Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Medi 2019

Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2019

1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2019

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£234,370

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.3%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-0.2%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

123.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2019 am 9.30am ddydd Mercher 18 Rhagfyr. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai yn y DU gan 1.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019, yn ddigyfnewid o Awst 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Awst 2019 a Medi 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst 2018 a Medi 2018).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon lle y cynyddodd prisiau gan 4.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2019. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle y gostyngodd prisiau gan 0.4% dros y flwyddyn hyd at Fedi 2019, wedi ei ddilyn gan Ddwyrain Lloegr lle y gostyngodd prisiau gan 0.2% dros y flwyddyn.

Nododd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Medi 2019 ostyngiad yn y balans net ar gyfer ymholiadau gan brynwyr newydd, gan awgrymu bod ychydig o ddirywiad yn y galw gan brynwyr. Lleihaodd nifer y cyfarwyddiadau newydd i werthu i’w lefel isaf er Mehefin 2016, gan adlewyrchu dirywiad yn nifer y rhestriadau newydd sy’n dod ar y farchnad. Yn unol â’r dirywiad hwn yn y galw a’r cyflenwad, gostyngodd y gyfres gwerthiannau newydd eu cytuno wrth i weithgarwch leihau ym mron pob rhan o’r DU.

Adroddodd Asiantau Banc Lloegr fod y farchnad dai yn parhau i feddalu, gan adlewyrchu’r dirywiad yn y cyflenwad a’r galw. Adroddodd asiantau tai fod galw mwy meddal yn y farchnad eilaidd, er bod y galw am eiddo pris is yn fwy cadarn.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Medi 2019 y cafwyd 101,740 o drafodion amcanestynedig wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 2.3% yn uwch na blwyddyn yn ôl. Rhwng Awst 2019 a Medi 2019 cynyddodd trafodion gan 5.0%.

Adroddodd datganiad fod nifer y morgeisi a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer prynu tai (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) yn ddigyfnewid ar y cyfan ym Medi 2019 ar 66,000, a’u bod yn parhau o fewn yr amrediad cul a welwyd dros y tair blynedd diwethaf.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

(CSV, 1KB)

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019, yn ddigyfnewid o Awst 2019.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Ngogledd Iwerddon, lle y cynyddodd gan 4.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2019.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 2.4% dros y 12 mis diwethaf.

Cynyddodd prisiau tai yng Nghymru gan 2.6% dros y flwyddyn hyd at Fedi 2019.

Roedd y twf blynyddol arafaf yn Lloegr lle y cynyddodd prisiau gan 1.0% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £164,433 -2.8% 2.6%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2019) £139,951 2.3% 4.0%
Lloegr £250,677 -0.1% 1.0%
Yr Alban £155,029 0.3% 2.4%
De Ddwyrain Lloegr £329,197 1.0% 0.7%
De Orllewin Lloegr £260,158 0.0% 0.5%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £194,219 -1.2% 0.1%
Dwyrain Lloegr £291,993 -0.4% -0.2%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £201,273 -0.4% 1.6%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £132,769 0.0% 2.0%
Gogledd Orllewin Lloegr £167,683 -0.3% 2.8%
Llundain £474,601 -0.1% -0.4%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £165,745 -0.1% 2.2%

(CSV, 1KB)

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing price changes by country and government office region (Welsh).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Awst 2019 a Medi 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst 2018 a Medi 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Awst 2019 a Medi 2019.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Medi 2019 Medi 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £354,453 £351,794 0.8%
Tŷ pâr £222,228 £218,879 1.5%
Tŷ teras £189,427 £187,079 1.3%
Fflat neu fflat deulawr £209,148 £206,000 1.5%
Holl £234,370 £231,454 1.3%

(CSV, 1KB)

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Gorffennaf 2019 Gorffennaf 2018
Lloegr 65,901 73,910
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2019) 6,002 6,563
Yr Alban 8,851 8,899
Cymru 3,940 4,227

(CSV, 1KB)

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Cyfrifwyd yr amcangyfrif ar gyfer Gorffennaf 2019 ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 3.3% yn Lloegr, 0.9% yn yr Alban, 6.4% yng Nghymru a 4.9% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 1.0% yn Lloegr, 0.8% yn yr Alban a 3.1% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2015 i 2019 yn ôl gwlad: Gorffennaf

A chart showing sales volumes by country for July 2015, July 2016, July 2018, July 2018 and July 2019 (Welsh)

(CSV, 1KB)

Cyfrifwyd yr amcangyfrif ar gyfer Gorffennaf 2019 ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 3.3%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 0.9% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2019.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Gorffennaf 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £296,343 5.7% 4.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £229,288 0.8% 0.6%

(CSV, 1KB)

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Medi 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £197,433 0.2% 1.4%
Cyn berchen-feddiannydd £271,472 -0.5% 1.0%

(CSV, 1KB)

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Medi 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £223,536 0.0% 1.2%
Morgais £243,937 -0.3% 1.2%

(CSV, 1KB)

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Ebrill 2019 a Mehefin 2019, cafwyd 225,912 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Lloegr oedd £150,000 i £174,999 – prynwyd 15,583 o eiddo
  • Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,081 o eiddo
  • yr Alban oedd £75,000 i £99,999 – prynwyd 3,192 o eiddo
  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,589 o eiddo

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2019 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i fwy o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

Trafodion tai Lloegr

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 70
£25,000 i £49,999 1,232
£50,000 i £74,999 5,019
£75,000 i £99,999 8,897
£100,000 i £124,999 11,468
£125,000 i £149,999 14,707
£150,000 i £174,999 15,583
£175,000 i £199,999 14,849
£200,000 i £224,999 12,747
£225,000 i £249,999 12,867
£250,000 i £274,999 11,473
£275,000 i £299,999 10,416
£300,000 i £324,999 8,644
£325,000 i £349,999 7,433
£350,000 i £374,999 6,512
£375,000 i £399,999 5,668
£400,000 i £424,999 4,656
£425,000 i £449,999 3,858
£450,000 i £474,999 3,355
£475,000 i £499,999 3,077
£500,000 i £524,999 2,292
£525,000 i £549,999 2,001
£550,000 i £574,999 1,746
£575,000 i £599,999 1,628
£600,000 i £624,999 1,374
£625,000 i £649,999 1,104
£650,000 i £674,999 1,000
£675,000 i £699,999 881
£700,000 i £724,999 737
£725,000 i £749,999 652
£750,000 i £774,999 663
£775,000 i £799,999 542
£800,000 i £824,999 431
£825,000 i £849,999 399
£850,000 i £874,999 423
£875,000 i £899,999 292
£900,000 i £924,999 282
£925,000 i £949,999 242
£950,000 i £974,999 237
£975,000 i £999,999 192
£1,000,000 i £1,249,999 1,201
£1,250,000 i £1,499,999 631
£1,500,000 i £1,749,999 354
£1,750,000 i £1,999,999 214
£2,000,000 i £4,999,999 454
£5,000,000 i £9,999,999 66
Mwy na £10,000,000 17

Trafodion tai Gogledd Iwerddon

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 17
£25,000 i £49,999 149
£50,000 i £74,999 700
£75,000 i £99,999 856
£100,000 i £124,999 925
£125,000 i £149,999 1,081
£150,000 i £174,999 734
£175,000 i £199,999 486
£200,000 i £224,999 270
£225,000 i £249,999 213
£250,000 i £274,999 146
£275,000 i £299,999 89
£300,000 i £324,999 58
£325,000 i £349,999 41
£350,000 i £374,999 30
£375,000 i £399,999 36
£400,000 i £424,999 18
£425,000 i £449,999 20
£450,000 i £474,999 9
£475,000 i £499,999 4
Mwy na £500,000 46

Trafodion tai yr Alban

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 146
£25,000 i £49,999 930
£50,000 i £74,999 2,323
£75,000 i £99,999 3,192
£100,000 i £124,999 2,780
£125,000 i £149,999 3,135
£150,000 i £174,999 2,683
£175,000 i £199,999 2,464
£200,000 i £224,999 1,851
£225,000 i £249,999 1,549
£250,000 i £274,999 1,263
£275,000 i £299,999 1,018
£300,000 i £324,999 710
£325,000 i £349,999 523
£350,000 i £374,999 389
£375,000 i £399,999 352
£400,000 i £424,999 240
£425,000 i £449,999 193
£450,000 i £474,999 177
£475,000 i £499,999 118
£500,000 i £524,999 91
£525,000 i £549,999 74
£550,000 i £574,999 62
£575,000 i £599,999 44
£600,000 i £624,999 55
£625,000 i £649,999 37
£650,000 i £674,999 39
£675,000 i £699,999 25
£700,000 i £724,999 17
£725,000 i £749,999 14
£750,000 i £774,999 14
£775,000 i £799,999 16
£800,000 i £824,999 10
£825,000 i £849,999 11
£850,000 i £874,999 7
£875,000 i £899,999 7
£900,000 i £924,999 8
£925,000 i £949,999 8
£950,000 i £974,999 3
£975,000 i £999,999 6
£1,000,000 i £1,249,999 26
£1,250,000 i £1,499,999 20
£1,500,000 i £1,749,999 7
£1,750,000 i £1,999,999 2
£2,000,000 i £4,999,999 5

Trafodion tai Cymru

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 3
£25,000 i £49,999 131
£50,000 i £74,999 643
£75,000 i £99,999 1,182
£100,000 i £124,999 1,355
£125,000 i £149,999 1,589
£150,000 i £174,999 1,348
£175,000 i £199,999 1,071
£200,000 i £224,999 734
£225,000 i £249,999 636
£250,000 i £274,999 492
£275,000 i £299,999 433
£300,000 i £324,999 241
£325,000 i £349,999 220
£350,000 i £374,999 166
£375,000 i £399,999 122
£400,000 i £424,999 97
£425,000 i £449,999 62
£450,000 i £474,999 39
£475,000 i £499,999 38
£500,000 i £524,999 29
£525,000 i £549,999 21
£550,000 i £574,999 18
£575,000 i £599,999 18
£600,000 i £624,999 10
£625,000 i £649,999 10
£650,000 i £674,999 7
£675,000 i £699,999 6
£700,000 i £724,999 5
£725,000 i £749,999 6
£750,000 i £774,999 3
£775,000 i £799,999 1
£800,000 i £824,999 5
£825,000 i £849,999 3
£875,000 i £899,999 1
£900,000 i £924,999 1
£925,000 i £949,999 1
£950,000 i £974,999 2
£975,000 i £999,999 1
£1,000,000 i £1,249,999 2
£1,250,000 i £1,499,999 1
£1,500,000 i £1,749,999 1

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n .

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

¹ó´Úô²Ô
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

¹ó´Úô²Ô
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

¹ó´Úô²Ô
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

¹ó´Úô²Ô
07919570915