Cyn Ysgrifenyddion Gwladol Cymru i nodi 50 mlynedd ers creu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Stephen Crabb yn ysgrifennu yn yr Western Mail ar bwysigrwydd sicrhau llais cryf i Gymru o amgylch bwrdd y Cabinet.

Bydd yfory (17 Hydref) yn nodi 50 mlynedd ers creu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ar 17 Hydref 1964 penododd Harold Wilson Aelod Seneddol Llanelli, Jim Griffiths i鈥檙 swydd newydd sbon. Cefais y fraint fawr o ymuno 芒鈥檙 Cabinet fel 17eg Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Gorffennaf eleni.
Pan ofynnodd y Prif Weinidog i mi ymgymryd 芒鈥檙 swydd hon dywedodd wrthyf ei fod eisiau i mi roi llais cryf i Gymru wrth fwrdd y Cabinet.
I mi, mae鈥檙 swydd yn golygu rhoi llais cryf i lywodraeth y DU yng Nghymru. Rwyf yn gyfrifol am fwrw ymlaen 芒鈥檔 cynllun economaidd tymor hir fel y gallwn barhau i hybu twf economaidd yng Nghymru, sy鈥檔 golygu y bydd mwy o bobl ledled y genedl mewn gwaith ac yn mwynhau safon byw uwch.
Mae鈥檔 golygu denu mewnfuddsoddiad i Gymru, cynyddu gweithgynhyrchu ac allforion a gweld hynny鈥檔 cael ei adlewyrchu yn nifer y swyddi sy鈥檔 cael eu creu ac mewn economi gryfach.
Mae hefyd yn golygu gwneud yn si诺r bod gan y miloedd o fusnesau bach a chanolig ledled Cymru, sy鈥檔 gyfrifol am yrru economi Cymru, y seilwaith a鈥檙 cyfarpar sydd eu hangen arnynt fel y gallant ddal ati i greu swyddi a hybu twf.
Mae鈥檔 golygu hyrwyddo Cymru ar lefel ryngwladol drwy dynnu sylw at ansawdd ein cynnyrch a鈥檔 gwasanaethau ac arddangos ein gweithlu medrus i ddarpar fuddsoddwyr.
Ac mae鈥檔 golygu gofalu am anghenion pob rhan o Gymru, i wneud yn si诺r bod lleisiau Cymreig yn cael eu clywed yn eglur a bod ein buddiannau鈥檔 cael eu cynrychioli yn San Steffan pan fydd Llywodraeth y DU yn llunio ei pholis茂au.
Heddiw (16 Hydref) rwyf yn nodi 50 mlynedd ers creu鈥檙 swydd hon yng nghwmni cynulliad o gyn Ysgrifenyddion Gwladol Cymru. Maent wedi gadael gwaddol pwysig yn sgil eu cyflawniadau mewn seilwaith, buddsoddiad a thorri cwys newydd ar ddatganoli. Hwy oedd yn gyfrifol am gyflwyno deddfwriaeth bwysig ar y defnydd o鈥檙 Gymraeg yng Nghymru, am sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi鈥檙 pwerau iddo i wneud ei ddeddfau ei hun.
Rwyf yn falch o gael cynrychioli Cymru mewn Llywodraeth sydd ag enw da ar ddatganoli. Mae鈥檔 briodol fod cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, William Hague, yn awr yn arwain pwyllgor y Cabinet sy鈥檔 ystyried sut y gallwn gael cydbwysedd o鈥檙 newydd mewn setliad cyfansoddiadol i鈥檙 DU.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Swyddfa Cymru yn gyfrifol am gyflwyno deddfwriaeth bwysig ar gyfer Cymru. Yn 2011, roeddent yn gyfrifol am refferendwm yng Nghymru a arweiniodd at roi pwerau deddfu llawn i鈥檙 Cynulliad. A ddoe ddiwethaf (15 Hydref) cwblhaodd Bil Cymru y cam Pwyllgor yn Nh欧鈥檙 Arglwyddi. Mae鈥檙 Bil yn datganoli pwerau trethu a benthyca i鈥檙 Cynulliad a Gweinidogion Cymru a gobeithiaf y daw鈥檔 ddeddf yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Dyma鈥檙 hyn a olygaf pan fyddaf yn s么n am ddatganoli ag iddo ddiben, a gall hynny weithio鈥檔 well i bobl yng Nghymru. Dyna pam yr ydym wedi cyflwyno gwelliannau i鈥檙 Bil i gael gwared ar y cyfyngiadau ar y pwerau treth incwm y byddai Cymru鈥檔 eu cael yn dilyn refferendwm. Mae鈥檙 pwerau treth incwm newydd yn gyfrwng i helpu economi Cymru i fod yn fwy dynamig ac i wneud Llywodraeth Cymru鈥檔 fwy atebol.
Rwyf yn uchelgeisiol dros ein cenedl ac rwyf yn credu ei bod yn haeddu鈥檙 gorau. Ond gwn os yw鈥檙 uchelgais hon yn mynd i gael ei gwireddu a鈥檔 bod yn sicrhau鈥檙 buddsoddiad sydd ei angen ar y genedl rhaid i ni gael partneriaethau gwaith effeithiol rhwng Llywodraethau鈥檙 DU a Chymru. Rhaid i ni weithio鈥檔 dda 芒鈥檔 partneriaid busnes hefyd, ac eraill sy鈥檔 malio am Gymru ac sydd am gael rhan yn ei dyfodol.
Rwyf wedi datgan yn eglur iawn y bydd trydaneiddio鈥檙 rhwydwaith rheilffordd yn ne Cymru yn rhoi hwb sylweddol i economi Cymru yn yr 21ain ganrif ac rwyf wedi bod yn gweithio鈥檔 galed i sicrhau cytundeb rhwng Llywodraethau鈥檙 DU a Chymru fel y gallwn sicrhau鈥檙 buddsoddiad hanfodol hwn i Gymru gyda鈥檔 gilydd.
Ym mis Medi dangoswyd i鈥檙 byd yr hyn y gallwn ei gyflawni os ydym yn cydweithio drwy drefnu Uwchgynhadledd NATO o鈥檙 radd flaenaf. Byddwn wrthi eto ym mis Tachwedd pan fydd Uwchgynhadledd Buddsoddi Ryngwladol y DU yn dod i Gymru. A gwnaethpwyd hyn eto鈥檙 wythnos hon pan f没m yn cwrdd ag arweinwyr pleidiau San Steffan yng Nghymru gan roi ein gwahaniaethau gwleidyddol o鈥檙 neilltu a dechrau gweithio mewn ffordd bragmatig ar setliad datganoli a fydd yn gweithio i bobl Cymru. Fy ngwaith i yw gwyntyllu鈥檙 safbwyntiau hyn yng nghyfarfodydd y Cabinet a chynnal trafodaethau ag arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod Cymru鈥檔 aros ar flaen ac yng nghanol dadl gyfansoddiadol y DU.
Mae鈥檔 bwysig, fodd bynnag, ein bod yn torchi ein llewys ac yn mynd ati o ddifrif i ddatrys rhai o鈥檙 materion cyfansoddiadol fel y gallwn ganolbwyntio ar y materion real hynny sy鈥檔 effeithio ar fywydau pob dydd pobl: yr economi; parhau 芒鈥檔 diwygiadau lles a pherfformiad ein system addysg. Dyma鈥檙 pynciau sy鈥檔 bwysig ar garreg y drws.
Rwyf yn benderfynol o sicrhau cymaint o lwyddiant 芒 phosibl i Gymru yn ystod fy nghyfnod fel Ysgrifennydd Gwladol. Rhaid cofio mai helpu i symud ein cenedl ymlaen ymhellach ar hyd y llwybr i ffyniant economaidd yw holl hanfod y fraint o gynrychioli Cymru yn San Steffan, a San Steffan yng Nghymru.