Canllawiau

Cydymffurfio 芒'r Cynllun Labelu Cig Eidion Gorfodol

Mae'n rhaid i chi roi'r cig eidion a'r cig llo rydych yn eu gwerthu mewn batshys a'u labelu yn 么l rheolau penodol sy'n amrywio o gynnyrch i gynnyrch.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Mae rheolau鈥檙 Cynllun Labelu Cig Eidion Gorfodol yn berthnasol i unrhyw un sy鈥檔 gwerthu neu鈥檔 cyflenwi cig eidion neu gig llo ffres neu wedi鈥檌 rewi yn unrhyw ran o鈥檙 gadwyn gyflenwi.

Mae鈥檔 rhaid i bob busnes bwyd sy鈥檔 gwerthu neu鈥檔 cyflenwi鈥檙 cigoedd hyn sefydlu system olrhain (a elwir hefyd yn system rheoli olrhain). Mae鈥檙 cofnodion sy鈥檔 rhan o鈥檙 system olrhain yn cynnwys rhifau cyfeirnod sy鈥檔 cysylltu鈥檙 wybodaeth olrhain 芒鈥檙 labeli ar y cig. Mae hyn yn sicrhau y gellir olrhain tarddiad y cig eidion neu gig llo, lle bynnag y caiff ei werthu.

I bwy y mae鈥檙 cynllun yn gymwys?

Mae rheolau鈥檙 cynllun yn berthnasol i bob un o鈥檙 canlynol:

  • lladd-dy (ni waeth faint o anifeiliaid y mae鈥檔 eu lladd)
  • safleoedd torri cig
  • storfeydd oer
  • canolfannau ailbecynnu
  • siopau cigyddion
  • siopau symudol
  • stondinau marchnad
  • archfarchnadoedd
  • siopau fferm
  • y sawl sy鈥檔 cyflenwi gwestai, bwytai a chyfleusterau arlwyo eraill

Nid yw鈥檙 rheolau yn berthnasol i fusnesau sy鈥檔 ymwneud 芒 chig eidion wedi鈥檌 goginio yn unig.

Pa gynhyrchion y mae鈥檙 rheolau yn berthnasol iddynt?

Mae鈥檔 rhaid i chi gymhwyso鈥檙 rheolau labelu i gynnyrch cig eidion ffres ac wedi鈥檌 rewi, gan gynnwys:

  • carcasau cyfan
  • chwarteri carcas
  • toriadau cig eidion ffres neu wedi鈥檜 rhewi ar yr asgwrn neu sydd heb asgwrn, gan gynnwys golwython, steciau a chig wedi鈥檌 ddeisio
  • briwgig (sy鈥檔 cynnwys llai nag 1% o halen)
  • byrgyrs cig eidion heb eu coginio sydd heb gynhwysion ychwanegol (fel protein soia neu rwymwyr grawnfwyd)
  • cig llo

Nid yw鈥檙 rheolau yn berthnasol i鈥檙 canlynol:

  • cig heb ei goginio sydd wedi鈥檌 flasuso, naill ai yn drylwyr neu ar hyd wyneb cyfan y cig, fel y gellir ei weld neu ei flasu yn amlwg
  • cig eidion a chig llo mewn cynnyrch sydd wedi鈥檌 brosesu ac offal - e.e. byrgyrs cig eidion a phastai st锚c ac aren wedi鈥檜 prosesu

Beth sydd yn rhaid i chi ei roi ar y labeli

Os ydych yn labelu cig eidion (ac eithrio briwgig neu drimins) mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y dangosyddion hyn:

  1. rhif cyfeirnod neu god
  2. enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE lle y cafodd yr anifail neu鈥檙 gr诺p o anifeiliaid eu geni
  3. enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE lle y cafodd yr anifail neu鈥檙 gr诺p o anifeiliaid eu magu
  4. y geiriau 鈥楲laddwyd yn: [enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE]鈥
  5. rhif trwydded y lladd-dy - nid yw hyn yn berthnasol i gig eidion a gaiff ei werthu yn rhydd dros y cownter
  6. y geiriau 鈥楾orrwyd yn: [enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE]鈥
  7. rhif(au) trwydded y safle(oedd) torri cig - nid yw hyn yn berthnasol i gig eidion a gaiff ei werthu yn rhydd dros y cownter

Gallwch lawrlwytho canllawiau mwy manwl yngl欧n 芒鈥檙 canlynol:

Os ydych chi鈥檔 gwneud unrhyw honiadau ychwanegol ar eich labeli, efallai y bydd angen i鈥檙 Asiantaeth Taliadau Gwledig eu cymeradwyo. Darllenwch ganllawiau鈥檙 Cynllun Labelu Cig Eidion Cymeradwy am ragor o fanylion.

Lawrlwythwch (PDF, 567 KB, 5 o dudalennau).

Canllawiau ar farciau iechyd ac adnabod

Gallwch ddarllen mwy am y marciau iechyd ac adnabod y mae鈥檔 rhaid eu rhoi ar gynhyrchion sy鈥檔 dod o anifeiliaid megis cig, cynhyrchion wyau, pysgod, caws a llaeth yn .

Lle i roi鈥檙 wybodaeth labelu

Mae鈥檔 rhaid i chi labelu cig eidion sydd wedi鈥檌 lapio eisoes ar y deunydd pacio allanol - naill ai ar bob pecyn cig unigol neu ar y carton allanol os byddwch yn gwerthu mwy nag un pecyn mewn carton.

Os byddwch yn gwerthu cig eidion sydd heb ei lapio eisoes, mae鈥檔 rhaid i chi arddangos y wybodaeth labelu yn glir fel y gall cwsmeriaid weld pa wybodaeth sy鈥檔 berthnasol i ba ddarn o gig. Mae pedair ffordd o wneud hyn:

  • ar y cig
  • ar y cynhwysydd sy鈥檔 dal y cig
  • yn y siop - e.e. ar docyn sy鈥檔 agos i鈥檙 cig
  • ar arwydd ar y wal y gall eich cwsmeriaid ei weld

Yn ogystal 芒鈥檙 labeli penodol hyn, mae鈥檔 rhaid i chi gymhwyso rheolau鈥檙 Cynllun Labelu Cig Eidion Gorfodol i鈥檙 holl wybodaeth ysgrifenedig am y cig y byddwch yn ei rhoi i鈥檙 cwsmer ar yr adeg gwerthu, e.e:

  • hysbysebion
  • posteri
  • cyhoeddiadau
  • taflenni

Diffiniadau

Mae鈥檔 rhaid i chi gymhwyso鈥檙 rheolau labelu cig eidion yn unol 芒鈥檙 diffiniadau a nodir yn neddfwriaeth yr UE. Pan fo diffiniad yn cyfeirio鈥檔 benodol at fath o gynnyrch, caiff ei nodi yn yr adran sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 cynnyrch hwnnw isod. Mae pedwar diffiniad mwy cyffredinol y dylid bod yn ymwybodol ohonynt. Maent wedi eu nodi isod.

Batsh

Caiff batsh ei ddiffinio鈥檔 gyfreithiol fel cig, naill ai ar yr asgwrn neu heb asgwrn e.e. carcasau, chwarteri neu ddarnau o gig heb asgwrn, wedi鈥檜 torri, eu briwo neu eu pacio gyda鈥檌 gilydd o dan fwy neu lai yr un amodau.

Cig wedi鈥檌 dorri

Caiff cig wedi鈥檌 dorri ei ddiffinio鈥檔 gyfreithiol fel a ganlyn:

  • wedi鈥檌 dorri鈥檔 giwbiau bach, sleisiau neu ddarnau unigol eraill
  • nid oes angen iddo gael ei dorri ymhellach gan weithredwr cyn y caiff ei brynu gan y defnyddiwr terfynol
  • gall gael ei ddefnyddio鈥檔 uniongyrchol gan y defnyddiwr terfynol

Manwerthu

Caiff manwerthu ei ddiffinio鈥檔 gyfreithiol fel ymdrin 芒 chig, a/neu ei brosesu, a鈥檌 gadw ar yr adeg gwerthu neu wrth ei gyflwyno i鈥檙 defnyddiwr terfynol, gan gynnwys arlwywyr, ffreuturau cwmn茂au, arlwywyr sefydliadol, bwytai a gweithrediadau gwasanaeth bwyd tebyg, siopau, canolfannau dosbarthu archfarchnadoedd ac allfeydd cyfanwerthu.

Y defnyddiwr terfynol

Caiff y defnyddiwr terfynol ei ddiffinio鈥檔 gyfreithiol fel defnyddiwr terfynol y cig sydd wedi鈥檌 dorri, nad yw鈥檔 ei ddefnyddio fel rhan o weithrediad neu weithgarwch busnes bwyd.

Cig wedi鈥檌 dorri sydd wedi鈥檌 bacio ymlaen llaw

Caiff cig wedi鈥檌 dorri sydd wedi鈥檌 bacio ymlaen llaw ei ddiffinio鈥檔 gyfreithiol fel y pecyn unigol a gaiff ei gynnig heb ei newid i鈥檙 defnyddiwr terfynol neu i sefydliad sy鈥檔 ymwneud 芒 manwerthu yn unig, sy鈥檔 cynnwys cig wedi鈥檌 dorri a鈥檙 deunydd pacio a oedd amdano cyn iddo fynd ar werth, p鈥檜n a yw鈥檙 deunydd pacio yn ei orchuddio鈥檔 llawn neu鈥檔 rhannol, sy鈥檔 sicrhau na ellir newid y cynnwys heb agor neu newid y deunydd pacio.

Rheolau鈥檔 ymwneud 芒 batshys

Wrth gynhyrchu cig wedi鈥檌 dorri, mae gennych hawl i greu batshys gan ddefnyddio cig o anifeiliaid a laddwyd mewn hyd at dri lladd-dy gwahanol. Gallwch hefyd greu batshys o garcasau a dorrwyd mewn hyd at dri safle torri cig gwahanol.

Mae鈥檔 rhaid i unrhyw fatsh o gig wedi鈥檌 dorri a gynhyrchir o hyd at dri lladd-dy/safle torri cig gwahanol gael ei roi mewn deunydd pacio manwerthu yn syth.

Rheolau labelu

Wrth labelu cig wedi鈥檌 dorri sydd wedi鈥檌 bacio ymlaen llaw o hyd at dri lladd-dy neu dri safle torri cig, mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y canlynol:

  • rhif cyfeirnod neu god
  • enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE lle y cafodd yr anifeiliaid eu geni
  • enwau鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE lle y cafodd yr anifeiliaid eu magu
  • y geiriau 鈥楲laddwyd yr anifeiliaid yn y gr诺p yn: [enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE lle y lladdwyd yr anifeiliaid]鈥
  • rhif(au) trwydded y lladd-dy/lladd-dai sydd dan sylw
  • y geiriau 鈥楾orrwyd y cig mewn batsh yn: [enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE lle y torrwyd y cig]鈥
  • rhif(au) trwydded y safle(oedd) torri cig

Cig wedi鈥檌 dorri sydd heb ei bacio ymlaen llaw

Caiff cig wedi鈥檌 dorri sydd heb ei bacio ymlaen llaw ei ddiffinio鈥檔 gyfreithiol fel cig wedi鈥檌 dorri sy鈥檔 cael ei werthu i鈥檙 defnyddiwr terfynol heb ei bacio ymlaen llaw mewn allfeydd, a phob darn o gig sy鈥檔 cael ei arddangos i鈥檞 werthu heb ei bacio i鈥檙 defnyddiwr terfynol mewn allfeydd, gyda鈥檙 bwriad o鈥檌 dorri ar gais y defnyddiwr terfynol.

Wrth arddangos cig wedi鈥檌 dorri sydd heb ei bacio ymlaen llaw, mae鈥檔 rhaid i chi gadw cig anifeiliaid sydd wedi鈥檜 geni a/neu eu magu a/neu eu lladd mewn gwledydd gwahanol ar wah芒n i鈥檞 gilydd.

Mae鈥檔 rhaid i chi labelu pob gr诺p o gig gan nodi鈥檙 gwledydd lle y digwyddodd y canlynol:

  • geni
  • magu (os cafodd yr anifeiliaid eu magu mewn mwy nag un wlad, mae鈥檔 rhaid i chi restru pob gwlad)
  • lladd
  • torri鈥檙 carcas

Os byddwch yn gwerthu cig eidion wedi鈥檌 dorri sydd heb ei bacio ymlaen llaw gyda鈥檌 gilydd, bydd rhaid i chi nodi鈥檙 canlynol bob dydd, ynghyd 芒鈥檙 dyddiad:

  • rhif(au) trwydded y lladd-dy/lladd-dai
  • rhif(au) trwydded y safle(oedd) torri cig

Mae鈥檔 rhaid i chi roi鈥檙 wybodaeth hon i unrhyw gwsmer sy鈥檔 gofyn amdani.

Briwgig eidion

Caiff briwgig ei ddiffinio鈥檔 gyfreithiol fel unrhyw gig sydd:

  • wedi鈥檌 friwo yn f芒n neu wedi鈥檌 wthio drwy beiriant briwo troellog
  • yn dod o fewn o鈥檙 y cyfeirir atynt yn Erthygl 12 o
  • yn cynnwys llai na 1% o halen

Rheolau鈥檔 ymwneud 芒 batshys

Wrth friwo cig, mae鈥檔 rhaid i chi lanhau鈥檙 peiriant briwo rhwng batshys os cafodd yr anifeiliaid yn y batsh cyntaf eu lladd mewn gwlad wahanol i鈥檙 anifeiliaid yn yr ail.

Mae鈥檔 rhaid i bob batsh o friwgig hanu o鈥檙 un wlad. Ni ddylech gymysgu briwgig eidion amrwd a laddwyd mewn dwy wlad neu fwy.

Os ydych yn gwerthu briwgig cymysg a bod y rhan fwyaf ohono yn gig eidion - e.e. 60% o gig eidion a 40% o borc - mae鈥檔 rhaid i chi ddilyn y rheolau labelu gofynnol ar gyfer briwgig eidion.

Gallwch gymysgu offal 芒 chyfran fwyafrifol o friwgig eidion amrwd o鈥檙 un wlad. Os ydych yn gwneud hyn, mae鈥檔 rhaid i chi ddilyn y rheolau labelu ar gyfer briwgig eidion.

Rheolau labelu

Wrth labelu briwgig eidion, mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y canlynol o leiaf:

  • rhif cyfeirnod neu god - rhif cyfeirnod neu god olrhain sy鈥檔 cysylltu鈥檔 么l i鈥檙 anifail, gr诺p o anifeiliaid neu fatshys o gig eidion a ddefnyddiwyd wrth friwo
  • enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE lle y lladdwyd yr anifail - mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y geiriau 鈥楲laddwyd yn: [enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE]鈥
  • enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE lle y briwyd y cig - mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y geiriau 鈥楤riwyd yn [enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE]鈥
  • enw鈥檙 aelod-wladwriaeth(au) neu wlad nad ydynt yn aelodau o鈥檙 UE (neu wledydd) lle y bu鈥檙 anifail/anifeiliaid yn byw o鈥檜 genedigaeth hyd at eu lladd, os yw鈥檔 wahanol i鈥檙 wlad lle y briwyd y cig - mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y geiriau 鈥楾arddiad: [enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE]鈥, neu 鈥楾arddiad: Glad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE鈥 os yw鈥檙 wlad y tu allan i鈥檙 UE

Yn ogystal, os dymunwch, gallwch hefyd gynnwys y canlynol:

  • rhif(au) trwydded y lladd-dy/lladd-dai
  • y geiriau 鈥楾orrwyd yn: [enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE]鈥
  • rhif(au) trwydded y safle(oedd) torri cig
  • dyddiad briwo

Trimins

Caiff trimins eu diffinio鈥檔 gyfreithiol fel tameidiau bychain o gig sy鈥檔 addas i鈥檞 bwyta gan bobl sy鈥檔 cael eu cynhyrchu yn arbennig yn ystod gweithrediadau trimio wrth ddiesgyrnu carcas a/neu dorri鈥檙 cig.

Wrth gynhyrchu batshys, dylech drin trimins yn yr un modd 芒 briwgig eidion, ond dim ond y rheol sy鈥檔 ymwneud ag anifeiliaid a laddwyd mewn un wlad sydd angen ei dilyn.

Wrth labelu鈥檙 trimins, mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y canlynol:

  • rhif cyfeirnod neu god
  • enw鈥檙 wlad/enwau鈥檙 gwledydd lle cafodd yr anifeiliaid yn y gr诺p eu geni a鈥檜 magu - mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y geiriau 鈥楪aned a magwyd yn: [enwau鈥檙 gwledydd lle cafodd yr anifeiliaid eu geni a鈥檜 magu]鈥
  • enw鈥檙 wlad lle lladdwyd yr anifeiliaid - mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y geiriau 鈥楲laddwyd yn: [enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE lle y lladdwyd yr anifeiliaid]鈥; os cafodd yr holl anifeiliaid yn y gr诺p eu geni, eu magu a鈥檜 lladd yn yr un wlad, gallwch ddefnyddio鈥檙 geiriau 鈥楪wlad tarddiad: [enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE lle y ganed, magwyd a lladdwyd yr anifeiliaid]
  • enw鈥檙 wlad lle cynhyrchwyd y trimins - mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y geiriau 鈥楥ynhyrchwyd yn: [enw鈥檙 aelod-wladwriaeth neu wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE lle cynhyrchwyd y trimins]鈥
  • rhif cymeradwyaeth y safle lle cynhyrchwyd y trimins

Cig o anifeiliaid buchol sy鈥檔 llai na 12 mis oed

Ar adeg eu lladd, dylech ddosbarthu鈥檙 holl anifeiliaid buchol sy鈥檔 llai na 12 mis oed i un o ddau gategori:

  • Categori V: anifeiliaid buchol sy鈥檔 llai nag 8 mis oed
  • Categori Z: anifeiliaid buchol sydd rhwng 8 mis oed a llai na 12 mis oed - yn benodol, anifeiliaid buchol o鈥檙 diwrnod maent yn cyrraedd 8 mis oed tan y diwrnod cyn y maent yn troi yn 12 mis oed

Wrth wneud y penderfyniad hwn, dylech ddefnyddio鈥檙 wybodaeth ym mhasbort yr anifeiliaid. Os nad yw hyn yn bosibl, dylech ddefnyddio鈥檙 data yn y .

Rheolau labelu ar gyfer carcasau

Mae鈥檔 rhaid i chi ddynodi鈥檙 llythrennau nodi categori 鈥榁鈥 neu 鈥榋鈥 yn syth ar 么l lladd yr anifeiliaid, gan eu labelu neu eu stampio ar wyneb allanol y carcas.

Ni ddylai鈥檙 labeli fod yn llai na 50cm2 ac ni ddylai鈥檙 llythrennau sydd wedi鈥檜 stampio fod yn llai na 2cm o uchder.

Mae鈥檔 rhaid i chi roi鈥檙 labeli neu鈥檙 stampiau ar y chwarteri 么l a鈥檙 chwarteri blaen:

  • ar y strip lwyn ar lefel y 4ydd fertebra meingefnol
  • ar y frisged rhwng 10cm a 30cm o ochr doredig y sternwm

Lawrlwythwch , gan gynnwys labeli carcasau.

Defnyddio鈥檙 disgrifiadau gwerthu a ganiateir

Ar bob cam o鈥檙 broses gynhyrchu a marchnata, mae鈥檔 rhaid i chi labelu鈥檙 cig yn glir er mwyn nodi oedran yr anifeiliaid pan gawsant eu lladd, a鈥檌 ddisgrifiad gwerthu. Ar yr adeg pan gaiff y cig ei werthu i鈥檙 defnyddiwr terfynol, mae鈥檔 rhaid i chi gyflwyno鈥檙 wybodaeth hon ar yr un label, fel y gall y defnyddiwr ei gweld i gyd ar unwaith.

Cyn y bydd y cig yn cyrraedd y cwsmer, gallwch naill ai ddefnyddio鈥檙 llythrennau sy鈥檔 nodi鈥檙 categori, 鈥榁鈥 neu 鈥榋鈥, neu un o鈥檙 brawddegau canlynol:

  • 鈥榦edran pan laddwyd: llai nag 8 mis鈥
  • 鈥榦edran pan laddwyd: rhwng 8 mis a llai na 12 mis鈥

Pan gaiff y cig ei ryddhau i鈥檙 cwsmer terfynol, mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 frawddeg 鈥榦edran pan laddwyd鈥 addas yn hytrach na鈥檙 llythrennau sy鈥檔 nodi鈥檙 categori.

Ar gyfer gig a gaiff ei werthu yn y DU, mae鈥檙 disgrifiadau gwerthu鈥檙 fel a ganlyn:

  • 鈥榗ig llo鈥 ar gyfer cig o anifeiliaid a laddwyd yn llai nag 8 mis oed
  • 鈥榗ig eidion鈥 ar gyfer cig o anifeiliaid a laddwyd rhwng 8 mis oed a llai na 12 mis oed

Ar gyfer pob aelod-wladwriaeth arall yn yr UE, mae鈥檔 rhaid i chi labelu鈥檙 cig gyda鈥檙 disgrifiad gwerthu sy鈥檔 berthnasol i bob aelod-wladwriaeth lle caiff ei farchnata. Mae disgrifiadau gwerthu yn amrywio rhwng aelod-wladwriaethau. Maent wedi eu nodi yn Rhan III o Atodiad VII i .

Mae hyn yn golygu y gallai鈥檙 cig gael dau neu fwy o labeli gwahanol ar yr un pryd sy鈥檔 cwmpasu鈥檙 disgrifiadau gwerthu mewn aelod-wladwriaethau gwahanol.

Rheolau ar gymysgu cig o anifeiliaid buchol sy鈥檔 12 mis oed neu lai

Heblaw am offal, ni chewch gymysgu cig o anifeiliaid buchol sy鈥檔 llai nag 8 mis oed a rhwng 8 mis a 12 mis oed. Diben y rheolau yw rhannu鈥檙 ddau fath o gig yn 么l oedran yn gig llo a chig eidion. Pan fo鈥檙 mathau hyn o gig mewn oerwyr, nid oes rhaid eu cadw ar wah芒n.

Gallwch gymysgu llwythi o offal o anifeiliaid buchol sy鈥檔 llai nag 8 mis oed a rhwng 8 a 12 mis oed, cyn belled 芒鈥檆h bod yn gwneud y canlynol:

  • cynnwys y disgrifiadau gwerthu a鈥檙 ystod oedran ar y label
  • nodi鈥檙 oedrannau鈥檔 gyda naill ai鈥檙 llythyrau sy鈥檔 nodi categori 鈥榁鈥 neu 鈥榋鈥 neu鈥檙 disgrifiadau oedran ar bob cam cynhyrchu a marchnata - ac eithrio pan fydd y cynnyrch yn cael ei werthu i鈥檙 cwsmer terfynol, pan fydd yn rhaid defnyddio鈥檙 disgrifiadau
  • defnyddio鈥檙 geiriau 鈥榠au llo鈥 ar gyfer iau anifail sy鈥檔 llai nag 8 mis yn unig

Lawrlwythwch , gan gynnwys labeli arddangos ar gyfer cig o anifeiliaid sy鈥檔 12 mis oed neu lai.

Ychwanegu gwybodaeth ategol i labeli

Os ydych chi am ddefnyddio geiriad ychwanegol rhaid i chi sicrhau ei fod yn cwrdd 芒 gofynion y ddeddfwriaeth labelu bwyd gyfredol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn o dan 鈥labelu a phecynnu bwyd鈥.

Os ydych chi am ddefnyddio鈥檙 term 鈥榬os茅 veal鈥 eich labeli, gwiriwch y ddeddfwriaeth labelu bwyd gyfredol i weld beth sydd angen i chi ei wneud.

Cig eidion a fewnforir o Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel

Mae rheol arbennig ar gyfer labelu鈥檙 canlynol:

  • cig eidion a fewnforir o Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
  • cig eidion o wartheg a aned ac a fagwyd yn Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel ond a laddwyd yn y DU

Er nad yw Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel yn rhan o鈥檙 DU, mae鈥檙 UE yn eu cydnabod fel rhan o aelod-wladwriaeth y DU at y dibenion hyn. Dylai cig eidion sy鈥檔 syrthio i鈥檙 categor茂au hyn felly gael ei labelu gyda 鈥楧U鈥 o dan (PDF, 567 KB, 5 o dudalennau).

Cig eidion a fewnforir o wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE

Os ydych yn mewnforio cig eidion o wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE ac nad ydych yn meddu ar y wybodaeth labelu ofynnol, mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 geiriau canlynol o leiaf:

  • 鈥楾arddiad: Gwlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE鈥
  • 鈥楲laddwyd yn [enw鈥檙 wlad nad yw鈥檔 aelod o鈥檙 UE]鈥

Dylech hefyd ddarparu rhif cyfeirnod neu god pan gaiff y cig ei dorri neu鈥檌 ailbacio ar 么l ei fewnforio.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Ionawr 2021 show all updates
  1. Adding a link to 'Guidance on health and identification marks that apply from 1 January 2021'.

  2. Regulation (EC) 1760/2000 changed to EUR 2000/1760 and Regulation (EC) No 1308/2013 changed to EUR 2013/1308

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon