Canllawiau

Awst 2019: Cylchlythyr ymgysylltu 芒 landlordiaid Credyd Cynhwysol

Diweddarwyd 20 Ionawr 2025

Nod y cylchlythyr Credyd Cynhwysol hwn yw darparu gwybodaeth gyfoes i landlordiaid cymdeithasol a phreifat am Gredyd Cynhwysol.

Mae鈥檔 bwysig eich bod yn defnyddio鈥檙 fersiwn diweddaraf o鈥檙 UC47. Edrychwch yn rheolaidd i ddod o hyd i鈥檙 fersiwn diweddaraf o鈥檙 canllaw Credyd Cynhwysol i landlordiaid ar UC47.

1. Sefydlu rhybuddion e-bost

Mae rhybuddion e-bost yn ffordd dda o dderbyn gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol (UC) sydd wedi鈥檌 ddiweddaru ar 天美影院.

Cofrestrwch am rybuddion e-bost ac ychwanegwch eich cyfeiriad e-bost a phenderfynu pa mora ml yr hoffech dderbyn y rhybuddion.

Os ydych yn hoffi鈥檙 cylchlythyr hwn ac eisiau gallu dod o hyd iddo eto yn nes ymlaen, yn dibynnu pa borwr gwefan rydych yn ei ddefnyddio, ychwanegwch ef naill ai at eich 鈥渇fefrynnau鈥 neu鈥檆h 鈥渂ookmarks鈥.

2. Diweddariadau cyffredinol

  • Mae Credyd Cynhwysol yn disodli 6 budd-dal gydag 1, i symleiddio鈥檙 system a gwneud i waith dalu. O ganlyniad, mae pobl sy鈥檔 hawlio Credyd Cynhwysol yn symud i mewn i waith yn gyflymach, yn aros yn y gwaith yn hirach ac yn treulio mwy o amser yn edrych i gynyddu eu henillion.

  • Mae Credyd Cynhwysol hefyd yn darparu mwy o help gyda chostau gofal plant, Anogwr Gwaith penodedig ac yn cael gwared o鈥檙 鈥榶myl clogwyn鈥 16 awr.

  • Mae symud pobl i Gredyd Cynhwysol yn ymestyn y manteision i hawlwyr budd-daliadau presennol. Dyma鈥檙 cam nesaf o Credyd Cynhwysol yn 2020-23 a bydd yn ehangu gwaith, gan ganiat谩u i bobl gynyddu eu horiau heb y cosbau y byddent fel arfer yn destun iddynt gyda Chredydau Treth.

Mae canlyniadau ymchwil yn dangos:

  • 惭补别鈥檙 Arolwg Cwsmeriaid Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol yn dangos 9 mis i mewn i gais Credyd Cynhwysol, bod 40% o hawlwyr yn gweithio i gyflogwr mewn swydd 芒 th芒l yn hytrach na dim ond 23% ar ddechrau eu cais.

  • Mae pobl ar Gredyd Cynhwysol yn treulio tua 50% yn fwy o amser yn chwilio am swydd nag yr oeddent o dan JSA.

  • Roedd 86% o bobl ar Gredyd Cynhwysol wrthi鈥檔 ceisio cynyddu eu horiau, o鈥檜 cymharu 芒 dim ond 38% o bobl ar JSA. Mae hyn oherwydd y gallant gymryd mwy o oriau heb golli eu budd-dal.

  • Roedd 77% o bobl ar Gredyd Cynhwysol wrthi鈥檔 ceisio cynyddu eu henillion, o鈥檜 cymharu 芒 dim ond 51% o bobl ar JSA.

2.1 Cyhoeddiadau diweddar

Cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol: 22 Gorffennaf 2019 ar symud i UC ac SDP

Ar 22 Gorffennaf 2019, gosododd yr Ysgrifennydd Gwladol y rheoliad i ganiat谩u i鈥檙 adran gynnal peilot lle bydd hyd at 10,000 o hawlwyr budd-dal presennol yn cael eu symud i Gredyd Cynhwysol.

  • 惭补别鈥檙 rheoliadau hyn, a ddaeth i rym dydd Mercher 24 Gorffennaf, yn galluogi鈥檙 adran i gyflenwi rhai pethau pwysig.

  • Yn gyntaf, maent yn ein galluogi i gadarnhau ein cynlluniau i ddechrau鈥檙 peilot o symud hawlwyr i Gredyd Cynhwysol. Bydd y cam hwn yn ymestyn manteision Credyd Cynhwysol i hawlwyr ar fudd-daliadau presennol nad yw eu hamgylchiadau wedi newid.

  • Fel rydym wedi cynllunio鈥檔 flaenorol, ac fel y gwyddoch eisoes, dechreuodd y peilot yn Harrogate ar 24 Gorffennaf 2019, gyda鈥檙 posibilrwydd o ymestyn i safleoedd pellach wrth i鈥檙 peilot fynd yn ei flaen. Bydd y peilot yn caniat谩u i ni ddysgu o roi ein prosesau ar waith, ac addasu ein dull i gefnogi pobl yn effeithiol.

  • 惭补别鈥檙 rheoliadau newydd hefyd yn darparu cymorth i hawlwyr a oedd yn cael y Premiwm Anabledd Difrifol cyn iddynt symud i Gredyd Cynhwysol.

  • O 24 Gorffennaf 2019, gwnaethom ddechrau鈥檙 broses i sicrhau bod hawlwyr yn cael taliad trosiannol ychwanegol o鈥檙 cyfle cynharaf. Gwn y bydd croeso mawr i hyn.

  • Efallai eich bod hefyd yn ymwybodol, ers 16 Ionawr 2019, bod hawlwyr sy鈥檔 cael Premiwm Anabledd Difrifol wedi cael eu hatal rhag symud i Gredyd Cynhwysol os oes ganddynt newid perthnasol yn eu hamgylchiadau.

  • Yn dilyn dyfarniad diweddar gan yr Uchel Lys, o fis Ionawr 2021 bydd y rheoliadau newydd hefyd yn dod i ben y rhwystr sydd ar hyn o bryd yn atal derbynwyr y Premiwm Anabledd Difrifol rhag symud i Gredyd Cynhwysol trwy newid yn eu hamgylchiadau.

  • Ar 么l Ionawr 2021, bydd hawlwyr Premiwm Anabledd Difrifol yn symud i Gredyd Cynhwysol ac yn gymwys i gael taliadau trosiannol.

  • Bydd y newidiadau hyn yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn elwa o fod ar Gredyd Cynhwysol, tra hefyd yn ailddatgan ein hymrwymiad parhaus i ddysgu ac addasu ein dull i sicrhau bod hawlwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt wrth symud i Gredyd Cynhwysol.

2.2 Ystadegau Credyd Cynhwysol

Yr ystadegau diweddaraf o 23 Ebrill 2013 i 11 Gorffennaf 2019 were published on 天美影院 on 16 July 2019.

Ystadegau allweddol

Llwyth achosion Credyd Cynhwysol a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2019:

  • Yn y 5 wythnos i 13 Mehefin 2019, mae鈥檙 nifer o bobl ar Gredyd Cynhwysol wedi cynyddu o 7% i 2.2 miliwn

  • O鈥檙 bobl hyn, roedd 32% (700 mil) mewn cyflogaeth, o鈥檜 cymharu a 38% ym mis Mehefin 2018

  • O鈥檙 bobl hyn, roedd 55% (1.2 million) yn ferchaid, o鈥檜 cymharu a 50% ym mis Mehefin 2018

2.3 Newidiadau i Gredyd Cynhwysol

Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud i helpu hawlwyr i ddeall eu taliadau Credyd Cynhwysol. Ar 鈥楬afan鈥 cyfrif ar-lein yr hawlydd mae adran 鈥楾aliadau鈥 nawr ar gael cyn gynted ag y bydd y cais yn cael ei wneud a bydd yn dangos:

  • y dyddiad y dylai鈥檙 datganiad cyntaf fod ar gael
  • y dyddiad y dylent gael eu taliad cyntaf
  • fersiwn o鈥檙 datganiad i ddangos sut y bydd eu taliad yn cael ei wneud i fyny yn seiliedig ar yr hyn maent wedi鈥檌 ddatgan

Mae dyluniad y datganiad ei hun hefyd wedi鈥檌 wella i鈥檞 wneud yn gliriach.

2.4 Y Canllaw Credyd Cynhwysol a thai ar rent i landlordiaid

惭补别鈥檙 canllaw Credyd Cynhwysol a thai ar rent i landlordiaid yn darparu gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol i landlordiaid y sector breifat a chymdeithasol i鈥檞 helpu i ddeall beth allant ei wneud i helpu eu tenantiaid.

Mae hyn yn cynnwys Trefniadau Talu Amgen os yw hawlwyr yn eu cael yn anodd i reoli eu taliad UC a thalu eu landlord eu hunain. Gall Trefniadau Talu Amgen gynnwys Taliad Wedi鈥檌 Reoli i Landlord.

惭补别鈥檙 canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig i landlordiaid gan gynnwys:

  • deall taliadau a helpu tenantiaid i baratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol
  • talu rhent
  • gofynion tystiolaeth a gwirio ceisiadau
  • cyfrifo rhent
  • talu am 2 gartref
  • taliadau gwasanaeth
  • Trefniadau Talu Amgen (APA)
  • adfer 么l-ddyledion rhent o gais UC
  • taliadau tai dewisol
  • anghenion llety arbenigol
  • 鈥楽cottish Choices鈥 UC
  • cwynion

Mwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol a landlordiaid.

2.5 Awgrymiadau i landlordiaid

Yn DWP mae landlordiaid yn parhau i ddod atom i ofyn am gyngor ar sut y gallent gefnogi eu hawlwyr gyda鈥檙 symud i Gredyd Cynhwysol. Gall landlordiad ddod o hyd i lawer o wybodaeth ar y .

Dyma ein prif awgrymiadau i helpu鈥檙 cais fynd mor esmwyth 芒 phosibl.

  • Sicrhau bod gan eich tenantiaid ddogfennau cywir sy鈥檔 profi eu hatebolrwydd i dalu rhent a鈥檜 deiliadaeth o鈥檙 eiddo y maent yn gwneud cais amdano. Gallai tystiolaeth sydd ar goll neu sy鈥檔 wallus oedi eu taliad cyntaf.

  • Bydd annog eich tenantiaid i agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, ac yn caniat谩u iddynt drefnu debydau uniongyrchol neu orchmynion sefydlog ar gyfer eu rhent.

  • Atgoffwch eich tenant, os na allant ymdopi tan eu taliad cyntaf, gallant wneud cais am daliad ymlaen llaw Bydd yr uchafswm y gallant ei gael yr un fath 芒鈥檜 taliad misol amcangyfrifedig Credyd Cynhwysol cyntaf. Bydd angen iddynt dalu hyn yn 么l o daliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol, fel arfer dros 12 mis, er y bydd hyn yn cael ei ymestyn i 16 mis yn 2021.

2.6 Gwneud cais am Daliad Wedi鈥檌 Reoli i Landlord

Cyn i landlord wneud cais am APA Taliad Wedi鈥檌 Reoli i Landlord dylech edrych i weld bod y tenant wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac wedi dilysu eu costau tai.

Mwy o .

2.7 Nodyn i atgoffa landlordiaid 鈥 holi am Daliad Wedi鈥檌 Reoli i landlord

Yn y lle cyntaf, dylai鈥檙 landlord ymgysylltu 芒鈥檜 tenant ynghylch y mater gan fod gan y tenant fynediad i鈥檞 gwybodaeth eu hunan trwy eu cyfrif ar-lein.

Gallant rannu鈥檙 wybodaeth o鈥檜 cyfrif 芒鈥檜 landlord neu gynrychiolydd arall, os dymunant, gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth am daliadau tai sydd wedi cael eu gwneud.

Rhaid i鈥檙 landlord beidio 芒:

a. gofyn am y manylion mewngofnodi gan y tenant a/neu

b. gwneud datgelu鈥檙 manylion hyn neu ganiat谩u mynediad at gyfrif ar-lein y tenant yn un o amodau鈥檙 denantiaeth

Os oes angen mwy o gymorth, gall yr hawlydd ofyn am hyn hyn trwy eu dyddlyfr, wyneb yn wyneb 芒鈥檜 hanogwr gwaith neu trwy gysylltu 芒鈥檙 ganolfan gwasanaeth dros y ff么n.

Cyn y gall landlord gysylltu 芒 DWP i drafod achos eu tenantiaid, yn gyntaf rhaid i鈥檙 hawlydd fod wedi rhoi eu caniat芒d penodol i rannu eu gwybodaeth bersonol gyda鈥檜 landlord neu gynrychiolydd arall trwy eu dyddlyfr, wyneb yn wyneb 芒鈥檜 hanogwr gwaith neu trwy gysylltu 芒鈥檙 ganolfan gwasanaeth dros y ff么n.

Bydd angen rhoi caniat芒d ar gyfer pob ymholiad unigol.

Wrth gysylltu 芒 Chredyd Cynhwysol, gofynnir i鈥檙 Landlord gadarnhau pwy ydynt fel y gall y rheolwr achos siarad 芒鈥檙 landlord yn uniongyrchol.

Os na allwch ymgysylltu 芒鈥檆h tenant, gallwch gysylltu 芒鈥檙 ganolfan gwasanaeth.

Canolfan gwasanaeth Credyd Cynhwysol

Ff么n: 0800 328 1744
Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Ff么n testun: 0800 328 1344
鈥 os na allwch glywed neu siarad ar y ff么n: 18001 yna 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Pan yn ffonio llinell Saesneg y ganolfan gwasanaeth, bydd y system teleffoni integredig yn llywio鈥檙 alwad yn uniongyrchol i鈥檙 rheolwr achos sy鈥檔 delio 芒鈥檙 cais cyn belled ag y gellir ateb rhai cwestiynau adnabod unigryw am yr hawlydd. 惭补别鈥檙 rhain yn cynnwys:

  • y rhif ff么n mae鈥檙 hawlydd wedi鈥檌 gofrestru gyda Chredyd Cynhwysol
  • eu cod post
  • llinell gyntaf eu cyfeiriad
  • eu dyddiad geni

Bydd angen caniat芒d penodol os yw鈥檙 Landlord yn ffonio ar eu rhan.

Rydym yn argymell bod yr hawlydd bob amser wrth law pan fydd unrhyw gynrychiolydd yn cysylltu 芒 chanolfan gwasanaeth UC ar ran hawlydd y maent yn eu cefnogi.

Mwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol a landlordiaid

2.8 Gwell cymorth i landlordiaid

惭补别鈥檙 Llawlyfr Credydwyr DWP wedi鈥檌 adnewyddu鈥檔 ddiweddar ac mae鈥檔 darparu arweiniad cynhwysfawr ar sut mae鈥檙 cynllun didyniadau o fudd-daliadau yn gweithio. 惭补别鈥檙 rhifyn newydd, yn darparu cyngor wedi鈥檌 deilwra am y trefniadau Credyd Cynhwysol ac felly dylai fod yn llawer haws i鈥檞 ddefnyddio.

Mae鈥檔 egluro sut y gall landlordiaid drefnu sefydlu didyniadau o fudd-dal a sut i ddiweddaru unrhyw un o鈥檙 manylion sydd gan DWP ar gyfer y landlord.

Ar 么l darllen y canllaw, os oes angen cyngor pellach:

Bydd y Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol yn cefnogi landlordiaid preifat gydag ymholiadau ynghylch didyniadau o fudd-dal sy鈥檔 ymwneud 芒 thaliadau rhent arferol.

Byddant hefyd yn cefnogi landlordiaid preifat a chymdeithasol sydd am ddechrau neu stopio taliad neu ddidyniad.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ff么n: 0800 328 1744
Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Ff么n testun: 0800 328 1344
鈥 os na allwch glywed neu siarad ar y ff么n: 18001 yna 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Canolfan gyswllt taliad trydydd parti

Bydd Canolfan gyswllt taliad trydydd parti DWP yn datrys ymholiadau gan landlordiaid preifat ynghylch taliadau mewn perthynas 芒 didyniadau presennol ar gyfer 么l-ddyledion rhent yn unig, gan fod y rhain yn cael eu talu drwy ddefnyddio trefniadau Taliad Trydydd Parti DWP.

Byddant hefyd yn cefnogi landlordiaid cymdeithasol gydag ymholiadau ynghylch didyniadau o fudd-dal yn ymwneud 芒 thaliadau rhent arferol a hefyd didyniadau i adennill 么l-ddyledion rhent. Byddant angen rhif cyfeirnod y credydwr i allu helpu.

Ebost: TPP.Enquiries@dwp.gov.uk.

2.9 Amserlenni talu

Mae amserlenni talu sy鈥檔 defnyddio鈥檙 trefniadau Taliad Trydydd Parti yn cael eu cynhyrchu a鈥檜 cyhoeddi trwy鈥檙 post neu鈥檔 electronig (os c芒nt eu sefydlu ar gyfer amserlenni electronig). Mae symud i amserlenni electronig yn cynnig gwasanaeth llawer cyflymach a gwell i gredydwyr ac maent yn haws i sefydliadau rannu鈥檔 gyflym 芒 chydweithwyr perthnasol ar 么l eu derbyn.

Os ydych yn derbyn amserlenni post ar hyn o bryd ac yr hoffech i鈥檙 rhain gael eu danfon yn electronig, cyfeiriwch at yr adran 鈥楶ayment Schedules鈥 yn y canllaw canlynol.

Mwy o wybodaeth am sut mae鈥檙 cynllun didyniadau o fudd-daliadau yn gweithio.

2.10 Eleni bydd proses newydd gwneud cais ar-lein am Daliad Rhent Uniongyrchol yn cael ei chyflwyno

Bydd rhan o鈥檙 broses ar gyfer Landlordiaid Preifat a鈥檙 Landlordiaid Cymdeithasol hynny sydd 芒 stoc dai nad ydynt ar y porth yn cael ei gwella.

Bydd system ar-lein yn cael ei chyflwyno eleni fel y gallant ofyn, lle bo angen, bod rhent eu tenantiaid yn cael ei dalu鈥檔 uniongyrchol iddynt pan fo鈥檔 briodol.

Bydd y gwasanaeth landlord newydd hwn yn sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei chasglu yn y dechrau a bydd yn lleihau faint o waith sydd ei angen ar asiant DWP i roi APA yn ei le.

2.11 Help i Wneud Cais

Ar gyfer hawlwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad at neu ddefnyddio gwasanaethau digidol UC, mae cymorth ar gael i wneud a chynnal eu cais gan ddefnyddio llinell gymorth Rhadffon Credyd Cynhwysol.

Mae cymorth wyneb yn wyneb hefyd ar gael ym mhob canolfan gwaith.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir trefnu ymweliad cartref i gefnogi hawlydd i wneud a chynnal eu cais.

Yn rhededg ochr yn ochr 芒鈥檙 cynnig cenedlaethol hwn gan DWP o 1 Ebrill 2019 yw Help i Wneud Cais gan Gymorth Ar Bopeth sy鈥檔 cefnogi halwyr sy鈥檔 gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol neu sy鈥檔 symud o fudd-dal presennol i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau.

Mae Help i Wneud Cais yn cynnig cymorth ymarferol wedi鈥檌 theilwra i helpu pobl i wneud eu cais hyd at gael eu taliad cywir llawn cyntaf ar amser. Mae ar gael yn eang ar-lein, trwy rif Rhadffon ac wyneb yn wyneb trwy wasanaethau Cyngor ar Bopeth lleol.

Defnyddiwch y dolenni canlynol i gael mynediad at Help i Wneud Cais os:

Nid yw Help i Wneud Cais yn newid rheolau dyddiad gwneud cais Credyd Cynhwysol. Dyddiad y cais yw鈥檙 dyddiad y cyflwynir y cais UC. Ni ddylai hawlwyr oedi cyn cyflwyno eu cais Credyd Cynhwysol.

Mae llwybrau Cynnig canolfan gwaith a Help i Wneud Cais Cyngor Ar Bopeth wedi鈥檜 cynllunio鈥檔 benodol i ddarparu cymorth i hawlwyr UC cyn gynted 芒 phosibl.

Pan fydd cais newydd wedi鈥檌 wneud yn uniongyrchol trwy sianeli DWP, gall yr hawlydd barhau i gael mynediad at Help i Wneud Cais am gymorth pellach hyd nes bod eu taliad UC cywir mewn lle.

Gall landlordiaid helpu hawlwyr i gael mynediad at hyn trwy hunanwasanaeth (drwy ddefnyddio鈥檙 llwybrau cyfeirio uchod) neu gall DWP gyfeirio hawlwyr.

2.12 Cyfraddau Lwfans Tai Lleol Misol Credyd Cynhwysol ar gyfer Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban

Cyfraddau Lwfans Tai Lleol Misol Credyd Cynhwysol ar gyfer Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban o 2014 i 2019.

2.13 Gwybodaeth i gyplau

惭补别鈥檙 trosolwg o beth mae Credyd Cynhwysol yn ei olygu i gyplau sy鈥檔 gwneud cais ar y cyd, yn cynnwys pwy all wneud cais ar y cyd a beth fydd disgwyl iddynt ei wneud yn gyfnewid wedi cael ei ddiweddaru.

2.14 Cap ar Fudd-daliadau

Mae fersiwn diwygiedig o Ystadegau Cap ar Fudd-daliadau 鈥 Awst 2019, yn darparu gwybodaeth am ystadegau cap ar fudd-daliadau a methodoleg gan gynnwys pwrpas, ffynhonnell, diffiniadau a chyfyngiadau ystadegau a gwmpesir.

2.15 Pobl sy鈥檔 profi digartrefedd i elwa o gymorth canolfan waith newydd

Mae DWP wedi datblygu hyfforddiant ar gyfer Rheolwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid y Ganolfan Gwaith gydag arweiniad gan sefydliadau arbenigol, gan gynnwys Crisis, Homeless Link a Shelter.

Nod yr hyfforddiant newydd yw sicrhau bod pobl sy鈥檔 profi digartrefedd, a鈥檙 rhai sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, yn cael mynediad at yr holl wasanaethau perthnasol a gynigir gan yr adran.

Bydd y rheolwyr hefyd yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer sefydliadau partner digartrefedd yn eu hardal leol, gan ganolbwyntio ar adeiladu perthynas 芒 hwy a sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio鈥檔 briodol at gymorth arbenigol ychwanegol.

Mae hyn yn ychwanegol at y cymorth sydd eisoes ar gael, sy鈥檔 cynnwys helpu pobl digartref i ddilysu eu ID i sefydlu ceisiadau am fudd-daliadau, cymorth gydag agor cyfrifon banc ac oedi gofynion i chwilio am waith fel y gallant ganolbwyntio ar ddod o hyd i dai sefydlog.

Darllenwch y stori newyddion 鈥楶eople experiencing homelessness set to benefit from new jobcentre support鈥.

3. Rheolwyr partneriaeth

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu partneriaethau cryf a chynhyrchiol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. 惭补别鈥檙 arbenigedd lleol a gawn o鈥檔 perthnasoedd allanol yn ein helpu i symud pobl i mewn i ac yn agosach at waith neu i wneud cais am unrhyw fudd-daliadau cymwys.

Trwy weithio gyda鈥檔 gilydd, rydym yn cwrdd ag amcanion a rennir ac yn osgoi dyblygu. Rydym yn diweddaru ein partneriaid ar newidiadau lles a pholisi, gan sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at y cymorth maent ei angen.

Cysylltwch 芒鈥檙 t卯m partneriaeth DWP ar gyfer eich ardal i dddarganfod sut y gallwch weithio gyda鈥檔 gilydd.

4. Gwybodaeth i landlordiaid Sector Rhentu Cymdeithasol

4.1 Sector Rhentu Cymdeithasol 鈥 Gwelliannau i鈥檙 Gwasanaeth Porth Landlordiaid (ar gyfer Landlordiaid y Porth yn unig)

Rydym wedi gwneud newidiadau i鈥檙 porth landlordiaid fel a ganlyn:

  1. O ddydd Mercher 24 Gorffennaf, bydd landlordiaid yn gallu nodi os yw Peth i鈥檞 wneud 鈥楶rovide tenancy details鈥 yn berthnasol i gais newydd neu newid mewn amgylchiadau. Bydd Pethau i鈥檞 wneud sy鈥檔 berthnasol i geisiadau newydd (neu geisiadau heb gostau tai blaenorol), yn cael eu nodi gyda fflag 鈥楴ew claim鈥. Bydd y newid hwn yn effeithio unrhyw geisiadau newydd (neu geisiadau heb gostau tai blaenorol) a wnaed ar neu ar 么l 17 Gorffennaf 2019.

  2. O ddydd Mercher 7 Awst 2019, bydd y 鈥楾enants list鈥 ar y porth landlordiaid ond yn dangos tenantiaid sydd gyda chais Credyd Cynhwysol gweithredol.

Ni fydd tenantiaid bellach yn ymddangos ar y rhestr hon os naill ai:

  • mae鈥檙 cais wedi鈥檌 gau
  • mae鈥檙 tenant yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau tai, sy鈥檔 arwain iddynt symud i landlord arall

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch 芒: tp-lp.accountmanagerteam@dwp.gov.uk

4.2 Ystadegau鈥檙 Porth Landlordiaid

Yn dilyn ymrestru 10 o landlordiaid pellach ym mis Gorffennaf, ar hyn o bryd mae 764 o Landlordiaid ar y Porth Landlordiaid. Mae hyn yn cynnwys 16 landlord o Ogledd Iwerddon.

Rydym nawr wedi symud i gyflwyno鈥檙 Porth Landlordiaid yn chwarterol. Felly bydd y diweddariad nesaf yn gynnar ym mis Tachwedd 2019.

Os ydych yn landlord cymdeithasol ac yn teimlo y byddech yn elwa o ddefnyddio鈥檙 porth, cysylltwch 芒 ni yn tplp.enrolmentcontacts@dwp.gov.uk.

4.3 Newidiadau Rhent 2019

Ar hyn o bryd rydym yn profi鈥檙 swyddogaeth i swmp lwytho gwybodaeth am newid rhent gyda rhai landlordiaid a byddwn yn defnyddio canlyniad hyn i lywio ein camau nesaf, bydd hyn yn cynnwys y dull ar gyfer ehangu ymhellach i landlordiaid eraill.

Byddwn yn gwneud cyhoeddiad pan fyddwn mewn sefyllfa i symud ymlaen i鈥檞 gyflwyno鈥檔 ehangach.

Dylech nodi mai cyfrifoldeb yr hawlydd o hyd yw rhoi gwybod am bob newid mewn amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw newidiadau rhent, ac ni fwriedir i鈥檙 swyddogaeth swmp lwytho ddisodli hyn.

5. Gwybodaeth i landlordiaid Sector Rhentu Preifat

5.1 Ffurflen UC47

Os ydych wedi anfon UC47 diogel o gyfeiriad e-bost anniogel, byddwch yn cael neges yn eich cynghori na fyddwn yn gallu prosesu鈥檙 wybodaeth sydd arni oherwydd na wy鈥檔 cydymffurfio gyda Rheolau Cyffredinol Diogelu Data. Bydd eich neges e-bost gwreiddiol yn cael ei dileu.

Sicrhewch eich bod yn dilyn y broses cywir drwy ddefnyddio鈥檙 ffurflen UC47 cywir.

6. Cylchlythyrau Credyd Cynhwysol i landlordiaid yn y dyfodol

Rydym bob amser yn croesawu eich adborth. Rydym yn gobeithio eich bod wedi gweld y cylchlythyr landlordiaid UC hwn yn ddefnyddiol, bydd eich adborth yn ein helpu i wella cylchlythyrau鈥檙 dyfodol.

Anfonnwch e-bost atom am:

  • beth yw eich barn am y cylchlythyr, ac os ydym yn darparu鈥檙 wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  • sylwadau ac argymhellion ar sut rydych yn reimlo y gallwch wella鈥檙 cylchlythyrau hyn

Hoffem yn arbennig glywed:

  • pa mor ddefnyddiol oeddech yn gweld y rhifyn hwn o鈥檙 cylchlythyr landlordiaid UC?
  • wnaethoch chi ddysgu rhywbeth newydd?
  • a fyddech yn argymell y cylchlythyr landlordiaid UC i gydweithiwr neu denant?
  • pa wybodaeth benodol am UC hoffech chi ei weld mewn rhifynnau o鈥檙 cylchlythyr hwn yn y dyfodol?

Anfonnwch e-bost gyda鈥檆h sylwadau i: uc.strategiclandlordengagement@dwp.gov.uk.