Canllawiau

Newidiadau yn eich lwfans blynyddol yn dilyn y Cynllun Unioni Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus

Gwiriwch sut y galla鈥檆h lwfans blynyddol fod wedi cael ei effeithio gan y cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (a elwir hefyd yn McCloud).

Os yw鈥檙 Cynllun Unioni Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus wedi effeithio arnoch a bod eich budd-daliadau wedi newid yn ystod y cyfnod pontio (1 Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2022), bydd swm eich cynilion pensiwn (swm talu i mewn i bensiwn) wedi newid. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn un o鈥檙 canlynol:

Gallai鈥檙 newidiadau hyn fod wedi effeithio ar eich t芒l treth o ran lwfans blynyddol os yw鈥檙 ddau beth canlynol yn wir:

  • rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 roeddech yn agored i鈥檙 t芒l treth o ran lwfans blynyddol, neu鈥檔 agos at ddod yn agored i鈥檙 t芒l treth o ran lwfans blynyddol

  • o ganlyniad i鈥檙 cynllun unioni, mae鈥檆h swm talu i mewn i bensiwn wedi newid

Gallwch wneud y canlynol:

Sut mae lwfansau blynyddol yn cael eu cyfrifo yn dilyn y cynllun unioni

Aelodau o gynllun pensiwn Pennod 1 鈥 os oeddech chi鈥檔 aelod o鈥檙 cynllun newydd cyn Ebrill 2022

Ar 1 Hydref 2023, os nad ydych wedi dechrau cymryd eich budd-daliadau, bydd unrhyw fudd-daliadau a gronnwyd gennych yn ystod y cyfnod pontio yn cael eu dosbarthu fel budd-daliadau cynllun hanesyddol. Bydd eich swm talu i mewn i bensiwn ar gyfer y cyfnod pontio yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar y ffaith eich bod wedi bod yn aelod o鈥檙 cynllun hanesyddol yn ystod y cyfnod pontio. Mae hyn yn golygu y bydd eich swm talu i mewn i bensiwn yn newid ar gyfer unrhyw flwyddyn yr oeddech chi鈥檔 aelod o鈥檙 cynllun newydd. Gall hyn olygu y gall eich t芒l treth o ran lwfans blynyddol newid.

Pan fyddwch yn ymddeol, neu鈥檔 cael mynediad at eich budd-daliadau, bydd yn rhaid i chi ddewis a ydych chi eisiau鈥檙 cynllun newydd neu鈥檙 cynllun hanesyddol yn ystod y cyfnod pontio. Ni fydd eich dewis yn newid eich symiau talu i mewn i bensiwn ar gyfer y cyfnod pontio. Bydd eich swm talu i mewn i bensiwn, ar gyfer y flwyddyn dreth y byddwch yn dechrau cymryd eich budd-daliadau, dim ond yn newid os byddwch yn dewis budd-daliadau鈥檙 cynllun newydd a bod y swm talu i mewn i bensiwn yn is na鈥檙 swm talu i mewn i bensiwn ar gyfer budd-daliadau鈥檙 cynllun hanesyddol.

Ar 1 Hydref 2023, os ydych chi wedi dechrau cymryd rhai o鈥檆h budd-daliadau, neu os ydych chi鈥檔 gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw ar neu cyn y dyddiad hwnnw, byddwch yn cael dewis ar unwaith ynghylch p鈥檜n a ydych yn cael budd-daliadau hanesyddol neu fudd-daliadau鈥檙 cynllun newydd ar gyfer y cyfnod pontio.

Bydd eich swm talu i mewn i bensiwn, ar gyfer y blynyddoedd treth yr oeddech yn aelod o鈥檙 cynllun newydd, yn newid os byddwch yn dewis budd-daliadau hanesyddol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd unrhyw gyfraniadau gwirfoddol a wneir i鈥檙 cynllun newydd yn ystod y cyfnod pontio yn cael eu hychwanegu at y cynllun hanesyddol yn awtomatig. Mae hyn yn golygu na fydd swm talu i mewn i bensiwn y cyfraniadau hyn yn newid, a byddant yn aros o fewn y cynllun newydd.

Bydd gweinyddwr eich cynllun yn cyfrifo unrhyw newidiadau. Os gwnaethoch gael datganiad cynilion pensiwn o鈥檙 blaen, bydd gweinyddwr eich cynllun yn anfon datganiad cynilion pensiwn diwygiedig atoch.

Aelodau o gynllun pensiwn Pennod 1 鈥 os na wnaethoch ymuno 芒鈥檙 cynllun newydd cyn Ebrill 2022

Ar 1 Hydref 2023, os nad ydych wedi dechrau cymryd eich budd-daliadau, ni fydd eich symiau talu i mewn i bensiwn ar gyfer y cyfnod pontio yn newid. Pan fyddwch yn ymddeol, neu鈥檔 cael mynediad at eich budd-daliadau, bydd yn rhaid i chi ddewis a ydych chi eisiau鈥檙 cynllun newydd neu鈥檙 cynllun hanesyddol yn ystod y cyfnod pontio. Fel arfer, ni fydd y dewis hwn yn newid eich swm talu i mewn i bensiwn.

Ar 1 Hydref 2023, os ydych chi wedi dechrau cymryd rhai o鈥檆h budd-daliadau, neu os ydych chi鈥檔 gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw, byddwch yn cael dewis ar unwaith p鈥檜n a ydych yn cael budd-daliadau hanesyddol neu fudd-daliadau鈥檙 cynllun newydd ar gyfer y cyfnod pontio. Bydd eich swm talu i mewn i bensiwn dim ond yn newid os byddwch yn dewis budd-daliadau鈥檙 cynllun newydd a bod y swm talu i mewn i bensiwn yn is na鈥檙 swm talu i mewn i bensiwn ar gyfer budd-daliadau鈥檙 cynllun hanesyddol.

Bydd gweinyddwr eich cynllun yn cyfrifo unrhyw newidiadau. Os gwnaethoch gael datganiad cynilion pensiwn o鈥檙 blaen, bydd gweinyddwr eich cynllun yn anfon datganiad cynilion pensiwn diwygiedig atoch.

Aelodau o gynllun pensiwn Pennod 2

Bydd y budd-dal a ddewiswyd gennych yn newid eich swm talu i mewn i bensiwn os oeddech yn rhan o un o鈥檙 canlynol:

  • cynllun hanesyddol a鈥檙 cynllun 2015

  • cynllun 2015 ac yn dewis budd-daliadau鈥檙 cynllun hanesyddol

Os ydych chi鈥檔 dewis cynllun hanesyddol

Gan nad yw鈥檙 cynllun hanesyddol wedi鈥檌 gofrestru, nid oes unrhyw swm talu i mewn i bensiwn ar gyfer budd-daliadau eich cynllun sylfaenol. Fodd bynnag, os gwnaethoch dalu cyfraniadau gwirfoddol i鈥檙 cynllun 2015, mae鈥檙 budd-daliadau ar gyfer y cyfraniadau hynny yn parhau i aros o fewn cynllun 2015. Bydd swm talu i mewn i bensiwn gan y budd-daliadau o gyfraniadau gwirfoddol, a bydd angen profi鈥檙 swm hwn yn erbyn eich lwfans blynyddol. Os gwnaethoch gael datganiad cynilion pensiwn o鈥檙 blaen, bydd gweinyddwr eich cynllun yn anfon datganiad cynilion pensiwn diwygiedig atoch.

Os gwnaethoch dalu t芒l treth o ran lwfans blynyddol, efallai y bydd iawndal neu ad-daliad treth yn ddyledus i chi. Gallwch gyflwyno cais am hyn drwy鈥檙 canllaw Cyfrifo鈥檆h addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

Os ydych chi鈥檔 dewis cynllun 2015

Os ydych chi鈥檔 dewis budd-daliadau cynllun 2015, ac roeddech mewn cynllun hanesyddol hefyd, bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn cyfrifo eich symiau talu i mewn i bensiwn ar gyfer y blynyddoedd yr effeithir arnynt, ac efallai y bydd yn anfon datganiad cynilion pensiwn atoch.

Aelodau o gynllun pensiwn Pennod 3

Fel arfer, ni fydd eich symiau talu i mewn i bensiwn ar gyfer y cyfnod pontio yn newid yn 么l-weithredol. Os ydych chi鈥檔 aelod sy鈥檔 bensiynwr, a bod eich budd-daliadau wedi cynyddu oherwydd tanategu鈥檙 cyflog terfynol, bydd eich swm talu i mewn i bensiwn dim ond yn gostwng yn ystod y flwyddyn y digwyddodd y tanategu. Os yw鈥檙 newid yn effeithio arnoch chi, bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn cysylltu 芒 chi.

Os oedd gennych, neu os oeddech yn agos at gael, y lwfans blynyddol wedi鈥檌 feinhau

Os cawsoch, neu os oeddech yn agos at gael, lwfans blynyddol wedi鈥檌 feinhau yn ystod y cyfnod pontio, efallai y bydd eich trothwy a鈥檆h incwm wedi鈥檌 addasu wedi newid o ganlyniad i ddwyn yn 么l. Os nad ydych yn gwybod eich trothwy a鈥檆h incwm wedi鈥檌 addasu, gallwch eu cyfrifo gan ddefnyddio鈥檙 canllaw Cyfrifo鈥檆h addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

Os ydych chi鈥檔 aelod o gynllun pensiwn Pennod 1, bydd yn rhaid i chi ail-gyfrifo eich trothwy a鈥檆h incwm wedi鈥檌 addasu (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y blynyddoedd yr oeddech chi mewn cynllun newydd. Bydd angen i chi gyfrifo鈥檙 symiau hyn yn seiliedig ar y cyfraniadau y dylech fod wedi鈥檜 talu i鈥檙 cynllun hanesyddol yn hytrach na鈥檙 cyfraniadau a dalwyd gennych, mewn gwirionedd, i鈥檙 cynllun newydd.

Os ydych chi鈥檔 aelod o gynllun pensiwn Pennod 2 sy鈥檔 dewis cynllun 2015, bydd yn rhaid i chi ail-gyfrifo eich trothwy a鈥檆h incwm wedi鈥檌 addasu (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y blynyddoedd yr oeddech chi mewn cynllun hanesyddol.

Bydd angen i chi gyfrifo鈥檙 symiau hyn yn seiliedig ar y cyfraniadau y dylech fod wedi鈥檜 talu i鈥檙 cynllun 2015 yn hytrach na鈥檙 cyfraniadau a dalwyd gennych, mewn gwirionedd, i鈥檙 cynllun hanesyddol.

Bydd gweinyddwr eich cynllun yn rhoi鈥檙 wybodaeth hon i chi os yw swm y cyfraniadau sy鈥檔 daladwy yn wahanol i鈥檙 swm a dalwyd gennych.

Gwirio a oes gennych daliadau treth newydd neu daliadau treth ychwanegol rhwng blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2021 i 2022

Gallwch wirio a oes gennych daliadau treth newydd o ran lwfans blynyddol neu daliadau ychwanegol o ran lwfans blynyddol rhwng blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2021 i 2022 drwy ddefnyddio鈥檙 canllaw Cyfrifo鈥檆h addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

Mae鈥檔 rhaid cyflwyno pob newid i daliadau treth o ganlyniad i鈥檙 cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus drwy鈥檙 canllaw Cyfrifo鈥檆h addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus, ac nid drwy鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os oes gennych daliadau ychwanegol, gallwch wneud y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:

  • talu鈥檙 t芒l eich hun

  • dewis bod eich cynllun yn talu

Os byddwch yn dewis talu鈥檙 t芒l eich hun, byddwn yn anfon asesiad a fydd yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch dalu.

Os ydych am i鈥檆h cynllun dalu, bydd gennych yr opsiwn i ddewis eich cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus i dalu鈥檙 t芒l gan ddefnyddio鈥檙 canllaw Cyfrifo鈥檆h addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

Ni ddylech ddewis eich cynllun yn hwyrach na鈥檙 dyddiadau canlynol:

  • 6 Gorffennaf 2025 os oeddech chi鈥檔 aelod gweithredol neu鈥檔 aelod gohiriedig ar 1 Hydref 2023

  • 6 Gorffennaf 2027 os oeddech chi鈥檔 bensiynwr ar 1 Hydref 2023

Os na fyddwch yn dewis eich cynllun erbyn y dyddiad cau, gallwch ofyn i鈥檆h cynllun dalu o hyd, ond chi yn unig fydd yn gyfrifol am y taliad hwn. Mae hyn yn golygu y gallech fod yn agored i unrhyw daliadau neu gosbau ychwanegol.

Os hoffech fod unrhyw gynllun pensiwn arall yn talu鈥檙 t芒l, bydd angen i chi wneud dewis ar gyfer y cynllun o鈥檆h dewis.

Os ydych chi鈥檔 gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw, bydd y canlynol yn wir:

  • ni fyddwch yn gallu dewis y cynllun i dalu taliadau ychwanegol

  • byddwch yn agored i unrhyw daliadau ychwanegol

Rhoi gwybod am daliadau o ran lwfans blynyddol ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023

O ganlyniad i鈥檙 cynllun unioni, mae gan gynlluniau pensiwn ragor o amser i anfon datganiadau cynilion pensiwn. Mae hyn yn golygu y byddwch yn colli鈥檙 dyddiad cau Hunanasesiad ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023.

Dylech roi gwybod am unrhyw daliadau o ran lwfans blynyddol yr oeddech yn agored iddynt ym mlwyddyn dreth 2022 i 2023 drwy鈥檙 canllaw Cyfrifo鈥檆h addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus, ac nid drwy鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Wrth nodi eich ffigurau ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, gallwch roi 鈥榮ero鈥 mewn unrhyw flwch sy鈥檔 gofyn pa swm a dalwyd yn wreiddiol.

Os byddwch yn dewis talu鈥檙 t芒l eich hun, byddwn yn anfon asesiad a fydd yn nodi sut y gallwch dalu.

Os ydych am i鈥檆h cynllun dalu, bydd gennych yr opsiwn i ddewis eich cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus i dalu鈥檙 t芒l gan ddefnyddio鈥檙 canllaw Cyfrifo鈥檆h addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

Ni ddylech ddewis eich cynllun yn hwyrach na鈥檙 dyddiadau canlynol:

  • 6 Gorffennaf 2025 os oeddech chi鈥檔 aelod gweithredol neu鈥檔 aelod gohiriedig ar 1 Hydref 2023

  • 6 Gorffennaf 2027 os oeddech chi鈥檔 bensiynwr ar 1 Hydref 2023

Os na fyddwch yn dewis eich cynllun erbyn y dyddiad cau, gallwch ofyn i鈥檆h cynllun dalu o hyd, ond chi yn unig fydd yn gyfrifol am y taliad hwn. Mae hyn yn golygu y gallech fod yn agored i unrhyw daliadau neu gosbau ychwanegol.

Os hoffech fod unrhyw gynllun pensiwn arall yn talu鈥檙 t芒l, bydd angen i chi wneud dewis ar gyfer y cynllun o鈥檆h dewis.

Os ydych chi鈥檔 gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw, bydd y canlynol yn wir:

  • ni fyddwch yn gallu dewis y cynllun i dalu taliadau ychwanegol

  • byddwch yn agored i unrhyw daliadau ychwanegol

Cael ad-daliad

Bydd ad-daliad yn ddyledus i chi neu weinyddwr eich cynllun os yw swm t芒l treth a dalwyd o ran lwfans blynyddol blaenorol wedi gostwng o ganlyniad i鈥檙 cynllun unioni. Gallwch gyflwyno cais i gael ad-daliad drwy鈥檙 canllaw Cyfrifo鈥檆h addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus. Bydd sut mae鈥檙 ad-daliad yn cael ei wneud yn dibynnu ar bwy wnaeth dalu鈥檙 t芒l gwreiddiol.

Os gwnaeth swm y t芒l ostwng rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2023

Os gwnaethoch dalu鈥檙 t芒l gwreiddiol, bydd CThEF yn eich ad-dalu鈥檔 uniongyrchol.

Os gwnaeth eich cynllun dalu鈥檙 t芒l gwreiddiol, bydd CThEF yn anfon y manylion at eich cynllun pensiwn er mwyn i鈥檙 cynllun gynyddu budd-daliadau eich pensiwn i gwmpasu swm yr ad-daliad sy鈥檔 ddyledus o ganlyniad i daliadau treth a ordalwyd ar eich rhan.

Os gwnaeth swm y t芒l ostwng rhwng 6 Ebrill 2015 a 5 Ebrill 2019

Bydd CThEF yn anfon y manylion i鈥檆h cynllun pensiwn.

Ar 么l i鈥檆h cynllun pensiwn adolygu鈥檙 manylion a chytuno ar y symiau hyn, efallai y bydd y cynllun pensiwn yn gwneud y canlynol:

  • talu iawndal i chi am y taliadau treth a ordalwyd gennych

  • cynyddu budd-daliadau eich pensiwn i gwmpasu swm y taliadau treth a ordalwyd ar eich rhan

Os gwnaethoch ofyn i gynllun pensiwn sector preifat dalu鈥檙 t芒l gwreiddiol, bydd angen i chi gysylltu 芒鈥檙 cynllun i drafod hyn.

Terfynau amser estynedig a dyddiadau cau

Mae鈥檙 terfynau amser wedi鈥檜 hymestyn lle mae taliadau treth wedi codi o ganlyniad i鈥檙 cynllun unioni, rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2023.

Lle mae newidiadau i bwy sy鈥檔 agored i鈥檙 taliadau treth hyn, bydd y cynllun unioni yn gwneud newidiadau 么l-weithredol. Byddwch yn gallu defnyddio鈥檙 canllaw Cyfrifo鈥檆h addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus i wneud y canlynol:

  • cyfrifo newidiadau i鈥檆h taliadau o ran lwfans blynyddol

  • rhoi gwybod am newidiadau i鈥檆h taliadau o ran lwfans blynyddol

Os yw鈥檙 cynllun unioni yn effeithio arnoch chi, mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol, erbyn 31 Ionawr 2025 os ydych chi鈥檔 aelod o un o鈥檙 cynlluniau canlynol:

  • Cynllun pensiwn Pennod 1 nad oedd, cyn 1 Hydref 2023, wedi dechrau cymryd pensiwn, neu os ydych chi鈥檔 gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw nad oedd wedi marw cyn y dyddiad hwn

  • Cynllun pensiwn Pennod 2

  • Cynllun pensiwn Pennod 3

Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol, erbyn 31 Ionawr 2027 os ydych chi鈥檔 cael eich effeithio gan y cynllun unioni a鈥檆h bod yn bensiynwr neu鈥檔 gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer person a fu farw cyn 1 Hydref 2023.

Os ydych chi鈥檔 fwy nag un math o aelod, megis rydych yn aelod mewn un cynllun ac yn bensiynwr mewn cynllun arall, mae gennych tan y diweddaraf o鈥檙 dyddiadau i roi gwybod i CThEF am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol.

Treth a ordalwyd yn wreiddiol gan aelod y cynllun

Os yw鈥檙 cynllun unioni yn effeithio arnoch chi, mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol, erbyn 31 Ionawr 2029 os ydych chi鈥檔 aelod o un o鈥檙 cynlluniau canlynol:

  • Cynllun pensiwn Pennod 1 nad oedd, cyn 1 Hydref 2023, wedi dechrau cymryd pensiwn, neu os ydych chi鈥檔 gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer aelod sydd wedi marw nad oedd wedi marw cyn y dyddiad hwn

  • Cynllun pensiwn Pennod 2

  • Cynllun pensiwn Pennod 3

Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am unrhyw daliadau, neu newidiadau i daliadau blaenorol, erbyn 31 Ionawr 2031 os ydych chi鈥檔 cael eich effeithio gan y cynllun unioni a鈥檆h bod yn bensiynwr neu鈥檔 gynrychiolydd personol cyfreithlon ar gyfer person a fu farw cyn 1 Hydref 2023.

Llog ar ad-daliad

Os oes gennych ostyngiad mewn lwfans blynyddol rhwng 6 Ebrill 2019 a 5 Ebrill 2023, a hynny o ganlyniad i鈥檙 cynllun unioni, bydd CThEF yn cyfrifo llog ar ad-daliadau yn seiliedig ar y flwyddyn dreth y mae鈥檙 taliadau鈥檔 berthnasol iddi.

Os oes gennych ostyngiad am d芒l rydych chi wedi鈥檌 dalu o鈥檙 blaen mewn un neu fwy o flynyddoedd treth, ond cynnydd mewn un neu fwy o flynyddoedd treth eraill, lle rydych wedi rhoi gwybod i ni y byddwch yn talu鈥檙 un math o d芒l, byddwn yn cyfrifo swm y llog ar ad-daliad cyn gwrthbwyso鈥檙 gwahaniaethau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mai 2025 show all updates
  1. Added translation

  2. Information about checking if the remedy affects you has been removed. This is now integrated into "Calculate your public service pension adjustment".

  3. Information has been updated about how to elect your scheme to pay additional tax charges, what to do if you want a different scheme to pay the additional tax charges and what happens after your submission for a refund has been received.

  4. The section headed 鈥楪etting a refund鈥 has been updated to tell members of action taken where a scheme has paid the original charge. Guidance has been updated with information about legal personal representatives of deceased members.

  5. The section 'Check if you have new or additional tax charges between the 2019 to 2020 and 2021 to 2022 tax years' has been updated to show the correct dates.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon