Papur polisi

Marchnad fewnol y DU: crynodeb gweithredol

Diweddarwyd 9 Medi 2020

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Rhoi鈥檙 Cefndir: Hanes ein Marchnad Fewnol

1. Daw cryfder marchnad fewnol y Deyrnas Unedig (y DU) o lwyddiant ein Hundeb, ein hadnoddau cyffredin, a dyfeisgarwch a galluoedd ein pobl. Ganrifoedd cyn inni ymuno 芒鈥檙 Undeb Ewropeaidd, cafodd marchnad fewnol y DU ei mynegiant ei hun drwy鈥檙 Deddfau Uno, gan warantu rhyddid economaidd sylfaenol i holl ddinasyddion Prydain. Ers 1973, disodlwyd yr hen reolau hyn gan gyfraith Ewrop. Ddegawdau wedyn, pleidleisiodd pobl Prydain dros ymadael 芒鈥檙 Undeb Ewropeaidd (yr UE). Wrth i gyfreithiau鈥檙 UE ddod i ben, rydym unwaith eto鈥檔 cael y cyfle i fynegi rheolau canrifoedd oed y Farchnad Fewnol, gan dynnu ar y deddfau sy鈥檔 rhan annatod o鈥檔 hanes Prydeinig cyffredin.

2. Cafodd yr Undeb ei greu ym 1707 pan ddaeth Cymru a Lloegr a鈥檙 Alban yn rhan o Deyrnas Prydain Fawr a thyfodd yr Undeb ymhellach pan sefydlwyd y Deyrnas Unedig ym 1801.

3. Rhoddodd yr Undeb gyfleoedd economaidd newydd i bobl ledled y wlad newydd: tywysai porthmyn eu da byw o fryniau Cymru i鈥檙 farchnad yn Llundain. Yn sgil y diwydiannau glo a haearn roedd Cymru wrth galon y chwyldro diwydiannol a esgorodd ar ddiwydiannau a chadwyni cyflenwi a fu鈥檔 datblygu鈥檔 barhaus mewn meysydd fel cynhyrchu copr ac alcam a chadarnhau r么l Cymru fel pwerdy diwydiant Prydain yn oes Victoria. Mae greddf fasnachu gref Cymru yn dal yn amlwg heddiw. Mae bod yn rhan o Farchnad Fewnol gref ac unedig yn dal yr un mor bwysig i Gymru heddiw ag y bu erioed.

4. Un o fanteision mawr Undeb 1707 i鈥檙 Alban oedd sicrhau mynediad i farchnadoedd Lloegr yma a thros y m么r, ar gyfer gwartheg a llieiniau鈥檙 Alban yn bannaf ar y pryd. Gwelodd y Ddeddf Uno hwb ar unwaith i fasnach yr Alban, drwy gysylltiadau gwell 芒鈥檙 Baltig a mannau eraill i fasnachwyr yr Alban. Mae adleisiau鈥檙 twf hwnnw yn atseinio hyd heddiw: ffynnodd trefi modern yn yr Alban fel Crieff a Falkirk yn wreiddiol fel marchnadoedd poblogaidd i farsiandwyr yn dilyn y cynnydd mewn masnach. Erbyn y 1720au, roedd porthladdoedd Glasgow a Clyde yn tyfu o ganlyniad i鈥檙 cynnydd mewn masnach a ddaethai鈥檔 bosibl oherwydd yr Undeb. Pan edrychwn yn 么l o safbwynt heddiw 鈥 a gweddill y DU yn bartner masnachu mwyaf yr Alban o bell ffordd 鈥 mae manteision economaidd yr Undeb wedi mwy na phasio prawf amser.

5. Mae Gogledd Iwerddon hefyd wedi elwa o berthynas economaidd agos 芒 gweddill y DU. Yn ystod y 19eg ganrif, daeth Belfast i鈥檙 amlwg fel dinas ddiwydiannol fawr, yn enwog am ei diwydiannau lliain ac adeiladu llongau. Fel y rhan gyntaf o鈥檙 DU i gael profiad o ddatganoli, cafodd pwysigrwydd economaidd yr Undeb i Ogledd Iwerddon ei barchu. Er bod cytundeb Belfast (Cytundeb Gwener y Groglith) yn cydnabod y potensial ar gyfer cydweithredu rhwng y Gogledd a鈥檙 De, mae鈥檙 ddeddfwriaeth sy鈥檔 sail i setliad datganoli 1998 yn dal i gynnig amddiffyniad i鈥檙 farchnad sengl mewn nwyddau a gwasanaethau o fewn y Deyrnas Unedig. Prydain Fawr yw鈥檙 farchnad fwyaf gwerthfawr i nwyddau Gogledd Iwerddon o hyd.

Rhan 1: Ein Marchnad Fewnol ar 么l y Cyfnod Pontio

6. Ym mis Ionawr 2020 ymadawodd y DU 芒鈥檙 UE. Yn sgil diwedd y Cyfnod Pontio eleni, ni fydd y ffordd rydym yn rheoleiddio llafur, cyfalaf, nwyddau a gwasanaethau yn y DU yn cael ei phenderfynu gan yr UE mwyach. Yn hytrach, byddwn ni yn y DU yn cael rheoleiddio鈥檔 masnach mewn nwyddau a gwasanaethau mewn ffordd bwrpasol, wedi鈥檌 chynllunio鈥檔 unswydd er budd ein busnesau, ein gweithwyr a鈥檔 defnyddwyr ni, gan gynnal ein safonau rheoleiddio uchel yr un pryd.

7. Bydd y gallu hwn i benderfynu ar y ffordd orau o reoli鈥檔 masnach mewn nwyddau a gwasanaethau ym mhob rhan o鈥檔 gwlad yn allweddol o ran cynnal cydlynedd ein marchnad fewnol gyffredin 鈥 h.y. y set gyfan o gydberthnasau masnachu sy鈥檔 bodoli ledled y DU. Ar yr adeg hanesyddol hon, byddwn yn gallu rhoi sicrwydd i fyd busnes a hwyluso trosglwyddiad pwerau newydd i鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig drwy gynnal y rheolau sy鈥檔 llywodraethu ein heconomi fewnol.

8. Ar ddiwedd eleni, bydd pwerau newydd yn trosglwyddo o鈥檙 UE i Lywodraeth y DU a鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig, gan wella gallu lefelau gwahanol o lywodraeth i reoleiddio yn unol ag anghenion eu poblogaethau lleol, mewn meysydd fel amaethyddiaeth a safonau bwyd, ymysg pethau eraill. Bydd hyn, yn ei dro, yn creu moment dyngedfennol i鈥檙 DU fel gwlad ddatblygu ei system reoleiddio bwrpasol ei hun 芒 sicrwydd, sydd mor bwysig i fusnesau, dinasyddion ac economi鈥檙 DU wrth i ni ymadfer ar 么l effaith COVID-19.

Ffigur 1. Enghreifftiau o feysydd o gymhwysedd datganoledig a swm y pwerau newydd sy鈥檔 trosglwyddo i鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig[footnote 1]

Ffigur 1

9. Bydd cynnal masnach esmwyth ledled y DU yn hanfodol wrth inni geisio manteisio ar y cyfleoedd a gynigir drwy ymadael 芒鈥檙 UE, gan gynnwys y gallu i fynd ati鈥檔 gyflym ac yn hyblyg i ddatblygu鈥檙 rheoliadau a fydd yn gweithio orau i ddinasyddion ym mhob rhan o鈥檙 DU. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo nid yn unig i gadw safonau rheoleiddio uchel (megis lles anifeiliaid) 鈥 ond i wneud yn well na鈥檙 gwahanol amddiffyniadau a gynigir gan yr UE.

10. Mae gan ein gwlad ni hanes hir o fod 芒 Marchnad Fewnol integredig a di-dor. Mae sicrhau gwarant o fynediad i economi鈥檙 DU ar draws pob rhan o鈥檙 DU yn dal yn amhrisiadwy i les a ffyniant ei dinasyddion, ac mae llif rhydd nwyddau a gwasanaethau yn un o鈥檙 hawliau economaidd sylfaenol y dylid eu cadw i bawb.

11. Wrth i ddylanwad cyfreithiau Marchnad Sengl yr UE edwino, bydd angen inni weithredu i wella鈥檔 pensaern茂aeth bresennol er mwyn cryfhau鈥檔 Marchnad Fewnol, gan ymgorffori yn y gyfraith ddulliau newydd i sicrhau y gallwn fasnachu鈥檔 rhydd ar draws pob rhan o鈥檙 DU.

Y Papur Gwyn hwn

12. Yn y papur hwn, mae鈥檙 Llywodraeth yn cyflwyno dull i鈥檙 DU gyfan sicrhau bod y fasnach ddi-dor ar draws Marchnad Fewnol y DU yn cael ei chynnal drwy ddarparu Ymrwymiad i Fynediad i鈥檙 Farchnad i bob busnes a dinesydd ledled y DU. Drwy鈥檙 ymgynghoriad hwn, ein nod yw sicrhau bod llais y gymuned fusnes a鈥檙 gymuned randdeiliaid ehangach yn cael ei gynrychioli yn y gwaith dylunio polisi manwl.

13. Nod y Llywodraeth yw gweithredu system sy鈥檔 gweithio ochr yn ochr 芒 phwerau datganoledig newydd ac sy鈥檔 gwarantu cysondeb ac eglurder i fusnesau a dinasyddion yr un pryd. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithredu deddfwriaeth newydd i ymgorffori Ymrwymiad sylfaenol i Fynediad i鈥檙 Farchnad yn y gyfraith, gan leihau costau masnach domestig, ansicrwydd i fyd busnes a biwrocratiaeth. Byddwn yn deddfu ar gyfer yr ymrwymiad sylfaenol hwn erbyn diwedd 2020, wrth i ni ddod allan o鈥檙 Cyfnod Pontio, er mwyn sicrhau bod holl fusnesau a defnyddwyr y DU yn cael eu diogelu o Ddiwrnod 1 ymlaen.

14. Bydd yr ymatebion i gwestiynau鈥檙 Papur Gwyn yn bwydo dull y Llywodraeth o ymdrin 芒鈥檙 ddeddfwriaeth.

Parhau 芒 mynediad i鈥檙 farchnad 芒 gwahaniaethau rheoleiddio

15. Fel y soniwyd yn natganiad agoriadol y Papur Gwyn hwn, un o nodweddion allweddol ein heconomi yw ei integreiddiad dwfn. Ceir tystiolaeth o hyn nid yn unig yn nibyniaeth lethol yr Alban a Gogledd Iwerddon ar fasnach ddomestig y DU, neu鈥檙 cannoedd o filoedd o gymudwyr sy鈥檔 croesi o un genedl yn y DU i鈥檙 llall bob blwyddyn. Mae ein diwydiant twristiaeth yn enghraifft yr un mor berswadiol: yn 2019, cymerodd trigolion Prydain Fawr gyfanswm o 122.8m o deithiau dros nos i gyrchfannau yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 Alban. Roedd hyn yn gyfystyr 芒 371.8m o nosweithiau a gwariwyd 拢24.7bn yn ystod y teithiau hyn[footnote 2].

Ffigur 2. Cymudo ar draws rhanbarthau rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr[footnote 3]

Ffigur 2

Cyfieithu

16. Wrth i bwerau rheoleiddio鈥檙 UE edwino, mae yna berygl y bydd rhwystrau rheoleiddiol yn dod i鈥檙 amlwg. Byddai鈥檙 rhain yn dod 芒 risgiau nid yn unig i economi ehangach y DU, ond hefyd i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unigol. Mae unrhyw ostyngiad yn CMC Cymru a鈥檙 Alban yn debygol o fod yn bedair a phum gwaith yn fwy, yn y drefn honno, na鈥檙 golled yn CMC cyffredinol y DU, o gofio鈥檜 lefel uchel o integreiddio 芒 gweddill y DU.

17. Heb strwythur marchnad cyfoes a chydlynol, gallai rhwystrau economaidd atal neu lesteirio masnach mewn nwyddau ledled y DU, a gallai effeithio鈥檔 sylweddol ac yn andwyol ar wasanaethau. Gallai cymhlethdodau mewn sectorau allweddol fel adeiladu godi, pe bai gwahaniaethau mewn rheoliadau yn dod i鈥檙 amlwg dros amser. Pe bai Lloegr a鈥檙 Alban yn wahanol yn eu hymagwedd at reoliadau adeiladu neu brosesau ar gyfer sicrhau trwyddedau adeiladu, byddai鈥檔 raddol yn mynd gryn dipyn yn anos i gwmn茂au adeiladu ddylunio a chynllunio prosiectau鈥檔 effeithiol ledled y DU. At hynny, gallai dulliau gwahanol o reoleiddio gweithwyr adeiladu proffesiynol, fel cymwysterau gwahanol i blymwyr a thechnegwyr, gyfyngu ar fynediad i weithwyr adeiladu medrus, a鈥檌 gwneud yn anos i gwmn茂au adeiladu鈥檙 Alban wneud cais am gontractau yn Lloegr

18. Hyd yn oed mewn meysydd lle nad oes pwerau penodol yn dychwelyd, gallai absenoldeb rheolau鈥檙 UE ei gwneud yn haws i rwystrau newydd godi. Gallai hyn gynnwys meysydd o weithgarwch economaidd sylweddol yn y dyfodol, a phroffesiynau a chynhyrchion newydd sy鈥檔 chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ysgogi arweinyddiaeth wyddonol a thechnolegol y DU. Er enghraifft, pe bai cymwysterau gwahanol neu reoliadau eraill i weithwyr proffesiynol sy鈥檔 gweithio ym maes Deallusrwydd Artiffisial yn dod i鈥檙 amlwg yng Nghymru a Lloegr, gallai hynny atal gweithwyr rhag cymhwyso ar gyfer y farchnad lai yng Nghymru, gan gyfyngu ar dwf a buddsoddiadau yno. Gallai hyn hefyd gynyddu鈥檙 costau i gwmn茂au sy鈥檔 dymuno cyflogi gweithwyr o鈥檙 fath ledled y DU a lleihau atyniad byd-eang y DU i fuddsoddiadau tramor mewn technolegau newydd.

19. Gallai鈥檙 costau uchod hefyd gyrraedd defnyddwyr yn y pen draw, gan gynyddu prisiau, neu leihau dewis. Mae鈥檔 amlwg felly y gallai rhwystrau economaidd arwyddocaol, a鈥檙 rheiny heb eu rheoli, ledled y DU beri niwed difrifol i fuddiannau鈥檔 busnesau a鈥檔 defnyddwyr, a hefyd fygwth ffyniant economi鈥檙 DU yn ei gyfanrwydd.

Fframweithiau Cyffredin

20. Mae Llywodraeth y DU eisoes yn ymgymryd 芒 phroses i gytuno ar ymagwedd gyffredin gyda鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig fel rhan o鈥檌 gweledigaeth ar gyfer Marchnad Fewnol y DU. Rhaglen y Fframweithiau Cyffredin yw鈥檙 mecanwaith sydd fwyaf datblygedig i fynd i鈥檙 afael 芒 chydlynedd rheoleiddiol. Mae Fframweithiau Cyffredin wedi鈥檜 bwriadu i helpu鈥檙 Farchnad Fewnol i weithredu, i reoli adnoddau cyffredin a gallu鈥檙 DU i drafod, gwneud a dilysu cytundebau masnach a chytundebau rhyngwladol eraill.

21. Nod Fframweithiau Cyffredin yw diogelu Marchnad Fewnol y DU drwy ddarparu lefelau uchel o gydlynedd rheoleiddiol mewn meysydd polisi penodol drwy gydweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig i reoli gwaith rheoleiddio. Maent yn gwneud hyn drwy alluogi鈥檙 swyddogion i gydweithio i bennu a chynnal safonau rheoleiddio uchel. Er hynny, nid yw Fframweithiau ar eu pen eu hunain yn gallu gwarantu cyfanrwydd y Farchnad Fewnol i gyd. Gan eu bod yn tueddu i fod yn benodol i鈥檙 sector, nid ydynt yn mynd i鈥檙 afael 芒 rheoleiddio鈥檙 economi yn ei gyfanrwydd nac effeithiau cronnol ymwahanu, h.y. canlyniadau gwahaniaethau mewn rheoliadau mewn un sector sy鈥檔 effeithio ar sectorau eraill. Yn olaf, nid ydynt yn mynd i鈥檙 afael yn llawn 芒鈥檙 ffordd orau i ddisodli dylanwad ecosystem ehangach yr UE o sefydliadau a hawliau cytundeb ar farchnad fewnol y DU.

22. Mae deddfwriaeth Marchnad Fewnol y DU a drafodir yn y Papur Gwyn hwn yn ategu Fframweithiau drwy ddarparu lefel sylfaenol o gydlynedd rheoleiddiol ar draws ystod ehangach o sectorau. Mae hyn yn golygu y bydd y meysydd sydd heb Fframwaith Cyffredin yn dal i gael budd o gydlynedd rheoleiddiol lefel-isel. Yn hanfodol ddigon, darperir cydlynedd marchnad ar gyfer materion sy鈥檔 ymwneud 芒 fframweithiau sy鈥檔 canolbwyntio ar sectorau unigol.

Rhychwant

23. Er mwyn rhoi sicrwydd i ddinasyddion a busnesau鈥檙 DU, bydd yr Ymrwymiad i Fynediad i鈥檙 Farchnad yn rhychwantu economi鈥檙 DU ar draws nwyddau a gwasanaethau. Bydd meysydd penodol y tu allan i鈥檙 rhychwant gan gynnwys, er enghraifft, polisi cyllid ac arian, a rheoleiddio eiddo deallusol. Ni fydd trethiant a gwariant, a ddisgrifir yn y fframweithiau cyllid, yn cael eu cynnwys ychwaith. Bydd rhai mesurau polisi cymdeithasol sydd heb fawr o effaith ar y Farchnad Fewnol, a gwahaniaethau a pholis茂au a oedd yn bodoli鈥檔 barod, yn cael eu hepgor hefyd. Bydd gwaith monitro parhaus yn asesu effaith gwahaniaethau lleol, er enghraifft rhwng Awdurdodau Cyfun yn Lloegr.

Amcanion allweddol

24. Blaenoriaeth y Llywodraeth wrth ddatblygu鈥檙 cynigion hyn yw diogelu cyfleoedd i fusnesau, defnyddwyr, gweithwyr a鈥檙 trydydd sector ym mhob rhan o鈥檙 DU. Mae鈥檙 Llywodraeth yn gwerthfawrogi egwyddor datganoli ac yn credu bod ymadawiad y DU 芒鈥檙 UE yn cynnig cyfle i ategu鈥檙 setliadau datganoli, gan barhau 芒 gwaith hynod lwyddiannus Marchnad Fewnol y DU hefyd.

25. Fel y nodwyd uchod, caiff system Marchnad Fewnol y DU ei gyrru felly gan y tri amcan polisi cyffredinol a ganlyn:

a) parhau i sicrhau cyfleoedd economaidd ar draws y DU
b) parhau i fod yn gystadleuol a galluogi dinasyddion ledled y DU i fod mewn amgylchedd sydd y lle gorau yn y byd i wneud busnes
c) parhau i ddarparu ar gyfer lles, ffyniant, a diogelwch economaidd cyffredinol ein holl ddinasyddion.

26. Ategir yr amcanion hyn gan y tri nod ategol a ganlyn:

a) parhau 芒 masnach esmwyth rhwng pob rhan o鈥檙 DU
b) parhau i gystadlu鈥檔 deg ac atal gwahaniaethu
c) parhau i ddiogelu busnes, defnyddwyr a鈥檙 gymdeithas sifil drwy eu cynnwys yn y broses o ddatblygu鈥檙 farchnad

27. Yn olaf, bydd Marchnad Fewnol y DU hefyd yn dilyn dwy brif reol dylunio:

a) meithrin cydweithrediad a deialog
b) meithrin ymddiriedaeth gyda busnes a pharhau鈥檔 agored

Sail ddeddfwriaethol i Farchnad Fewnol y DU

28. Bydd y Llywodraeth yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth newydd a fydd yn ymrwymo, i bob dinesydd a busnes, i fynediad am ddim i鈥檙 gweithgarwch economaidd ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn sicrhau mynediad parhaus i鈥檙 farchnad ledled y DU, a hynny drwy egwyddorion cyd-gydnabod a pheidio 芒 gwahaniaethu. Heb sail ddeddfwriaethol o鈥檙 fath, gallai rhwystrau rheoleiddiol diangen ddod i鈥檙 amlwg rhwng gwahanol rannau鈥檙 DU. Mae ar fusnesau angen sicrwydd ac eglurder er mwyn gweithredu鈥檔 esmwyth ledled y DU a hybu buddsoddiadau, a dim ond y pecyn hwn o ymyriadau a ymgorfforir yn y gyfraith sy鈥檔 gallu cyflawni鈥檙 amcan hwn yn llawn. Yn niffyg darpariaeth gyfreithiol benodol ar gyfer y Farchnad Fewnol, ni fydd gan lysoedd sy鈥檔 gwrando busnesau yn ceisio profi eu hawliau ganllawiau clir am fwriadau鈥檙 llywodraethau.

29. Nod y Llywodraeth yw sicrhau bod y sail ddeddfwriaethol hon yn gweithredu ar sail y DU gyfan, gan gymryd i ystyriaeth y rhwymedigaethau sy鈥檔 gymwys o dan brotocol Gogledd Iwerddon (y nodwyd ein hymagwedd ato yn y Papur Gorchymyn, The UK鈥檚 approach to the Northern Ireland Protocol[footnote 4]). Un rhan ganolog o鈥檙 ymagwedd honno fydd deddfu i sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i farchnad y DU i Ogledd Iwerddon erbyn diwedd eleni, gan adlewyrchu lle hanfodol Gogledd Iwerddon yn y Farchnad Fewnol a鈥檙 diriogaeth dollau.

30. Bydd y mesurau hyn yn diogelu cyfanrwydd Marchnad Fewnol y DU yn barhaus. Bydd y Llywodraeth yn ceisio adeiladu ar y cynseiliau i sicrhau ein bod yn parhau 芒鈥檙 mecanweithiau mwyaf effeithiol i gyflawni鈥檙 amcan hwnnw. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod gan y cyhoedd ddealltwriaeth eang o fanteision Marchnad Fewnol y DU fel rhan annatod o鈥檔 hundeb. Yn y Papur Gwyn hwn, rydym yn gwahodd syniadau ar y ffordd orau i sicrhau bod y neges hon yn cael ei chyfleu鈥檔 effeithiol.

Cynnal safonau uchel

31. Bydd safonau eithriadol uchel y DU yn sail i waith y Farchnad Fewnol, er mwyn diogelu defnyddwyr a gweithwyr ledled yr economi. Nid yw鈥檙 safonau uchel hyn yn dibynnu ar aelodaeth o鈥檙 UE nac ar yr hyn y cytunir arno mewn Cytundebau Masnach Rydd y byddwn yn eu llofnodi gyda gwledydd eraill. Safonau domestig yw鈥檙 rhain. Mewn llawer o achosion, mae鈥檙 DU naill ai鈥檔 mynd ymhellach na safonau鈥檙 UE neu hi yw鈥檙 ysgogydd cyntaf i wella safonau cyn yr UE. Byddwn yn parhau 芒鈥檙 safbwynt hwn sy鈥檔 arwain y byd wrth inni symud ymlaen.

32. O dan ymagwedd arfaethedig y Llywodraeth, byddai鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig yn cadw鈥檙 hawl i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig sydd ganddynt ar hyn o bryd. Byddai arloesedd deddfwriaethol yn dal yn nodwedd ganolog 鈥 ac yn gryfder 鈥 yn ein hundeb. Mae鈥檙 Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau nad yw鈥檙 p诺er hwn i arloesi yn arwain at unrhyw bryder ynghylch y posibilrwydd o ostwng safonau 鈥 drwy weithio gyda鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig drwy鈥檙 rhaglen Fframweithiau Cyffredin a thrwy barhau i gynnal ein hymrwymiad ein hunain i鈥檙 safonau uchaf posibl.

33. Mae gan y DU rai o鈥檙 safonau uchaf yn y byd ar nwyddau. Mae鈥檙 rheolau ar gyfer cynhyrchion heblaw bwyd, sydd ran amlaf yn gymwys ledled y DU, eisoes yn golygu bod defnyddwyr yn cael eu diogelu rhag y risgiau a achosir gan nwyddau peryglus neu ddiffygiol. Mae鈥檙 enghreifftiau yn cynnwys rheolau sy鈥檔 sicrhau:

  • bod nwyddau electronig i ddefnyddwyr fel ffonau symudol, gliniaduron a thabledi yn ddiogel i鈥檞 defnyddio
  • nad yw colur yn cynnwys cynhwysion peryglus
  • nad yw teganau yn creu perygl o dagu

34. Mae gan y DU hefyd rai o鈥檙 safonau mwyaf cadarn ar fwyd, gyda safonau ar fwyd, iechyd a lles anifeiliaid sy鈥檔 arwain y byd. Ni fyddwn yn gostwng ein safonau nac yn peryglu bioddiogelwch y DU wrth inni drafod cytundebau masnach newydd. Mae鈥檙 Llywodraeth wedi ymrwymo o hyd i hybu safonau bwyd cadarn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i ddiogelu buddiannau defnyddwyr, ac i sicrhau y gall defnyddwyr hyderu yn y bwyd y maent yn ei brynu. Byddwn yn parhau i ddiogelu bywyd ac iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion, a鈥檙 amgylchedd ac yn dal i gydweithredu 芒 rhanddeiliaid ar draws y pedair gwlad drwy gyrff fel y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth.

35. Rydym wedi ymrwymo鈥檔 llwyr o hyd i gynnal ein safonau y tu allan i鈥檙 UE a bydd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn trosglwyddo darpariaethau presennol yr UE ar ddiogelwch bwyd, gan gynnwys y gofynion mewnforio presennol, i鈥檙 llyfr statudau. Mae鈥檙 safonau mewnforio hyn yn cynnwys gwahardd defnyddio hormonau twf artiffisial mewn cynhyrchion domestig a chynhyrchion wedi鈥檜 mewnforio ac yn nodi nad oes dim cynhyrchion, heblaw d诺r yfed, wedi鈥檜 cymeradwyo i ddadhalogi carcasau dofednod. Byddai unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth gyfredol ar ddiogelwch bwyd yn gofyn am gyflwyno deddfwriaeth newydd gerbron y Senedd hon a鈥檙 deddfwrfeydd datganoledig.

36. Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Food Standards Scotland yn dal i sicrhau bod yr holl fewnforion bwyd yn cydymffurfio 芒 safonau diogelwch uchel y DU a bod defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn rhag bwyd anniogel. Law yn llaw 芒 hyn, bydd y DU yn ailberchnogi swyddogaethau archwilio ac arolygu a gyflawnir gan y Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd i sicrhau bod partneriaid masnachu yn parhau i fodloni鈥檔 hamodau mewnforio o safbwynt diogelwch bwyd a phorthiant, iechyd anifeiliaid a phlanhigion a lles anifeiliaid.

37. Mae gan y DU hanes balch fel arweinydd mewn iechyd a diogelwch yn y gweithle, ac mewn llawer o achosion mae鈥檔 mynd ymhellach na gofynion cyfraith yr UE. Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 (gyda deddfwriaeth gyfochrog yng Ngogledd Iwerddon), a ddatblygwyd yn annibynnol ar yr UE, yn gosod dyletswyddau cyffredinol ar gyflogwyr i sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu holl weithwyr yn y gwaith. Mae busnesau yn y DU yn debycach o fod 芒 pholisi iechyd a diogelwch, ac o ddilyn hyn gydag asesiad risg ffurfiol, nag aelod-wladwriaethau鈥檙 UE. Mae gennym un o鈥檙 hanesion iechyd a diogelwch mwyaf llwyddiannus yn y byd, ac rydym yn perfformio鈥檔 dda yn gyson o鈥檔 cymharu 芒 chyfartaledd yr UE ar ganlyniadau allweddol mewn iechyd a diogelwch.

38. Mae鈥檙 DU wedi arwain ar hawliau gweithwyr. Mae鈥檙 DU yn cynnig blwyddyn o absenoldeb mamolaeth gyda鈥檙 opsiwn o鈥檌 drosi鈥檔 absenoldeb rhiant er mwyn galluogi rhieni i rannu gofal; dim ond 14 wythnos yw isafswm yr UE. Cyflwynodd y DU ddwy wythnos o absenoldeb tadolaeth 芒 th芒l yn 2002; dim ond yn ddiweddar y deddfodd yr UE ar gyfer hyn. Mae鈥檙 DU yn caniat谩u i rieni cymwys rannu absenoldeb 芒 th芒l 鈥 ac felly cyfrifoldebau gofalu 鈥 yn y flwyddyn gyntaf ar 么l i blentyn gael ei eni neu ei fabwysiadu; nid yw鈥檙 UE yn darparu ar gyfer yr hawl hon. Cyflwynodd y DU yr hawl i weithio鈥檔 hyblyg ar ddechrau 2000 鈥 dim ond nawr y mae鈥檙 UE yn dal i fyny. Mae hyn yn gymwys i bob cyflogai yn y DU: cytunodd yr UE ar reolau y llynedd a fydd yn cynnig yr hawl i rieni a gofalwyr yn unig. Gwaharddodd y DU gymalau cyfyngol mewn contractau dim oriau yn 2015; dim ond yn 2019 y cytunwyd ar reolau cyfatebol yn yr UE.

39. Mae gan y DU gyfundrefn gystadleuaeth o鈥檙 radd flaenaf ar ffurf yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA). Mae hwn yn annibynnol ar safonau鈥檙 UE, ar 么l mabwysiadu mesurau cadarn o鈥檌 wirfodd yn Neddf Cystadleuaeth 1998 a Deddf Menter 2002, ac mae cyfundrefn y DU eisoes yn rhagori ar drefn yr UE mewn mannau. Y DU yw鈥檙 unig wlad yn Ewrop y gall ei hawdurdod cystadlu orfodi atebion strwythurol ac ymddygiadol y gellir eu gorfodi yn dilyn ymchwiliad i鈥檙 farchnad. Mae鈥檙 pwerau hyn yn mynd y tu hwnt i Reoliad 1/2003, lle mae鈥檙 UE yn cael ei bwerau ar gyfer ymchwiliadau yn y sector. Mae gan y DU gosbau troseddol hefyd i gartelau a phwerau i anghymhwyso cyfarwyddwyr, nad ydyn nhw ar gael yn y Comisiwn Ewropeaidd na鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 aelod-wladwriaethau.

40. Mae gan y DU drefn gadarn a blaengar ar gyfer diogelu defnyddwyr. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae鈥檙 DU wedi bod yn ddylanwadol o ran gwrthsefyll cysoniad yng nghyfraith yr UE a fyddai wedi lleihau鈥檙 safonau hyn. Mae鈥檙 DU wedi negodi鈥檔 llwyddiannus i barhau ag amddiffyniadau blaenllaw i gadw hyder defnyddwyr mewn meysydd fel nwyddau diffygiol a llwyfannau tocynnau ar-lein. Gan weithio ochr yn ochr 芒鈥檙 CMA, yr amcanion ar gyfer polisi rhyngwladol yw adeiladu a datblygu cydweithrediad ym maes rhyngwladol gorfodaeth defnyddwyr lle bo modd. Y DU oedd yr Aelod-wladwriaeth gyntaf i ddatblygu system diogelu defnyddwyr ar gyfer prynu cynnwys digidol, sef dull y mae鈥檙 UE wedi鈥檌 fabwysiadu erbyn hyn. Yn wahanol i鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 Aelod-wladwriaethau, mae鈥檙 DU yn nodedig am roi hawl i ddefnyddwyr gael ad-daliad ar unwaith os yw nwyddau鈥檔 ddiffygiol.

41. Y DU oedd yr economi mawr cyntaf yn y byd i osod targed cyfreithiol rwymol i sicrhau dim allyriadau nwyon t欧 gwydr net o bob rhan o鈥檙 economi erbyn 2050. Mae鈥檙 DU yn arweinydd byd-eang yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac ni fydd cytundebau masnach rydd yn y dyfodol yn rhwystro hyn. Mae鈥檔 fframwaith arloesol o gyllidebau carbon a sefydlwyd o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 yn sicrhau cynnydd parhaus tuag at ein targedau lleihau allyriadau. Rydym yn ceisio cynyddu鈥檙 uchelgais o dan Gytundeb Paris drwy鈥檙 broses o ddiwygio NDCs. A ninnau鈥檔 dod yn Llywydd COP26 mewn partneriaeth 芒鈥檙 Eidal, byddwn yn dal i weithio鈥檔 ddiflino gyda鈥檔 partneriaid i gyflawni鈥檙 uchelgais cynyddol y mae ei hangen i gyflawni amcanion Cytundeb Paris.

42. Mae gan y DU safonau amgylcheddol sy鈥檔 arwain y byd. Yn y Mynegai Perfformiad Amgylcheddol, a gynhyrchwyd ar y cyd gan Brifysgolion Yale a Columbia mewn cydweithrediad 芒 Fforwm Economaidd y Byd, gosodwyd y DU yn y 10 uchaf o 180 o wledydd yn 2018. Mae鈥檙 DU wedi bod yn gyflym i gymryd camau yn erbyn plastig untro, gyda gwaharddiad ar gyflenwi gwellt plastig, troellwyr diodydd a ffyn cotwm yn dod i rym ym mis Hydref 2020, bron blwyddyn cyn amserlen yr UE ei hun, sef Gorffennaf 2021. Cafodd Strategaeth Aer Gl芒n y DU, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2019, ei chanmol gan Sefydliad Iechyd y Byd fel 鈥渆nghraifft i weddill y byd ei dilyn鈥, gan osod nodau uchelgeisiol newydd i leihau amlygiad y cyhoedd i lygredd gronynnol ar sail targedau llym.

43. Mae safonau amgylcheddol y DU mewn llawer o feysydd yn rhagori ar safonau鈥檙 UE. Mae鈥檙 DU wrthi鈥檔 cyflwyno un o waharddiadau llymaf y byd i amddiffyn eliffantod rhag potsio, a chafodd ein deddfwriaeth ni ei mabwysiadu ym mis Rhagfyr 2018, sef yr un flwyddyn ag y dechreuodd yr UE ymgynghori ar dynhau鈥檙 cyfyngiadau er nad yw wedi deddfu ar y mater hwn eto, er gwaethaf pwysau gan y rhanddeiliaid. Mae鈥檙 DU yn arwain y gad o ran diogelu鈥檙 m么r, gan arwain y fenter 鈥30 erbyn 30鈥 i sicrhau bod o leiaf 30% o鈥檙 cefnfor byd-eang yn cael ei warchod erbyn 2030: mae hyn yn gyfystyr 芒 threblu鈥檙 targed presennol. Bydd Cynghrair y Cefnfor Byd-eang o dan arweiniad y DU yn galw am fabwysiadu鈥檙 uchelgais hwn yn y Confensiwn nesaf ar Amrywiaeth Biolegol yn Tsieina. Daeth gwaharddiad y DU ar feicrobelenni i rym ym mis Ionawr 2018, sef cam nodedig yn y broses o gyflwyno un o waharddiadau llymaf y byd ar y darnau niweidiol hyn o blastig. Wnaeth yr UE ddim symud i gyflwyno gwaharddiad cyfatebol tan 2019.

44. Wrth gynnal y lefelau gwarchodaeth uchel hyn, rydym hefyd yn meithrin y gallu i鈥檞 hadolygu fel y gallant gyd-fynd 芒鈥檙 arferion gorau a, lle bo鈥檔 briodol, eu symleiddio i helpu busnesau i gydymffurfio.

Masnach ryngwladol

45. Bydd sicrhau bod y DU yn dal yn economi gydlynol ac integredig yn allweddol i feithrin yr holl gyfleoedd mewn masnach. Bydd system sy鈥檔 cyflawni鈥檙 nod ar draws y DU gyfan yn helpu i ddatblygu a gweithredu cytundebau masnach uchelgeisiol a all gynnig manteision i fusnesau a dinasyddion ledled y DU. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod pob cwr o鈥檙 DU yn fwy deniadol i fuddsoddiadau tramor ac yn meithrin hyder yn ein partneriaid masnach nawr ac yn y dyfodol. Bydd helpu busnesau i ffynnu yn cefnogi allforion y DU, ac yn galluogi cwmn茂au i fod yn fwy cystadleuol, gan roi hwb i enw da鈥檙 DU mewn masnach ledled y byd. Gan hynny, bydd system Marchnad Fewnol sy鈥檔 gweithio鈥檔 dda, wedi鈥檌 theilwra at fuddiannau busnesau ledled y DU, yn chwarae r么l hanfodol wrth gefnogi鈥檔 huchelgais hirdymor mewn masnach fyd-eang, gan sicrhau bod y DU yn ei chyfanrwydd yn gallu cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol.

Sicrhau buddsoddiadau

46. Bydd y Llywodraeth yn sicrhau, lle mae trefi a dinasoedd wedi cael eu gadael ar 么l o鈥檙 blaen, y byddant yn gallu elwa ar fentrau鈥檙 Llywodraeth ledled y DU megis gwarchod Marchnad Fewnol y DU, fel rhan o鈥檙 agenda o unioni lefelau ac ymadfer ar 么l y Coronafeirws. Bydd y pecyn hwn o fesurau yn ein helpu i gyflawni鈥檔 huchelgais o sicrhau bod ein heconomi ddatblygedig yn cynnig manteision ac yn rhoi cyfleoedd i fusnesau a dinasyddion ledled y DU.

47. Bydd y Llywodraeth hefyd yn ystyried pa bwerau gwario y mae arni eu hangen i wella Marchnad Fewnol y DU, i helpu pobl a busnesau ym mhob gwlad i fanteisio arni, ac i ddatblygu ei huchelgais i unioni lefelau ym mhob rhan o鈥檙 DU. Wrth arfer unrhyw bwerau newydd o鈥檙 fath, bydd y Llywodraeth yn darparu arian yn deg ar draws y gwledydd

Rhan 2: Cyd-gydnabod a pheidio 芒 gwahaniaethu

48. Seilir y ddeddfwriaeth arfaethedig ar egwyddorion cyd-gydnabod a pheidio 芒 gwahaniaethu, a bydd yn gymwys ar draws nwyddau a gwasanaethau. Ochr yn ochr ag elfennau eraill megis Fframweithiau Cyffredin, bydd yr egwyddorion hyn yn sicrhau bod Marchnad Fewnol y DU yn gweithio i bawb.

49. Nod sylfaenol pob system gyd-gydnabod yw sicrhau bod cydymffurfio 芒 rheoliadau mewn unrhyw un diriogaeth yn cael ei chydnabod fel cydymffurfio yn y llall neu鈥檙 lleill. Er enghraifft, os gall nwydd a gynhyrchir yn yr Alban, sy鈥檔 glynu at reoliadau labelu鈥檙 Alban, gael ei osod ar farchnad yr Alban, mae鈥檔 gallu cael ei roi hefyd ar y marchnadoedd yng Nghymru a Lloegr heb fod angen cydymffurfio 芒 gofynion Cymru neu Loegr hefyd.

50. Serch hynny, ni fydd cyd-gydnabyddiaeth yn briodol nac yn bosibl ym mhob maes. O fewn system gyd-gydnabod, fe fydd 鈥渆ithriadau鈥. Bydd y rhain yn cyfeirio at feysydd sydd y tu allan i rychwant y system pan ddaw honno i rym. Mae hyn wedi bod yn nodwedd o Farchnad Fewnol y DU ers 1707 (megis systemau cyfreithiol). Bydd angen cytuno ar unrhyw eithriadau ar y dechrau ac ni fydd disgwyl i鈥檙 rhain newid yn gyffredinol. Os bydd Llywodraeth y DU neu un o鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig yn cyflwyno rheoliadau sy鈥檔 syrthio o fewn eithriad, yna ni fydd y system gyd-gydnabod yn gymwys, megis mewn trethiant a gwariant, y meysydd sydd wedi鈥檜 cadw鈥檔 么l ar hyn o bryd, neu bolis茂au cymdeithasol sydd heb fawr o effaith ar y Farchnad Fewnol.

51. Bydd y system gyd-gydnabod yn cael ei chyfuno 芒鈥檙 egwyddor o beidio 芒 gwahaniaethu. Bydd hyn yn diogelu busnesau, gweithwyr a defnyddwyr rhag gwahaniaethu drwy sicrhau bod rhaid i awdurdod reoleiddio mewn ffordd sy鈥檔 osgoi triniaeth wahaniaethol ac anffafriol i nwyddau neu wasanaethau sy鈥檔 tarddu o ran arall o鈥檙 DU o鈥檌 chymharu 芒鈥檙 driniaeth a gynigir i鈥檞 nwyddau neu ei gwasanaethau ei hun. Bydd yr egwyddor o beidio 芒 gwahaniaethu yn canolbwyntio ar sicrhau bod unrhyw rwystrau gwahaniaethol yn cael sylw (e.e. rheoleiddio yn erbyn nwyddau o wlad benodol o fewn y DU), tra bydd cyd-gydnabyddiaeth yn ceisio lleihau鈥檙 baich rheoleiddiol cyffredinol y gallai busnes ei wynebu o ganlyniad i amrywiaeth mewn rheoliadau sy鈥檔 effeithio ar nwyddau a gwasanaethau. Barn y Llywodraeth yw y dylid gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol; mae hi hefyd yn ceisio barn ar sut i ddeddfu ar gyfer gwahaniaethu anuniongyrchol. Nodir y ddau ddiffiniad priodol o wahaniaethu yn Rhan 2 isod.

Rhan 3: Llywodraethu, cyngor annibynnol, a monitro

52. Bydd angen i drefniadau rhwng y llywodraethau gael eu hymestyn i gyfrif am ddeddfwriaeth y Farchnad Fewnol a byddwn yn cefnogi鈥檙 trefniadau hyn 芒 dwy swyddogaeth a gyflawnir yn annibynnol.

53. Bydd y swyddogaeth gyntaf yn darparu gwaith cyson i fonitro ac adrodd ar iechyd Marchnad Fewnol y DU wrth iddi ddatblygu. Bydd hyn yn cynnwys monitro鈥檙 effeithiau cronnol ar draws sectorau neu ranbarthau a gwylio鈥檙 gorwel i chwilio am dueddiadau sy鈥檔 dod i鈥檙 amlwg.

54. Yr ail swyddogaeth yw sefydlu rhyngwyneb ar-lein fel y gellir gwahodd barn busnesau, gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr yn uniongyrchol a mynd ati i鈥檞 chasglu er mwyn cryfhau鈥檙 gronfa dystiolaeth y mae ei hangen ar gyfer cynghori a monitro annibynnol.

Rhan 4: Rheoli cymorthdaliadau

55. Mae cymorthdaliadau yn cyfeirio at gymorth (mewn arian neu mewn da) o unrhyw lefel o lywodraeth i fusnesau dethol. O ganlyniad i鈥檔 haelodaeth o鈥檙 UE, rydym wedi bod o dan reolau鈥檙 UE ar gymorth gwladwriaethol, sy鈥檔 cael eu rheoleiddio gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae鈥檔 bwysig ein bod yn parhau 芒 dull cydgysylltiedig o weithredu o ran y ffordd rydym yn cefnogi busnesau ledled y DU.

56. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig i bennu sut y dylai cymorthdaliadau gael eu rhoi mewn ffordd gydlynol ledled y DU sy鈥檔 diogelu cydlynedd y farchnad fewnol, ac ar yr un pryd yn sicrhau y gall y gweinyddiaethau datganoledig barhau i reoli eu penderfyniadau gwariant unigol eu hunain o fewn y system hon. O gofio bod y rheolau yngl欧n 芒 rhoi cymhorthdal i fusnesau鈥檔 fater lle mae dull unffurf yn allweddol ar gyfer ein gallu i barhau鈥檔 economi cystadleuol, barn y Llywodraeth yw y dylai hyn gael ei gadw鈥檔 么l (neu ei eithrio, yn achos Gogledd Iwerddon[footnote 5]). Er nad ymdrinnir 芒 hyn yn y papur hwn, mae鈥檔 bwysig galluogi鈥檙 Llywodraeth i ddeddfu ar gyfer un gyfundrefn unedig ar gyfer rheoli cymorthdaliadau, pe bai鈥檔 penderfynu gwneud hynny.

Rhan 5: Casgliadau

57. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd a chysondeb i fusnesau a defnyddwyr. Ar adeg o ansicrwydd economaidd mawr o ganlyniad i COVID-19, bydd darparu sefydlogrwydd yn allweddol i hybu buddsoddiadau ar draws y Farchnad Fewnol, gan helpu i sicrhau bod adferiad y DU mor gryf ac mor gyflym 芒 phosibl. Bydd hyn yn cynnal ein ffyniant cyffredin fel Undeb gan ein galluogi i ffynnu fel cenedl annibynnol y tu allan i鈥檙 UE.

  1. Nid yw鈥檙 rhestr o feysydd datganoledig yma yn gynhwysfawr. Dylid nodi hefyd fod pob setliad datganoli yn unigryw ac y gall y gwahaniaeth rhwng pwerau a gadwyd a phwerau datganoledig fod yn gymhleth. Er enghraifft, gellir datganoli/trosglwyddo meysydd polisi i un genedl ond nid i eraill, a gellir cadw/eithrio elfennau o un polisi tra bo eraill wedi鈥檜 datganoli/wedi鈥檜trosglwyddo. I gael niferoedd y pwerau newydd sy鈥檔 arferadwy gan bob deddfwrfa ddatganoledig, gweler , Ebrill 2019聽

  2. , 2019,聽

  3. SYG, Cyfrifiad 2011聽

  4. The UK鈥檚 approach to the Northern Ireland Protocol, (Mai 2020)聽

  5. Mae datganoli yng Nghymru a鈥檙 Alban wedi鈥檌 rannu rhwng materion a gadwyd yn 么l (lle gall Llywodraeth y DU ddeddfu) a materion datganoledig (lle gall y gweinyddiaethau ddeddfu). Mae gan ddatganoli Gogledd Iwerddon derminoleg wahanol ac mae鈥檔 ymrannu鈥檔 dri maes: 1) materion a drosglwyddwyd 鈥 lle mae gan Gynulliad Gogledd Iwerddon bwerau deddfu llawn; 2) materion a eithriwyd 鈥 lle mae Llywodraeth y DU yn cadw鈥檙 cyfrifoldeb deddfwriaethol; a 3) materion a gadwyd yn 么l 鈥 lle Llywodraeth y DU yw鈥檙 awdurdod deddfwriaethol yn gyffredinol, ond y gall Cynulliad Gogledd Iwerddon ddeddfu gyda chydsyniad priodol yr Ysgrifennydd Gwladol. Safbwynt y Llywodraeth yw y dylai rheolaeth cymorthdaliadau gael ei heithrio yng Ngogledd Iwerddon.聽