Canllawiau

Gwiriwch pryd y gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW

Gwirio pryd y gallwch ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig i ddatgan ac adennill TAW mewnforio ar yr un Ffurflen TAW.

Mae rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW yn golygu y byddwch yn datgan ac yn adennill TAW mewnforio ar yr un Ffurflen TAW, yn hytrach na鈥檌 thalu ymlaen llaw wrth fewnforio鈥檙 nwyddau a鈥檌 hadennill yn hwyrach. Gelwir hefyd yn 鈥榗yfrifyddu Taw ohiriedig鈥.

Bydd y rheolau arferol ynghylch pa TAW y gallwch聽ei hadennill fel treth fewnbwn聽yn berthnasol.

Pwy all ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig

Mae鈥檔 rhaid bod eich busnes wedi鈥檌 gofrestru ar gyfer TAW yn y DU er mwyn defnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig.

Gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW ar gyfer nwyddau rydych yn eu mewnforio i鈥檙 lleoedd canlynol:

  • Prydain Fawr (Cymru, yr Alban a Lloegr) o unrhyw le y tu allan i鈥檙 DU
  • Gogledd Iwerddon o鈥檙 tu allan i鈥檙 DU a鈥檙 UE

Nid oes angen unrhyw ganiat芒d i roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW.

Personau sy鈥檔 agored i TAW, ond sydd heb eu sefydlu yn y DU

Os ydych chi鈥檔 berson sy鈥檔 agored i TAW ond sydd heb ei sefydlu yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) bydd angen i chi benodi rhywun i ddelio 芒 thollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg). Yn ogystal, bydd angen iddo gwblhau eich datganiad mewnforio.

Os ydych am roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW, mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i鈥檙 person sy鈥檔 delio 芒 thollau ar eich rhan fod yn rhaid iddo wneud y ddau beth hyn:

  • dewis yr opsiwn hwn ar eich datganiad mewnforio
  • nodi eich manylion chi fel y derbynnydd

Os yw rhywun yn mewnforio nwyddau ar eich rhan

Gallwch gael person neu fusnes i fewnforio nwyddau ar eich rhan. Er enghraifft:

  • trefnydd anfon nwyddau
  • asiant tollau
  • brocer
  • cwmni cludo brys

Pan fydd rhywun yn mewnforio nwyddau ar eich rhan, bydd angen i chi roi gwybod iddo, yn ysgrifenedig, a ydych am ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig ar gyfer y mewnforion hynny.聽Mae鈥檔 rhaid iddo gael y cadarnhad ysgrifenedig hwn cyn iddo allu parhau gyda鈥檙 datganiad mewnforio.

Os oes gennych rhywun eisoes sy鈥檔 mewnforio nwyddau ar eich rhan, dylech gysylltu ag ef er mwyn rhoi gwybod iddo a ydych am ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig ar gyfer mewnforion. Dylech gadw cofnod ysgrifenedig o鈥檆h cyfarwyddiada.

Pan fydd cyflenwr yn trefnu i rywun fewnforio nwyddau ar eich rhan

Gallwch hefyd brynu nwyddau gan gyflenwr sy鈥檔 trefnu i berson neu fusnes fewnforio a dosbarthu鈥檙 nwyddau ar eich rhan.

Mae鈥檔 rhaid i chi gytuno 芒鈥檙 cyflenwr ynghylch sut yr ydych am roi cyfrif am TAW mewnforio. Y rheswm am hyn yw fel gall y cyflenwr roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i鈥檙 person neu鈥檙 busnes sy鈥檔 mewnforio鈥檙 nwyddau er mwyn nodi鈥檙 cofnod cywir ar y datganiad mewnforio.

Mae鈥檔 rhaid iddo gael y cyfarwyddiadau ysgrifenedig hyn cyn iddo allu gwneud y datganiad mewnforio. Cadwch gofnod ysgrifenedig o鈥檙 hyn y cytunwyd arno gyda鈥檙 cyflenwr.

Bydd hefyd angen i chi roi鈥檆h rhif EORI.

Bydd y mewnforyn yn ymddangos ar eich datganiad misol (yn agor tudalen Saesneg) yn y ffordd arferol.

Gwiriwch eich tystysgrif TAW mewnforio (C79) a鈥檆h datganiadau cyfrifyddu TAW ohiriedig gan ddefnyddio鈥檙 Gwasanaeth Datganiadau Tollau, er mwyn sicrhau bod eich holl fewnforion wedi cael eu cynnwys. Dylai busnesau wirio eu dangosfwrdd ariannol ar gyfer gweld eu datganiadau.

Pryd y gallwch ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig

Gallwch wneud hyn os yw鈥檙 ddau amod canlynol yn berthnasol:

  • mae鈥檙 nwyddau rydych yn eu mewnforio鈥檔 cael eu defnyddio yn eich busnes ac mae gennych yr hawl i gael gwared ohonynt (fel y perchennog fel arfer)
  • rydych yn cynnwys eich rhif cofrestru TAW ar eich datganiad tollau

Os ydych yn mewnforio nwyddau at ddibenion busnes a di-fusnes

Gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW os yw鈥檙 canlynol yn wir:

Gallwch ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig pan fyddwch yn mewnforio nwyddau yr ydych yn gwybod bod eu defnydd at ddibenion di-fusnes yn unig. Er mwyn gwneud hyn, mae鈥檔 rhaid i chi fod yn gorff sy鈥檔 gymwys i adhawlio TAW mewnforio drwy gynllun ad-daliad TAW (yn agor tudalen Saesneg). Pan fyddwch yn cwblhau eich datganiad mewnforio, nodwch eich bod yn gwneud taliad ar unwaith, neu yn defnyddio cyfrif gohirio tollau.

Nwyddau sydd mewn gweithdrefn arbennig

Os ydych yn datgan nwyddau ar聽weithdrefn arbennig y tollau (yn agor tudalen Saesneg), gallwch nodi eich bod yn rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW pan fyddwch yn cyflwyno鈥檙 datganiad sy鈥檔 eu rhyddhau i gylchrediad rhydd. Bydd hyn yn berthnasol ar gyfer y gweithdrefnau arbennig canlynol:

  • warysu tollau
  • prosesu mewnol
  • mynediad dros dro
  • defnydd terfynol
  • prosesu allanol
  • gohirio tollau

Dysgwch am yr hyn i鈥檞 wneud o ran masnachu a symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon ac oddi yno (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon 芒鈥檙 UE.

Nwyddau ecs茅is

Gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW pan fyddwch yn rhyddhau nwyddau ecs茅is i鈥檞 defnyddio yn y DU (yn agor tudalen Saesneg). Gelwir hyn hefyd yn 鈥榬hyddhau i鈥檞 defnyddio gartref鈥.

Mae hyn yn cynnwys pan fydd nwyddau鈥檔 cael eu rhyddhau o warws ecs茅is ar 么l bod o dan ohiriad tollau ers iddynt gael eu mewnforio.

Mewnforion sy鈥檔 cael eu dosbarthu gan Gr诺p y Post Brenhinol

Os yw eich busnes yn cael nwyddau drwy鈥檙 post mewn llwythi sydd werth mwy na 拢135 gan ddefnyddio Gr诺p y Post Brenhinol (gan gynnwys Parcelforce, pan nad ydynt yn gweithredu fel cwmni cludo brys) ni allwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW.

Mae Gr诺p y Post Brenhinol yn cynnig cyfrifyddu TAW ohiriedig ar gyfer gwasanaethau masnachol, os yw鈥檙 mewnforiwr yn gwneud cais amdano.

Os nad ydych yn gwybod beth yw gwerth tollau llawn y nwyddau

Byddwch yn dal i allu rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW, hyd yn oed os na allwch gadarnhau gwerth tollau llawn y nwyddau rydych yn eu mewnforio.

Er mwyn gwneud hyn, dylech wneud y canlynol:

  1. Defnyddio gwarant (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn talu am y swm anhysbys o TAW.

  2. Nodwch y byddwch yn rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW ar gyfer y swm yr ydych yn gwybod amdano.

Sut i ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig ar eich datganiad mewnforio

Pan fyddwch yn cwblhau eich datganiad mewnforio, gallwch ddewis rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW. Ni allwch newid y ffordd yr ydych am roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich datganiad mewnforio unwaith y byddwch wedi ei gyflwyno.

Mae angen i chi nodi eich rhif cofrestru TAW ar lefel y pennyn yn Elfen Data 3/40 (ni ddylech ddefnyddio dull talu G yn Elfen Data 4/8).

Bydd TAW yn cael ei chofnodi yn erbyn eich rhif EORI. Bydd hyn ar lefel datganiad yn unig.

Os ydych yn gweithredu ar ran rhywun arall

Os ydych wedi鈥檆h awdurdodi i weithredu ar ran eich cleient, mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檌 rif EORI neu ei rif cofrestru TAW ar y datganiad mewnforio.

Os ydych yn mewnforio nwyddau mewn llwythi sydd werth 拢135 neu lai

Mae rheolau gwahanol ar waith wrth ymdrin 芒 nwyddau mewn llwythi sydd werth 拢135 neu lai.

Dysgwch am yr ymdriniaeth o TAW ar gyfer nwyddau sydd wedi鈥檜 mewnforio ac sydd wedi鈥檜 gwerthu:

Nid yw鈥檙 rheolau hyn yn berthnasol ar gyfer mewnforio nwyddau ecs茅is. Gallwch ddewis roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW ar gyfer mewnforio llwythi nwyddau ecs茅is o unrhyw werth.

Os ydych yn mewnforio nwyddau masnachol (nwyddau mewn bagiau) i mewn i Brydain Fawr neu i Ogledd Iwerddon

Os ydych yn gymwys ar gyfer gwneud datganiad syml ar-lein, a鈥檆h bod chi鈥檔 dewis gwneud hynny yn lle, ni fyddwch yn gallu rhoi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW.

Dysgwch ragor am y canlynol:

Yr hyn i鈥檞 wneud nesaf

Os gwnaethoch ddefnyddio cyfrifyddu TAW ohiriedig ar eich datganiad mewnforio llawn, bydd angen i chi roi cyfrif am TAW mewnforio pan fyddwch yn llenwi鈥檆h Ffurflen TAW.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Mehefin 2025 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. The section 'When you must account for import VAT on your VAT Return' has been removed, as this procedure is no longer mandatory. Information about using another person or business to import goods for you has been updated, as they must now have written permission to use postponed VAT accounting.

  3. Information about Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) has been removed. You can no longer use CHIEF for import declarations unless you have permission from HMRC.

  4. Existing arrangements for customs checks on goods from Ireland will continue after 1 January 2022. Changes made to "When you must account for import VAT on your VAT return" and "How to complete your customs declaration account for import VAT on your VAT Return".

  5. Clarification that postponed VAT accounting will be available permanently. A checklist has been added to help navigation, and the details you may need to complete your customs declaration using CHIEF have been updated.

  6. The 'If you import goods for business and non-business purposes' section has been updated to say you can account for import VAT on your VAT return if you import goods that will be used solely for a non-business purpose, and you are a body that is eligible to reclaim import VAT through a VAT refund scheme . The 'How to complete your customs declaration to account for import VAT on your VAT Return' section has also been updated with information about selecting how to account for import VAT on your customs declaration.

  7. The end date when you must account for import VAT on your VAT Return if you delay your customs declaration or use a simplified customs declaration has been changed from 30 June 2021 to 31 December 2021.

  8. There have been multiple changes to this guidance to help readers understand what they need to do and how to do it.

  9. Information has been added about accounting for VAT if you do not know the full customs value of goods and using someone to import goods on your behalf.

  10. Information on Non-established taxable persons and guidance on how to complete your declaration if you are accounting for import VAT on your VAT return has been added.

  11. Added Welsh translation.

  12. First published.

Argraffu'r dudalen hon