Dewch o hyd i borth Kickstart i wneud cais am grant Cynllun Kickstart ar eich rhan
Darganfyddwch borth Kickstart yng Nghymru, Lloegr ar Alban sydd eisoes yn gweithio gyda Chynllun Kickstart.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Mae ceisiadau i鈥檙 Cynllun Kickstart yn cau yn fuan.
Ar 么l dydd Gwener 17 Rhagfyr 2021 ni fyddwch yn gallu:
- gwneud cais am grant Cynllun Kickstart newydd
- ychwanegu mwy o swyddi i gytundeb grant presennol
Byddwn yn prosesu ceisiadau a gyflwynir cyn yr amser hwn neu sydd eisoes ar y gweill.
Beth yw porth Kickstart?
Gall porth Kickstart fod yn unrhyw fath o sefydliad, fel awdurdod lleol, elusen neu gorff masnach.
Byddant yn gweithredu fel cyfryngwr ac yn gwneud cais am arian ar eich rhan.
Gallant hefyd ddarparu cymorth cyflogadwyedd i鈥檙 bobl ifanc yn y swydd ar eich rhan.
Bydd pyrth Kickstart yn:
- casglu gwybodaeth am y lleoliad gwaith yr hoffech eu cynnig
- rhannu鈥檙 wybodaeth yma gyda鈥檙 DWP ar eich rhan
- talu鈥檙 cyllid i chi (er enghraifft cyflog y person ifanc)