Canllawiau

Cofnodi a rhoi gwybod am wartheg sy'n marw ar ddaliad

Rhaid i geidwaid gwartheg roi gwybod bod unrhyw wartheg wedi marw i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP), dychwelyd y pasbort gwartheg a chofnodi鈥檙 farwolaeth ar gofrestr eu daliad.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Pan fydd gwartheg, byfflos neu fuail yn marw neu鈥檔 cael eu lladd ar eich daliad, yn hytrach nag mewn lladd-dy, rhaid ichi wneud y canlynol:

  1. Rhoi gwybod i GSGP.
  2. Dychwelyd y pasbort gwartheg (neu鈥檙 dogfennau adnabod eraill) i GSGP.
  3. Cofnodi manylion marwolaeth yr anifail yng nghofrestr eich daliad.
  4. Trefnu profi鈥檙 carcas ar gyfer enseffalopath茂au sbyngffurf trosglwyddadwy (TSE) o fewn 72 awr, lle bo angen.
  5. Gwaredu鈥檙 carcas.

Rhaid ichi wneud hyn o fewn 7 diwrnod ar 么l marwolaeth yr anifail, neu鈥檔 gynharach. Diwrnod 1 yw鈥檙 diwrnod ar 么l i鈥檙 anifail farw.

Rhaid ichi gyflawni鈥檙 holl weithredoedd hyn er mwyn i鈥檙 gwartheg allu cael eu holrhain. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau

Os byddwch yn methu gwneud hyn, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, cael llai o daliadau cymhorthdal neu gallech gael eich erlyn.

Mae鈥檙 rheolau鈥檔 wahanol os yw eich gwartheg chi:

  • heb basport am fod hwnnw wedi cael ei wrthod
  • wedi鈥檜 geni cyn 1996

Chaiff yr anifeiliaid hyn ddim mynd i mewn i鈥檙 gadwyn fwyd. Darllenwch y canllawiau ar wartheg heb basbortau.

Rhoi gwybod am farwolaeth ar-lein

Gallwch roi gwybod am farwolaeth drwy ddefnyddio鈥檙 System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg) neu becynnau meddalwedd ffermio cydnaws (tudalen gwe yn Saesneg).

I roi gwybod am nifer o farwolaethau, gallwch uwchlwytho ffeil i SOG Ar-lein. Os nad ydych chi鈥檔 si诺r sut i wneud hyn cysylltwch 芒 GSGP.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ff么n (Cymru): 0345 050 3456
Ff么n (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ff么n a rhifau ff么n

Rhoi gwybod am farwolaeth dros y ff么n

Os oes gan yr anifeiliaid dagiau clust swyddogol y Deyrnas Unedig, gallwch roi gwybod am eu marwolaethau ar linell ff么n hunanwasanaeth SOG.

Pan fyddwch yn ffonio, bydd arnoch chi angen:

  • eich rhif daliad (CPH) (tudalen gwe yn Saesneg)
  • rhifau tagiau clust swyddogol pob anifail
  • dyddiad marwolaeth pob anifail

Llinell ff么n hunanwasanaeth SOG
Ff么n (Cymraeg): 0345 011 1213
Ff么n (Saesneg): 0345 011 1212
24 awr y dydd, 7 diwrnod
Costau ff么n a rhifau ff么n

Rhoi gwybod am farwolaeth drwy鈥檙 post

Llenwch fanylion y farwolaeth ar basbort yr anifail a鈥檌 anfon at GSGP. Rhaid iddo gyrraedd o fewn 7 diwrnod ar 么l y farwolaeth.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD

Dychwelyd dogfennau i GSGP

Mae鈥檙 ddogfen sydd gennych ar gyfer eich anifeiliaid yn dibynnu ar ba bryd y cawson nhw eu cofrestru.

Dyddiad cofrestru鈥檙 gwartheg Y ddogfen i鈥檞 dychwelyd
Wedi鈥檜 cofrestru ar 么l 1 Awst 2011 Pasbort tudalen sengl (CPP52)
Wedi鈥檜 cofrestru rhwng 28 Medi 1998 a 31 Gorffennaf 2011 Pasbort tebyg i lyfr sieciau (CPP13)
Wedi鈥檜 cofrestru rhwng 1 Awst 1996 a 27 Medi 1998 Pasbort gwartheg yr hen ddull (glas a gwyrdd) (CPP1) a thystysgrif gofrestru SOG (COR neu ffurflen CHR3)
Wedi鈥檜 geni, wedi鈥檜 mewnforio neu wedi鈥檜 symud i Brydain Fawr cyn 1 Awst 1996 Tystysgrif gofrestru SOG (COR neu CHR3)
Anifail heb basbort wedi鈥檌 eni ar 么l 1 Awst 1996 Hysbysiad cofrestru (CPP35) neu lythyr os nad yw鈥檙 CPP35 wedi鈥檌 gadw

Os ydych chi wedi rhoi gwybod am y farwolaeth ar-lein neu dros y ff么n, does dim angen ichi lenwi manylion y farwolaeth ar basbortau tudalen sengl. Yn hytrach, ticiwch y blwch i ddweud eich bod chi wedi rhoi gwybod am y farwolaeth.

Yn achos pasbortau ar ffurf llyfr sieciau, llenwch fanylion y farwolaeth.

Yn achos pasbortau glas a gwyrdd neu dystysgrifau cofrestru, llenwch ddyddiad a man y farwolaeth ar y pasbort.

Peidiwch ag anfon eich tystysgrif bridio neu鈥檆h tystysgrif bedigri.

Anfonwch y dogfennau yn 么l i:

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD

Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad wrth roi gwybod am farwolaeth

Rhowch wybod am unrhyw wallau i GSGP mewn ysgrifen cyn gynted ag y cewch chi wybod am y broblem.

Gallwch chi naill ai:

  • anfon neges yn eich cyfrif (tudalen gwe yn Saesneg)
  • anfon neges ebost neu anfon llythyr at GSGP

Esboniwch y broblem a chofiwch gynnwys:

  • rhif eich daliad
  • rhifau鈥檙 tagiau clust swyddogol

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk

Cofnodi鈥檙 marwolaethau yng nghofrestr eich daliad

Rhaid i bob marwolaeth gael ei chofnodi yng nghofrestr eich daliad. Rhaid ichi wneud hyn o fewn 7 diwrnod ar 么l marwolaeth yr anifail.

Darllenwch y canllawiau ar gadw cofrestr daliad ar gyfer eich gwartheg.

Cofnodi anifeiliaid sy鈥檔 cael eu lladd ar y daliad

Rhaid ichi lenwi manylion marwolaeth anifail yn ei basport os cafodd ei ladd ar eich daliad.

Os cafodd yr anifail ei ladd gan filfeddyg neu weithredwr ladd-dy a鈥檌 gymryd i ladd-dy i gael ei drin, rhaid ichi anfon y pasbort gyda鈥檙 anifail. Rhaid i鈥檙 pasbort ddangos bod yr anifail wedi marw ar eich daliad.

Os bydd llo anghofrestredig yn marw

Mae gwahanol bethau mae鈥檔 rhaid ichi eu gwneud gan ddibynnu pryd mae鈥檙 llo yn marw

Chewch chi ddim ailddefnyddio tagiau clust llo marw ar gyfer anifail arall.

Cyn ichi osod tagiau clust

Does dim angen ichi roi gwybod am farwolaeth llo i GSGP os yw鈥檔 marw cyn ichi osod ei dagiau clust.

Mae鈥檔 rhaid ichi ddiweddaru cofrestr eich daliad drwy nodi dyddiad geni鈥檙 llo a dyddiad ei farwolaeth gyferbyn 芒 manylion mam y llo.

Cyn ichi wneud cais am basbort

Os bydd llo yn marw ar 么l i chi osod ei dagiau clust, ond cyn i chi wneud cais am ei basport, rhaid ichi ddweud wrth GSGP.

Gallwch chi:

  • ddefnyddio SOG Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg) neu becynnau meddalwedd ffermio cydnaws (tudalen gwe yn Saesneg)
  • defnyddio llinell ff么n hunanwasanaeth SOG
  • anfon cais am basbort gwartheg (ffurflen CPP12) i GSGP - llenwch adrannau 2 a 3 (manylion yr anifail) ac adran 4 (marwolaeth yr anifail)

Llinell ff么n hunanwasanaeth SOG
Ff么n (Cymraeg): 0345 011 1213
Ff么n (Saesneg): 0345 011 1212
24 awr y dydd, 7 diwrnod
Costau ff么n a rhifau ff么n

Ar 么l ichi wneud cais am basport

Os ydych chi wedi gosod tagiau clust ar y llo yn barod ac wedi gwneud cais am basport, cysylltwch 芒 GSGP i ddweud wrthyn nhw am y farwolaeth. Pan gewch chi鈥檙 pasbort, bydd angen ichi lenwi manylion y farwolaeth a鈥檌 anfon yn 么l i GSGP.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ff么n (Cymru): 0345 050 3456
Ff么n (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5pm
Costau ff么n a rhifau ff么n

Pryd i brofi ar gyfer enseffalopath茂au sbyngffurf trosglwyddadwy (TSE)

Rhaid i chi drefnu bod y carcas yn cael ei brofi ar gyfer TSE 鈥 mae鈥檙 prawf yn chwilio am bresenoldeb enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE). Mae angen ichi brofi os oedd yr anifail marw:

  • dros 48 mis oed ac wedi鈥檌 eni yn y Deyrnas Unedig neu un o鈥檙 gwledydd yn y tabl gwledydd a chodau gwledydd isod
  • dros 24 mis oed ac wedi鈥檌 eni mewn unrhyw wlad arall

Does dim rhaid ichi brofi am TSE os yw鈥檙 anifail yn marw ar Ynysoedd Sili, Ynys Lundy, Ynys Enlli, Ynys Echni neu Ynys B欧r.

Bydd angen ichi naill ai:

  • rhwygo鈥檙 slip profion TSE oddi ar waelod pasbort tudalen sengl
  • cadw cerdyn symud yn 么l os nad oes gan yr anifail basport tudalen sengl

Rhaid i鈥檙 slip neu鈥檙 cerdyn fynd gyda鈥檙 carcas i safle samplu wedi鈥檌 gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg).

Pan fydd y carcas yn gadael eich daliad, does dim angen ichi roi gwybod am symudiad oddi ar eich daliad. Bydd y safle samplu yn gwaredu鈥檙 carcas.

Bydd anifeiliaid sy鈥檔 cael eu mewnforio neu sy鈥檔 cael eu symud i Gymru neu Loegr ac sydd wedi鈥檜 haildagio yn dangos y wlad enedigol ar y pasbort a roddwyd gan GSGP.

Tabl gwledydd a chodau gwledydd

Mae angen i anifeiliaid dros 48 mis oed a gafodd eu geni yn y Deyrnas Unedig neu un o鈥檙 gwledydd sydd wedi鈥檜 rhestru yn y tabl gael eu profi ar gyfer TSE.

Gwlad Cod y wlad
Awstria AT
Gwlad Belg BE
Cyprus CY
Y Weriniaeth Tsiec CZ
Denmarc DK
Estonia EE
Y Ffindir FI
Ffrainc FR
Yr Almaen DE
Groeg EL
Hwngari HU
Iwerddon IE
Yr Eidal IT
Latfia LV
Lithwania LT
Lwcsembwrg LU
Malta MT
Yr Iseldiroedd NL
Gwlad Pwyl PL
Portiwgal PT
Slofacia SK
Slofenia SI
Sbaen ES
Sweden SE

Sut i drefnu prawf TSE

Rhaid mynd 芒鈥檙 carcas i safle samplu wedi鈥檌 gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg) o fewn 72 awr ar 么l ei farwolaeth.

Gallwch chi:

  • trefnu iddo gael ei gasglu - rhaid ichi drefnu hyn gyda chasglwr o fewn 24 awr ar 么l marwolaeth yr anifail
  • mynd 芒鈥檙 carcas eich hun

I drefnu i anifail gael ei gasglu cysylltwch 芒 naill ai:

  • eich casglwr stoc drig lleol (tudalen gwe yn Saesneg)
  • y (tudalen gwe yn Saesneg) - dyma gynllun sy鈥檔 casglu da byw marw

Anfonwch bob carcas gyda naill ai:

  • y slip TSE sydd wedi鈥檌 dorri oddi ar basbort tudalen sengl
  • cerdyn symud os oes gan yr anifail basbort ar ffurf llyfr sieciau

Does dim angen ichi anfon dim byd gyda鈥檙 anifail os dim ond hysbysiad cofrestru sydd ganddo.

Peidiwch ag anfon y pasbort na鈥檙 hysbysiad cofrestru gyda鈥檙 anifail. Rhaid ichi roi gwybod am y farwolaeth i GSGP a dychwelyd y pasbort neu鈥檙 hysbysiad iddyn nhw.

Pryd nad oes rhaid ichi brofi ar gyfer TSE

Does dim rhaid ichi brofi ar gyfer TSE os yw鈥檙 anifail yn marw:

  • cyn ei fod yn 48 mis oed os cafodd ei eni yn y Deyrnas Unedig neu un o鈥檙 gwledydd a restrir yn y tabl gwledydd a chodau gwledydd
  • cyn ei fod yn 24 mis oed os na chafodd ei eni yn y gwledydd a restrir yn y tabl
  • ar Ynysoedd Sili, Ynys Lundy, Ynys Enlli, Ynys Echni neu Ynys B欧r

Yn hytrach, rhaid ichi wneud un o鈥檙 canlynol:

  • anfon y carcas i gytiau helfa neu iard nacer
  • 诲别蹿苍测诲诲颈辞鈥檆丑 casglwr stoc drig lleol (tudalen gwe yn Saesneg)
  • defnyddio (tudalen gwe yn Saesneg)

Gwaredu carcas

Chewch chi ddim claddu na llosgi carcasau ar eich daliad oni bai bod safle hylosgi ar eich daliad wedi鈥檌 gymeradwyo gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Darllenwch y canllaw ar sut i waredu stoc drig (tudalen gwe yn Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Cewch losgi neu gladdu stoc drig ar y canlynol:

  • Ynysoedd Sili
  • Ynys Lundy
  • Ynys Enlli
  • Ynys Echni
  • Ynys B欧r

Cysylltu 芒 GSGP

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ebost:bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ff么n (Cymru): 0345 050 3456
Ff么n (Lloegr): 0345 050 1234
Costau ff么n a rhifau ff么n

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Tachwedd 2022 show all updates
  1. Content has been reviewed for accuracy and reformatted. New information includes signposting to what to do with cattle without passports and how to correct an error.

  2. Added translation

  3. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  4. Updated telephone number for NFSC

  5. Updated National Fallen Stock Company telephone number.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon