Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mawrth 2021

Cyhoeddwyd 19 Mai 2021

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd 拢185,431

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 11.0%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 3.1%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 136.2

Mae鈥檙 amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polis茂au diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2021 am 9.30am ddydd Mercher 16 Mehefin 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 11.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, i fyny o 8.4% yn Chwefror 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu鈥檔 gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 10.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021. Ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 3.1% rhwng Chwefror a Mawrth 2021, o鈥檌 gymharu 芒 chynnydd o 0.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror a Mawrth 2020). Ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.9% rhwng Chwefror a Mawrth 2021.

Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2020 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2021, gostyngodd nifer y trafodion gan 11.0% yng Nghymru, o 2917 i 2597. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 6.3%, o 61,815 i 65,727, dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd y 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog ym Mawrth 2021 o鈥檌 gymharu 芒 Mawrth 2020. Gwelwyd y twf cryfaf yn Sir Gaerfyrddin, lle cododd gan 22.7% i 拢183,000 yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021. Mewn cyferbyniad, Sir Benfro welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 4.5% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, a鈥檙 pris t欧 cyfartalog oedd 拢188,000.

O鈥檙 holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 12.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021 i 拢283,000. Y newid blynyddol lleiaf o鈥檙 holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 2.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021 i 拢119,000.

Yn yr un modd 芒 dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy鈥檔 newid o fis i fis fel arfer, mae鈥檔 bwysig peidio 芒 rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

(CSV, 1KB)

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 11.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, i fyny o 8.4% yn Chwefror 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn 么l awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mawrth 2021 Mawrth 2020 Gwahaniaeth
Abertawe 拢162,881 拢154,152 5.7%
Blaenau Gwent 拢97,763 拢91,795 6.5%
Bro Morgannwg 拢251,829 拢234,975 7.2%
Caerdydd 拢227,435 拢209,212 8.7%
Caerffili 拢152,443 拢137,620 10.8%
Casnewydd 拢205,556 拢189,870 8.3%
Castell-nedd Port Talbot 拢134,858 拢123,801 8.9%
Ceredigion 拢212,987 拢185,484 14.8%
Conwy 拢185,708 拢169,008 9.9%
Gwynedd 拢176,185 拢158,190 11.4%
Merthyr Tudful 拢125,406 拢109,824 14.2%
Pen-y-bont ar Ogwr 拢170,214 拢156,282 8.9%
Powys 拢211,590 拢188,728 12.1%
Rhondda Cynon Taf 拢131,202 拢115,363 13.7%
Sir Benfro 拢188,277 拢180,105 4.5%
Sir Ddinbych 拢177,226 拢157,549 12.5%
Sir Fynwy 拢301,298 拢278,702 8.1%
Sir y Fflint 拢192,929 拢175,038 10.2%
Sir Gaerfyrddin 拢183,129 拢149,193 22.7%
Tor-faen 拢166,703 拢150,523 10.7%
Wrecsam 拢174,572 拢158,726 10%
Ynys M么n 拢211,450 拢182,580 15.8%
Cymru 拢185,431 拢167,040 11%

(CSV, 1KB)

Prisiau cyfartalog yn 么l awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Mawrth 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai 拢301,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai 拢98,000 oedd y pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn 么l math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn 么l math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mawrth 2021 Mawrth 2020 Gwahaniaeth
T欧 sengl 拢283,155 拢251,910 12.4%
T欧 p芒r 拢178,631 拢161,715 10.5%
T欧 teras 拢145,457 拢129,574 12.3%
Fflat neu fflat deulawr 拢119,432 拢116,600 2.4%
Holl 拢185,431 拢167,040 11.0%

(CSV, 1KB)

4. Nifer y gwerthiannau

Mae鈥檙 amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru鈥檙 wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae鈥檔 cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau鈥檙 gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn 么l statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy鈥檔 bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy鈥檔 ymwneud 芒 chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i鈥檞 prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn 么l awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn 么l awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Ionawr 2021 Ionawr 2020
Abertawe 204 247
Blaenau Gwent 63 72
Bro Morgannwg 118 178
Caerdydd 304 352
Caerffili 110 180
Casnewydd 116 177
Castell-nedd Port Talbot 136 122
Ceredigion 77 76
Conwy 145 157
Gwynedd 106 128
Merthyr Tudful 34 47
Pen-y-bont ar Ogwr 120 172
Powys 118 139
Rhondda Cynon Taf 188 214
Sir Benfro 126 134
Sir Ddinbych 70 82
Sir Gaerfyrddin 155 159
Sir Fynwy 65 103
Sir y Fflint 117 160
Tor-faen 63 82
Wrecsam 109 119
Ynys M么n 53 71
Cymru 2,597 3,171

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2020 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 11.0% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy鈥檔 wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 0.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021.

(CSV, 1KB)

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a鈥檙 tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Ionawr 2017 3,056
Ionawr 2018 3,170
Ionawr 2019 3,070
Ionawr 2020 3,171
Ionawr 2021 2,597

(CSV, 1KB)

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy鈥檔 cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i鈥檞 prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy鈥檔 bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o鈥檙 newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Ionawr 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o鈥檙 newydd 拢235,648 0.6% 4.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd 拢178,954 -0.3% 12.1%

(CSV, 1KB)

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i鈥檔 model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i鈥檞 gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mawrth 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf 拢159,375 2.8% 10.4%
Cyn berchen-feddiannydd 拢216,107 3.4% 11.7%

(CSV, 1KB)

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Mawrth 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod 拢180,037 3.4% 10.8%
Morgais 拢188,620 3.0% 11.1%

(CSV, 1KB)

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ionawr 2021
Cymru 14

(CSV, 7KB)

9. Cyrchu鈥檙 data

Mae modd llwytho鈥檙 data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda鈥檔 .

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau鈥檔 ymwneud 芒 Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

贵蹿么苍
0300 0068317