Canllawiau

Defnyddio atwrneiaeth arhosol y rhoddwr: codau mynediad a Gweld Atwrneiaeth Arhosol

Gallwch ganiat谩u i gwmn茂au weld fersiwn ar-lein o鈥檙 LPA, yn lle鈥檙 fersiwn bapur. Darllenwch ymlaen i gael gwybod sut i wneud hyn.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Fel atwrnai, efallai y bydd angen i chi wneud penderfyniadau ar ran y rhoddwr sydd wedi eich penodi, gan ddefnyddio鈥檙 atwrneiaeth arhosol (LPA) a gr毛wyd ganddynt.

Mae鈥檙 canllawiau hyn yn dweud wrthych sut i ddefnyddio鈥檙 LPA, drwy greu codau mynediad a chysylltu 芒 chwmn茂au a sefydliadau i ddangos yr LPA iddynt. Efallai y byddai鈥檔 werth gwirio鈥檙 wybodaeth a anfonwyd atoch pan gofrestrwyd yr LPA.

Mae鈥檙 gwasanaeth hwn yn berthnasol i LPAs yn unig. Os ydych chi鈥檔 atwrnai ar atwrneiaeth barhaus (EPA), bydd angen i chi ddangos yr EPA papur cofrestredig wrth ei ddefnyddio gyda chwmn茂au a sefydliadau.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy yngl欧n 芒 sut i fod yn atwrnai; helpu鈥檙 rhoddwr i wneud penderfyniadau, asesu ei alluedd meddyliol a gwneud penderfyniadau ar ei ran.

Beth yw cod mynediad?

Gellir rhoi cod mynediad i unrhyw gwmni sydd angen gweld LPA y rhoddwr, yn lle dangos y fersiwn bapur gofrestredig iddynt. Gallwch greu鈥檙 rhain ar y gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol. Pan gofrestrwyd yr LPA, roedd y llythyr a gawsoch yn cynnwys gwybodaeth yngl欧n 芒 sut i greu cyfrif ar y gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol.

Mae cod mynediad yn cynnwys 13 nod ac mae鈥檔 dechrau 芒鈥檙 llythyren V. Gall cwmni ei ddefnyddio ar y gwasanaeth Gweld Atwrneiaeth Arhosol. Mae鈥檙 gwasanaeth yn caniat谩u iddynt ddod o hyd i LPA y rhoddwr, a gwirio bod eich enw arni ac y gallwch ei defnyddio. Gelwir y broses hon yn gwirio.

Cyn rhoi鈥檙 cod mynediad i鈥檙 cwmni, gwiriwch mai hon yw鈥檙 LPA gywir ar gyfer yr hyn y bwriedwch ei wneud. Mae 2 fath o LPA, un ar gyfer iechyd a lles ac un ar gyfer eiddo a materion ariannol. Bydd y 2 fath o LPA yn caniat谩u i chi wneud mathau penodol o benderfyniadau, a bydd rhoi cod ar gyfer y math anghywir i鈥檙 cwmni yn golygu na fyddwch yn gallu gweithredu. Er enghraifft, os yw鈥檙 cod ar gyfer LPA iechyd a lles, ond eich bod yn bwriadu talu bil, ni fyddwch yn gallu gwneud hynny.

Pan fyddwch wedi rhoi鈥檙 cod mynediad i鈥檙 cwmni, bydd y cwmni鈥檔 defnyddio Gweld Atwrneiaeth Arhosol i wirio rhai o鈥檙 canlynol neu bob un ohonynt:

  • Bod manylion y rhoddwr ar yr LPA yn cyfateb i鈥檙 manylion sydd ganddynt. Er enghraifft, ei enw, cyfeiriad a dyddiad geni.
  • Eich bod yn atwrnai ar yr LPA. Efallai y bydd arnynt eisiau gweld eich dogfennau adnabod hefyd.
  • Sut y gellir gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio鈥檙 LPA (os oes mwy nag un atwrnai).
  • Dewis y rhoddwr yngl欧n 芒 thriniaeth cynnal bywyd, os yw鈥檙 LPA ar gyfer iechyd a lles
  • Unrhyw gyfarwyddiadau a dewisiadau a ysgrifennwyd gan y rhoddwr. Os oes rhai, gwnewch yn si诺r eich bod yn gwybod a fyddant yn effeithio ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud gyda鈥檙 LPA
  • A yw鈥檙 LPA dal yn ddilys a chofrestredig

Os yw鈥檙 cwmni鈥檔 fodlon 芒鈥檙 wybodaeth hon bydd yn caniat谩u i chi wneud penderfyniadau ar ran y rhoddwr, er enghraifft rhoi mynediad i鈥檞 gyfrifon.

Pam defnyddio codau mynediad?

Mae gan bob LPA sydd wedi鈥檌 chofrestru yn y DU ar hyn o bryd fersiwn bapur. Er mwyn defnyddio鈥檙 LPA bapur gofrestredig, rhaid i chi naill ai ddod 芒 hi i gangen neu ei phostio i gwmni i gael ei gwirio.

Bydd creu cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol yn caniat谩u i chi greu cod mynediad unigol ar gyfer pob cwmni y mae angen iddo weld yr LPA.聽

Gellir gwirio 鈥 a defnyddio 鈥 yr LPA yn gyflymach

Mae鈥檙 crynodeb ar-lein yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn gwirio yr LPA a鈥檆h gwirio chi, ar un dudalen. Ar y fersiwn bapur, mae鈥檙 wybodaeth hanfodol i鈥檞 gweld ar dudalennau gwahanol ym mhob rhan o鈥檙 ddogfen.

Efallai y bydd rhai cwmn茂au yn gofyn i chi bostio鈥檙 LPA bapur gofrestredig iddynt. Gallai diwrnodau neu wythnosau fynd heibio cyn i chi ei chael yn 么l. Ni fyddech yn gallu ei defnyddio yn y cyfamser, ond byddai cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol yn caniat谩u i chi greu codau mynediad ar gyfer unrhyw gwmn茂au y byddai angen iddynt ei gweld.

Mae鈥檙 wybodaeth yn fwy cyfredol

Yr unig wybodaeth y gall yr LPA bapur ei dangos yw鈥檙 wybodaeth a oedd arni pan gafodd ei chofrestru, tra bydd Gweld Atwrneiaeth Arhosol bob amser yn dangos y wybodaeth fwyaf cyfredol. Mae hyn yn rhoi mwy o amddiffyniad i鈥檙 rhoddwr, gan wneud yn si诺r bod yr LPA yn cael ei defnyddio yn union fel y mae arnynt eisiau iddi gael ei defnyddio. Er enghraifft, efallai na fydd atwrnai yn gwneud penderfyniadau ar ran y rhoddwr mwyach, neu efallai y bydd atwrnai newydd wedi dechrau gweithredu ar ei ran. Gallai鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 newidiadau hyn effeithio ar atwrneiod eraill ar yr LPA.

Gallai atwrnai fod wedi newid ei enw neu ei gyfeiriad - gwybodaeth a ddefnyddir i wirio pwy ydyw. Os yw wedi rhoi gwybod i ni yn barod, bydd Gweld Atwrneiaeth Arhosol yn dangos y manylion newydd, ond ni ellir newid yr LPA bapur.

Dylech chi a鈥檙 rhoddwr roi gwybod i bob un o鈥檙 cwmn茂au a鈥檙 sefydliadau hyn os bydd eich manylion personol neu eich amgylchiadau鈥檔 newid.

Gall mwy nag un unigolyn ddefnyddio鈥檙 LPA yr un pryd

Nid oes ond un copi o鈥檙 LPA bapur gofrestredig, ond efallai nad chi fydd yr unig atwrnai ar yr LPA. Pe bai angen i chi neu atwrnai arall weithredu ar ran y rhoddwr, ond nad yw鈥檙 LPA bapur gofrestredig gennych (neu gopi ardystiedig ohoni), ni fyddech yn gallu gwneud hynny鈥檔 gyfreithlon.

Er hyn, gall pob atwrnai ar LPA, a鈥檙 rhoddwr, greu codau mynediad ar gyfer y cwmn茂au y mae angen iddynt ymdrin 芒 hwy.

Eich cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol

Gallwch greu cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol trwy ddefnyddio 天美影院 One Login.

Pan gofrestrwyd yr LPA anfonwyd llythyr atoch i gadarnhau hyn, a oedd yn cynnwys allwedd cadarnhau cyfrif. Bydd yr allwedd cadarnhau cyfrif hwn yn caniat谩u i chi ychwanegu鈥檙 LPA at eich cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol. Mae鈥檔 ddilys am 12 mis o鈥檙 adeg cofrestru.

Os cofrestrwyd yr LPA dros 12 mis yn 么l, neu os nad ydych yn gallu dod o hyd i鈥檙 llythyr, mae鈥檔 dal yn bosibl i chi greu cyfrif Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol, yna gofyn am allwedd cadarnhau cyfrif drwy鈥檙 cyfrif hwnnw.

Creu eich cyfrif LPA

  1. Ewch i www.gov.uk/defnyddio-atwrneiaeth-arhosol
  2. Defnyddiwch eich 天美影院 One Login i greu cyfrif. Os nad oes gennych gyfrif yn barod, ewch i聽dudalen 天美影院 One Login聽a dilyn y cyfarwyddiadau i greu un.
  3. Defnyddiwch eich allwedd cadarnhau cyfrif i ychwanegu鈥檙 LPA. Dim ond er mwyn ychwanegu鈥檙 LPA hon at y cyfrif y gallwch ddefnyddio鈥檙 allwedd cadarnhau cyfrif hwn.

Gallwch ailadrodd cam 3 ar gyfer pob LPA rydych yn atwrnai neu鈥檔 rhoddwr arni. Y cyfan y mae arnoch ei angen yw allwedd cadarnhau cyfrif dilys ar gyfer pob un.

Os cafodd LPA ei chofrestru cyn 1 Ionawr 2016, ni fydd ganddi rif LPA 12 digid ac ni ellir ei hychwanegu ar Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol. Bydd yn rhaid i chi ddangos y fersiwn bapur gofrestredig i gwmn茂au.

Creu codau mynediad

Pan fydd yr LPA wedi ei hychwanegu at eich cyfrif, gallwch ddechrau creu codau mynediad i鈥檞 rhoi i gwmn茂au a sefydliadau unigol.

  1. Mewngofnodwch i鈥檆h cyfrif
  2. Cliciwch ar 鈥楥aniat谩u mynediad i sefydliad.鈥. Bydd hyn yn creu cod 12 nod sy鈥檔 dechrau 芒 V. Mae鈥檙 cod yn ddilys am 30 diwrnod o鈥檙 dyddiad rydych yn ei greu
  3. Rhowch y cod i鈥檙 sefydliad lle mae angen i chi ddefnyddio鈥檙 LPA. Dylech ddod 芒 dogfennau adnabod gyda chi, oherwydd mae鈥檔 bosibl y bydd angen i chi gadarnhau pwy ydych chi.

Yn ogystal 芒 rhoi cod mynediad i gwmni yn bersonol, gallwch ei rannu ar-lein, dros y ff么n neu drwy鈥檙 post. Dylai鈥檙 cwmni rydych yn ei roi iddo adael i chi wybod beth yw鈥檙 ffordd orau o gadarnhau pwy ydych chi.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Mehefin 2025 show all updates
  1. Sentence added to inform users that the service only applies to LPAs, not EPAs.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon