Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2021
Cyhoeddwyd 15 Medi 2021
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2021
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd 拢187,960
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 11.6%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -4.0%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 138.1
Mae鈥檙 amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polis茂au diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2021 am 9.30am ddydd Mercher 20 Hydref 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 11.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021, i lawr o 17.0% ym Mehefin 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu鈥檔 gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 8.0% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021. Ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.0% rhwng Mehefin a Gorffennaf 2021, o鈥檌 gymharu 芒 chynnydd o 0.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin a Gorffennaf 2020). Ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.3% rhwng Mehefin a Gorffennaf 2021.
Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2020 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 13.7% yng Nghymru, o 1,383 i 1,572. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 25.5% o 31,147 i 39,080 dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yng Ngorffennaf 2021 o鈥檌 gymharu 芒 Gorffennaf 2020. Gwelwyd y twf cryfaf yng Nghonwy, gan godi 25.0% i 拢201,000 yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021. Mewn cyferbyniad, Ceredigion welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 6.2% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021, a鈥檙 pris t欧 cyfartalog oedd 拢210,000.
O鈥檙 holl fathau o eiddo, dangosodd tai p芒r y twf blynyddol mwyaf, gan godi 11.9% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021 i 拢183,000. Y newid blynyddol lleiaf o鈥檙 holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 11.1% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021 i 拢130,000.
Yn yr un modd 芒 dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy鈥檔 newid o fis i fis fel arfer, mae鈥檔 bwysig peidio 芒 rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
(CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 11.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021, i lawr o 17.0% ym Mehefin 2021.
Newid mewn prisiau blynyddol yn 么l awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2021 | Gorffennaf 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | 拢170,774 | 拢155,655 | 9.7% |
Blaenau Gwent | 拢112,887 | 拢96,423 | 17.1% |
Bro Morgannwg | 拢293,916 | 拢237,026 | 24% |
Caerdydd | 拢240,320 | 拢212,900 | 12.9% |
Caerffili | 拢165,702 | 拢140,043 | 18.3% |
Casnewydd | 拢205,995 | 拢191,817 | 7.4% |
Castell-nedd Port Talbot | 拢141,946 | 拢126,320 | 12.4% |
Ceredigion | 拢210,351 | 拢198,123 | 6.2% |
Conwy | 拢201,391 | 拢161,121 | 25% |
Gwynedd | 拢181,720 | 拢156,291 | 16.3% |
Merthyr Tudful | 拢125,596 | 拢107,970 | 16.3% |
Pen-y-bont ar Ogwr | 拢180,789 | 拢161,983 | 11.6% |
Powys | 拢213,798 | 拢188,561 | 13.4% |
Rhondda Cynon Taf | 拢134,847 | 拢116,057 | 16.2% |
Sir Benfro | 拢202,346 | 拢174,418 | 16% |
Sir Ddinbych | 拢185,632 | 拢155,438 | 19.4% |
Sir Fynwy | 拢297,759 | 拢274,143 | 8.6% |
Sir y Fflint | 拢185,647 | 拢169,012 | 9.8% |
Sir Gaerfyrddin | 拢177,593 | 拢150,249 | 18.2% |
Tor-faen | 拢170,560 | 拢156,734 | 8.8% |
Wrecsam | 拢182,712 | 拢158,177 | 15.5% |
Ynys M么n | 拢215,559 | 拢180,565 | 19.4% |
Cymru | 拢187,960 | 拢168,416 | 11.6% |
(CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn 么l awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yng Ngorffennaf 2021, yr ardal ddrutaf i fyw oedd sir Fynwy, lle mai 拢298,000 oedd pris t欧 cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai 拢113,000 oedd pris t欧 cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn 么l math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn 么l math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Gorffennaf 2021 | Gorffennaf 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
T欧 sengl | 拢283,586 | 拢253,927 | 11.7% |
T欧 p芒r | 拢182,687 | 拢163,302 | 11.9% |
T欧 teras | 拢145,669 | 拢130,681 | 11.5% |
Fflat neu fflat deulawr | 拢129,780 | 拢116,803 | 11.1% |
Holl | 拢187,960 | 拢168,416 | 11.6% |
(CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae鈥檙 amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru鈥檙 wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae鈥檔 cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau鈥檙 gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn 么l statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy鈥檔 bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy鈥檔 ymwneud 芒 chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i鈥檞 prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn 么l awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn 么l awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Mai 2021 | Mai 2020 |
---|---|---|
Abertawe | 102 | 113 |
Blaenau Gwent | 39 | 42 |
Bro Morgannwg | 64 | 64 |
Caerdydd | 142 | 167 |
Caerffili | 90 | 96 |
Casnewydd | 68 | 80 |
Castell-nedd Port Talbot | 65 | 78 |
Ceredigion | 45 | 27 |
Conwy | 91 | 61 |
Gwynedd | 77 | 41 |
Merthyr Tudful | 31 | 28 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 79 | 79 |
Powys | 66 | 71 |
Rhondda Cynon Taf | 131 | 143 |
Sir Benfro | 67 | 75 |
Sir Ddinbych | 45 | 55 |
Sir Gaerfyrddin | 106 | 95 |
Sir Fynwy | 52 | 33 |
Sir y Fflint | 68 | 83 |
Tor-faen | 39 | 51 |
Wrecsam | 56 | 55 |
Ynys M么n | 49 | 39 |
Cymru | 1,572 | 1,576 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2020 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 13.7% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy鈥檔 wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 141.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fai 2021.
(CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a鈥檙 tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mai 2017 | 3,933 |
Mai 2018 | 3,799 |
Mai 2019 | 3,854 |
Mai 2020 | 1,576 |
Mai 2021 | 1,572 |
(CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy鈥檔 cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i鈥檞 prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy鈥檔 bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o鈥檙 newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mai 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o鈥檙 newydd | 拢263,323 | 1.7% | 18.1% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | 拢181,891 | 1.3% | 14.3% |
(CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i鈥檔 model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i鈥檞 gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Gorffennaf 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | 拢162,121 | -4.2% | 11.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | 拢218,162 | -3.8% | 11.7% |
(CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Gorffennaf 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | 拢182,321 | -4.0% | 11.7% |
Morgais | 拢191,265 | -4.1% | 11.5% |
(CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mai 2021 |
---|---|
Cymru | 7 |
(CSV, 7KB)
9. Cyrchu鈥檙 data
Mae modd llwytho鈥檙 data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda鈥檔 .
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau鈥檔 ymwneud 芒 Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk
Ff么n 0300 0068317