Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2021

Cyhoeddwyd 21 Ebrill 2021

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd 拢179,861

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 8.4%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.7%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 132.1

Mae鈥檙 amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polis茂au diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2021 am 9.30am ddydd Mercher 19 Mai 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 8.4% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021, i lawr o 11.0% yn Ionawr 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu鈥檔 arafach na chyfradd flynyddol y DU sef 8.6% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021. Ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.7% rhwng Ionawr a Chwefror 2021, gyda chynnydd o 1.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr a Chwefror 2020). Ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.9% rhwng Ionawr a Chwefror 2021.

O gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2019 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2020, cynyddodd nifer y trafodion gan 14.8% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 18.3% dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd 21 o鈥檙 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Chwefror 2021 o鈥檌 gymharu 芒 Chwefror 2020. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mlaenau Gwent, gan godi 18.4% i 拢108,000 yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021. Mewn cyferbyniad, Sir y Fflint welodd y newid blynyddol lleiaf, gan ostwng 1.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021, a鈥檙 pris t欧 cyfartalog oedd 拢173,000.

O鈥檙 holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras a fflatiau a fflatiau deulawr y twf blynyddol mwyaf, gan godi 8.9% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021, i 拢141,000 a 拢124,000 yr un. Y newid blynyddol lleiaf o鈥檙 holl fathau o eiddo oedd ar gyfer tai p芒r, gyda chynnydd o 7.4% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021 i 拢173,000.

Yn yr un modd 芒 dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy鈥檔 newid o fis i fis fel arfer, mae鈥檔 bwysig peidio 芒 rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

(CSV, 1KB)

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 8.4% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021, i lawr o 11.0% yn Ionawr 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn 么l awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Chwefror 2021 Chwefror 2020 Gwahaniaeth
Abertawe 拢169,324 拢152,185 11.3%
Blaenau Gwent 拢108,049 拢91,222 18.4%
Bro Morgannwg 拢238,745 拢231,874 3%
Caerdydd 拢225,925 拢209,838 7.7%
Caerffili 拢151,238 拢139,747 8.2%
Casnewydd 拢211,332 拢186,831 13.1%
Castell-nedd Port Talbot 拢127,643 拢123,466 3.4%
Ceredigion 拢206,435 拢188,242 9.7%
Conwy 拢181,716 拢168,187 8%
Gwynedd 拢179,018 拢160,711 11.4%
Merthyr Tudful 拢129,082 拢112,003 15.2%
Pen-y-bont ar Ogwr 拢174,973 拢155,911 12.2%
Powys 拢211,801 拢185,168 14.4%
Rhondda Cynon Taf 拢124,828 拢115,578 8%
Sir Benfro 拢210,376 拢180,650 16.5%
Sir Ddinbych 拢178,603 拢159,042 12.3%
Sir Fynwy 拢302,780 拢274,761 10.2%
Sir y Fflint 拢173,252 拢175,092 -1.1%
Sir Gaerfyrddin 拢173,959 拢151,502 14.8%
Tor-faen 拢170,586 拢151,070 12.9%
Wrecsam 拢169,330 拢155,389 9%
Ynys M么n 拢199,690 拢180,907 10.4%
Cymru 拢179,861 拢165,953 8.4%

(CSV, 1KB)

Prisiau cyfartalog yn 么l awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Chwefror 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai 拢303,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai 拢108,000 oedd y pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn 么l math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn 么l math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Chwefror 2021 Chwefror 2020 Gwahaniaeth
T欧 sengl 拢272,097 拢250,414 8.7%
T欧 p芒r 拢172,565 拢160,638 7.4%
T欧 teras 拢140,825 拢129,311 8.9%
Fflat neu fflat deulawr 拢123,542 拢113,441 8.9%
Holl 拢179,861 拢165,953 8.4%

(CSV, 1KB)

4. Nifer y gwerthiannau

Mae鈥檙 amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru鈥檙 wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae鈥檔 cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau鈥檙 gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn 么l statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy鈥檔 bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy鈥檔 ymwneud 芒 chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i鈥檞 prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn 么l awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn 么l awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Rhagfyr 2020 Rhagfyr 2019
Abertawe 306 279
Blaenau Gwent 71 78
Bro Morgannwg 185 237
Caerdydd 406 503
Caerffili 177 224
Casnewydd 203 178
Castell-nedd Port Talbot 210 160
Ceredigion 109 94
Conwy 181 167
Gwynedd 187 160
Merthyr Tudful 56 70
Pen-y-bont ar Ogwr 194 203
Powys 217 142
Rhondda Cynon Taf 319 301
Sir Benfro 178 207
Sir Ddinbych 174 129
Sir Gaerfyrddin 241 270
Sir Fynwy 126 108
Sir y Fflint 226 210
Tor-faen 126 157
Wrecsam 156 135
Ynys M么n 98 77
Cymru 4,146 4,089

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

O gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2019 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2020, cynyddodd nifer y trafodion gan 14.8% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy鈥檔 wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 25.9% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020.

(CSV, 1KB)

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a鈥檙 tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Rhagfyr 2016 4,581
Rhagfyr 2017 4,659
Rhagfyr 2018 4,255
Rhagfyr 2019 4,089
Rhagfyr 2020 4,146

(CSV, 1KB)

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy鈥檔 cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i鈥檞 prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy鈥檔 bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o鈥檙 newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Rhagfyr 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o鈥檙 newydd 拢229,665 0.5% 8.4%
Eiddo presennol a ailwerthwyd 拢179,168 1.5% 9.4%

(CSV, 1KB)

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i鈥檔 model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i鈥檞 gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Chwefror 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf 拢155,687 -0.2% 8.5%
Cyn berchen-feddiannydd 拢207,914 -1.4% 8.2%

(CSV, 1KB)

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Chwefror 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod 拢175,983 -0.2% 9.2%
Morgais 拢182,363 -1.0% 8.0%

(CSV, 1KB)

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Rhagfyr 2020
Cymru 18

(CSV, 7KB)

9. Cyrchu鈥檙 data

Mae modd llwytho鈥檙 data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda鈥檔 .

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau鈥檔 ymwneud 芒 Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

贵蹿么苍
0300 0068317