Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Rhagfyr 2016

Cyhoeddwyd 14 Chwefror 2017

1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2016

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£219,544

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

7.2%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.4%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

115.2

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Rhagfyr gynnydd cyson mewn prisiau. Tyfodd prisiau tai y DU gan 7.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr, sef 1.1 pwynt canran yn uwch nag yn Nhachwedd. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod yn is na lefel y twf blynyddol a welwyd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn.

Yn ôl o amodau busnes, ar gyfer chwarter olaf 2016 (Hydref i Ragfyr), mae gweithgarwch wedi adfer yn y farchnad dai yn dilyn cyfnod o wendid ym mhob ardal ar wahân i ganol Llundain. Nododd yr adroddiad gystadleuaeth gref yn y farchnad rhoi benthyg morgais sydd efallai’n adlewyrchu’r cyfnod hir cyfredol o gyfraddau llog isel.

O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad breswyl gynnydd cymharol fach yn yr ymholiadau gan brynwyr newydd ar gyfer Rhagfyr. Mae’r newid bach hwn wedi’i adlewyrchu hefyd yn ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae’r rhain yn dangos i nifer y gwerthiannau tai yn y DU (wedi’i addasu’n dymhorol) gynyddu gan 0.2% rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2016, ond o’i gymharu â Rhagfyr 2015 cafwyd 8.5% yn llai o werthiannau tai.

Mae Banc Lloegr yn dangos i gyfanswm y cymeradwyaethau gynyddu 1.6% yn Rhagfyr 2016 o’i gymharu â Thachwedd 2016. Roedd nifer y cymeradwyaethau 3.9% yn uwch yn Rhagfyr 2016 nag yn Rhagfyr 2015.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS na fu unrhyw welliant yn y rhestriadau cenedlaethol am y 10fed mis yn olynol. Tynnodd RICS sylw hefyd at bwysau’r lefelau stoc isel ar weithgarwch prynwyr wrth iddynt ystyried prynu tŷ. Nododd adroddiad yn Nhachwedd 2016 fod cyfanswm y tai newydd 12.7% yn uwch nag yn Nhachwedd 2015. Dangosodd adroddiad ar gyfer Tachwedd 2016 i 36.5% yn fwy o dai newydd gael eu hadeiladu yn y cyfnod rhwng Ionawr 2014 a Thachwedd 2016 nag yn y cyfnod rhwng Ionawr 2011 a Thachwedd 2013.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past five years welsh

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £148,177 1.0% 4.7%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2016) £125,480 0.6% 5.7%
Lloegr £236,424 1.6% 7.7%
Yr Alban £141,553 -0.2% 3.5%
De Ddwyrain Lloegr £316,026 1.7% 8.5%
De Orllewin Lloegr £242,808 1.3% 7.0%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £176,790 1.0% 7.1%
Dwyrain Lloegr £281,513 1.9% 11.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £181,328 0.4% 7.1%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £128,631 2.3% 4.1%
Gogledd Orllewin Lloegr £152,259 1.9% 6.6%
Llundain £483,803 1.8% 7.5%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £154,985 2.2% 6.5%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Rhagfyr 2016 Rhagfyr 2015 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £333,441 £309,507 7.7%
Tŷ pâr £206,216 £191,816 7.5%
Tŷ teras £176,571 £166,204 6.2%
Fflat neu fflat deulawr £198,483 £184,519 7.6%
Holl £219,544 £204,839 7.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Hydref 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Hydref 2016 Hydref 2015 Gwahaniaeth
Lloegr 58,853 89,884 -34.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2016) 5,081 6,163 -17.6%
Yr Alban 8,329 9,767 -14.7%
Cymru 3,415 4,610 -25.9%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Hydref 2016

Sales volumes for 2012 to 2016 by country welsh

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £308,767 10.7% 25.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £213,953 0.7% 5.9%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £184,973 1.4% 7.0%
Cyn berchen-feddiannydd £254,924 1.4% 7.4%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £208,731 1.1% 6.8%
Morgais £229,292 1.6% 7.4%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n .

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035