Accredited official statistics

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ebrill 2025

Published 18 June 2025

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2025

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £210,000

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 5.3%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.3%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 104.1

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2025 am 9.30am ddydd Mercher 18 Gorffennaf 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 5.3% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025, i £210,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i fyny o 4.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025 ac yn uwch na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 3.5% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, o’i gymharu â gostyngiad o 0.6% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2024 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 78.3% yng Nghymru a chynyddodd gan 80.2% yn y DU.

Yng Nghymru, dangosodd 19 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025. Pen-y-bont ar Ogwr welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 9.5% i £215,000 yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025. Mewn cyferbyniad, Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 5.5% i £219,000 yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025.

Yng Nghymru, tai pâr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 7.1% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025, i’r pris cyfartalog o £211,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 0.1% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025, i’r pris cyfartalog o £128,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

(CSV, 1KB)

Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog gan 5.3% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 4.3% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025 (amcangyfrif diwygiedig).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ebrill 2025 Ebrill 2024 Gwahaniaeth
Abertawe £205,246 £193,612 6%
Blaenau Gwent £139,176 £127,266 9.4%
Bro Morgannwg £287,413 £284,518 1%
Caerdydd £272,559 £260,837 4.5%
Caerffili £193,702 £178,117 8.7%
Casnewydd £225,719 £210,218 7.4%
Castell-nedd Port Talbot £161,605 £148,191 9.1%
Ceredigion £219,182 £231,961 -5.5%
Conwy £203,347 £204,021 -0.3%
Gwynedd £194,916 £192,222 1.4%
Merthyr Tudful £142,240 £136,510 4.2%
Pen-y-bont ar Ogwr £215,302 £196,690 9.5%
Powys £238,873 £230,560 3.6%
Rhondda Cynon Taf £155,571 £144,779 7.5%
Sir Benfro £216,869 £216,333 0.2%
Sir Ddinbych £190,974 £187,685 1.8%
Sir Fynwy £323,549 £315,286 2.6%
Sir y Fflint £218,184 £201,223 8.4%
Sir Gaerfyrddin £194,393 £186,549 4.2%
Torfaen £187,065 £191,611 -2.4%
Wrecsam £202,834 £190,120 6.7%
Ynys Môn £231,876 £225,922 2.6%
Cymru £210,077 £199,545 5.3%

(CSV, 1KB)

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Ebrill 2025, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £324,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £139,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ebrill 2025 Ebrill 2024 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £329,732 £312,614 5.5%
Tŷ pâr £210,987 £197,060 7.1%
Tŷ teras £166,484 £158,684 4.9%
Fflat neu fflat deulawr £127,866 £127,989 -0.1%
Holl £210,077 £199,545 5.3%

(CSV, 1KB)

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Awdurdodau lleol Chwefror 2025 Chwefror 2024
Abertawe 170 201
Blaenau Gwent 43 55
Bro Morgannwg 93 115
Caerdydd 214 299
Caerffili 113 128
Casnewydd 121 111
Castell-nedd Port Talbot 89 98
Ceredigion 41 55
Conwy 110 119
Gwynedd 70 107
Merthyr Tudful 29 29
Pen-y-bont ar Ogwr 128 161
Powys 73 113
Rhondda Cynon Taf 142 200
Sir Benfro 111 108
Sir Ddinbych 68 75
Sir Gaerfyrddin 126 152
Sir Fynwy 59 73
Sir y Fflint 89 121
Torfaen 30 62
Wrecsam 85 109
Ynys Môn 41 50
Cymru 2,045 2,541

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 78.3% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 21.3% yng Nghymru.

(CSV, 1KB)

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Chwefror 2021 4,113
Chwefror 2022 3,746
Chwefror 2023 2,679
Chwefror 2024 2,541
Chwefror 2025 2,045

(CSV, 1KB)

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2025 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £376,966 10.8% 25.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £204,351 -0.6% 3.4%

(CSV, 1KB)

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2025 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £180,391 -0.3% 5.5%
Cyn berchen-feddiannydd £251,318 1.0% 5.1%

(CSV, 1KB)

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Ebrill 2025 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £208,092 -0.4% 4.0%
Morgais £211,008 0.6% 5.9%

(CSV, 1KB)

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Chwefror 2025
Cymru 5

(CSV, 7KB)

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n .

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288