Sut i reoli risgiau yn eich elusen
Sut i adnabod, asesu a rheoli'r risgiau y gallai eich elusen eu hwynebu.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mathau o risg
Mae unrhyw beth a allai atal eich elusen rhag cyflawni ei nodau neu ymgymryd 芒鈥檌 strategaethau yn risg. Gallai鈥檙 mathau o risgiau y gallai eich elusen eu hwynebu ddibynnu ar ei maint, ei chyllid a鈥檌 gweithgareddau, ymysg ffactorau eraill.
Mae鈥檙 risgiau y gallai eich elusen eu hwynebu yn cynnwys:
- niwed i鈥檞 henw da
- cael llai o gyllid neu lai o roddion cyhoeddus
- colli arian drwy fuddsoddiadau amhriodol
- newid ym mholisi鈥檙 llywodraeth ar fater penodol, sy鈥檔 effeithio ar grantiau neu gontractau
Adnabod unrhyw risgiau posibl a allai atal eich elusen rhag bodloni anghenion ei buddiolwyr, a rhoi prosesau yn eu lle i asesu a rheoli鈥檙 risgiau hynny.
Sut i reoli risgiau
Nid oes rhaid i chi gael proses rheoli risg ar gyfer eich elusen yn 么l y gyfraith, na dilyn dull arbennig. Ond mae鈥檙 Comisiwn Elusennau yn argymell yn gryf bod polisi a phroses rheoli risg glir gennych. Bydd hyn yn eich helpu i adnabod a rheoli鈥檙 holl fathau o risgiau a chorffori rheoli risg yng ngwaith eich elusen.
Mae canllawiau manwl y comisiwn ar reoli risg yn amlinellu hanfodion delio 芒 risgiau. Mae鈥檔 cynnwys model rheoli risg wedi鈥檌 ffurfio o鈥檙 camau canlynol:
- sefydlu polisi risg
- adnabod risgiau
- asesu risgiau
- gwerthuso pa gamau i鈥檞 cymryd
- adolygu, monitro ac asesu鈥檔 achlysurol
Mae鈥檙 model yn cynnwys grid mapio - dyma un ffordd o asesu鈥檙 effaith y gallai pob risg ei chael ar eich elusen:
Dylai fod ymagwedd strwythuredig gan eich elusen at reoli risg sy鈥檔 briodol ar gyfer maint a鈥檌 chymhlethdod. Mae ymagweddau enghreifftiol yn cynnwys:
Pryd i adrodd ar reoli risg
Yn 么l y gyfraith, mae鈥檔 rhaid i elusennau nad ydynt yn gwmn茂au gydag incwm o 拢500,000 neu ragor (ac elusennau gydag incwm o fwy na 拢250,000 a hefyd asedau sy鈥檔 werth mwy na 拢3.26 miliwn) gynnwys datganiad rheoli risg yn adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr. Ond mae鈥檔 arfer da i elusennau llai adrodd ar eu gweithgareddau rheoli risg hefyd.
Mae鈥檔 rhaid i elusennau sy鈥檔 gwmn茂au adrodd ar eu prif risgiau ac ansicrwydd yn adroddiad y cyfarwyddwyr (oni bai eu bod wedi鈥檜 dosbarthu fel cwmni bach yn 么l y gyfraith).
Beth i鈥檞 gynnwys mewn datganiad rheoli risg
Dylai鈥檆h datganiad rheoli risg gynnwys:
- cydnabyddiaeth o gyfrifoldeb ymddiriedolwyr i adnabod, asesu a rheoli risgiau
- trosolwg o broses eich elusen ar gyfer adnabod risgiau
- dangos bod y prif risgiau wedi cael eu hadolygu neu eu hasesu
- cadarnhau bod y systemau a鈥檙 prosesau wedi鈥檜 sefydlu i reoli risgiau
Dylai elusennau mwy neu鈥檙 rhai sydd 芒 gweithgareddau mwy cymhleth ddarparu datganiad rheoli risg mwy manwl.