Gwirio pa dreuliau sy鈥檔 drethadwy os yw鈥檆h cyflogai yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws (COVID-19)
Cael gwybod pa offer, gwasanaethau neu gyflenwadau sy鈥檔 drethadwy os yw鈥檆h cyflogeion yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws (COVID-19).
Ar bwy mae hyn yn effeithio
Gallai hyn effeithio arnoch os yw unrhyw rai o鈥檆h cyflogeion yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws (COVID-19), a hynny o ganlyniad i鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
- mae鈥檆h gweithle wedi cau
- maent yn dilyn cyngor i hunanynysu
Y math o offer, gwasanaeth neu gyflenwad
Ffonau symudol a chardiau SIM (heb gyfyngiad ar ddefnydd preifat)
Os ydych yn darparu ff么n symudol a cherdyn SIM heb gyfyngiad ar ddefnydd preifat, a hynny wedi鈥檌 gyfyngu i un ff么n yr un i bob cyflogai, nid yw hyn yn drethadwy.
Rhyngrwyd band eang
Os yw鈥檆h cyflogai eisoes yn talu am ryngrwyd band eang, nid oes modd hawlio unrhyw dreuliau ychwanegol.
Os oes angen cysylltiad rhyngrwyd band eang er mwyn gweithio gartref ac nad oedd cysylltiad eisoes ar gael, gallwch ad-dalu ffi鈥檙 rhyngrwyd band eang ac ni fydd hyn yn drethadwy.
Yn yr achos hwn, at ddiben busnes y mae鈥檙 rhyngrwyd band eang yn cael ei darparu, ac felly mae鈥檔 rhaid cyfyngu ar ddefnydd preifat ohoni.
Gliniaduron, llechi, cyfrifiaduron, a chyflenwadau swyddfa
Os mai at ddiben busnes y defnyddir y rhain yn bennaf ac nad oes defnydd preifat sylweddol ohonynt, nid yw鈥檙 rhain yn drethadwy.
Ad-dalu treuliau ar gyfer offer swyddfa y mae鈥檆h cyflogai wedi鈥檜 prynu
Os oes angen i鈥檆h cyflogai brynu offer swyddfa i鈥檞 alluogi i weithio gartref, bydd yn rhaid iddo drafod hyn 芒 chi ymlaen llaw.
Os byddwch yn ad-dalu costau gwirioneddol y pryniant i鈥檆h cyflogai, ni fydd hyn yn drethadwy ar yr amod nad oes defnydd preifat sylweddol.
Os na fyddwch yn ad-dalu鈥檆h cyflogai, bydd yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer y pryniannau hyn ar ei Ffurflen Dreth neu P87, cyn belled 芒 bod y swm a hawlir yn cael ei ysgwyddo鈥檔 gyfan gwbl, yn unig ac o reidrwydd er mwyn cyflawni dyletswyddau ei gyflogaeth. Bydd yr achlysuron pan fyddai cyflogai鈥檔 gymwys i hawlio rhyddhad treth yn brin, gan fod rhaid bodloni amodau llym. Yn ogystal, bydd cymhwystra cyflogai i hawlio rhyddhad treth yn dibynnu ar y ffeithiau ar y pryd.
Bydd angen i鈥檆h cyflogeion gadw cofnodion o鈥檜 pryniannau a hawlio鈥檙 union swm. I gael rhagor o wybodaeth am y profion llym y mae鈥檔 rhaid eu pasio er mwyn bod yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth, gweler yr arweiniad ar Incwm o Gyflogaeth.
Treuliau ychwanegol megis trydan, gwresogi neu ryngrwyd band eang
Nid yw talu nac ad-dalu hyd at 拢4 yr wythnos i鈥檆h cyflogeion (拢6 yr wythnos o 6 Ebrill 2020 ymlaen) yn drethadwy, ar gyfer treuliau ychwanegol yr aelwyd sy鈥檔 codi oherwydd bod eich cyflogai鈥檔 gweithio gartref.
Os yw鈥檙 hawliad yn uwch na鈥檙 swm hwn, bydd yn rhaid i鈥檆h cyflogai wneud y canlynol:
- gwirio gyda chi ymlaen llaw a fyddwch yn gwneud y taliadau hyn
- cadw derbynebau
Benthyciadau gan gyflogwyr
Mae cyflog cynnar neu fenthyciad i helpu鈥檆h cyflogai yn ystod cyfnod o galedi yn cyfrif fel benthyciad sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chyflogaeth.
Nid yw benthyciadau sy鈥檔 werth llai na 拢10,000 mewn blwyddyn dreth yn drethadwy.
Rhagor o wybodaeth am fenthyciadau.
Llety dros dro
Os oes angen i鈥檆h cyflogai hunanynysu ond nad oes modd iddo wneud hynny yn ei gartref ei hun, gallwch ad-dalu treuliau gwesty a chostau cynhaliaeth, ac mae鈥檙 rhain yn drethadwy.
Rhagor o wybodaeth am dreuliau llety.
Cyflogeion sy鈥檔 defnyddio eu cerbydau eu hunain at ddibenion busnes
Gallwch wneud taliadau lwfans milltiroedd cymeradwy o 45c y filltir hyd at 10,000 o filltiroedd (25c y filltir ar 么l hynny), a hynny鈥檔 rhydd o dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Os nad ydych yn talu lwfans milltiroedd, gall eich cyflogai hawlio rhyddhad treth drwy ei Gyfrif Treth Personol.
Rhagor o wybodaeth am daliadau lwfans milltiroedd cymeradwy.
Defnydd preifat sylweddol
Ar gyfer eitemau sy鈥檔 drethadwy, mae鈥檔 rhaid i eithriadau ar gyfer buddiannau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith ddangos nad oes defnydd preifat sylweddol o鈥檙 rhain.
Mae CThEM yn derbyn hynny:
- pan fo鈥檆h polisi ynghylch defnydd preifat yn cael ei ddatgan yn glir i鈥檆h cyflogai a phan ei fod yn nodi鈥檙 amgylchiadau lle y gellir gwneud defnydd preifat o鈥檙 eitemau (gall hyn gynnwys nodi鈥檙 amgylchiadau鈥檔 glir mewn contractau cyflogaeth, neu ofyn i gyflogeion lofnodi datganiad sy鈥檔 cydnabod polisi鈥檙 cwmni ynghylch y defnydd a ganiateir ac unrhyw ganlyniadau disgyblaethol os na ddilynir y polisi)
- pan fo unrhyw benderfyniad gan y cyflogwr i beidio ag adennill costau defnydd preifat yn benderfyniad masnachol, yn hytrach na buddiant i鈥檆h cyflogai
Ni ddylai 鈥渄efnydd preifat sylweddol鈥 fod yn seiliedig ar yr amser sy鈥檔 cael ei dreulio ar ddefnydd gwahanol. Yn hytrach, dylai fod yn seiliedig ar ddyletswyddau鈥檆h cyflogai, ynghyd 芒鈥檙 angen iddo gael yr offer neu鈥檙 gwasanaethau a ddarperir er mwyn iddo allu gwneud ei waith.
Cadw cofnodion
Nid oes rhaid i chi gadw cofnodion manwl o bob achos o ddefnydd preifat er mwyn profi cais am eithriad.
Sut i adrodd i CThEM
Treuliau neu fuddiannau trethadwy
Gallwch adrodd ar unrhyw dreuliau neu fuddiannau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 choronafeirws yn eich Cytundeb Setliad TWE.
Mae hyn yn golygu y gallwch setlo treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar unrhyw dreuliau neu fuddiannau, er y byddai鈥檆h cyflogai 鈥 neu eich cyflogai a chithau fel eich gilydd 鈥 fel arfer yn gyfrifol am hyn.
Mae hyn yn berthnasol i eitemau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 choronafeirws yn unig 鈥 er enghraifft, gall desg newydd gael ei nodi yn y Cytundeb Setliad TWE, ond nid soffa newydd.
Os ydych yn talu buddiannau drwy鈥檙 gyflogres ar hyn o bryd, gallwch barhau i adrodd ar dreuliau a buddiannau drwy鈥檆h cyflogres. Gallwch hefyd barhau i adrodd ar dreuliau a buddiannau drwy ddatganiadau P11D.
Treuliau neu fuddiannau nad ydynt yn drethadwy
Peidiwch ag adrodd ar y rhain i CThEM.
Rhagor o wybodaeth am dreuliau neu fuddiannau nad ydynt yn drethadwy, ar gyfer cyflogeion.
T芒l buddiant trethadwy 鈥 dychwelyd offer swyddfa
Offer sy鈥檔 cael eu darparu gan y cyflogwr
Mae鈥檔 bosibl y byddwch wedi darparu offer swyddfa i gyflogeion er mwyn eu galluogi i weithio gartref. Does dim t芒l treth pan fyddant yn dychwelyd yr offer atoch, cyn belled nad yw perchnogaeth yn cael ei drosglwyddo.
Os ydych, ar unrhyw adeg, yn trosglwyddo perchnogaeth yr offer i gyflogai, daw hyn yn fuddiant cyflogai. Bydd y t芒l yn cael ei godi ar werth marchnad yr offer ar adeg y trosglwyddiad, llai unrhyw swm y gallai鈥檙 cyflogai fod wedi鈥檌 dalu tuag at yr offer.
Offer sy鈥檔 cael eu had-dalu gan y cyflogwr
Mae鈥檔 bosibl bod eich cyflogai wedi cytuno i brynu ei offer swyddfa ei hun i鈥檞 alluogi i weithio gartref, a鈥檆h bod wedi ad-dalu union gost y treuliau hynny. Oni bai eich bod wedi nodi bod yn rhaid iddo drosglwyddo perchnogaeth i chi, eich cyflogai sy鈥檔 berchen ar yr offer.
Does dim t芒l buddiant ar yr ad-daliad. Does dim t芒l buddiant ychwaith os rydych yn caniat谩u i鈥檆h cyflogai gadw鈥檙 offer gan ei fod yn rhywbeth y mae eisoes yn berchen arno.
Cysylltu 芒 CThEM
os ydych yn gyflogwr a bod angen help a chymorth arnoch mewn perthynas 芒 thalu treth oherwydd coronafeirws.
Help ar-lein
Defnyddiwch i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth yn sgil coronafeirws.
Updates to this page
-
Removed section called 鈥榃ho is not affected鈥. Employees can no longer be furloughed using the Coronavirus Job Retention Scheme. The scheme ended on 30 September 2021.
-
A new section about returning office equipment has been added.
-
Updated guidance on reimbursing expenses for office equipment your employee has bought.
-
You can now use HMRC鈥檚 digital assistant to contact HMRC and get help online.
-
First published.