Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mai 2021
Cyhoeddwyd 14 Gorffennaf 2021
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2021
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd 拢184,297
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 13.3%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.8%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 135.4
Mae鈥檙 amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polis茂au diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2021 am 9.30am ddydd Mercher 18 Awst 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 13.3% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021, i lawr o 14.2% yn Ebrill 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu鈥檔 gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 10.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021. Ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Ebrill a Mai 2021, o鈥檌 gymharu 芒 chynnydd o 1.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill a Mai 2020). Ar sail wedi ei haddasu鈥檔 dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Ebrill a Mai 2021.
Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2020 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 24.2% yng Nghymru, o 2829 i 3515. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 70.9% o 57,318 i 97,984 dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd 21 o鈥檙 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog ym Mai 2021 o鈥檌 gymharu 芒 Mai 2020. Gwelwyd y twf cryfaf ym Merthyr Tudful, gan godi 21.7% i 拢128,000 yn y flwyddyn hyd at Fai 2021. Mewn cyferbyniad, Casnewydd welodd y newid blynyddol lleiaf, gan ostwng 1.4% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021, a鈥檙 pris t欧 cyfartalog oedd 拢188,000.
O鈥檙 holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras y twf blynyddol mwyaf, gan godi 15.2% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021 i 拢146,000. Y newid blynyddol lleiaf o鈥檙 holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 8.6% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021 i 拢123,000.
Yn yr un modd 芒 dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy鈥檔 newid o fis i fis fel arfer, mae鈥檔 bwysig peidio 芒 rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
(CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 13.3% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021, i lawr o 14.2% yn Ebrill 2021.
Newid mewn prisiau blynyddol yn 么l awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Mai 2021 | Mai 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | 拢166,210 | 拢150,882 | 10.2% |
Blaenau Gwent | 拢110,772 | 拢92,196 | 20.1% |
Bro Morgannwg | 拢270,585 | 拢226,665 | 19.4% |
Caerdydd | 拢233,402 | 拢211,287 | 10.5% |
Caerffili | 拢155,940 | 拢139,224 | 12% |
Casnewydd | 拢187,818 | 拢190,548 | -1.4% |
Castell-nedd Port Talbot | 拢138,161 | 拢125,159 | 10.4% |
Ceredigion | 拢219,801 | 拢189,391 | 16.1% |
Conwy | 拢189,867 | 拢167,611 | 13.3% |
Gwynedd | 拢186,003 | 拢153,762 | 21% |
Merthyr Tudful | 拢128,408 | 拢105,516 | 21.7% |
Pen-y-bont ar Ogwr | 拢176,741 | 拢157,293 | 12.4% |
Powys | 拢216,566 | 拢184,984 | 17.1% |
Rhondda Cynon Taf | 拢133,482 | 拢113,224 | 17.9% |
Sir Benfro | 拢188,776 | 拢176,596 | 6.9% |
Sir Ddinbych | 拢172,523 | 拢159,045 | 8.5% |
Sir Fynwy | 拢302,488 | 拢271,157 | 11.6% |
Sir y Fflint | 拢191,744 | 拢161,854 | 18.5% |
Sir Gaerfyrddin | 拢175,076 | 拢145,213 | 20.6% |
Tor-faen | 拢180,056 | 拢148,868 | 20.9% |
Wrecsam | 拢163,953 | 拢155,961 | 5.1% |
Ynys M么n | 拢197,578 | 拢178,413 | 10.7% |
Cymru | 拢184,297 | 拢162,701 | 13.3% |
(CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn 么l awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Mai 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai 拢302,000 oedd pris cyfartalog eiddo. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai 拢111,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn 么l math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn 么l math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Mai 2021 | Mai 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
T欧 sengl | 拢278,049 | 拢243,819 | 14.0% |
T欧 p芒r | 拢176,345 | 拢158,117 | 11.5% |
T欧 teras | 拢145,839 | 拢126,548 | 15.2% |
Fflat neu fflat deulawr | 拢123,144 | 拢113,349 | 8.6% |
Holl | 拢184,297 | 拢162,701 | 13.3% |
(CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae鈥檙 amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru鈥檙 wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae鈥檔 cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau鈥檙 gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn 么l statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy鈥檔 bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy鈥檔 ymwneud 芒 chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i鈥檞 prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn 么l awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn 么l awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Mawrth 2021 | Mawrth 2020 |
---|---|---|
Abertawe | 242 | 244 |
Blaenau Gwent | 74 | 70 |
Bro Morgannwg | 145 | 192 |
Caerdydd | 371 | 343 |
Caerffili | 185 | 165 |
Casnewydd | 162 | 173 |
Castell-nedd Port Talbot | 167 | 134 |
Ceredigion | 78 | 66 |
Conwy | 150 | 152 |
Gwynedd | 178 | 136 |
Merthyr Tudful | 50 | 58 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 159 | 222 |
Powys | 153 | 126 |
Rhondda Cynon Taf | 249 | 231 |
Sir Benfro | 160 | 135 |
Sir Ddinbych | 144 | 89 |
Sir Gaerfyrddin | 219 | 227 |
Sir Fynwy | 133 | 88 |
Sir y Fflint | 164 | 163 |
Tor-faen | 74 | 104 |
Wrecsam | 141 | 133 |
Ynys M么n | 117 | 89 |
Cymru | 3,515 | 3,340 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu鈥檙 amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2020 芒鈥檙 amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 24.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy鈥檔 wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu鈥檔 dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 55.6% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021.
(CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a鈥檙 tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mawrth 2017 | 3,909 |
Mawrth 2018 | 3,800 |
Mawrth 2019 | 3,639 |
Mawrth 2020 | 3,340 |
Mawrth 2021 | 3,515 |
(CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy鈥檔 cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i鈥檞 prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy鈥檔 bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o鈥檙 newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mawrth 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o鈥檙 newydd | 拢252,646 | 6.4% | 14.2% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | 拢182,699 | 3.2% | 11.5% |
(CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i鈥檔 model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i鈥檞 gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mai 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | 拢158,871 | 0.6% | 12.8% |
Cyn berchen-feddiannydd | 拢214,051 | 1.1% | 13.9% |
(CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Mai 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | 拢178,193 | 1.1% | 13.5% |
Morgais | 拢187,807 | 0.7% | 13.1% |
(CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mawrth 2021 |
---|---|
Cymru | 12 |
(CSV, 7KB)
9. Cyrchu鈥檙 data
Mae modd llwytho鈥檙 data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda鈥檔 .
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, , ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau鈥檔 ymwneud 芒 Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk
Ff么n 0300 0068317