Canllawiau

Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig 2025-26: Gwybodaeth Ychwanegol

Diweddarwyd 5 Mehefin 2025

Mae’r Wybodaeth Ychwanegol hon yn amlinellu gofynion a chanllawiau ar gyfer cynghorau, awdurdodau cyfun ac awdurdodau maerol sy’n gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn 2025-26. Mae’n berthnasol i gyllid yr UKSPF a ddyrannwyd ar gyfer 2025-26.

1. Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig 2025-26: Trosolwg

1.1. Dylid darllen y ddogfen hon ochr yn ochr â Nodyn Technegol UKSPF 2025-26 sy’n amlinellu gwybodaeth bwysig am strwythur a threfniadau cyflawni UKSPF yn 2025-26.

1.2. Mae’r Wybodaeth Ychwanegol hon yn amlinellu gofynion a chanllawiau ar gyfer cynghorau, awdurdodau cyfun ac awdurdodau maerol sy’n gweithredu’r UKSPF yn 2025-26. Mae’n berthnasol i gyllid yr UKSPF a ddyrannwyd ar gyfer 2025-26.

1.3. Caiff y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) ddiweddaru’r ddogfen hon a bydd y fersiynau mwyaf diweddar ohoni, a’r holl ddogfennau eraill perthnasol, ar gael ar dudalennau’r UKSPF ar .ÌìÃÀÓ°Ôº.

1.4. Dylai’r ddogfen hon gael ei defnyddio gan gynghorau, awdurdodau cyfun ac awdurdodau maerol sy’n cyflawni’r UKSPF yng Nghymru, Lloegr a’r Alban; cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel awdurdodau lleol arweiniol (ALlAau). Yng Ngogledd Iwerddon, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n arwain y broses o gyflawni’r UKSPF ac mae wedi gweithio gyda phartneriaid yng Ngogledd Iwerddon i ddatblygu trefniadau cyflawni; cyhoeddir gwybodaeth gyfredol yma.

1.5. Lluniwyd yr UKSPF i ddarparu cyllid i arweinwyr lleol sydd â’r rhyddid a’r annibyniaeth angenrheidiol i achub ar gyfleoedd newydd ac ymateb i’r heriau sy’n unigryw i’w cymunedau. Mae’r gronfa hon wedi ymrwymo i gefnogi datganoli a lleihau biwrocratiaeth.

1.6. O fewn y model cyflawni datganoledig hwn, mae goruchwyliaeth briodol o’r UKSPF mewn ALlAau yn hanfodol i’w chyflawni. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r hyn y mae MHCLG yn ei ddisgwyl gan Swyddogion Adran 151 yn Lloegr (a swyddogion sy’n cyfateb iddynt mewn awdurdodau maerol a chyfun) ac yng Nghymru, a Swyddogion Adran 95 yn yr Alban sy’n gyfrifol am sicrhau bod cyllid yr UKSPF yn cael ei wario’n briodol yn unol â’u dyletswyddau cyfreithiol. Drwy gydol y ddogfen hon, cyfeirir atynt ar y cyd fel Prif Swyddogion Cyllid.

1.7. Gall ALlAau gysylltu ag MHCLG trwy ukspfenquiries@communities.gov.uk

2. Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig: Diffiniadau o allbynnau a chanlyniadau

2.1. Datblygwyd rhestr wedi’i diweddaru o allbynnau a chanlyniadau ar gyfer yr UKSPF yn 2025-26. Diben hyn yw lleihau’r baich adrodd ar ALlAau. Mae’r rhestr wedi’i diweddaru yn rhoi’r diffiniad o’r dangosydd a’r uned fesur ar gyfer pob allbwn a chanlyniad. Nid yw’r diffiniadau wedi’u newid ers 2022-25 ac ni ychwanegwyd unrhyw allbynnau na chanlyniadau eraill. Nid yw MHCLG yn bwriadu gwneud unrhyw ddiwygiadau pellach i’r allbynnau na’r canlyniadau yn 2025-26.

2.2. Gellir adrodd ar unrhyw un o allbynnau a chanlyniadau 2025-26 o dan unrhyw un o is-themâu UKSPF 2025-26. Nid oes angen i ALlAau ddewis neu adrodd ar bob dangosydd, dim ond y rhai hynny y mae’r ALlAau yn amlygu eu bod yn berthnasol i’r gweithgarwch a gynhaliwyd.

2.3. Gall unrhyw brosiect a gynorthwywyd gan yr UKSPF yn 2022-25 sydd ond wedi cyflawni allbynnau neu ganlyniadau a ddilëwyd o’r rhestr o allbynnau a chanlyniadau ar gyfer 2025-26 barhau yn 2025-26, hyd yn oed os yw hyn yn golygu na chyflawnir unrhyw un o’r allbynnau a’r canlyniadau ar gyfer 2025-26. Fodd bynnag, anogir ALlAau i adrodd ar allbynnau a chanlyniadau sy’n berthnasol i’r gweithgarwch a ariannwyd, lle bynnag y bo’n bosibl.

2.4. Gall buddiolwyr (pobl, busnesau, adeiladau neu ardaloedd o dir) a gynorthwywyd yn 2022-25 gael eu cynorthwyo eto yn 2025-26. Ni ddylid adrodd arnynt eto gan ddefnyddio’r un allbwn neu ganlyniad oni bai bod y cymorth a gânt yn sylweddol wahanol i’r cymorth a ddarparwyd yn 2022-25.

2.5. Ni ofynnir i ALlAau adrodd ar allbynnau’n gronnol dros 2022-26, ond disgwylir iddynt ystyried yr allbynnau a’r canlyniadau a adroddwyd yn 2022-25 wrth adrodd ar allbynnau yn 2025-26. Er enghraifft, os adroddodd ALlA ei fod wedi cynorthwyo 100 o fusnesau yn 2022-25 a’i fod wedi cynorthwyo 100 o fusnesau yn 2025-26, y mae 30 ohonynt yn cael cymorth parhaus a ddechreuodd yn 2022-25, byddai’n adrodd bod 70 o fusnesau wedi’u cynorthwyo yn 2025-26.

2.6. Os bydd canlyniadau sy’n deillio o gyllid yn 2022-25, sy’n gwireddu yn 2025-26, yn cael eu defnyddio yn 2025-26, ceir adrodd arnynt yn ystod 2025-26.

2.7. Ni ddisgwylir i ALlAau nad ydynt yn parhau fel yr awdurdod lleol arweiniol yn 2025-26 adrodd ar ganlyniadau sy’n gwireddu yn 2025-26.

2.8. Ni ddisgwylir i ALlAau gasglu data am allbynnau neu ganlyniadau ar ôl i’r adroddiad monitro diwedd y flwyddyn ar gyfer 2025-26 gael ei gyflwyno ym mis Mai 2026. Dylai rhagolygon allbynnau a chanlyniadau adlewyrchu’r symiau y mae’r ALlA yn disgwyl gallu adrodd arnynt yn yr adroddiad monitro terfynol hwnnw.

2.9. Anogwn ALlAau i bennu’r allbynnau a’r canlyniadau priodol mewn modd pragmatig a chymesur. Mater i ALlAau yw penderfynu ar ddewis allbynnau a chanlyniadau yn seiliedig ar eu profiad o gyflawni prosiectau a rhaglenni tebyg.

2.10. Mae’r allbynnau a’r canlyniadau a ddarparwyd gan ALlAau yn rhan o ragolwg UKSPF 2025-26 yn ddangosol ac mae MHCLG yn cydnabod bod rhagolygon yn newid wrth i gynlluniau gael eu mireinio a’r broses o’u cyflawni symud ymlaen. Adlewyrchir hyn ym mhroses rheoli newid yr UKSPF, gweler adran tri.

2.11. Mae’r ALlA yn gyfrifol am gasglu allbynnau a chanlyniadau ac adrodd arnynt i MHCLG trwy’r broses adrodd a fanylir yn adran tri.

2.12. Bydd angen cofnodi gwaelodlin ar gyfer rhai canlyniadau. NI fydd MHCLG yn darparu data gwaelodlin. Disgwylir i ALlAau ganfod a nodi data o’r fath eu hunain.

2.13. Dylai ALlAau gadw tystiolaeth briodol, gymesur sy’n bodloni’r Prif Swyddog Cyllid bod yr allbynnau a’r canlyniadau yr adroddir arnynt wedi cael eu cyflawni.

2.14. Mae’n rhaid i allbwn yr adroddir arno ddeillio’n uniongyrchol o weithgarwch yr UKSPF. Er enghraifft, os cyflawnwyd gweithgarwch UKSPF sy’n gysylltiedig â sgiliau, dylid nodi nifer y bobl a dderbyniodd y gweithgarwch penodol hwnnw. Mae MHCLG yn cydnabod y gallai fod yn anoddach priodoli a gwahanu effaith yr UKSPF ar ganlyniadau, oherwydd gallai sianeli eraill heblaw am brosiectau’r UKSPF ddylanwadu arnynt. Rhoddir rhagor o fanylion am werthuso a’r ymagwedd at effeithiau achosol yn adran pump.

2.15. Ar adegau pan fydd cyfuniad o ddau neu fwy o brosiectau yn arwain at un allbwn neu ganlyniad, dylai’r ALlA arfer ei farn yn seiliedig ar briodoliad i benderfynu faint o’r allbynnau neu ganlyniadau perthnasol i adrodd arnynt. Yn gyffredinol, dylid adrodd unwaith ar allbwn neu ganlyniad sy’n gysylltiedig â buddiolwr, e.e. unigolyn neu fusnes neu adeilad sydd wedi’i wella. Os yw’r uned fesur neu’r gweithgarwch y mae’r buddiolwr yn ymgysylltu ag ef yn wahanol, ni fydd hynny’n cael ei ystyried yn gyfrif ddwywaith.

2.16. Fe allai buddiolwr prosiect, e.e. unigolyn neu fusnes, gynhyrchu mwy nag un allbwn neu ganlyniad. Er enghraifft, fe allai busnes unigol dderbyn grant ariannol yn ogystal â chymorth o fath arall. Yn y sefyllfaoedd hyn, dylid cofnodi’r holl allbynnau neu ganlyniadau perthnasol.

3. Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig: Adrodd, monitro a rheoli perfformiad

Adrodd

3.1. Ym mis Ebrill 2025, gofynnir i ALlAau ddarparu rhagolwg cychwynnol o sut maen nhw’n disgwyl clustnodi eu dyraniad UKSPF ar gyfer 2025-26, yn ogystal â’r allbynnau a’r canlyniadau maen nhw’n disgwyl eu cyflawni o dan ddeuddeg is-thema UKSPF 2025-26, fel yr amlinellir yn Nodyn Technegol UKSPF 2025-26. Bydd hyn yn darparu data gwaelodlin ar gyfer adrodd ar yr UKSPF yn 2025-26.

3.2. Mae’n ofynnol i ALlAau adrodd yn ffurfiol bob chwe mis. Bydd cynnwys yr adroddiadau chwemisol yr un fath ag yn ystod 2022-25 yn fras, ond bydd yn adlewyrchu’r newid o 53 o ymyriadau yn 2022-25 i ddeuddeg is-thema yn 2025-26.

Y cwestiynau a ofynnir i ALlAau a’r data a gesglir gan MHCLG

3.3. Cwestiynau cryno:

  • gwariant cyfalaf a refeniw hyd yma a rhagolwg diwedd y flwyddyn yn erbyn deuddeg is-thema UKSPF 2025-26
  • gwariant refeniw hyd yma a rhagolwg diwedd y flwyddyn yn erbyn deuddeg is-thema UKSPF 2025-26 a Rheoli a Gweinyddu
  • allbynnau a chanlyniadau gwirioneddol a rhagolygol yn erbyn deuddeg is-thema UKSPF 2025-26
  • crynodeb o gynnydd: diweddariad cryno ar gynnydd
  • rhagolwg i roi naratif byr sy’n amlygu unrhyw brosiectau, digwyddiadau, astudiaethau achos a chyfleoedd newydd ar gyfer ymweliadau gweinidogol
  • manylion cryno am y prosiectau sy’n cael eu hariannu o ddyraniad UKSPF 2025-26 yr ALlA
  • gwybodaeth gryno am arian cyfatebol
  • p’un a yw’r ALlA wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwerthuso

3.4. Mae’n rhaid i Brif Swyddog Cyllid yr ALlA ardystio datganiadau i gadarnhau eu bod yn gywir.

3.5. Mae’r tabl isod yn amlinellu’r llinell amser ar gyfer adrodd.

Cyfnodau Adrodd Dyddiad Comisiynu’r Adroddiad Dyddiad Cyflwyno’r Adroddiad Math o Wybodaeth
Rhagolwg cychwynnol 2025-26 1 Ebrill 2025 1 Mai 2025 - Adroddiad ar gynnydd
- Rhagolwg gwariant cyfalaf a refeniw
- Allbynnau a chanlyniadau rhagolygol
- Data cryno am y prosiect.
1 Ebrill 2025 tan 30 Medi 2025 1 Hydref 2025 31 Hydref 2025 - Adroddiad ar gynnydd
- Crynodeb o wariant gwirioneddol a rhagolygon diwygiedig diwedd y flwyddyn
- Crynodeb o allbynnau a chanlyniadau gwirioneddol a rhagolygon diwygiedig diwedd y flwyddyn
- Data cryno am y prosiect.
1 Hydref 2025 tan 31 Mawrth 2026 1 Ebrill 2026 1 Mai 2026 - Adroddiad ar gynnydd
- Crynodeb o wariant gwirioneddol
- Crynodeb o allbynnau a chanlyniadau gwirioneddol
- Data cryno am y prosiect.

Sut bydd MHCLG yn defnyddio’r data a ddarperir?

3.6. Bwriedir i’r data y gofynnir i ALlAau ei ddarparu gasglu gwybodaeth ar gyfer tri diben:

  • goruchwylio cynnydd yr UKSPF ar lefel rhaglen i roi sicrwydd i MHCLG, y Swyddog Atebol, Gweinidogion a’r Senedd
  • cynorthwyo i werthuso’r Gronfa, yr amlinellir ei egwyddorion yn yr adran monitro a gwerthuso ac yr ymhelaethir arnynt yn y Strategaeth Werthuso
  • caniatáu i MHCLG roi gwybod i adrannau perthnasol y llywodraeth am gyflawni’r UKSPF a’i heffaith mewn cysylltiad â meysydd polisi perthnasol

Proses newid yr UKSPF

3.7. Bydd gan MHCLG agwedd gymesur at gyflawni a blaenoriaethau lleol sy’n newid. Dim ond pan wneir newidiadau sylweddol y bydd angen ceisio cymeradwyaeth MHCLG. Ni fydd angen cymeradwyaeth MHCLG ar newidiadau sydd islaw’r trothwyon a ddiffinnir ym mharagraff 3.8, ond dylid eu hadlewyrchu mewn adroddiadau monitro arferol. Os croesir y trothwyon yn 3.8, gellir gwneud ceisiadau am newidiadau sylweddol o’r fath i ukspfenquiries@communities.gov.uk.

3.8. At ddibenion yr UKSPF yn 2025-26, mae newid sylweddol yn achos unigol o ailbroffilio cyllid o un flaenoriaeth fuddsoddi’r UKSPF i un arall (nid rhwng themâu neu is-themâu), os yw’r newid yn golygu symud 30% o gyfanswm dyraniad cyllid yr UKSPF ar gyfer 2025-26 neu £5 miliwn, pa un bynnag sydd isaf. Bydd y newid hwn yn cael ei feincnodi yn erbyn rhagolwg cychwynnol 2025-26 a ddarparwyd ym mis Ebrill 2025 neu’r sefyllfa y cytunwyd arni yn rhan o newid sylweddol blaenorol.

3.9. Gofynnir y cwestiynau canlynol i ALlAau pan fydd MHCLG yn ystyried unrhyw ‘newidiadau sylweddol’:

  • a yw’r Prif Swyddog Cyllid wedi ardystio bod y newid yn angenrheidiol ac yn gallu cael ei gyflawni
  • a allwch chi gadarnhau eich bod wedi ystyried y risgiau a’r materion sy’n codi o’r newid i’ch cynlluniau, a sut i reoli a lliniaru’r risgiau a’r materion hynny, e.e. risgiau, dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus
  • a allwch chi gadarnhau bod gennych ddigon o allu a chapasiti i reoli effaith y newid y gofynnir amdano
  • a allwch chi gadarnhau bod unrhyw oblygiadau i gymhorthdal/Cymorth Gwladwriaethol sy’n deillio o’r newid y gofynnir amdano wedi cael eu hystyried a bod y gweithgarwch yn gallu digwydd yn unol â’r gofynion hyn ac na fydd ariannu’r prosiect diwygiedig yn torri cyfraith cymhorthdal/Cymorth Gwladwriaethol

3.10. Bydd MHCLG yn ymateb i geisiadau ar gyfer newid sylweddol cyn gynted â phosibl.

3.11. Ni fydd MHCLG yn ystyried ceisiadau i gynyddu swm cyllid refeniw yr UKSPF a amlinellir ym Mhenderfyniad Grant 2025-26 yr UKSPF. Bydd penderfyniadau grantiau 2025-26 yn amlinellu’r dyraniadau refeniw a chyfalaf ar gyfer pob ALlA (yn unol â’r dyraniadau a gyhoeddwyd ar gyfer 2025-26). Telir cyllid refeniw a chyfalaf i ALlAau yn unol â’r dyraniadau hyn. Ni ellir defnyddio cyllid cyfalaf a delir i ALlAau i dalu costau refeniw; fodd bynnag, gellir defnyddio cyllid refeniw i dalu costau cyfalaf, h.y. gall ALlAau wario mwy ar gostau cyfalaf na’r swm cyfalaf a amlinellir ym mhenderfyniad grant 2025-26 yr UKSPF.

4. Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig: Taliadau, costau cymwys a rheoli dyraniadau lleol

Talu Cyllid 2025-26

4.1. Telir dyraniadau 2025-26 yr UKSPF i ALlAau yn gynnar yn 2025-26 ar ôl iddynt gyflwyno rhagolwg cychwynnol 2025-26 a chytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag MHCLG ar gyfer 2025-26.

4.2. Amlinellir faint o gyllid refeniw a chyfalaf y bydd ALlA yn ei dderbyn yn nyraniadau 2025-26 yr UKSPF.

4.3. O ran yr ALlAau hynny a gyflwynodd yr UKSPF yn 2022-25 ac sy’n parhau i wneud hynny yn 2025-26, bydd tanwariant y mae ALlA yn ei ddal ar ddiwedd 2022-25 yn cael ei wrthbwyso yn erbyn taliadau 2025-26. Er enghraifft:

  • mae’r ALlA yn dal £100,000 o danwariant cyfalaf o 2022-25
  • mae gan ALlA ddyraniad cyfalaf o £500,000 yn 2025-26
  • bydd yr ALlA yn derbyn £400,000 o gyfalaf ar gyfer 2025-26 ac yn cadw’r tanwariant o 2022-25

4.4. Os bydd gwerth y tanwariant o 2022-25 sy’n cael ei ddal gan yr ALlA yn fwy na dyraniad 2025-26, bydd yn ofynnol i’r ALlA dalu’r gwahaniaeth rhwng tanwariant 2022-25 a dyraniad 2025-26 ac ni fydd yn derbyn taliad ar gyfer 2025-26.

4.5. O ran ALlAau yn 2025-26 nad oeddent yn ALlAau yn 2022-25, telir 100% o’u UKSPF iddynt yn gynnar ym mlwyddyn ariannol 2025-26 ar ôl iddynt gyflwyno rhagolwg cychwynnol 2025-26 a chytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag MHCLG ar gyfer 2025-26.

Costau cymwys

4.6. Fel yr amlinellir yn Nodyn Technegol 2025-26 yr UKSPF (a Phrosbectws yr UKSPF), nid yw’r costau canlynol yn gymwys i gael cymorth gan yr UKSPF:

  • tâl am lobïo, diddanu, deisebu neu herio penderfyniadau, sy’n golygu defnyddio’r Gronfa i lobïo (trwy gwmni allanol neu staff mewnol) er mwyn ymgymryd â gweithgareddau a fwriedir i ddylanwadu ar y Senedd, y llywodraeth neu weithgarwch gwleidyddol, gan gynnwys derbyn cyllid UKSPF; neu geisio dylanwadu ar weithredu deddfwriaethol neu reoleiddiol
  • taliadau am weithgareddau o natur plaid wleidyddol neu grefyddol yn gyfan gwbl
  • Treth ar Werth (TAW) y gellir ei hadhawlio o Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) – mae TAW anadferadwy yn gost gymwys o dan yr UKSPF
  • rhoddion, neu daliadau am roddion neu gyfraniadau
  • dirwyon statudol, dirwyon troseddol neu gosbau
  • taliadau am waith neu weithgareddau y mae gan yr awdurdod lleol arweiniol, cyflawnwr prosiect, buddiolwr terfynol, neu unrhyw aelod o’u partneriaeth ddyletswydd statudol i ymgymryd â nhw, neu sydd wedi’u hariannu’n llawn gan ffynonellau eraill
  • hapddigwyddiadau ac atebolrwydd dibynnol
  • difidendau
  • drwgddyledion, costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr, neu ddirwyn cwmni i ben
  • treuliau yn gysylltiedig ag ymgyfreitha, diswyddo annheg neu iawndal arall
  • costau yr aethpwyd iddynt gan unigolion wrth sefydlu a chyfrannu tuag at gynlluniau pensiwn preifat

4.7. Ac eithrio’r costau a restrir yn 4.6, ystyrir bod yr holl gostau refeniw a chyfalaf eraill yn gymwys i gael cymorth gan yr UKSPF, ar yr amod eu bod yn angenrheidiol i gyflawni gweithgarwch sydd o fewn cwmpas y Gronfa, fel yr amlinellir yn Nodyn Technegol 2025-26 yr UKSPF, a’u bod yn ymwneud â gweithgarwch sy’n digwydd cyn diwedd mis Mawrth 2026.

4.8. Dylai pob ALlA ddiffinio costau cyfalaf a refeniw yn unol â’i arfer cyfrifyddu safonol. Ni fydd MHCLG yn darparu arweiniad pellach ar ddiffinio costau penodol fel cyfalaf neu refeniw.

4.9. Ni ddarperir unrhyw gyllid ar gyfer gweithgarwch ar ôl 31 Mawrth 2026.

Y cyfnod cyllido

4.10. Gellir defnyddio dyraniad UKSPF yr ALlA ar gyfer 2025-26 i dalu costau sy’n ymwneud â gweithgarwch sy’n digwydd rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 (yn gynwysedig) yn unig. Ni ystyrir bod y canlynol yn gymwys i gael cymorth gan yr UKSPF:

  • taliadau i gyflenwyr i ddarparu nwyddau a dderbynnir ar ôl 31 Mawrth 2026
  • taliadau i gontractwyr ar gyfer gwasanaethau a ddarperir ar ôl 31 Mawrth 2026
  • taliadau i gontractwyr ar gyfer gwaith sy’n digwydd ar ôl 31 Mawrth 2026
  • grantiau a delir i sefydliadau i gyflawni gweithgareddau ar ôl 31 Mawrth 2026
  • trosglwyddo cronfeydd o’r ALlA i drydydd parti i gyflawni gweithgareddau ar ôl 31 Mawrth 2026, e.e. o’r ALlA i awdurdod lleol arall neu gorff cyhoeddus arall
  • cyllid sy’n cael ei ad-dalu i’r ALlA neu y disgwylir iddo gael ei ad-dalu iddo gan drydydd parti

4.11. Gall ALlAau adrodd ar wario eu dyraniad UKSPF blynyddol os yw’r gwariant hwnnw’n ymwneud â gweithgareddau sy’n digwydd yn 2025-26 ac wedi’i gynnwys yng nghyfrifon yr ALlA ar gyfer y flwyddyn honno; gan gynnwys gwariant sy’n cronni yn unol â safonau cyfrifyddu ariannol. Nid oes gofyniad i gyflawnwyr prosiectau neu ALlAau fod wedi talu gwariant erbyn 31 Mawrth 2026.

4.12. Nid oes gofyniad i ALlAau dalu cyflawnwyr prosiectau mewn ôl-ddyledion yn seiliedig ar wariant gwirioneddol. Gall ALlAau ddewis talu cyllid ymlaen llaw, i broffil, yn seiliedig ar wariant gwirioneddol, neu gyfuniad o’r dulliau hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Pan delir cyllid mewn ôl-ddyledion, dylai ALlAau ad-dalu cyflawnwyr prosiectau cyn gynted â phosibl.

4.13. Pan delir cyllid ymlaen llaw i gyflawnwyr prosiectau, mae’n rhaid i’r ALlA sicrhau bod yr adroddiad monitro terfynol ym mis Mai 2026 yn adlewyrchu swm net y gwariant yr aethpwyd iddo gan yr ALlA, h.y. y cyfrifir am unrhyw gyllid a ad-dalwyd neu sydd i’w ad-dalu i’r ALlA. Er enghraifft, os telir blaendal o £100,000 i sefydliad ym mis Ebrill 2025 i gyflawni prosiect, ceir adrodd ar £100,000 o wariant yn y datganiad monitro cyntaf. Os yw’r ALlA yn derbyn neu’n disgwyl adennill £10,000 o danwariant gan y sefydliad ar ddiwedd 2025-26, dylai hyn gael ei ddidynnu o’r gwariant a adroddir ar ddiwedd 25-26 i roi ffigur gwariant net o £90,000.

4.14. Ni ddarperir unrhyw gyllid ar gyfer gweithgarwch ar ôl 31 Mawrth 2026. Mae MHCLG yn disgwyl i danwariant ar ddiwedd 2025-26 gael ei ad-dalu. Bydd dyfodol yr UKSPF o 2026-27 ymlaen yn fater i’r Adolygiad o Wariant nesaf.

4.15. Mae’n rhaid i’r cyllid a ddarperir ar gyfer holl weithgarwch cyflawnwyr prosiectau a ariennir gan yr UKSPF ddod i ben erbyn 31 Mawrth 2026, hefyd.

Asesiad Risg Twyll

4.16. Mae ALlAau yn gyfrifol am sicrhau bod twyll yn ystyriaeth allweddol yn gysylltiedig â’r holl weithgarwch a ariennir a bod y safonau gofynnol canlynol yn cael eu bodloni:

  • dilyn Safonau Swyddogaethol Grantiau ar Asesu Risg Twyll
  • cynnal Asesiadau Risg Twyll ar lefel briodol i bob prosiect unigol yn dibynnu ar y risg
  • sicrhau bod yr UKSPF yn cael ei gwario yn unol â pholisïau a gweithdrefnau atal twyll effeithiol yr awdurdod, a thrwy ymgysylltu â chydweithwyr sy’n arbenigo ar y maes hwn
  • sicrhau bod tystiolaeth a data perthnasol i atal twyll yn cael eu casglu yn rhan o waith diwydrwydd dyladwy a gynhelir cyn rhyddhau cronfeydd
  • gweithredu gofynion adrodd a monitro a fydd yn amlygu afreoleidd-dra neu broblemau wrth ddefnyddio cronfeydd y gellir ymchwilio iddynt ymhellach
  • storio a ffeilio’r holl waith a wnaed ar Asesu Risg Twyll rhag ofn y bydd unrhyw broblemau neu ofynion archwilio

Diwydrwydd Dyladwy

4.17. Mae ALlAau yn gyfrifol am sicrhau bod diwydrwydd dyladwy cyfrannol yn cael ei gymhwyso i holl wariant yr UKSPF a bod y safonau gofynnol canlynol yn cael eu bodloni:

  • dilyn Safonau Swyddogaethol Grantiau ar Ddiwydrwydd Dyladwy
  • cynnal diwydrwydd dyladwy ar lefel briodol i bob prosiect unigol yn dibynnu ar y risg
  • sicrhau bod diwydrwydd dyladwy yr UKSPF yn cael ei gynnal yn unol â rheolau a gweithdrefnau effeithiol yr awdurdod trwy dimau sy’n arbenigo ar y maes hwn
  • sicrhau bod meysydd diwydrwydd dyladwy allweddol a amlygwyd ar gyfer prosiectau rydych yn buddsoddi ynddynt yn cael eu hadrodd a’u monitro drwy gydol y cyfnod cyflawni
  • storio a ffeilio’r holl waith a wnaed ar ddiwydrwydd dyladwy rhag ofn y bydd unrhyw broblemau neu ofynion archwilio

5. Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig: Gwerthuso

5.1. Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr â’r Strategaeth Werthuso sy’n manylu ar y fframwaith Gwerthuso ar gyfer yr UKSPF. Amcan y Strategaeth Werthuso yw casglu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer yr hyn sy’n gweithio, ym mha gyd-destun, a thrwy ba gyfrwng. Gan weithio gydag awdurdodau lleol arweiniol (ALlAau), bydd MHCLG a’i chontractwyr gwerthuso yn casglu tystiolaeth i wella’r broses o lunio polisïau yn y dyfodol ar lefel leol a chenedlaethol a sicrhau y gall gwariant twf lleol yn y dyfodol ganolbwyntio ar yr ymyriadau hynny sy’n cyflawni’r effaith fuddiol fwyaf ac sy’n cynrychioli gwerth da am arian.

5.2. Bydd MHCLG yn gwerthuso’n ganolog, ond bydd yn dibynnu ar rai ALlAau i gefnogi’r gwaith hwn.

5.3. Mae contractwyr gwerthuso MHCLG eisoes wedi ymgysylltu â nifer o ALlAau ynglŷn â gwerthuso rhaglen 2022-25 yr UKSPF ac mae MHCLG yn bwriadu parhau â’r trefniadau gwaith hyn yn 2025-26. Felly, ni wneir unrhyw geisiadau pellach am ymgysylltu ynglŷn â gwerthuso yn 2025-26.

5.4. Mae contractwyr gwerthuso MHCLG eisoes wedi ymgysylltu ag ALlAau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i werthuso proses y rhaglen Lluosi yn 2022-25. Mae MHCLG wrthi’n cysylltu ag ALlAau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gynnal nifer fach o archwiliadau dwfn ychwanegol ar Luosi (Multiply) yn gynnar yn 2025. Ni wneir unrhyw geisiadau pellach am ymgysylltu ynglŷn â’r gwerthusiad o Luosi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 2025-26.

5.5. Anogir awdurdodau lleol i ystyried parhau i gynnal eu gwerthusiadau eu hunain wedi’u seilio ar le o sut mae’r UKSPF wedi gweithio yn eu hardal, yn enwedig gwerthuso proses ac effaith prosiectau unigol. Yn unol ag adran tri, mae MHCLG wedi gofyn am gael gwybod pryd y bydd hyn yn digwydd trwy adroddiadau arferol neu gysylltu ag arweinydd gwerthuso UKSPF.

5.6. Bydd Swyddog Diogelu Data MHCLG yn adolygu’r trefniadau gwerthuso i sicrhau y cydymffurfir yn barhaus â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y Deyrnas Unedig.

6. Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig: Brandio a chyhoeddusrwydd

6.1. Mae’r gofynion hyn yn berthnasol i’r holl ddeunyddiau cyfathrebu a dogfennau cyhoeddus sy’n ymwneud â gweithgarwch a ariennir – o ddeunyddiau argraffedig a chyhoeddiadau i ddeunyddiau digidol ac electronig. Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithgarwch paratoadol sy’n gysylltiedig â’r UKSPF.

Gofynion brandio llywodraeth y Deyrnas Unedig

6.2. Mae’n rhaid dilyn gofynion cyhoeddusrwydd a brandio llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer pob prosiect a ariennir ganddi. Mae hyn yn cynnwys yr UKSPF. Mae’r gofynion yn ymdrin â sawl maes, gan gynnwys defnyddio logo, cynhyrchu placiau, deunyddiau argraffedig a digidol, yn ogystal â chyd-frandio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: (PDF, 1290 KB).

6.3. Ar gyfer yr UKSPF, caniateir cyd-frandio gyda chyllidwyr, derbynyddion grantiau neu gyflawnwyr ar y cyd yn unig.

Gofynion penodol Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig

6.4. Yn ogystal â gofynion llywodraeth y Deyrnas Unedig a nodir uchod, mae’n rhaid dilyn sawl gofyniad ychwanegol ar gyfer prosiectau’r UKSPF. Rhestrir y rhain isod:

Deunyddiau digidol, gan gynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol

6.5. Gall sianeli digidol fod yn fodd cyflym o gyrraedd cynulleidfaoedd a hyrwyddo gweithgareddau’r Gronfa. Pan gyhoeddir manylion gweithgareddau’r Gronfa ar wefan, mae’n rhaid cynnwys cyfeiriad clir ac amlwg at y cyllid gan yr UKSPF fel a ganlyn:

‘Mae’r prosiect hwn yn cael ei [ariannu/ariannu’n rhannol] gan lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.’

6.6. Lle y bo’n ymarferol, dylai cyflawnwyr prosiectau hefyd gynnwys dolen i dudalen we Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig a’r testun canlynol (y mae’n rhaid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer nodiadau i olygyddion):

6.7. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn cefnogi cyflawni pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhagweithiol: gwthio pŵer allan i gymunedau ym mhobman, gyda phwyslais penodol ar helpu i sbarduno twf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

6.8. I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â /government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus

6.9. Wrth ddisgrifio neu hyrwyddo gweithgareddau’r UKSPF ar gyfryngau cymdeithasol fel X (Twitter gynt), dylid defnyddio’r hashnod (#) canlynol #UKSPF. Gall hwn gael ei aildrydar gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan ganiatáu i eraill ddilyn gweithgareddau’r Gronfa.

6.10. Mae’r cyfryngau’n fodd cost-effeithiol o hyrwyddo gweithgareddau’r UKSPF. Mae’n arfer da datblygu datganiadau i’r wasg pan fydd gweithgareddau’n cael eu lansio, a chyhoeddi cerrig milltir a chyflawniadau allweddol wedi hynny.

6.11. Mae’n rhaid i ddatganiadau i’r wasg gynnwys cyfeiriad clir ac amlwg at yr UKSPF, ym mhrif ran y datganiad i’r wasg, fel a ganlyn

6.12. ‘[Mae’r prosiect hwn/Enw’r prosiect] wedi cael £[RHOWCH Y SWM] gan lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig’.

6.13. Mae’n rhaid hefyd defnyddio nodiadau penodedig i olygyddion yn yr holl weithgareddau â’r cyfryngau. Darparwyd y testun sydd i’w ddefnyddio uchod yn yr adran ar Ddeunyddiau Digidol.

6.14. Nid oes rhaid i MHCLG weld unrhyw frandio a gweithgareddau cyhoeddusrwydd a gynhelir gan gyflawnwyr prosiectau wrth gyflawni gweithgareddau’r UKSPF, ond dylid cadw tystiolaeth o gydymffurfio â chanllawiau brandio a chyhoeddusrwydd at ddibenion monitro ac archwilio.

6.15. Dylai ALlAau roi gwybod i MHCLG am unrhyw gyfleoedd cyhoeddusrwydd yn y dyfodol trwy’r broses adrodd arferol a amlinellir yn adran tri.

7. Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig: Rheoli cymorthdaliadau

7.1. Mae’n rhaid i’r holl awdurdodau lleol arweiniol (ALlAau) ystyried a fydd buddsoddiad yr UKSPF yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cymhorthdal ac, os felly, a fydd y cymhorthdal hwnnw’n torri rhwymedigaethau’r Deyrnas Unedig ar reoli cymorthdaliadau, neu Ddeddf Cymorthdaliadau 2022. Dylai ALlAau sicrhau bod yr UKSPF yn cael ei chyflawni yn unol â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022. Nid yw cyflawni’r UKSPF yn creu unrhyw ofynion cymhorthdal ychwanegol ar ALlAau.

Y Gyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau

7.2. Cyhoeddwyd canllawiau’r Deyrnas Unedig ar reoli cymorthdaliadau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus i’w helpu i ddehongli rhwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar reoli cymorthdaliadau; mae’r rhain hefyd yn berthnasol i sefydliadau nad ydynt yn gyhoeddus er mwyn iddynt ddeall sut mae’n rhaid cymhwyso’r egwyddorion. I gael rhagor o fanylion, dylai ALlAau a phob sefydliad sy’n ymwneud â chyflawni gweithgarwch a ariennir gan yr UKSPF gyfeirio at y canllawiau.

7.3. Mae rheoli cymorthdaliadau wedi disodli rheolau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau cyfyngedig a reolir gan Brotocol Gogledd Iwerddon Cytundeb Ymadael y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, fe allai rheolau cymorth gwladwriaethol fod yn gymwys i unrhyw gyllid cyhoeddus i ymgymeriad os yw’n effeithio ar fasnachu nwyddau a thrydan cyfanwerthol rhwng Gogledd Iwerddon a’r Undeb Ewropeaidd.

7.4. Bydd mwyafrif helaeth y cyllid cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban yn dod o dan gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau domestig y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, fe allai’r rheolau cymorth gwladwriaethol fod yn gymwys pan fydd cysylltiad dilys ac uniongyrchol, gwirioneddol a rhagweladwy â Gogledd Iwerddon. Er enghraifft, efallai pan fydd gan fuddiolwr is-gwmni yng Ngogledd Iwerddon. Dylai unrhyw ALlA sy’n ystyried bod gan brosiect gysylltiad ‘dilys ac uniongyrchol’ â Gogledd Iwerddon adolygu adran 6 y canllawiau hyn.

7.5. Dylai ALlAau weithio gyda chyflawnwyr prosiectau i ddeall sut gellir cyflawni prosiectau arfaethedig yn unol â rheoli cymorthdaliadau/cymorth gwladwriaethol. Rhwymedigaethau cofnodi a thryloywder

7.6. A hwythau’n awdurdodau cyhoeddus, mae’n ofynnol i ALlAau, lle y bo’n berthnasol, gofnodi a chyflwyno gwybodaeth am unrhyw gymorthdaliadau’r UKSPF a ddyfernir. Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi datblygu cronfa ddata dryloywder newydd sydd ar gael i’r cyhoedd y dylai awdurdodau cyhoeddus ei defnyddio at y diben hwn.

8. Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig: Caffael

8.1. Mae awdurdodau lleol arweiniol (ALlAau) yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y ffordd orau o ddosbarthu cyllid yr UKSPF. Pan fydd gweithgarwch yn cael ei gaffael gan yr ALlA neu drydydd partïon, dylai ALlAau sicrhau bod cyllid yr UKSPF yn cael ei wario yn unol â’r canlynol:

  • cyfansoddiad yr Awdurdod, gan gynnwys unrhyw reolau, prosesau neu weithdrefnau Grant / Contract lleol
  • Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 neu Reoliadau Contractau Cyhoeddus (Yr Alban) 2015, gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau neu unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol sy’n disodli’r Ddeddf

8.2. Dylai ALlAau hefyd ystyried a gweithredu’r canlynol, lle bynnag y bo’n bosibl:

  • cynaliadwyedd a mesurau gwyrdd mewn cynlluniau caffael, sy’n cyd-fynd â strategaeth sero net y llywodraeth
  • caffael arloesol, gan gynnwys ystyried gwerth cymdeithasol wrth gaffael a
  • mentrau, canllawiau a pholisïau’r llywodraeth, fel y Llawlyfrau Cyrchu ac Ymgynghori, y Llawlyfr Adeiladu, y Llawlyfr Allanoli a chanllawiau’r llywodraeth ar Gynllunio Datrysiad

8.3. Dylai ALlAau sicrhau bod caffael a gynhelir gan awdurdodau contractio gan ddefnyddio cronfeydd yr UKSPF yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol.

8.4. Pan fydd awdurdodau nad ydynt yn contractio yn ymwneud â chyflawni prosiectau’r UKSPF, dylai ALlAau fabwysiadu gweithdrefnau sy’n sicrhau y cafwyd gwerth am arian wrth gaffael nwyddau, gwaith neu wasanaethau a ariennir gan yr UKSPF. Mater i ALlAau yw penderfynu ar y trothwyon a’r gofynion caffael priodol ar gyfer awdurdodau nad ydynt yn contractio o ystyried amgylchiadau lleol, natur y gweithgareddau a gefnogir a’r risgiau cysylltiedig. Fel canllaw, fe allai ALlAau ddymuno ystyried y canlynol:

Gwerth y contract Gweithdrefn ofynnol
£0 - £2,499 Dyfarniad uniongyrchol
£2,500 - £24,999 Ceisio 3 dyfynbris neu bris ysgrifenedig gan gyflenwyr perthnasol nwyddau, gwaith a / neu wasanaethau
Dros £25,000 Proses dendro ffurfiol

9. Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig: Cydraddoldeb

Cydraddoldeb

9.1. Ym Mhrydain Fawr, mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu bod awdurdodau cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, yn rhoi sylw dyladwy i’r angen i: ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf neu oddi tani; hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu; meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu. Y nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol.

9.2. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol arweiniol fodloni eu dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus statudol wrth gyflawni eu dyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r UKSPF.

10. Gwybodaeth Ychwanegol am Gronfa Ffyniant Lloegr Wledig

Cronfa Ffyniant Lloegr Wledig (REPF)

10.1. Mae’r REPF yn ddyraniad arall o gyllid a ddarperir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) fel dyraniad ychwanegol, cyflenwol a reolir ochr yn ochr â’r UKSPF. Mae’r REPF ar gael i Awdurdodau Lleol cymwys yn Lloegr.

10.2. Mae’r adran hon ar gyfer ALlAau sy’n cyflwyno Cronfa Ffyniant Lloegr Wledig (REPF) yn 2025-26. Yn gyffredinol, dylai cronfeydd y REPF gael eu trin yn yr un ffordd â chyllid yr UKSPF ac mae’r wybodaeth yn adrannau un i naw yr un mor berthnasol i’r REPF. Dylai ALlAau sy’n cyflwyno’r REPF ymgyfarwyddo â phob rhan o’r ddogfen hon a dylid ystyried bod cyfeiriadau at yr UKSPF yn cynnwys y REPF.

10.3. Mae’r dyraniad REPF yn cael ei ddarparu i gyflawni blaenoriaethau, allbynnau a chanlyniadau’r REPF. Bydd Defra yn cyhoeddi’r rhain a dyraniadau REPF 2025-26, maes o law.

10.4. Telir y dyraniad REPF i ALlAau yn unol ag adran pedwar.

10.5. Bydd adrodd ar gynnydd, gwariant, allbynnau a chanlyniadau’r REPF yn cyd-fynd â’r UKSPF yn unol ag adran tri.

10.6. Ym mis Ebrill 2025, ochr yn ochr â rhagolygon yr UKSPF, gofynnir i ALlAau ddarparu rhagolwg ar gyfer sut maen nhw’n bwriadu defnyddio’r REPF yn erbyn is-themâu’r REPF ac allbynnau a chanlyniadau’r REPF maen nhw’n disgwyl eu cyflawni yn 2025-26.

10.7. At ddibenion y REPF, mae newid sylweddol yn achos unigol o ailbroffilio cyllid o un flaenoriaeth fuddsoddi’r REPF i un arall (nid rhwng themâu neu is-themâu), os yw’r newid yn golygu symud 30% o gyfanswm dyraniad cyllid y REPF ar gyfer 2025-26 neu £5 miliwn, pa un bynnag sydd isaf. Bydd y newid hwn yn cael ei feincnodi yn erbyn rhagolwg cychwynnol 2025-26 a ddarparwyd ym mis Ebrill 2025 neu’r sefyllfa y cytunwyd arni yn rhan o newid sylweddol blaenorol.

10.8. Bydd y dyraniad REPF yn cael ei gynnwys fel cyllid cyfalaf ym Mhenderfyniad Grant blynyddol yr ALlA. Mae’n rhaid i gyllid cyfalaf gael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant cyfalaf yn unig, fel y diffinnir yn arferion cyfrifyddu safonol yr ALlAau. Dylai ALlAau sicrhau bod derbynyddion cyllid REPF yn ei ddefnyddio ar gyfer gwariant cyfalaf.

10.9. Ni all ALlAau sy’n derbyn dyraniad REPF symud cyllid a ddyrannwyd i gyflawni’r REPF i’r UKSPF nac o’r UKSPF i’r REPF.

10.10. Ni ellir gwario cyllid REPF ar wariant refeniw, gan gynnwys gweinyddu’r REPF; gellir defnyddio cyllid refeniw’r UKSPF i dalu costau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r REPF.

10.11. Ceir defnyddio’r REPF i ariannu prosiectau mewn ardaloedd gwledig yn unig. I hwyluso dull cyson, mae Defra wedi darparu gwybodaeth am ffiniau trwy raglen fapiau MAGIC. Dylai ALlAau gyfeirio at fapiau MAGIC i benderfynu pa ardaloedd yr ystyrir eu bod yn wledig at ddibenion y REPF. Mae pob ardal wledig o fewn ardal yr ALlA yn gymwys i gael cymorth gan y REPF.

10.12. Disgwylir i’r ALlA ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid cymunedol a busnesau gwledig drwy gydol cyfnod y REPF i sicrhau bod y Gronfa’n cael ei chyflawni mewn modd sy’n ymateb i anghenion a chyfleoedd gwledig lleol.

10.13. Mae’n rhaid i gyllid yr UKSPF (gan gynnwys y REPF) mewn ardaloedd gwledig beidio â dyblygu cyllid gan gynlluniau Defra, gan gynnwys y canlynol, ond nid yn gyfyngedig iddynt:

  • Y Rhaglen Ffermio mewn Tirweddau Gwarchodedig (FIPL)
  • Y Gronfa Buddsoddi mewn Ffermio (FIF)
  • Cronfa Grantiau Gwella Neuaddau Pentref y Jiwbilî Blatinwm

10.14. Nid oes unrhyw ofynion brandio neu gyhoeddusrwydd ychwanegol yn gysylltiedig â’r REPF.

10.15. Mae’n ofynnol i ALlAau sy’n derbyn cyllid REPF roi gwybodaeth i MHCLG am ddarparu cymorthdaliadau i gynhyrchwyr amaethyddol er mwyn llywio adroddiadau Defra ar gymorthdaliadau amaethyddol i Sefydliad Masnach y Byd. Bydd MHCLG yn casglu’r wybodaeth hon bob blwyddyn yn gysylltiedig â chymorthdaliadau a ddyfarnwyd yn y flwyddyn galendr flaenorol ac yn ystod 2026 yn gysylltiedig â chymorthdaliadau a ddyfarnwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2026.

10.16. Bydd gwybodaeth yn ymwneud â’r REPF a ddarparwyd gan ALlAau i MHCLG yn cael ei rhannu â Defra i’w galluogi i fonitro cynnydd y REPF a rhoi sicrwydd i’w Swyddog Atebol, Gweinidogion a’r Senedd.

10.17. Bydd data monitro’r REPF a ddarparwyd gan ALlAau i MHCLG yn cael ei rannu â Defra ac mae’n bosibl y gofynnir i ALlAau ymgysylltu â phartneriaid gwerthuso Defra i gefnogi’r broses o werthuso’r REPF yn barhaus.