Cael help gyda Diwygio鈥檙 Cyfnod Sail
Sut i gael help gyda newidiadau i Hunanasesiad ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaid nad yw eu blwyddyn gyfrifyddu yn dod i ben ar na rhwng 31 Mawrth a 5 Ebrill.
Mae ystod eang o wybodaeth ac offerynnau ar-lein ar gael i鈥檆h helpu i gael yr atebion a鈥檙 wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer y newidiadau o ran Diwygio鈥檙 Cyfnod Sail.
Fel arfer, mae鈥檔 llawer gynt, haws a rhatach i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF yn hytrach na chodi鈥檙 ff么n.
Dysgwch sut i gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch.
Gwylio fideos a gweminarau ar Ddiwygio鈥檙 Cyfnod Sail
Gwyliwch fideo YouTube (yn Saesneg) i ddysgu am newidiadau i Hunanasesiad ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaid nad yw eu blwyddyn gyfrifyddu鈥檔 dod i ben ar na rhwng 31 Mawrth a 5 Ebrill.
Gwylio recordiad o weminar ar Ddiwygio鈥檙 Cyfnod Sail
Gwiriwch ddiweddariadau e-bost a gweminarau CThEF ar gyfer asiantau ac ymgynghorwyr treth (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod am y canlynol:
- y sail blwyddyn dreth newydd
- y flwyddyn drosiannol ar gyfer diwygio鈥檙 cyfnod sail
- rhyddhad gorgyffwrdd i鈥檙 busnesau y mae hyn yn effeithio arnynt
I gael rhagor o wybodaeth am Hunanasesiad gan gynnwys cofrestru, Ffurflenni Treth, biliau treth a thaliadau, darllenwch am ddiweddariadau e-bost gan CThEF, fideos a gweminarau ar gyfer Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg).
Cael rhagor o wybodaeth am Ddiwygio鈥檙 Cyfnod Sail
Am ragor o wybodaeth am Ddiwygio鈥檙 Cyfnod Sail ac i weld a yw hyn yn effeithio arnoch chi, darllenwch am y newidiadau i adrodd incwm o hunangyflogaeth a phartneriaethau (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch hefyd ddarllen mwy am sut i gyfrifo eich elw trethadwy yn y daflen gymorth Hunanasesiad HS222 (yn agor tudalen Saesneg).
Cael help gyda鈥檆h ffigur rhyddhad gorgyffwrdd
Os yw鈥檆h busnes wedi cynhyrchu unrhyw ryddhad gorgyffwrdd, bydd eich blwyddyn olaf i hawlio hyn wedi鈥檌 nodi ar eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2023 i 2024. Dysgwch sut i gael eich ffigur Rhyddhad Gorgyffwrdd.
Defnyddio offerynnau ar-lein
Cyfrifwch eich elw trosiannol (yn agor tudalen Saesneg) 鈥 defnyddiwch yr offeryn hwn i gyfrifo鈥檆h elw trosiannol a鈥檆h helpu i gwblhau鈥檆h Ffurflen Dreth.
Cael gafael ar ap CThEF
Gallwch lawrlwytho ap CThEF ar ddyfais symudol (er enghraifft, eich ff么n neu dabled) a鈥檌 ddefnyddio er mwyn:
- gwirio faint o dreth Hunanasesiad sydd arnoch
- gwneud taliad
- gosod nodyn atgoffa i wneud taliad Hunanasesiad
- dod o hyd i鈥檆h Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad
- diweddaru鈥檆h cyfeiriad post
- dewis i CThEF gysylltu 芒 chi yn electronig, yn hytrach na drwy lythyr
- dilyn trywydd y ffurflenni a鈥檙 llythyrau rydych wedi鈥檜 hanfon atom
- hawlio ad-daliadau
Updates to this page
-
Added translation
-
A link to Self Assessment helpsheet HS222 has been added to the 'Get more information on Basis Period Reform' section of this page.
-
A link for more information on Self Assessment has been added.
-
First published.