Adrodd, monitro a rheoli perfformiad (3)
Mae鈥檙 dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar adrodd a rheoli perfformiad ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Adrodd
3.1 Lluniwyd UKSPF i roi鈥檙 grym i bob man ar draws y DU gymryd yr awenau wrth lunio a chyflawni鈥檙 Gronfa. Yn unol 芒鈥檙 prosbectws, bydd ar yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau angen adroddiad ffurfiol bob chwe mis. I gefnogi ein dealltwriaeth o gynnydd, byddwn yn gofyn hefyd i awdurdodau lleol arweiniol ddarparu crynodebau bob tri mis.
Y cwestiynau a ofynnir i awdurdodau arweiniol a鈥檙 data a gasglwn.
Y cwestiynau a ofynnir i awdurdodau arweiniol a鈥檙 data a gasglwn
3.2 Bydd awdurdodau lleol arweiniol yn darparu diweddariadau cryno byr, ansoddol yn bennaf, i鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau bob tri mis. Bydd hyn yn cynnwys y cwestiynau canlynol:
Cwestiynau cryno
- Y gwariant hyd yn hyn yn erbyn tair blaenoriaeth fuddsoddi UKSPF a鈥檙 rhagolwg?
- Y gwariant hyd yn hyn a鈥檙 rhagolwg ar gyfer (yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon)?
- Y gwariant hyd yn hyn a鈥檙 rhagolwg ar gyfer y Rural England Prosperity Fund (o Flwyddyn Ariannol 2023-24 ymlaen, Lloegr yn unig)?
- Y gwariant hyd yn hyn a鈥檙 rhagolwg ar gyfer Rheoli a Gweinyddu?
- Crynodeb o gynnydd gyda chofnod Coch, Melyn, Gwyrdd cyffredinol o gynnydd a thuedd (gan ddefnyddio cwymplenni). A diweddariad cryno byr, stor茂ol, o gynnydd (250 gair ar y mwyaf)
- Y tanwariant a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (cyfansymiau cyfalaf a refeniw), a manylion am faint o gyllid y mae鈥檙 awdurdod lleol arweiniol yn dymuno newid ei broffil yn y Flwyddyn Ariannol nesaf?
- Edrych Ymlaen: darparu naratif yn amlygu unrhyw brosiectau, digwyddiadau ac astudiaethau achos newydd a chyfleoedd am ymweliadau gan Weinidogion (uchafswm o 200 gair).
3.3 Gofynnir hefyd i awdurdodau lleol arweiniol ateb cwestiwn unigol am sut maent wedi gwario cyllid capasiti. Yn flynyddol, byddwn hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol arweiniol a ydynt wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwerthuso i ategu gwerthusiad yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau o鈥檙 rhaglen.
3.4 Bydd cwestiynau manylach am Brosiectau, Allbynnau a Chanlyniadau, a Gwariant, yn ategu adrodd cryno bob chwe mis, yng nghanol y Flwyddyn Ariannol ac ar ddiwedd y Flwyddyn Ariannol. Mae鈥檙 cwestiynau ychwanegol y byddwn yn eu gofyn, a haen y rhaglen y maent yn perthyn iddo, wedi鈥檜 hamlinellu isod:
Cwestiynau Adrodd Cryno Ychwanegol 鈥 diwedd Blwyddyn Ariannol 2022-23
3.5. Ar 么l gofyn i awdurdodau lleol arweiniol amcangyfrif gwariant diwedd y flwyddyn a thanwariannau tebygol yn eu Hadroddiad Cryno cynaf, bydd adroddiad diwedd Blwyddyn Ariannol 2022-23, a ddisgwylir ar 2 Mai 2023, yn gofyn i awdurdodau lleol arweiniol sydd wedi dweud eu bod yn dymuno newid proffil tanwariannau i鈥檙 flwyddyn ariannol nesaf ddatgan sut maent yn bwriadu sicrhau y gellir defnyddio鈥檙 cyllid y newidiwyd ei broffil ynghyd 芒鈥檙 dyraniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (500 gair ar y mwyaf).
Cynllun credadwy
3.6. Rydym wedi ceisio cyfyngu鈥檙 cwestiynau ychwanegol y byddwn yn eu gofyn i awdurdodau lleol arweiniol yn eu hadroddiadau chwe misol manylach, yn unol ag egwyddorion annibyniaeth, penderfynu ac atebolrwydd lleol. Ymagwedd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau at reoli perfformiad yw y dylai fod yn gymesur, gan ofyn dim ond am y wybodaeth y mae ei hangen arnom i ddeall cynnydd y cyflawni a bodloni ein dyletswyddau ein hunain.
Mae鈥檙 cwestiynau a ofynnwn, a haen y rhaglen y maent yn gysylltiedig 芒 hi, wedi鈥檜 hamlinellu isod:
Lefel prosiect
- Enw鈥檙 Prosiect (rhestrir prosiectau yn 么l Blaenoriaeth Buddsoddi)
- Disgrifiad o鈥檙 Prosiect 鈥 disgrifiad byr o鈥檙 prosiect (10 gair ar y mwyaf), er enghraifft: Grantiau Datblygu Busnes Lleol.
- Prosiect newydd neu brosiect sy鈥檔 rhagflaenu UKSPF 鈥 ai parhad prosiect presennol gyda chyllid UKSPF yw hwn, neu brosiect newydd?
- Prif ymyrraeth yr UKSPF y sefydlwyd y prosiect i鈥檞 chefnogi 鈥 prif ymyrraeth, ar sail gwariant
- Ymyriadau eilaidd (os ydynt yn berthnasol)
- Lleoliad 鈥 Cod post y prosiect neu God Post Cyflawni鈥檙 Prosiect (os yw鈥檔 berthnasol)). Ardaloedd awdurdodau lleol a fydd yn elwa
- Arweinydd Cyflawni 鈥 enw鈥檙 sefydliad sy鈥檔 cyflawni鈥檙 prosiect
- Math o sefydliad sy鈥檔 cyflawni鈥檙 prosiect 鈥 e.e. sefydliadau sector gwirfoddol, sector preifat ac ati
- Statws - h.y., Yn yr arfaeth, Byw, Gorffenedig (wedi鈥檌 gwblhau), Caewyd (wedi鈥檌 atal yn gynnar)
- Rheswm dros gau 鈥 os caewyd prosiect yn gynnar, yn hytrach na chael ei gwblhau鈥檔 llwyddiannus
- Cyfanswm cyllideb UKSPF, yn 么l amcan 鈥 cyllideb UKSPF / REPF (os yw鈥檔 berthnasol) a Chyfanswm Cyllideb (o bob ffynhonnell)
- Ffynonellau cyllid cyntaf ac eilaidd nad ydynt o UKSPF
Mae gofyn am Gyllideb Prosiect yn golygu y bydd ond angen diweddaru manylion prosiect, ar 么l ei restru, pan fydd y prosiect yn dod i ben, neu os oes newid sylweddol i amcanion y prosiect (newid ymyrraeth) neu i gyllideb y prosiect, yn hytrach nag ar gyfer pob ffurflen.
Allbynnau a chanlyniadau
3.7 Gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol adrodd ar gyflawni Allbynnau a Chanlyniadau yn gronnus, gan ddefnyddio鈥檙 un templed ag ar gyfer cynlluniau buddsoddi. Mae celloedd dan glo yn nhempled y cynllun buddsoddi ar agor yn awr er mwyn caniat谩u i awdurdodau lleol arweiniol adrodd ar gyflawni deilliannau na fwriadwyd yn eu cynllun buddsoddi.
Proffil gwariant
3.8 Gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol adrodd ar wariant gwirioneddol hyd yn hyn, o gymharu 芒 dyraniadau cyllid. Ym mis Mai 2023, byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol arweiniol adrodd ar wariant ar gyfer pob ymyrraeth o ddechrau鈥檙 cyflawni hyd at 31 Mawrth 2023, gan ofyn am gyfanswm y gwariant o gymharu 芒鈥檙 rhagolwg (dyraniad), a鈥檙 rhaniad rhwng cyfalaf a refeniw. Hefyd, byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol arweiniol adrodd ar unrhyw gyllid cyfatebol neu gyllid trydydd parti.
3.9 Dylid adrodd ar wariant ar reoli a gweinyddu ar sail y costau gwirioneddol. Bydd linell ar wah芒n i gyfrif am y gwariant hyd yn hyn. Yn unol 芒鈥檙 Prosbectws, gall awdurdodau lleol arweiniol ddefnyddio mwy na鈥檜 canran cytunedig o gyllid i gefnogi rheoli a gweinyddu ym mlwyddyn un, ond rhaid iddynt gofnodi gwariant gwirioneddol ac, erbyn diwedd y Rhaglen, ni all hwn fod yn uwch na鈥檙 canran cytunedig.
3.10 Rhaid i Brif Swyddog Cyllid pob awdurdod lleol arweiniol lofnodi ffurflenni i鈥檙 adran, i gadarnhau eu bod yn fodlon bod yr hyn a ddarparwyd yn gywir ac yn gyflawnadwy. Bwriedir i adrodd cryno ar ddiwedd chwarteri 1 (Mehefin) a 3 (Rhagfyr, ac eithrio ym mlwyddyn 1) ddarparu trosolwg o weithgarwch, gwariant disgwyliedig a thanwariant disgwyliedig, a dylid ei llofnodi ar y sail honno.
Amserlen adrodd
3.11 Mae鈥檙 tabl isod yn amlinellu鈥檙 amserlen ar gyfer adrodd. Bydd adrodd cryno ond yn gofyn y cwestiynau a amlinellir yn 3.2. Dylai awdurdodau lleol arweiniol barhau i gasglu allbynnau a chanlyniadau eu gwariant UKSPF, gan fod buddion yn parhau i gael eu cyflawni ar 么l y cyfnod adrodd. Bydd y ffordd rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol ddarparu allbynnau a chanlyniadau sy鈥檔 parhau i gael eu gwireddu ar 么l 2025 yn cael ei amlinellu, maes o law.
Cyfnodau Adrodd | Comisiynu鈥檙 Adroddiad | Dyddiad Cyflwyno鈥檙 Adroddiad | Math o Wybodaeth |
---|---|---|---|
Dechrau鈥檙 Rhaglen 22 tan 28 Chwefror 2023 | 27 Chwefror 2023 | 17 Mawrth 2023 | Adroddiad cryno yn unig |
Dechrau鈥檙 Rhaglen tan 31 Mawrth 2023 | 3 Ebrill 2023 | 2 Mai 2023 | Adroddiad Diwedd Blwyddyn, yn cynnwys cynlluniau credadwy i fynd i鈥檙 afael 芒 thanwariant 2022-23, os bu tanwariant |
1 Ebrill tan 30 Mehefin 2023 | 3 Gorffennaf 2023 | 1 Awst 2023 | Chwarterol (adroddiad cryno yn unig) |
1 Ebrill tan 30 Medi 2023 | 2 Hydref 2023 | 1 Tachwedd 2023 | Chwe misol |
1 Hydref tan 31 Rhagfyr 2023 | 2 Ionawr 2024 | 1 Chwefror 2024 | Chwarterol (adroddiad cryno yn unig) |
1 Hydref tan 31 Mawrth 2024 | 2 Ebrill 2024 | 1 Mai 2024 | Chwe misol |
1 Ebrill tan 30 Mehefin 2024 | 1 Gorffennaf 2024 | 1 Awst 2024 | Chwarterol (adroddiad cryno yn unig) |
1 Ebrill tan 30 Medi 2024 | 1 Hydref 2024 | 1 Tachwedd 2024 | Chwe misol |
1 Hydref tan 31 Rhagfyr 2024 | 2 Ionawr 2025 | 1 Chwefror 2025 | Chwarterol (adroddiad cryno yn unig) |
1 Hydref tan 31 Mawrth 2025 | 1 Ebrill 2025 | 1 Mai 2025 | Chwe misol ac adroddiad terfynol cylch cyllid yr adroddiad cryno |
Beth fyddwn ni鈥檔 ei wneud 芒鈥檙 data a roddir?
3.12 Bwriedir i鈥檙 cwestiynau a鈥檙 ceisiadau am ddata gan awdurdodau lleol arweiniol gofnodi gwybodaeth at dri diben:
- Arolwg lefel rhaglen o gynnydd yr UKSPF i roi sicrwydd i鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, y Swyddog Atebol, Gweinidogion a鈥檙 Senedd.
- Cynorthwyo 芒 gwerthuso鈥檙 Gronfa, y mae ei hegwyddorion wedi鈥檜 hamlinellu yn yr adran monitro a gwerthuso, ac y mae鈥檙 strategaeth werthuso yn ymhelaethu arnynt.
- Monitro bod arian UKSPF yn cael ei wario ar flaenoriaethau UKSPF, a bod yr allbynnau a鈥檙 canlyniadau sy鈥檔 cael eu cyflawni yn cyd-fynd 芒鈥檙 disgwyliadau mewn cynlluniau buddsoddi.
3.13 Bydd angen i Brif Swyddog Cyllid yr awdurdod lleol arweiniol graffu ar bob ffurflen cyflwyno data a鈥檜 llofnodi.
Proses rheoli perfformiad a newid UKSPF
3.14 Mae鈥檙 adran ganlynol yn amlinellu鈥檙 broses i awdurdod lleol arweiniol wneud newidiadau i鈥檞 gynllun buddsoddi a鈥檌 ddyletswyddau i roi gwybod i鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau am newidiadau. Mae鈥檙 rhain yn cyd-fynd 芒 dyletswyddau statudol a rheolau presennol awdurdodau lleol arweiniol i ddefnyddio arian cyhoeddus yn dda.
Sbardunau newid
3.15 Bydd UKSPF yn mynd ati鈥檔 gymesur i newid blaenoriaethau a chynlluniau lleol yn unol 芒鈥檙 cyfrifoldebau a ddirprwyir i awdurdodau lleol arweiniol. Ystyr hyn yw y bydd angen cymeradwyaeth yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau dim ond pan wneir 鈥渘ewidiadau perthnasol鈥 i gynlluniau buddsoddi UKSPF.
3.16 Os gwneir newidiadau ond maent yn disgyn islaw鈥檙 trothwyon a ddiffinnir ym mharagraff 3.20 i gael eu hystyried yn 鈥渘ewidiadau perthnasol鈥, nid oes angen i awdurdodau lleol arweiniol geisio cymeradwyaeth yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.
3.17 Fodd bynnag, dylent roi diweddariadau rheolaidd ar y newidiadau hyn i鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fel rhan o鈥檜 cylch adrodd rheolaidd. Dylid gwneud hyn drwy eu cylch adrodd chwarterol a chwe misol arferol.
3.18 Os croeswyd y trothwyon yn 3.20, byddai鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ystyried bod y newid yn 鈥渂erthnasol鈥 a byddai angen cymeradwyaeth ffurfiol oddi wrth yr adran cyn y gallai awdurdod lleol arweiniol wneud y newidiadau.
3.19 Gellir gwneud ceisiadau am newidiadau perthnasol i鈥檙 adran fel y bo鈥檙 gofyn. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn amlinellu templed i awdurdodau lleol arweiniol ei ddefnyddio, gan ddilyn y broses isod.
Newidiadau perthnasol
3.20 At ddibenion UKSPF, bydd unrhyw rai o鈥檙 canlynol yn 鈥榥ewid perthnasol鈥:
Newid perthnasol 1:
Ar 么l cymeradwyo鈥檙 cynllun buddsoddi, cais am gostau gweinyddol dros y tair blynedd sydd uwchlaw鈥檙 ganran y cytunwyd arni mewn cynllun buddsoddi awdurdod lleol arweiniol.
Newid perthnasol 2:
Ailbroffilio cyllid unwaith o un flaenoriaeth buddsoddi i flaenoriaeth arall (nid rhwng ymyriadau) os bydd y newid yn cynnwys symud 30% o gyfanswm y dyraniad cyllid dros y tair blynedd neu 拢5m, pa un bynnag sydd isaf. Meincnodir y newid hwn yn erbyn y cynllun buddsoddi y cytunodd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau arno neu yn erbyn y sefyllfa y cytunwyd arni fel rhan o newid perthnasol blaenorol.
Newid perthnasol 3:
Cyflwyno ymyrraeth bwrpasol newydd.
3.21 Nid yw鈥檙 canlynol yn cael eu hystyried yn Newid Perthnasol a gellir adrodd arnynt i鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn y ffurflenni monitro canol blwyddyn a diwedd blwyddyn.
1. Symud cyllid rhwng ymyriadau o fewn blaenoriaeth buddsoddi.
2. Newidiadau mewn allbynnau neu ganlyniadau o ganlyniad i symud cyllid rhwng ymyriadau o fewn blaenoriaeth buddsoddi
3. Symud cyllid rhwng blaenoriaethau buddsoddi nad yw鈥檔 sbarduno Newid Perthnasol 2 a
4. Newidiadau i allbynnau a chanlyniadau o ganlyniad i symud cyllid rhwng blaenoriaethau buddsoddi nad yw鈥檔 sbarduno Newid Perthnasol 2
5. Newidiadau i broffiliau ariannol i reoli tanwariannau fel rhan o adrodd diwedd blwyddyn, ac eithrio (fel y soniwyd uchod ym mharagraff 3.20) pan fyddant yn sbarduno un o鈥檙 newidiadau perthnasol y soniwyd amdano uchod.
6. Newidiadau i broffiliau ariannol ac allbynnau a chanlyniadau o ganlyniad i ddileu鈥檙 cyfyngiad ar gyllido gweithgarwch pobl a sgiliau yn Lloegr ym mlwyddyn ariannol 2023/2024.
Cwestiynau i Awdurdodau arweiniol eu hateb fel rhan o broses newid
3.22 Gofynnir y cwestiynau canlynol i awdurdodau lleol arweiniol fel rhan o ystyriaeth yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau o unrhyw 鈥榥ewidiadau perthnasol鈥.
Pob newid
1. A yw鈥檙 Prif Swyddog Cyllid wedi ardystio bod y newid yn angenrheidiol ac yn gyflawnadwy?
2. A allwch gadarnhau bod barn y gr诺p partneriaeth lleol wedi鈥檌 cheisio cyn y cais hwn am newid a chadarnhau eu bod yn fodlon?
Cais am ddefnyddio mwy na chyfanswm cytunedig eu dyraniad gan UKSPF ar gyfer gweinyddu, ar 么l cyflwyno鈥檙 cynllun buddsoddi.
1. Faint o gyllid ychwanegol ar gyfer rheoli / gweinyddu鈥檙 prosiect y mae ei angen i gyflawni eich rhaglen / prosiect?
2. Pa gyllid ychwanegol ar gyfer rheoli / gweinyddu y gall yr awdurdod arweiniol ei ddarparu ei hun?
3. Pa effaith y bydd cynyddu costau rheoli / gweinyddu yn ei chael ar allbynnau a chanlyniadau?
Cais am symud 30% neu 拢5m neu fwy o gyfanswm dyraniad UKSPF rhwng blaenoriaethau buddsoddi
1. Pa ymyrraeth ac allbynnau/canlyniadau eraill, os o gwbl, yr ydych am eu cyflawni yn awr?
2. Cadarnhewch eich bod wedi ystyried y risgiau a鈥檙 problemau sy鈥檔 codi o newid eich cynlluniau, a鈥檙 rheolaeth ar y risgiau a鈥檙 problemau hynny, a鈥檜 lliniaru, gan gynnwys e.e. risgiau, dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus?
3. Cadarnhewch fod gennych ddigon o allu a chapasiti i reoli effaith y newid y gofynnir amdano?
4. Cadarnhewch fod unrhyw oblygiadau i gymorthdaliadau / Cymorth Gwladol yn sgil y newid y gofynnwyd amdano wedi鈥檜 hystyried ac y gall gweithgarwch ddigwydd yn unol 芒鈥檙 gofynion hyn ac na fydd cyllido鈥檙 prosiect diwygiedig yn torri cyfraith cymorthdaliadau / Cymorth Gwladol.
3.23 Bydd t卯m UKSPF yn asesu ac yn ymateb i geisiadau am newid perthnasol mor gyflym 芒 phosibl. Bydd manylion pellach am fformat casglu鈥檙 data hwn gan awdurdodau arweiniol yn cael ei amlinellu, maes o law, cyn y terfyn ar gyfer adrodd yn ffurfiol am y tro cyntaf.
3.24 Bwriedir i ethos a chynllun y Gronfa roi hyblygrwydd a chyfrifoldeb i awdurdodau lleol arweiniol wrth gyflawni. Fodd bynnag, mae rhai newidiadau na fyddai鈥檙 adran yn eu hystyried:
- Ceisiadau yn ystod y flwyddyn i gynyddu swm y cyllid refeniw (RDEL) a lleihau swm y cyllid cyfalaf (CDEL) i鈥檞 ddefnyddio yn ystod y flwyddyn honno. Bydd llythyron pennu鈥檙 grant blynyddol a gaiff awdurdodau lleol arweiniol yn amlinellu dyraniad RDEL a CDEL. Ni all cyllid CDEL gael ei drosi鈥檔 RDEL, ond gall swm y CDEL gael ei gynyddu trwy drosi RDEL i CDEL.
- Newidiadau, ni waeth a ydynt yn newid perthnasol i broffiliau ariannol blynyddol a fyddai鈥檔 arwain at gynnydd mewn gwariant RDEL y tu hwnt i derfyn ar ganran pob awdurdod lleol arweiniol, sydd wedi鈥檌 osod yma ym mhrosbectws UKSPF % CAP RDEL
- Yng Nghymru a鈥檙 Alban, ceisiadau i symud cyllid a neilltuwyd i gyflawni Multiply i ymyriadau craidd UKSPF.
Gwariant a chyfrifwyd amdano: diffiniad a rheoli dyraniadau lleol
3.25 Fel yr amlinellir yn a8.1 y prosbectws, byddwn yn talu pob awdurdod lleol arweiniol yn flynyddol ar gyfer cyllid craidd UKSPF (a chyllid Multiply yng Nghymru a鈥檙 Alban). Yn 2022 i 2023, telir cyllid pan fydd y cynllun buddsoddi lleol wedi鈥檌 gymeradwyo. Yn 2023 i 2024 ac yn 2024 i 2025, byddwn yn talu cyn gynted 芒 phosibl yn y flwyddyn ariannol, ar 么l adolygu adroddiadau.
3.26 Rydym yn disgwyl i fuddsoddiad ac allbynnau鈥檙 Gronfa (ar gyfer craidd UKSPF yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban a, hefyd, cyllid Multiply yng Nghymru a鈥檙 Alban) gael eu cyflawni yn unol 芒 chynllun buddsoddi pob lle. Cadwn yr hawl i atal, oedi a/neu addasu cylchoedd talu o 2023 i 2024 ymlaen lle ceir problemau 芒 pherfformiad neu broblemau eraill 芒 chyflawni.
3.27 Bydd hyn yn ddarostyngedig i awdurdodau lleol arweiniol yn dangos yn eu cynlluniau buddsoddi a鈥檜 hadroddiadau dilynol ar berfformiad y bydd taliad blynyddol llawn yn cael ei wario ac y cyfrifir amdano yn ystod y flwyddyn ar weithgareddau UKSPF, neu y cytunir ar gynllun credadwy ar gyfer tanwariannau.
Beth sy鈥檔 cael ei ystyried yn 鈥榳ariant鈥?
3.28 鈥楪all awdurdodau lleol arweiniol adrodd gwariant eu dyraniad UKSPF blynyddol os caiff y gwariant hwnnw ei gynnwys yng nghyfrifon yr awdurdod lleol arweiniol ar gyfer y flwyddyn honno. Mae 鈥楪wariant鈥 yn cynnwys gwariant wedi鈥檌 anfonebu a鈥檌 dalu, yn ogystal 芒 gwariant cronedig, yn unol 芒 safonau cyfrifyddu ariannol. H.y. gall pob gwariant sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gweithgarwch UKSPF a ddyrannwyd i gyfrifon 2022/23 gael ei neilltuo i ddyraniad UKSPF 2022/23, ni waeth pryd y gwnaed y taliadau. Nid oes gofyn bod cyllid sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gweithgarwch UKSPF wedi cael ei dalu h.y. gadael cyfrif banc yr awdurdod lleol arweiniol er mwyn cael ei gyfrif yn erbyn dyraniad UKSPF y flwyddyn honno.
3.29 I gael ei ystyried yn wariant ar gyfer UKSPF, rhaid i gyllid berthyn i gostau yr aed iddynt gan y sefydliad sy鈥檔 cyflawni gweithgarwch a ariannwyd gan UKSPF (cyflwynwyr prosiectau), gan gynnwys cyflawni yn fewnol gan yr awdurdod lleol arweiniol. Er enghraifft, os talodd awdurdod lleol arweiniol MCA (neu awdurdod lleol arweiniol sy鈥檔 arweinydd ar ran gr诺p o awdurdodau lleol) gyfran o ddyraniad yr UKSPF i bob un o鈥檙 awdurdodau lleol yn yr ardal i gyflawni prosiectau a dirprwyodd ddetholiad o brosiectau i鈥檙 awdurdodau lleol unigol:
- Ni fyddai鈥檙 cyllid ymlaen llaw a dalodd yr MCA i鈥檙 awdurdodau lleol yn cael ei ystyried yn wariant.
- Byddai鈥檙 cyllid a dalwyd i鈥檙 awdurdod lleol yn cael ei ystyried yn wariant pan fydd yr awdurdod lleol wedi talu cyllid i gyflawnwyr prosiectau.
Os bydd awdurdod lleol arweiniol yn trosglwyddo cyllid i awdurdod lleol arall i gyflawni prosiect penodol (yr awdurdod lleol yw cyflawnwr y prosiect), byddai鈥檙 cyllid a dalwyd i鈥檙 awdurdod lleol yn cael ei ystyried yn wariant pan fydd yr awdurdod lleol arweiniol yn ei dalu i鈥檙 awdurdod lleol.
3.30 Nid yw鈥檔 ofynnol i awdurdodau lleol arweiniol dalu cyflawnwyr prosiectau fesul 么l-daliadau ar sail gwariant gwirioneddol. Gall awdurdodau lleol arweiniol ddewis talu cyllid ymlaen llaw, yn 么l proffil, ar sail gwariant gwirioneddol neu gyfuniad o鈥檙 dulliau hyn, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Os telir cyllid ar ffurf 么l-daliadau, dylai awdurdodau lleol arweiniol fynd ati i ad-dalu cyflawnwyr prosiectau mor gyflym 芒 phosibl.
3.31 Mae hyn yn berthnasol i holl wariant UKSPF 鈥 gan gynnwys unrhyw daliadau o awdurdod lleol arweiniol i awdurdod lleol arall, neu wariant mewnol.
Tanwariannau awdurdodau lleol arweiniol
3.32 Byddwn yn ystyried atal y rhandaliad blynyddol nesaf hyd nes byddwn wedi cael cynlluniau credadwy sy鈥檔 dangos y cyflawni diwygiedig i gyflawni targedau disgwyliedig, yn amlinellu sut bydd yr awdurdod lleol arweiniol yn defnyddio tanwariannau yn y flwyddyn nesaf a/neu fod cerrig milltir a gwariant priodol wedi鈥檜 cyflawni ar gyfer y flwyddyn flaenorol (gweler 3.5 ar gyfer gofynion cynllun credadwy). Bydd angen i awdurdodau lleol arweiniol sefydlu dulliau rheoli rhaglen priodol i wneud y mwyaf o gyflawni effeithiol a chyflawni gwariant yn 么l y proffil.
3.33 Os oes gennym bryderon parhaus am gynlluniau gwario yn y dyfodol ar sail profiad o gyflawni lleol hyd yn hyn, gallem dalu fesul rhandaliad ar sail perfformiad neu, fel arall, oedi neu atal dyraniadau blynyddol yn y dyfodol.
3.34 Ni ddarperir cyllid ar gyfer gweithgarwch ar 么l 31 Mawrth 2025 a disgwyliwn fod tanwariannau ym mlwyddyn olaf y rhaglen (2024 tan 2025) yn cael eu had-dalu i鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Mater i鈥檙 Adolygiad Gwariant nesaf fydd dyfodol yr UKSPF a bydd yn elwa wrth i ardaloedd allu darparu tystiolaeth o gyflawni, gwerth am arian, allbynnau a chanlyniadau ar 么l 31 Mawrth 2025.
3.35 Fel yr amlinellwyd ym Mhrosbectws UKSPF, os oes risgiau gweithredol neu ariannol presennol, neu rai sy鈥檔 dod i鈥檙 amlwg, gallem leihau鈥檙 dirprwyo, lleihau cyfnodau talu neu atal cyllid. Gall hyn hefyd arwain at ofynion adrodd mwy rheolaidd er mwyn rhyddhau cyllid yn ystod y flwyddyn.
Updates to this page
-
Added another example that does not constitute material change to the list in paragraph 3.21.
-
Changes and clarifications to questions in the reporting template. Updated reporting timetable. Refined and clarified thresholds for Material Changes. What counts as 鈥榮pend鈥 clarified in greater detail.
-
Welsh added
-
Added translation