Centre (EDF Energy)
Units 18-19 Angel Place Shopping Centre
25 Angel Crescent
Bridgwater
TA6 3TQ

Customer 天美影院 Reception
West Somerset Council
West Somerset House
Killick Way
Williton
TA4 4QA

Hyb y Llyfrgell Ganolog
Llyfrgell Ganol Caerdydd
Yr Aes
Caerdydd
CF10 1FL

Gallwch weld y wybodaeth yng nghofrestr(au) Asiantaeth yr Amgylchedd:

Environment Agency
Public Register
Plas yr Afon
East Quay
Bridgwater
TA6 4YS

Environment Agency
Cofrestr Gyhoeddus
Horizon House
Deanery Road
Bristol
BS1 5AH

Gallwch weld cofrestr Asiantaeth yr Amgylchedd rhwng 9.30am a 4.30pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener. Ffoniwch ganolfan cyswllt i gwsmeriaid Asiantaeth yr Amgylchedd ar 03708 506 506 i drefnu apwyntiad. Gallwch ofyn am gopi o ddogfennau ar y gofrestr. Mae鈥檔 bosibl y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn codi t芒l arnoch am gostau cop茂o.

Sut i gynnig sylwadau ar y cais

Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y cais anfonwch y rhain erbyn 26 Gorffennaf 2019.

Ar-lein:

E-bost: psc-waterquality@environment-agency.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Environment Agency
Permitting and Support Centre
WQ Team
Quadrant 2
99 Parkway Avenue
Sheffield
S9 4WF.

Fel arfer ni fydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gosod unrhyw ymatebion y mae鈥檔 eu derbyn ar y gofrestr gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys eich enw a鈥檆h manylion cyswllt. Dywedwch wrthym ni os nad ydych chi eisiau i鈥檆h ymateb fod yn gyhoeddus.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau gan y cyfryngau at ein Canolfan Cyswllt i Gwsmeriaid Cenedlaethol ar 03708 506 506.