Canllawiau

Eich buddion bach a manteision mawr

Diweddarwyd 1 Ebrill 2022

Lle gwych i weithio

Credwn fod CThEM yn lle gwych i weithio ac rydym yn gwybod bod cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn bwysig ni i gyd. Rydym am sicrhau y darperir ar gyfer eich lles, ochr yn ochr 芒鈥檙 cyfle am yrfa hir, hapus a gwerth chweil. Mae hyn wedi arwain at nifer enfawr o鈥檔 cyflogeion yn aros gyda ni ers blynyddoedd lawer ac maen nhw wedi mynd ati i elwa ar y manteision, y buddion a鈥檙 aelodaethau rydym yn cyfeirio atynt yn y llawlyfr hwn.

Pan ymunwch 芒 ni, byddwch hefyd yn ymuno 芒 chymuned gyfeillgar a chymwynasgar. Byddwn yn rhoi鈥檙 gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i fagu hyder, eich helpu i fwynhau鈥檆h amser y tu mewn a鈥檙 tu allan i鈥檙 gweithle ac, wrth i鈥檆h bywyd newid, bydd pethau yn y llyfr hwn a allai fod yn ddefnyddiol os bydd yr angen yn codi.

Felly p鈥檜n a ydych chi am gynllunio llwybr eich gyrfa ac anelu hyd yn oed yn uwch, rheoli eich lles eich hun yn well, neu weithio mewn amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol, rydyn ni yma i鈥檆h cefnogi. Isod mae rhestr hwylus o鈥檙 holl fuddion a chynlluniau sydd ar agor neu ar gael i chi ar 么l i chi ymuno 芒 ni. Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy. Credwn y cewch eich synnu gan yr hyn y gallwn ei gynnig i chi yma yn CThEM.

Amser i ffwrdd a gweithio鈥檔 hyblyg

Gwyliau blynyddol a gwyliau braint

Pan fyddwch yn ymuno 芒 ni, cewch 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ystod eich blwyddyn gyntaf. Ar 么l hynny, cewch un diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn o wasanaeth, hyd at uchafswm o 30 diwrnod. Er enghraifft, os ydych gyda ni am dair blynedd, cewch 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn eich trydedd flwyddyn. Fel bonws ychwanegol, rydym hefyd yn rhoi diwrnod o wyliau braint i chi ar gyfer pen-blwydd y Frenhines.

Gweithio gartref

Rydym yn cydnabod bod gallu gweithio鈥檔 hyblyg o wahanol leoliadau yn llesol o ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym eisiau cefnogi cymaint o bobl 芒 phosibl i weithio gartref. Felly, os yw鈥檆h amgylchiadau personol, eich r么l a鈥檆h gwaith yn addas, cewch gyfle i weithio gartref am ddau ddiwrnod yr wythnos 鈥 neu fwy os yw鈥檙 busnes yn cytuno ar hynny.

Patrymau gweithio amgen a hyblyg

Er mwyn helpu i gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, rydym yn cynnig gweithio hyblyg lle bo hynny鈥檔 bosibl. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y maes busnes rydych chi鈥檔 gweithio ynddo ac anghenion y busnes hwnnw. Gallai hyn gynnwys amseroedd cychwyn/gorffen amrywiol ac egwyliau cinio hyblyg. Byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau am batrymau gwaith amgen fel gweithio rhan-amser (gan gynnwys rhannu swyddi, haneru swyddi, gweithio yn ystod tymor yr ysgol ac ymddeol yn rhannol).

Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu a rhiant

Ar gyfer rhieni newydd a darpar rieni, rydym yn cynnig t芒l mamolaeth a mabwysiadu am 26 wythnos ar eich cyfradd t芒l arferol, ac yna 13 wythnos arall ar y gyfradd statudol, yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth parhaus. Gallwch hefyd gymryd 13 wythnos arall o absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu yn ddi-d芒l. Bydd gan gyflogeion cymwys hawl i hawlio 鈥楢bsenoldeb ar y cyd i Rieni鈥 o hyd at 39 wythnos o fewn blwyddyn o鈥檙 enedigaeth neu鈥檙 lleoliad. Ar gyfer absenoldeb tadolaeth, rydym yn rhoi pedair wythnos o absenoldeb 芒 th芒l. Yn ogystal 芒 hyn, rydym yn cynnig hyd at 18 wythnos o absenoldeb di-d芒l i rieni nes bod eich plentyn yn cyrraedd ei ben-blwydd yn 10 oed (18 oed, os yw wedi鈥檌 gofrestru鈥檔 anabl). Fodd bynnag, ni chewch gymryd mwy na phedair wythnos o absenoldeb y flwyddyn.

Absenoldeb arbennig 芒 th芒l/heb d芒l

Mae鈥檔 rhaid i ni i gyd ddelio ag amgylchiadau annisgwyl, apwyntiadau meddygol ac argyfyngau. O dan rai amgylchiadau, mae hawl statudol i amser i ffwrdd, er enghraifft, i gyflawni rhai dyletswyddau cyhoeddus neu os bydd argyfwng gyda rhywun sy鈥檔 dibynnu arnoch. Yn yr achosion hyn rhaid rhoi amser rhesymol i ffwrdd. Mewn rhai achosion mae amser i ffwrdd yn ddewisol ac yn amodol ar anghenion y busnes, fodd bynnag bydd eich rheolwr yn gallu eich cynghori ar eich opsiynau o ran absenoldeb.

Materion ariannol

Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

I rai o鈥檔 staff, gall oedran pensiwn fod yn bell i ffwrdd, ond pryd bynnag y dechreuwch eich gyrfa gyda ni, rydym am eich helpu i gynllunio ar ei gyfer. Pan ymunwch 芒 ni, byddwch yn cael eich cofrestru鈥檔 awtomatig yng Nghynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, os nad ydych eisoes yn aelod ohono. Er bod yn rhaid i chi gyfrannu at eich pensiwn, bydd ein cyfraniad ychwanegol fel cyflogwr yn helpu i sicrhau bod eich ymddeoliad yn fwy cyfforddus pan ddaw鈥檆h amser, o鈥檌 gymharu 芒 rhai pensiynau yn y sector preifat. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch .

Cyflog cynnar

Rydym yn cydnabod bod yna adegau pan fydd yn rhaid i chi dalu cryn arian i allu fod yn y gwaith. Ar gyfer rhai o鈥檙 amgylchiadau hyn mae gennym gynllun 鈥楥yflog cynnar鈥 sy鈥檔 ymdrin 芒 phethau fel:

  • cost tocynnau tymor teithio
  • trwyddedau parcio
  • prynu beic
  • costau gofal plant

Cyngor ariannol rhad ac am ddim

Rydym yn gwybod y gall amgylchiadau ariannol fod yn ddryslyd ac achosi pryder diangen ar brydiau. Dyna pam mae gan ein pobl fynediad rhad ac am ddim at y . Wedi鈥檌 sefydlu gan y llywodraeth, maen nhw鈥檔 darparu cyngor ariannol diduedd ac yn rhad ac am ddim, canllawiau i helpu i wella鈥檆h materion ariannol, gydag offer a chyfrifianellau i helpu i gadw golwg arnynt a chynllunio o flaen llaw. Mae鈥檙 gefnogaeth hon ar gael dros y ff么n a chewch fynd ati ar-lein hefyd.

Mae鈥檆h gyrfa yn dechrau yma

Datblygu llwybr eich gyrfa

Rydym yn credu bod pawb yn dalentog. Ein nod yw croesawu a dathlu amrywiaeth a sgiliau ein holl bobl. Byddwn yn darparu cyfleoedd i chi berfformio hyd eithaf eich gallu. Mae porth Dysgu鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn cynnig ystod eang o offer dysgu a datblygu, gan gynnwys uwchsgilio proffesiynol sy鈥檔 arwain at gymwysterau cydnabyddedig mewn ystod eang o broffesiynau gan gynnwys Adnoddau Dynol, Rheoli, Cyfathrebu, Rheoli Prosiectau, a Chyflawni Gweithredol.

鈥淢ae鈥檔 wych bod cyfleoedd helaeth ar gyfer dilyniant gyrfa ar hyd a lled y wlad, ac mewn llawer o wahanol broffesiynau.鈥 Richard, Pennaeth Adnoddau a Chyflawniadau ar gyfer Gweithrediadau Adnoddau Dynol.

Cyfleoedd datblygu

Rydyn ni eisiau rhyddhau ac annog potensial pawb, ac mae cefnogaeth, help a rhaglenni wedi鈥檜 cynllunio i鈥檆h cynorthwyo yn eich datblygiad a鈥檆h gyrfa ar draws y Gwasanaeth Sifil 鈥 mae hyn yn golygu鈥檙 canlynol:

  • mae pawb yn cael o leiaf pum diwrnod ffurfiol o ddysgu a datblygu; a hynny ar-lein, wyneb yn wyneb neu drwy hyfforddiant
  • mae hyn yn cwmpasu ystod o ddysgu: yn benodol ar gyfer proffesiwn, sgiliau meddal, sgiliau technegol
  • mae gennym hefyd raglenni datblygu wedi鈥檜 targedu鈥檔 benodol ar gyfer cydweithwyr sy鈥檔 chwilio am gyfle i symud ymlaen i鈥檙 radd nesaf a rhaglenni wedi鈥檜 targedu i helpu cydweithwyr sy鈥檔 bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i gyrraedd swyddi uwch
  • gwirfoddoli wedi鈥檌 gymeradwyo, gyda hyd at bum diwrnod o absenoldeb arbennig 芒 th芒l

Mynediad at fwy o gyfleoedd am swyddi

Pan ddechreuwch gyda ni, gallwch wneud cais am swyddi gwag CThEM nad ydynt ar gael yn allanol. Bydd gennych hefyd fynediad at swyddi gwag sy鈥檔 cael eu hysbysebu ar draws adrannau鈥檙 llywodraeth yn unig.

Prentisiaethau

Gallwn gynnig cyfle i gyflogeion o unrhyw oedran 鈥渄dysgu wrth ennill cyflog鈥 gyda phrentisiaeth CThEM. Mewn rhai achosion, mae swyddi gwag yn cael eu hysbysebu fel rolau prentisiaeth a gyda鈥檙 rhain byddwch chi鈥檔 brentis o鈥檙 diwrnod cyntaf. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i eraill wneud cais am brentisiaeth yn ddiweddarach yn ystod eu cyflogaeth. Tra ydych mewn r么l swydd, byddwn hefyd yn talu prentisiaid yr un peth ag eraill o鈥檙 un radd.

鈥淔el prentisiaid rydyn ni鈥檔 cael lot o gyfleoedd, fel hyfforddiant a chyrsiau ychwanegol. Rydych chi鈥檔 gallu gweld y gwahanol lwybrau sydd ar gael, neu gallwch chi newid adrannau yn llwyr. Mae sawl ffordd o symud ymlaen.鈥 Annalise, Prentis Cynllun Carlam.

Iechyd, lles ac amser i chi鈥檆h hun

Rhaglen gymorth rad ac am ddim ar gyfer cyflogeion

Pan fyddwch yn dechrau, cewch fynediad at wasanaethau cymorth rhad ac am ddim, annibynnol a chyfrinachol a ddarperir gan . Maen nhw鈥檔 darparu cefnogaeth 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn, lle gallwch gael arbenigedd clinigol a phroffesiynol sy鈥檔 ymdrin ag ystod eang o bynciau fel gwaith, teulu a materion personol.

Gofal iechyd cost isel

Gall iechyd i bob un ohonom a鈥檔 teuluoedd beri pryder 鈥 gallwch gael yswiriant iechyd cost isel drwy neu , a gallwn helpu i ddod o hyd i鈥檙 opsiwn gorau i chi a hefyd cynnwys eich teulu. Mae yna sawl pecyn sydd wedi鈥檜 cynllunio i ddiwallu gwahanol anghenion, cyllidebau a ffyrdd o fyw, sy鈥檔 rhoi mynediad cyflym i chi i鈥檙 driniaeth feddygol orau pe bai鈥檙 angen yn codi.

Profion llygaid yn rhad ac am ddim

Gofalwch am eich llygaid. Mae gofal llygaid yn bwysig felly dyna pam rydym yn cynnig profion llygaid am ddim i鈥檔 holl gyflogeion. Mae gofal llygaid yn bwysig i bawb, yn enwedig i gyflogeion sy鈥檔 defnyddio sgrin cyfrifiadur neu ei debyg dros gyfnodau hir yn y gwaith.

Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl

Rydym yn deall y gellir cael anhawster gydag iechyd meddwl ar unrhyw adeg yn eich bywyd. Gall ein cyflogeion ymuno 芒鈥檙 Rhwydwaith Iechyd Meddwl (MHN) sy鈥檔 gr诺p o dan arweiniad cydweithwyr gyda鈥檙 nod o leihau stigma o amgylch iechyd meddwl. Felly os ydych yn cael anhawster gyda鈥檆h iechyd meddwl, os oes gennych brofiad ohono drwy aelod o鈥檙 teulu, ffrind neu gydweithiwr, neu os hoffech ddysgu mwy i gefnogi eraill, gall yr MHN helpu.

Chwaraeon a hamdden

Rydym am i bawb gael mynediad at chwaraeon, gweithgareddau hamdden a diwrnodau allan. Gall hyd yn oed ychydig bach o weithgarwch wneud gwahaniaeth go iawn i鈥檆h lles. Am ffi fach, gallwch ymuno 芒 Chwaraeon a Hamdden sy鈥檔 cynnig mynediad at ystod eang o weithgareddau, gostyngiadau a chynigion rhad ac am ddim i aelodau. Gallwch hefyd ymuno 芒 Chwaraeon a Hamdden Cyllid a Thollau, sy鈥檔 trefnu digwyddiadau chwaraeon a hamdden ar gyfer ffitrwydd o bob safon.

Amrywiol, cynhwysol a chyfartal

Amrywiaeth Staff

Rydym am i bawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a鈥檜 cefnogi, a bod modd iddynt fynegi eu hunain yn y gwaith. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae gennym sawl Rhwydwaith Amrywiaeth Staff sy鈥檔 ymwneud 芒 hil, rhywedd, anabledd, materion LHDT+, gofalwyr, symudedd cymdeithasol, a gwladolion yr UE. Mae hefyd gennym gr诺p ymgynghori ar gyfer oedran a gr诺p cynghori ar gyfer crefydd neu gred. Byddwch yn gallu ymuno ag unrhyw un o鈥檙 rhwydweithiau hyn pan ddechreuwch gyda ni, ac mae鈥檔 hawdd cymryd rhan.

Y Rhwydwaith Hil

Rydym yma ar gyfer ein holl gyflogeion sydd ag angerdd am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn helpu i greu sefydliad sy鈥檔 cynrychioli鈥檙 cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn gwneud hyn drwy hyrwyddo polis茂au effeithiol a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud 芒 hil. Ac rydym yn gweithio gyda chydweithwyr i roi鈥檙 adnoddau a鈥檙 hyder sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu dyheadau a chyrraedd eu potensial.

Rhwydwaith LHDT+

Rydym yn cynnig cymorth ac ymgynghoriad ar gyfer ein pobl sy鈥檔 eu hystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, neu sy鈥檔 eu disgrifio eu hunain yn anneuaidd, neu sy鈥檔 ffurfio rhan o鈥檙 sbectrwm eang o ran rhywedd. Rydym yn rhoi cyngor, cymorth a chefnogaeth i unrhyw un o fewn y sefydliad, nid yn unig i鈥檙 gymuned LHDT+. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn chwarae rhan weithredol o ran helpu i greu gweithle amrywiol a chynhwysol, lle anogir pawb i fynegi eu hunain yn llwyr.

Cydraddoldeb o ran anabledd

Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Ein nod yw sicrhau bod pobl ag anableddau yn cael mynediad at yr un cyfleoedd ag eraill i ddatblygu gyrfaoedd llawn a gwerth chweil. Mae rhai gwasanaethau a ddarparwn yn cynnwys:

  • ymgynghori 芒 chydweithwyr ynghylch newidiadau yn y gwaith
  • Rhwydwaith Anabledd Staff
  • offer a meddalwedd arbenigol i helpu i ddarparu amodau gwaith cynhwysol i bron bob nam a allai fod ar bobl
  • ysgrifennu ein dogfennau a deunyddiau eraill mewn fformatau hygyrch

Cydraddoldeb rhwng y rhywiau

Rydym yn hyrwyddwr sy鈥檔 ennill gwobrau dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau, sy鈥檔 ymfalch茂o yn ein hystod amrywiol o gydweithwyr ac sy鈥檔 anelu at gefnogi lles pawb drwy ddarparu amgylchedd gwaith sy鈥檔 gwerthfawrogi ei weithlu ac sy鈥檔 cael gwared ar wahaniaethu ac aflonyddu.

Symudedd cymdeithasol

Rydym wedi cael ein cydnabod fel arweinydd ar draws y Gwasanaeth Sifil yn y maes hwn. Rydym yn dathlu ac yn croesawu pobl o bob cefndir i ymgeisio am ein swyddi. Hefyd, rydym yn cynnal rhaglen fentora STRIDE sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 cysylltiad rhwng cefndir economaidd-gymdeithasol a dilyniant gyrfa i sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd ar gyfer dysgu a dilyniant.

Buddion bach, arbedion a gostyngiadau

Gostyngiadau CSSC

Fel y soniwyd yn gynharach yn ein llawlyfr wrth drafod chwaraeon a hamdden, am gost fach iawn bob mis gallwch fod yn aelod o . Yn ogystal 芒鈥檙 gweithgareddau chwaraeon a hamdden, cewch arbedion a gostyngiadau:

  • arbedion ar siopa
  • arbedion mewn dros 3,000 o gampfeydd a chlybiau iechyd
  • yswiriant gostyngol
  • gostyngiadau i鈥檙 sinema a pharciau thema
  • mynediad am ddim a gostyngedig i safleoedd Cadw ac English Heritage

Gostyngiadau ar frandiau stryd fawr a gwestai

Rydyn ni i gyd yn hoffi arbed arian. Felly mae ein porth buddion rhad ac am ddim, 鈥榤ylifestyle鈥 yn rhoi mynediad i chi i ostyngiadau ar dros 260 o鈥檙 brandiau ac archfarchnadoedd gorau a allai arbed hyd at 拢1,000 i chi. Yn ogystal, pwy sydd ddim yn hoffi ychydig nosweithiau i ffwrdd am seibiant haeddiannol? Wel mae gostyngiadau ar gael i gyflogeion gyda gwestai The Hilton a Marriott Group hefyd.

Gostyngiadau moduro

Gallwch ddewis ymuno 芒鈥檙 cynllun gan Gymdeithas Moduro鈥檙 Gwasanaeth Sifil. Mae hyn yn rhoi mynediad i chi at fargeinion sy鈥檔 eich helpu i arbed arian, yn ogystal 芒 digwyddiadau, manteision a gostyngiadau ar bopeth o yswiriant torri i lawr i yswiriant ar gyfer eich cerbyd a鈥檆h cartref.

Cynllun Beicio i鈥檙 Gwaith

Gall beicwyr brwd fanteisio ar gynllun 鈥楤eicio i鈥檙 Gwaith鈥 fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Gwyrdd y Llywodraeth i hyrwyddo teithiau iachach i鈥檙 gwaith a lleihau llygredd. Buddion y cynllun yw:

  • peidio 芒 thalu treth ac Yswiriant Gwladol ar swm eich cyflog gros sy鈥檔 ymwneud 芒 llogi beic ac offer. Gallwch aberthu cyflog hyd at uchafswm o 拢4,000.
  • gallwch ddefnyddio鈥檙 beic a鈥檙 offer yn eich amser hamdden ac i feicio i鈥檙 gwaith.
  • ar ddiwedd y cyfnod llogi, gallwch ddewis cadw鈥檙 beic am ffi fach

Aelodaeth o Undeb Llafur

Erbyn hyn, fe welwch ein bod yn cydnabod bod angen cefnogi cyflogeion yn llawn. Pan ddechreuwch gyda ni, gallwch ddewis ymuno ag undeb llafur. Mae鈥檙 yn cynrychioli pobl ar draws y gwasanaeth sifil ac asiantaethau鈥檙 llywodraeth, gan beri mai nhw yw undeb llafur gwasanaeth sifil mwyaf y DU.

yw鈥檙 undeb sy鈥檔 cynrychioli uwch-reolwyr sy鈥檔 radd 7 ac yn uwch, yn ogystal 芒 gweithwyr proffesiynol o fewn CThEM.

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth am fuddion CThEM a manylion am sut beth yw gweithio yn CThEM, ewch i dudalennau CThEM ar gov.uk.

Dilynwch ni

Mae swyddogol yn postio awgrymiadau a gwybodaeth i helpu i wneud eich tasgau treth yn haws. Mae newyddion swyddogol a gwybodaeth gan CThEM ar lle gallwch hefyd drydar os oes gennych ymholiad treth.

Mae CThEM yn defnyddio i bostio diweddariadau rheolaidd am waith CThEM ar bynciau a fydd o ddiddordeb i gymuned LinkedIn, er enghraifft treth busnes a chyngor ar redeg eich cwmni, newyddion am bolisi treth, a chyfleoedd recriwtio CThEM.

Mae sianel CThEM yn cynnig canllawiau 鈥榮ut i鈥 a fideos gwybodaeth eraill, wedi鈥檜 cynllunio i helpu cwsmeriaid treth i gael eu treth yn gywir.

Mae gan CThEM ar bostiadau a straeon rheolaidd am ein hymgyrchoedd newydd, cyngor ac arweiniad, a newyddion am ein gwaith a鈥檔 pobl.