Cofrestru i wneud datganiad cryno cyn cyrraedd ym Mhrydain Fawr
Defnyddiwch y gwasanaeth Diogelwch ym Mhrydain Fawr (S&S GB) os ydych yn mewnforio nwyddau i mewn i Brydain Fawr a bod angen i chi wneud datganiad cryno cyn cyrraedd.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Defnyddiwch y gwasanaeth Diogelwch ym Mhrydain Fawr (S&S GB) os ydych yn mewnforio nwyddau i mewn i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban) a bod angen i chi wneud datganiad cryno cyn cyrraedd.
Cyn i chi gofrestru
Bydd arnoch angen y canlynol:
- dyddiad sefydlu鈥檙 busnes
- cyfeiriad e-bost
- enw masnachu neu enw鈥檙 busnes
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer y busnes os ydych wedi cofrestru yn y DU at ddibenion treth
- cyfeiriad y busnes
- rhif EORI sy鈥檔 dechrau gyda 鈥楪B鈥 鈥 os nad oes un gennych, gallwch wneud cais am rif EORI pan fyddwch yn cofrestru
Sut i gofrestru
Er mwyn cofrestru i wneud datganiad cryno cyn cyrraedd ym Mhrydain Fawr, bydd arnoch angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych Dynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn cofrestru.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda鈥檙 gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Ar 么l i chi gofrestru
Gallwch gyflwyno datganiadau cryno cyn cyrraedd drwy wneud y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
- prynu meddalwedd sy鈥檔 cydweddu
- defnyddio gwasanaethau gan Ddarparwr System Gymunedol
Er mwyn cyflwyno datganiad cryno cyn cyrraedd ar gyfer mewnforio nwyddau i mewn i Brydain Fawr, bydd angen i chi wybod y cod lleoliad S&S GB ar gyfer y porthladd mynediad.
Prynu meddalwedd sy鈥檔 cydweddu
Mae angen i chi brynu meddalwedd sy鈥檔 cydweddu gan ddatblygwyr meddalwedd. Dysgwch pa ddatblygwyr meddalwedd sy鈥檔 darparu cymorth datganiadau tollau (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd arnoch angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth 鈥 os nad oes gennych Dynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn cofrestru.
Defnyddio gwasanaethau gan Ddarparwr System Gymunedol
Gallwch ddefnyddio gwasanaethau gan Ddarparwr System Gymunedol (yn agor tudalen Saesneg).
Yr hyn i鈥檞 wneud os nad yw鈥檙 gwasanaeth S&S GB ar gael
Dylai Gweithredwyr Economaidd a Darparwyr Systemau Cymunedol barhau i anfon negeseuon at wasanaeth S&S GB hyd nes y bydd CThEF yn cadarnhau bod y gwasanaeth ar gael eto. Bydd y negeseuon hyn yn cael eu rhoi mewn ciw hyd nes y bydd y system ar gael eto.
Os na allwch anfon negeseuon at wasanaeth S&S GB yn ystod cyfnod hwn, dylech anfon datganiad cryno cyn cyrraedd yn 么l-weithredol pan fydd gwasanaeth S&S GB ar gael eto.
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
To submit an entry summary declaration of imports into Great Britain, you will need to know the S&S GB location code for the port of entry.
-
Information has been added about what to to if the S&S GB service is not available.
-
First published.