Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2025
Published 18 June 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2025
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd 拢265,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 3.5%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -2.7%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 101.7
Mae鈥檙 amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2025 am 9.30am ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i鈥檙 cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi鈥檙 ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo 鈥渃yfartalog鈥 sy鈥檔 cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.
2. Datganiad economaidd
3.5% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025, i lawr o鈥檙 amcangyfrif diwygiedig o 7.0% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025.
拢265,000 oedd pris t欧 cyfartalog y DU yn Ebrill 2025 (amcangyfrif dros dro), sy鈥檔 拢9,000 yn uwch na 12 mis yn 么l. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025 yn Lloegr i 拢286,000 (3.0%), cynyddodd yng Nghymru i 拢210,000 (5.3%) a chynyddodd yn yr Alban i 拢191,000 (5.8%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i 拢185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).
Ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.7% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, o鈥檌 gymharu 芒 chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn 么l. Ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.8% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 6.4% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025. De Orllewin Lloegr oedd y rhanbarth gyda鈥檙 chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.9% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025.
Adroddodd 聽Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod gwanhau pellach ar draws y farchnad werthu, gyda gweithgarwch yn symud yn ddyfnach i dir negyddol.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU聽Cyllid a Thollau EF ar gyfer Ebrill 2025, ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol, mai鈥檙 nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o 拢40,000 neu fwy oedd 65,000. Mae hyn 28.0% yn is na 12 mis yn 么l (Ebrill 2024). Rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, lleihaodd trafodion y DU gan 63.5% ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol. Ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 70.7% yn Lloegr, wedi lleihau gan 60.3% yng Ngogledd Iwerddon, wedi lleihau gan 9.1% yn yr Alban ac wedi lleihau gan 19.1% yng Nghymru. Mae鈥檔 debygol bod y lleihad sydyn yn nifer trafodion y DU yn Ebrill 2025 (yn enwedig yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn dilyn y cynnydd sydyn ym Mawrth 2025 yn adlewyrchu prynwyr yn rhuthro i gwblhau prynu eiddo cyn y newidiadau i Dreth Dir y Dreth Stamp ar 1 Ebrill 2025.
Adroddodd datganiad 聽fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy鈥檔 ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau am y pedwerydd mis yn olynol, gyda lleihad o 3,100 i 60,500 yn Ebrill 2025.
Adroddodd farchnad werthu dawel lle mae darpar brynwyr yn ansicr ynghylch yr amgylchedd economaidd. Nid yw鈥檙 cynnydd yn Nhreth Dir y Dreth Stamp o Ebrill wedi cael effaith sylweddol ar amseriad y trafodiad yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn 么l gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
(CSV, 1KB)
3.5% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025, i lawr o鈥檙 amcangyfrif diwygiedig o 7.0% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025.
拢265,000 oedd pris t欧 cyfartalog y DU yn Ebrill 2025 (amcangyfrif dros dro), sy鈥檔 拢9,000 yn uwch na 12 mis yn 么l. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025 yn Lloegr i 拢286,000 (3.0%), cynyddodd yng Nghymru i 拢210,000 (5.3%) a chynyddodd yn yr Alban i 拢191,000 (5.8%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i 拢185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).
3.2 Pris cyfartalog yn 么l gwlad a rhanbarth swyddfa鈥檙 llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn 么l gwlad a rhanbarth swyddfa鈥檙 llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa鈥檙 llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | 拢210,077 | 0.3% | 5.3% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 鈥 2025) | 拢185,037 | 1.0% | 9.5% |
Lloegr | 拢286,327 | -3.7% | 3.0% |
Yr Alban | 拢191,061 | 2.1% | 5.8% |
De Ddwyrain Lloegr | 拢380,428 | -2.0% | 3.0% |
De Orllewin Lloegr | 拢300,633 | -3.8% | 0.9% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 拢236,710 | -3.6% | 3.8% |
Dwyrain Lloegr | 拢332,160 | -3.8% | 2.0% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 拢239,533 | -4.6% | 2.6% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 拢156,010 | -8.1% | 6.4% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 拢204,760 | -6.4% | 3.1% |
Llundain | 拢566,614 | 2.6% | 3.3% |
Swydd Gaerefrog a Humber | 拢199,642 | -6.1% | 4.0% |
(CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn 么l gwlad a rhanbarth swyddfa鈥檙 llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.7% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025, o鈥檌 gymharu 芒 chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn 么l. Ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.8% rhwng Mawrth 2025 ac Ebrill 2025.
3.3 Pris cyfartalog yn 么l math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn 么l math o eiddo
Math o eiddo | Ebrill 2025 | Ebrill 2024 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
T欧 sengl | 拢436,480 | 拢415,853 | 5.0% |
T欧 p芒r | 拢269,417 | 拢256,304 | 5.1% |
T欧 teras | 拢219,831 | 拢213,888 | 2.8% |
Fflat neu fflat deulawr | 拢195,017 | 拢193,853 | 0.6% |
Holl | 拢265,497 | 拢256,478 | 3.5% |
(CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o鈥檙 amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd yn parhau鈥檔 is na鈥檙 cyfartaleddau hanesyddol, ond yn gwella o hyd. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a dylent nodi鈥檙 ansicrwydd uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o鈥檙 newydd.
Mae鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod yn adolygu methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU, gyda鈥檙 nod o leihau diwygiadau yn amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU.聽 Mae鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi nodi gwelliant methodoleg ar gyfer cyfrifiadau misol Prydain Fawr, sydd wedi ei gytuno ar y cyd.聽 Bwriadwn weithredu鈥檙 gwelliant hwn ym Mynegai Prisiau Tai y DU dros y misoedd nesaf.聽 Darllenwch ragor ym mhapur dulliau cyfrifo misol Mynegai Prisiau Tai y DU.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn 么l gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2025 yn seiliedig ar oddeutu 16,200 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 6,100 ar gyfer yr Alban, a 1,700 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 44% o鈥檙 amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Ebrill 2025, fel y manylir yn ei gyhoeddiad 聽Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth 拢40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol 芒鈥檙聽polisi diwygiadau聽a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd聽Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau鈥檙 gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae鈥檙 prynwr neu鈥檙 gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu鈥檔 fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond wedi cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Chwefror 2025 | Chwefror 2024 |
---|---|---|
Lloegr | 40,745 | 47,183 |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 鈥 2025) | 1,822 | 1,616 |
Yr Alban | 6,100 | 5,541 |
Cymru | 2,045 | 2,541 |
Sylwer: Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
(CSV, 1KB)
Sylwer: Mae鈥檙 golofn 鈥楪wahaniaeth鈥 wedi cael ei symud ymaith o鈥檙 tabl hwn oherwydd nid yw data鈥檙 mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau聽am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2024 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 103.7% yn Lloegr, gan 11.3% yn yr Alban a chan 78.3% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 20.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2025.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU聽a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy鈥檔 wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 27.2% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 10.6% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 21.3% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 28.9% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn 么l gwlad: Ionawr
(CSV, 1KB)
Sylwer: Mae鈥檙 golofn 鈥楪wahaniaeth鈥 wedi cael ei symud ymaith o鈥檙 tabl hwn oherwydd nid yw data鈥檙 mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau聽am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2024聽芒鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 80.2%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU聽a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy鈥檔 wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 25.7% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025.
Tai a adeiledir o鈥檙 newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Chwefror 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o鈥檙 newydd | 拢406,407 | 11.1% | 25.7% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | 拢261,953 | 0.1% | 4.2% |
(CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i鈥檔 model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i鈥檞 gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig 鈥 nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Ebrill 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | 拢223,452 | -3.6% | 3.1% |
Cyn berchen-feddiannydd | 拢328,300 | -1.7% | 3.9% |
(CSV, 1KB)
6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig 鈥 nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Ebrill 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | 拢252,296 | -3.0% | 2.7% |
Morgais | 拢274,913 | -2.7% | 3.8% |
(CSV, 1KB)
7. Cyrchu鈥檙 data
Mae modd llwytho鈥檙 data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda鈥檔 .
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o鈥檙 prif ffactorau sy鈥檔 penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio鈥檙 dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o鈥檙 model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae鈥檙 eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae鈥檙 gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
9. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd T卯m Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ff么n 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ff么n 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ff么n 028 90 336035
Anne MacDonald, Rheolwr T卯m Data Tir ac Eiddo, Cofrestri鈥檙 Alban
Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk
Ff么n 0131 378 4991