Canllawiau

Apelio yn erbyn penderfyniad iawndal gwaed heintiedig

Ap锚l yn erbyn penderfyniad iawndal gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA).

Trosolwg

Gallwch apelio penderfyniad a wnaed gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA) ynghylch eich cais cynllun iawndal gwaed heintiedig.

Mae apeliadau yn cael eu penderfynu gan y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCS), sydd wedi鈥檌 gefnogi gan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF). Mae鈥檙 tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth a鈥檙 ICBA.

Bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad ar 么l adolygu鈥檙 holl dystiolaeth a gwrando ar y ddwy ochr. Er enghraifft, gall y tribiwnlys benderfynu:

  • bod gennych hawl i iawndal
  • bod gennych hawl i swm arall o iawndal
  • bod penderfyniad gwreiddiol yr ICBA yn gywir

Cyn i chi apelio

Rhaid i chi ofyn i鈥檙 penderfyniad am eich cais gael ei ystyried eto cyn y gallwch apelio 鈥 gelwir hyn yn benderfyniad adolygu. Ar 么l yr adolygiad, bydd hysbysiad o benderfyniad yn cael ei anfon atoch gyda chanlyniad yr adolygiad.

Yr hawl i apelio

Os bydd yr hysbysiad o benderfyniad adolygu yn dweud bod gennych yr hawl i apelio, gallwch gychwyn eich ap锚l.

Os bydd yr hysbysiad o benderfyniad adolygu yn dweud bod gennych yr hawl i apelio, gallwch gychwyn eich hawliad. Fodd bynnag, bydd arnoch angen dweud yn eich ap锚l pam eich bod yn meddwl bod gennych yr hawl i apelio.

骋补濒濒飞肠丑听gael cymorth聽cyn ichi apelio.

Sut i apelio

Mae apelio penderfyniad gan yr IBCA yn rhad ac am ddim.

Byddwch angen:

  • eich cyfeirnod IBCA
  • manylion y cynrychiolydd sy鈥檔 helpu gyda鈥檆h ap锚l (os ydych yn defnyddio un)
  • eich hysbysiad o benderfyniad adolygu

Rhaid i chi apelio i鈥檙 tribiwnlys o fewn un mis calendr o gael eich hysbysiad o benderfyniad adolygu.

Tribiwnlys annibynnol fydd yn penderfynu ar eich ap锚l. Pan fyddwch yn apelio, byddant yn gofyn a ydych eisiau:

  • mynychu a chymryd rhan yn eich gwrandawiad wyneb yn wyneb, trwy gyswllt fideo neu dros y ff么n
  • i鈥檆h ap锚l gael ei phenderfynu heb i chi fynychu鈥檙 gwrandawiad - gelwir hyn hefyd yn 鈥榳randawiad ar sail y papurau鈥

Gofynnir i鈥檙 IBCA sut yr hoffent i鈥檙 ap锚l gael ei phenderfynu hefyd.

Gallwch ganfod mwy am y gwrandawiad聽cyn i chi apelio.

Os yw eich ap锚l yn hwyr

Os byddwch yn apelio鈥檔 hwyrach nac un mis calendr ar 么l derbyn eich hysbysiad o benderfyniad adolygu, bydd arnoch angen esbonio pam.

Os yw eich ap锚l:

  • yn llai na 13 mis yn hwyr, bydd yr IBCA yn ystyried y rhesymau a roddwch - os ydynt yn eu gwrthwynebu, bydd barnwr yn penderfynu p鈥檜n a fydd eich ap锚l yn cael ei symud yn ei blaen neu beidio
  • 13 mis neu fwy yn hwyr, bydd barnwr yn penderfynu a all eich ap锚l fynd yn ei blaen

Apelio ar-lein

Apelio drwy鈥檙 post

I apelio drwy鈥檙 post, bydd arnoch angen llenwi聽ffurflen SSCS8.

Cofrestru cynrychiolydd i helpu gyda鈥檆h ap锚l

Gallwch enwebu rhywun fel 鈥榗ynrychiolydd鈥 i鈥檆h helpu gyda鈥檆h ap锚l. Gall cynrychiolydd:

  • eich helpu i gyflwyno eich ap锚l neu baratoi eich tystiolaeth
  • gweithredu ar eich rhan
  • rhoi cyngor i chi

Gall unrhyw un fod yn gynrychiolydd, gan gynnwys ffrindiau a theulu.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i gynrychiolydd trwy聽lyfrgell leol聽neu o sefydliad sy鈥檔 rhoi cyngor ar geisiadau iawndal gwaed heintiedig.

Bydd gan eich cynrychiolydd ganiat芒d i weithredu ar eich rhan, er enghraifft i ymateb i lythyrau. Bydd yr holl wybodaeth am eich ap锚l yn cael ei hanfon atynt, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth feddygol.

I gofrestru cynrychiolydd, gallwch naill ai:

  • enwi eich cynrychiolydd pan fyddwch yn cyflwyno eich ap锚l
  • cofrestru cynrychiolydd ar unrhyw adeg ar 么l i chi gyflwyno eich ap锚l

Ar 么l i chi wneud ap锚l

Os yw eich ap锚l wedi鈥檌 derbyn, byddwn yn anfon cadarnhad atoch.

Os byddwn angen mwy o wybodaeth am eich ap锚l, byddwn yn cysylltu 芒 chi.

Beth fydd yr IBCA yn gwneud pan fyddwch yn apelio

Bydd yr IBCA yn derbyn copi o鈥檆h ap锚l a bydd yn adolygu:

  • eu penderfyniad unwaith eto
  • yr wybodaeth a鈥檙 dystiolaeth a roesoch

Gall yr IBCA newid eu penderfyniad gwreiddiol ar unrhyw adeg cyn y gwrandawiad. Os digwydd hyn, bydd yr IBCA yn anfon penderfyniad adolygu newydd atoch. Os ydych eisiau apelio鈥檙 penderfyniad newydd, bydd arnoch angen cychwyn ap锚l newydd.

Os bydd yr IBCA yn gwrthwynebu鈥檆h ap锚l

Gall yr IBCA wrthwynebu鈥檆h ap锚l oherwydd, er enghraifft:

  • mae鈥檔 gwrthwynebu penderfyniad nad yw鈥檔 cynnwys hawl i apelio
  • mae鈥檔 hwyr heb reswm da
  • nid yw鈥檔 cynnwys digon o wybodaeth
  • mae鈥檔 annhebygol o fod yn llwyddiannus

Os bydd y tribiwnlys yn meddwl gall y gwrthwynebiad fod yn ddilys, byddant yn ysgrifennu atoch er mwyn:

  • esbonio pam bod yr ICBA wedi gwrthwynebu鈥檆h ap锚l
  • gofyn i chi ymateb i鈥檙 gwrthwynebiad

Yna bydd y barnwr yn adolygu鈥檆h achos ac yn penderfynu a all yr ap锚l fynd yn ei blaen.

Os na fydd yr IBCA yn gwrthwynebu鈥檆h ap锚l

Rhaid i鈥檙 IBCA ddarparu ymateb yn esbonio pam eu bod wedi gwneud ei penderfyniad gwreiddiol. Bydd eu hymateb yn cynnwys:

  • y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn
  • crynodeb o鈥檙 ffeithiau perthnasol
  • y rhesymau dros eu penderfyniad
  • dyfyniadau o鈥檙 gyfraith berthnasol
  • copi o鈥檆h ffurflen neu lythyr ap锚l
  • cop茂au o鈥檙 dogfennau perthnasol - er enghraifft, ffurflen hawlio, adroddiadau meddygol a llythyrau
  • unrhyw beth yr oedd yr IBCA yn ystyried wrth wneud eu penderfyniad

Mae gan yr IBCA 28 diwrnod o鈥檙 dyddiad bu iddynt dderbyn eich ap锚l i ddarparu ymateb. Fodd bynnag, gall yr IBCA ofyn am estyniad. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod ichi.

Bydd yr IBCA yn anfon copi o鈥檜 hymateb atoch chi a鈥檆h cynrychiolydd (os oes gennych un), a bydd arnoch angen ei ddarllen.

Os byddwch yn penderfynu parhau gyda鈥檆h ap锚l, yna byddwn:

  • yn trefnu i鈥檆h ap锚l gael ei wrando
  • cysylltu 芒 chi am sut i ddarparu tystiolaeth bellach i鈥檙 tribiwnlys cyn y gwrandawiad

Os byddwch yn penderfynu peidio 芒 pharhau gyda鈥檆h ap锚l, bydd arnoch angen聽cysylltu 芒 ni聽yn ysgrifenedig i dynnu鈥檆h ap锚l yn 么l. Os na fyddwch yn dweud wrthym eich bod eisiau tynnu eich ap锚l yn 么l, byddwn yn parhau gyda鈥檆h ap锚l.

Y gwrandawiad

Os bydd arnoch angen cyflwyno unrhyw wybodaeth bellach i gefnogi鈥檆h ap锚l cyn y gwrandawiad, rhaid i chi ei anfon atom o fewn 28 diwrnod o dderbyn ymateb yr IBCA. Os oes arnoch angen mwy o amser聽cysylltwch 芒 ni.

Gwrandawiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt

Gallwch fynychu a chymryd rhan yn eich gwrandawiad wyneb yn wyneb, trwy gyswllt fideo neu dros y ff么n.

Os ydych chi am fynychu gwrandawiad yn bersonol, bydd disgwyl i chi fynychu tribiwnlys yn聽y Deyrnas Unedig.聽Byddwn yn ceisio sicrhau bod lleoliad eich gwrandawiad agosaf at:

  • ble rydych chi鈥檔 byw
  • eich man cyrraedd os ydych chi鈥檔 byw y tu allan i鈥檙聽Deyrnas Unedig

Gallwch ddod o hyd i鈥檆h tribiwnlys agosaf yma.

Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad trwy gyswllt fideo, bydd arnoch angen darparu eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn apelio. Yn ystod y gwrandawiad bydd arnoch angen:

  • mynediad at gyfrifiadur neu ddyfais symudol sydd 芒 chysylltiad cryf 芒鈥檙 rhyngrwyd
  • rhywle tawel a phreifat i siarad

Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad dros y ff么n, bydd arnoch angen darparu eich rhif ff么n pan fyddwch yn apelio. Yn ystod y gwrandawiad bydd arnoch angen rhywle tawel a phreifat i siarad.

Byddwn yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau dyddiad eich gwrandawiad. Byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd. Bydd y llythyr yn cynnwys:

  • dyddiad ac amser y gwrandawiad
  • cyfeiriad y ganolfan wrandawiadau tribiwnlys, a gwybodaeth am y lleoliad a sut i fynd yno
  • gwybodaeth am hawlio treuliau

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda lleoliad y gwrandawiad, bydd arnoch angen聽cysylltu 芒 ni.

Yn y gwrandawiad, byddwch yn:

  • siarad gerbron y tribiwnlys
  • cyflwyno鈥檆h achos
  • ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych

Gwrandawiadau na fyddwch yn cymryd rhan ynddynt

Bydd gwrandawiad ar sail y papurau ond yn digwydd os:

  • nad oes unrhyw un wedi gofyn am wrandawiad y gallant fynychu a chymryd rhan ynddo
  • bod yr holl bart茂on yn cytuno iddo
  • bod y tribiwnlys yn meddwl eu bod yn gallu penderfynu ar eich ap锚l heb i chi fynychu a chymryd rhan yn y gwrandawiad

Ni fyddwch yn cael gwybod beth fydd y dyddiad newydd. Ni fyddwch chi na鈥檙 IBCA yn mynychu na chymryd rhan yn y gwrandawiad - bydd y tribiwnlys yn dod i benderfyniad ar ben ei hun. Bydd y tribiwnlys yn ystyried:

  • yr wybodaeth yn eich ap锚l
  • unrhyw wybodaeth yr ydych wedi鈥檌 rhoi
  • ymateb yr IBCA i鈥檆h ap锚l

Byddwch yn derbyn copi o benderfyniad y tribiwnlys drwy鈥檙 post.

Gofyn i ohirio鈥檆h gwrandawiad

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol mae gwrandawiadau yn cael eu gohirio, er enghraifft os ydych yn s芒l neu鈥檔 methu mynychu am bod gennych apwyntiad arall. Gall y barnwr ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o hyn.

Os yw dyddiad eich gwrandawiad 7 diwrnod neu fwy i ffwrdd ac ni allwch fynychu, cysylltwch 芒 ni聽yn ysgrifenedig i ofyn i ohirio鈥檆h gwrandawiad. Bydd eich cais yn cael ei anfon at farnwr i鈥檞 adolygu.

Os yw dyddiad eich gwrandawiad yn llai na 7 diwrnod i ffwrdd ac ni allwch fynychu, neu os na allwch ysgrifennu atom, mae arnoch angen ffonio鈥檙 tribiwnlys. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y tribiwnlys yma.

Gall y tribiwnlys wrando eich ap锚l heb i chi fod yno, felly gall y barnwr benderfynu peidio 芒 gohirio eich gwrandawiad.

Cael cymorth

Gallwch gael cymorth a chyngor rhad ac am ddim gan:

Os oes arnoch angen cyngor cyfreithiol, gallwch ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.

Os oes arnoch angen cymorth gyda鈥檆h ap锚l, gallwch gysylltu 芒 llinell gymorth IBCA GLlTEF.

Gall llinell gymorth IBCA GLlTEF ond eich helpu gyda chwblhau eich ap锚l, ni allant roi cyngor cyfreithiol.

Cymru, Lloegr neu dramor

Rhif ff么n: 0300 303 5170
Siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5170
贰-产辞蝉迟:听ContactIBCAppeals@justice.gov.uk

Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Rhif ff么n: 0300 790 6234
贰-产辞蝉迟:听SSCSA-Glasgow@justice.gov.uk

Gwybodaeth am gostau galwadau

Cysylltu 芒 ni

Gallwch gysylltu 芒 ni鈥檔 ysgrifenedig ynghylch eich ap锚l neu鈥檆h gwrandawiad.

Cymru, Lloegr neu dramor

HMCTS Infected Blood Compensation Appeals
PO Box 13618
Harlow
CM20 9WX

Yr Alban a Gogledd Iwerddon

HMCTS SSCS Appeals Centre
PO Box 13150
HARLOW
CM20 9TT

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Mai 2025 show all updates
  1. Included Northern Ireland as a country that provides in person hearings.

  2. Updated the Welsh guidance.

  3. Added guidance on how to appeal by post, and what happens after you appeal.

  4. New link to an online appeal service added

  5. Added translation

Argraffu'r dudalen hon