Cyfrifo鈥檆h trosiant fel y gallwch hawlio鈥檙 pumed grant SEISS
Darganfyddwch y ffigurau trosiant y bydd eu hangen arnoch cyn i chi hawlio, ble i ddod o hyd iddynt a sut maen nhw鈥檔 effeithio ar swm eich grant.
Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni am eich trosiant os gwnaethoch fasnachu yn 2019 i 2020 yn ogystal ag unrhyw un o鈥檙 blynyddoedd treth canlynol:
- 2018 i 2019
- 2017 i 2018
- 2016 i 2017
Mae trosiant yn cynnwys y derbyniadau, y ffioedd, y gwerthiannau neu鈥檙 arian a enillwyd gan eich busnes neu a ddaeth i law eich busnes.
Cyn i chi hawlio
Mae鈥檔 rhaid:
-
Cyfrifo鈥檆h trosiant ar gyfer mis Ebrill 2020 i fis Ebrill 2021.
-
Dewch o hyd i鈥檆h trosiant o naill ai 2019 i 2020 neu 2018 i 2019 i鈥檞 ddefnyddio fel blwyddyn gyfeirio.
Bydd angen i chi gael y ddau ffigur yn barod pan fyddwch yn cyflwyno鈥檆h hawliad.
Sut i gyfrifo鈥檆h trosiant ar gyfer mis Ebrill 2020 i Ebrill 2021
Mae鈥檔 rhaid i chi gyfrifo鈥檆h trosiant am gyfnod o 12 mis, gan ddechrau ar unrhyw ddyddiad o 1 i 6 Ebrill 2020.
Gallwch ddefnyddio un o鈥檙 cyfnodau canlynol:
- 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021
- 2 Ebrill 2020 i 1 Ebrill 2021
- 3 Ebrill 2020 i 2 Ebrill 2021
- 4 Ebrill 2020 i 3 Ebrill 2021
- 5 Ebrill 2020 i 4 Ebrill 2021
- 6 Ebrill 2020 i 5 Ebrill 2021
Dylech wirio bod eich ffigur yn gywir. Bydd CThEM yn gallu gwirio鈥檆h ffigurau ar 么l i chi gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth ar gyfer y cyfnod hwn.
Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h ffigur gynnwys trosiant pob un o鈥檆h busnesau.
Ble i ddod o hyd i鈥檆h ffigurau trosiant
Gallwch wneud y canlynol:
- cyfeirio鈥檔 么l at eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2020 i 2021, os ydych wedi鈥檌 llenwi
- gwirio鈥檆h meddalwedd gyfrifyddu (os ydych yn defnyddio un)
- mynd trwy鈥檆h cofnodion cadw cyfrifon neu gofnodion taenlen sy鈥檔 cwmpasu鈥檆h anfonebau hunangyflogaeth a鈥檆h taliadau a ddaeth i law
- gwirio鈥檙 cyfrif banc rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes i roi cyfrif am arian sy鈥檔 dod i mewn gan gwsmeriaid
- gofyn i鈥檆h cyfrifydd neu ymgynghorydd treth (os oes gennych un)
Beth i beidio 芒鈥檌 gynnwys
Unrhyw beth a nodwyd fel unrhyw incwm arall ar eich Ffurflen Dreth. Ni ddylech ychwaith gynnwys unrhyw daliadau cymorth yn sgil coronafeirws (COVID-19), er enghraifft:
- grantiau SEISS blaenorol
- taliadau鈥檙 cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
- grantiau awdurdodau lleol neu weinyddiaethau datganoledig
Os gwnaethoch ddechrau neu roi鈥檙 gorau i fusnes yn 2020 i 2021
Dylech gynnwys y trosiant a ddaeth i law rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021, hyd yn oed os yw hyn yn cwmpasu llai na 12 mis.
Os oes gennych fwy nag un busnes fel unig fasnachwr
Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h ffigur gynnwys cyfanswm trosiant pob un o鈥檆h busnesau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fusnes newydd a ddechreuoch rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021.
Os ydych yn is-gontractiwr o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h trosiant gynnwys symiau llawn eich anfonebau, cyn unrhyw ddidyniadau mae contractwyr wedi鈥檜 gwneud yn y maes 鈥楧idyniadau CIS鈥.
Os ydych yn aelod o bartneriaeth
Mae sut rydych yn cyfrifo鈥檆h trosiant yn dibynnu ar ba pryd y dechreuoch fod yn rhan o鈥檙 bartneriaeth ac a oes gennych fusnesau eraill.
Os oeddech yn aelod o鈥檙 un bartneriaeth yn eich blwyddyn gyfeirio ac ym mis Ebrill 2020 i fis Ebrill 2021 ac nad oedd gennych unrhyw fusnesau eraill yn yr un o鈥檙 blynyddoedd hynny, bydd angen i chi gyfrifo a defnyddio cyfanswm trosiant y bartneriaeth.
Os oeddech yn aelod o鈥檙 un bartneriaeth ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 ac yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021, a bod gennych hefyd fusnesau eraill ar unrhyw adeg yn y naill gyfnod neu鈥檙 llall, bydd angen i chi gyfrifo a chynnwys eich cyfran ganrannol o drosiant y bartneriaeth. Bydd hyn yr un fath 芒 chanran yr elw a gymerwyd gennych o鈥檙 bartneriaeth yn eich blwyddyn gyfeirio, hyd yn oed pe bai canran eich cyfran elw wedi newid ar 么l eich blwyddyn gyfeirio. Dylech ychwanegu hyn at y trosiant o鈥檆h busnesau eraill.
Os ymunoch 芒 phartneriaeth rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021, bydd angen i chi gyfrifo鈥檆h cyfran o drosiant y bartneriaeth. Bydd yr un ganran o鈥檙 elw ag y gwnaethoch ei chymryd o鈥檙 bartneriaeth yn y cyfnod o 12 mis, Ebrill 2020 i Ebrill 2021. Os oes gennych fusnesau eraill, dylech ychwanegu hyn at y trosiant o鈥檆h busnesau eraill.
Os oes gennych incwm Lloyd鈥檚
Os oes gennych incwm Lloyd鈥檚 yn ogystal ag incwm o fusnes arall, dylech ddefnyddio鈥檙 trosiant o鈥檆h busnes arall.
Os mai dim ond incwm Lloyds鈥檚 sydd gennych cysylltwch 芒 ni.
Dewch o hyd i drosiant blwyddyn flaenorol i鈥檞 ddefnyddio fel blwyddyn gyfeirio
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 trosiant a nodwyd yn eich Ffurflen Dreth 2019 i 2020 fel blwyddyn gyfeirio. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 ffigur:
- bod yn seiliedig ar gyfnod o 12 mis
- cynnwys cyfanswm y trosiant ar gyfer eich holl fusnesau
Nid oes rhaid i鈥檆h cyfnod o 12 mis ddechrau ym mis Ebrill.
Os nad oedd 2019 i 2020 yn flwyddyn arferol i鈥檆h busnes, gallwch ddefnyddio鈥檙 trosiant a nodwyd yn eich Ffurflen Dreth 2018 i 2019. Dylai鈥檆h cofnodion ddangos ym mha ffordd nad oedd 2019 i 2020 yn flwyddyn arferol i chi. Er enghraifft, os yw鈥檙 canlynol yn wir:
- roeddech ar absenoldeb gofalwyr, absenoldeb salwch tymor hir neu wedi cael plentyn newydd
- gwnaethoch ddyletswyddau milwr wrth gefn
- gwnaethoch golli contract mawr
- rydych yn gymwys i gael y pumed grant ond ni wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth 2019 i 2020
Dysgwch ragor o wybodaeth am sut mae鈥檆h amgylchiadau yn effeithio ar eich cymhwystra.
Ble i ddod o hyd i鈥檆h trosiant ar eich Ffurflen Dreth
Mae blwch ar gyfer trosiant ar eich Ffurflen Dreth. Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth bapur, mae鈥檙 blwch yn wahanol yn dibynnu ar ba adrannau Hunanasesiad rydych yn eu llenwi. Ar gyfer adran:
- SA200 mae鈥檔 flwch 3.6
- SA103S mae鈥檔 flwch 9
- SA103F mae鈥檔 flwch 15
- SA800 mae鈥檔 flwch 3.24 neu 3.29 (ar gyfer partneriaethau)
Gallwch ddod o hyd i Ffurflenni Treth blaenorol trwy wneud y canlynol:
- mewngofnodi i鈥檆h cyfrif treth personol i鈥檞 gweld ar-lein
- gwirio鈥檆h cofnodion busnes
- gofyn i鈥檆h cyfrifydd (os oes gennych un)
Dylech wirio bod y ffigur rydych yn ei ddefnyddio yn gywir cyn i chi gyflwyno鈥檆h hawliad.
Os ydych o鈥檙 farn nad yw鈥檔 gywir, er enghraifft mae鈥檔 cynnwys incwm busnes arall, dylech sicrhau鈥檆h bod yn defnyddio鈥檙 ffigur cywir wrth hawlio a diwygio鈥檆h Ffurflen Dreth.
Os oes gennych gyfnod cyfrifyddu sy鈥檔 hirach na 12 mis
Bydd angen i chi gyfrifo beth oedd eich trosiant 12 mis.
Os oes gennych gyfnod cyfrifyddu sy鈥檔 fyrrach na 12 mis oherwydd i chi newid eich dyddiad cyfrifyddu
Bydd angen i chi gyfrifo beth oedd eich trosiant 12 mis.
Os gwnaethoch ddechrau neu roi鈥檙 gorau i fusnes yn eich blwyddyn gyfeirio
Dylech gynnwys y trosiant a ddaeth i law yn eich blwyddyn gyfeirio, hyd yn oed os yw hyn yn para llai na 12 mis.
Os oes gennych fwy nag un busnes fel unig fasnachwr
Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h ffigur gynnwys cyfanswm y trosiant ar gyfer eich holl fusnesau.
Os ydych yn is-gontractiwr o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h trosiant gynnwys symiau llawn eich anfonebau, cyn unrhyw ddidyniadau mae contractwyr wedi鈥檜 gwneud yn y maes 鈥楧idyniadau CIS鈥.
Os ydych yn aelod o bartneriaeth
Mae sut rydych yn cyfrifo鈥檆h trosiant yn dibynnu ar ba pryd yr oeddech yn y bartneriaeth ac a oes gennych fusnesau eraill.鈥
Os oeddech yn aelod o鈥檙 un bartneriaeth yn eich blwyddyn gyfeirio ac ym mis Ebrill 2020 i fis Ebrill 2021 ac nad oedd gennych unrhyw fusnesau eraill yn yr un o鈥檙 blynyddoedd hynny, bydd angen i chi gyfrifo a defnyddio cyfanswm trosiant y bartneriaeth ar gyfer y flwyddyn gyfeirio.鈥
Os oeddech yn aelod o鈥檙 un bartneriaeth ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, a bod gennych fusnesau eraill yn y flwyddyn honno neu yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021, bydd angen i chi gyfrifo a chynnwys eich cyfran ganrannol o drosiant y bartneriaeth. Bydd hyn yr un peth 芒 chanran yr elw a gymerwyd gennych o bob partneriaeth yn eich blwyddyn gyfeirio. Dylech ychwanegu hyn at eich trosiant o unrhyw fusnesau eraill.
Os oes gennych incwm Lloyd鈥檚
Os oes gennych incwm Lloyd鈥檚 yn ogystal ag incwm o fusnes arall, dylech ddefnyddio鈥檙 trosiant o鈥檙 busnes arall.
Os mai dim ond incwm Lloyds鈥檚 sydd gennych yn 2018 i 2019 a 2019 i 2020 cysylltwch 芒 ni.
Sut mae鈥檆h trosiant yn effeithio ar swm eich grant
Pan fyddwch yn cyflwyno鈥檆h hawliad, bydd y gwasanaeth ar-lein yn gofyn i chi am eich ffigurau trosiant ac yn eu cymharu ar eich rhan. Yna bydd y gwasanaeth hawlio yn rhoi gwybod i chi a allwch hawlio swm uwch neu is y grant.
Os yw鈥檆h trosiant wedi gostwng 30% neu fwy
Bydd eich grant yn:
- cael ei gyfrifo ar 80% o elw masnachu cyfartalog 3 mis
- cael ei gyfyngu i 拢7,500
Os yw鈥檆h trosiant wedi gostwng llai na 30%
Bydd eich grant yn:
- cael ei gyfrifo ar 30% o elw masnachu cyfartalog 3 mis
- cael ei gyfyngu i 拢2,850
Enghreifftiau
Mae enghreifftiau ar gyfer:
-
pan fyddwch yn cael y grant uwch
-
pan fyddwch yn cael y grant is
-
os nad oedd 2019 i 2020 yn flwyddyn arferol i鈥檆h busnes
-
os oes gennych fwy nag un busnes
-
os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 12 mis
-
os oes gennych gyfnod cyfrifyddu sy鈥檔 fyrrach na 12 mis oherwydd i chi newid eich dyddiad cyfrifyddu
-
os ydych yn aelod o bartneriaeth a bod gennych fusnes arall hefyd
Pan fyddwch yn cael y grant uwch
Os oes gennych gyfanswm trosiant o:
- 拢20,000 ar gyfer 2019 i 2020
- 拢10,000 ar gyfer Ebrill 2020 i Ebrill 2021
Mae鈥檆h trosiant ar gyfer Ebrill 2020 i Ebrill 2021 wedi gostwng 50% o鈥檌 gymharu 芒 2019 i 2020.
Byddwch yn cael swm uwch y grant sy鈥檔 werth 80% o elw masnachu cyfartalog 3 mis oherwydd bod eich trosiant i lawr 30% neu fwy.
Pan fyddwch yn cael y grant is
Os oes gennych gyfanswm trosiant o:
- 拢20,000 ar gyfer 2019 i 2020
- 拢16,000 ar gyfer Ebrill 2020 i Ebrill 2021
Mae鈥檆h trosiant ar gyfer Ebrill 2020 i Ebrill 2021 wedi gostwng 20% o鈥檌 gymharu 芒 2019 i 2020. Byddwch yn cael swm is y grant sy鈥檔 werth 30% o elw masnachu cyfartalog 3 mis oherwydd bod eich trosiant wedi gostwng llai na 30%.
Os nad oedd 2019 i 2020 yn flwyddyn arferol i鈥檆h busnes
Cawsoch drosiant is na鈥檙 arfer yn 2019 i 2020 oherwydd cyfnod hir o salwch. Cawsoch flwyddyn arferol o fasnachu yn 2018 i 2019 felly gallwch ddefnyddio 2018 i 2019 fel eich blwyddyn gyfeirio.
Blwyddyn | Trosiant | Gostyngiad o鈥檌 gymharu 芒 2020 i 2021 |
---|---|---|
2018 i 2019 | 拢36,000 | 75% |
2019 i 2020 | 拢12,000 | 25% |
2020 i 2021 | 拢9,000 | Amh |
Eich trosiant ar gyfer:
- 2018 i 2019 oedd 拢36,000
- 2020 i 2021 oedd 拢9,000
Mae trosiant eich busnes wedi gostwng 75% wrth gymharu trosiant o 拢36,000 rhwng 2018 a 2019 gyda throsiant o 拢9,000 rhwng 2020 a 2021.
Yn yr enghraifft hon, bydd gennych hawl i鈥檙 grant uwch gan fod eich trosiant wedi gostwng 75%.
Os oes gennych fwy nag un busnes
Eich trosiant yn 2019 i 2020 ar gyfer:
- busnes A oedd 拢30,000
- busnes B oedd 拢20,000
Adiwch nhw at ei gilydd am drosiant cyfun o 拢50,000. Cymharwch hyn 芒鈥檆h trosiant cyfun o 拢25,000 yn 2020 i 2021, mae鈥檆h trosiant wedi gostwng 50%.
Blwyddyn | Trosiant Busnes A | Trosiant Busnes B | Cyfanswm y trosiant | Gostyngiad o鈥檌 gymharu 芒 2020 i 2021 |
---|---|---|---|---|
2019 i 2020 | 拢30,000 | 拢20,000 | 拢50,000 | 50% |
2020 i 2021 | 拢20,000 | 拢5,000 | 拢25,000 | Amh |
Yn yr enghraifft hon, mae gennych hawl i hawlio鈥檙 grant uwch trwy gymharu trosiant 2020 i 2021 芒 2019 i 2020 oherwydd bod cyfanswm eich trosiant wedi gostwng 50%.
Os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 12 mis
Os oes gennych gyfnod cyfrifyddu 15 mis a鈥檆h bod wedi datgan trosiant o 拢45,000 ar eich Ffurflen Dreth 2019 i 2020. I gael eich trosiant 12 mis ar gyfer 2019 i 2020, gallwch wneud y canlynol:
-
Rhannu鈥檆h ffigur 15 mis 芒 15 i gael eich trosiant am 1 mis.
-
Lluosi hyn 芒 12.
Blwyddyn | Trosiant 15 mis | Trosiant 1 mis | Cyfanswm y trosiant am 12 mis |
---|---|---|---|
2019 i 2020 | 拢45,000 | 拢3,000 | 拢36,000 |
Os nad yw鈥檙 dull yn yr enghraifft hon yn cynhyrchu canlyniad teg i chi, gallwch ddefnyddio dull rhesymol arall.
Os oes gennych gyfnod cyfrifyddu sy鈥檔 fyrrach na 12 mis oherwydd i chi newid eich dyddiad cyfrifyddu
Os yw鈥檙 canlynol yn wir:
- mae gennych gyfnod cyfrifyddu 8 mis a throsiant datganedig o 拢16,000 ar eich Ffurflen Dreth 2019 i 2020
- cawsoch gyfnod cyfrifyddu 12 mis yn 2018 i 2019 a gwnaethoch ddatgan trosiant o 拢24,000
I gael eich trosiant 12 mis ar gyfer 2019 i 2020 byddai angen i chi wneud y canlynol:
-
Cyfrifo 4-mis o drosiant o鈥檆h Ffurflen Dreth 2018 i 2019 trwy rannu 芒 12 a lluosi 芒 4.
-
Ychwanegu hyn at y trosiant 8 mis yn eich Ffurflen Dreth 2019 i 2020.
Blwyddyn | Trosiant 8 mis | Trosiant 4 mis (o 2018 i 2019) | Cyfanswm y trosiant am 12 mis |
---|---|---|---|
2019 i 2020 | 拢16,000 | 拢8,000 | 拢24,000 |
Os ydych yn aelod o bartneriaeth a bod hefyd gennych fusnes arall
Os yw鈥檙 canlynol yn wir:
- rydych yn defnyddio 2019 i 2020 fel eich blwyddyn gyfeirio
- rydych yn aelod o bartneriaeth ac wedi cymryd cyfran o 5% o鈥檙 elw yn 2019 i 2020
- mae gennych fusnes arall fel unig fasnachwr
Mae angen i chi wneud y canlynol:
-
Defnyddio鈥檙 un ganran, (yn yr enghraifft hon 5%) o鈥檆h cyfran o鈥檙 elw yn 2019 i 2020 i gyfrifo鈥檆h cyfran o drosiant y bartneriaeth yn y flwyddyn gyfeirio a 2020 i 2021.
-
Adio鈥檙 rhain at eich trosiant unig fasnachwr yn y ddwy flynedd i gael cyfanswm y ffigurau trosiant.
Blwyddyn | Cyfanswm trosiant y bartneriaeth | Trosiant unig fasnachwr |
---|---|---|
2019 i 2020 | 拢10,000 | 拢20,000 |
2020 i 2021 | 拢8,000 | 拢5,000 |
Blwyddyn | Cyfran 5% o drosiant y bartneriaeth | Trosiant unig fasnachwr | Cyfanswm trosiant |
---|---|---|---|
2019 i 2020 | 拢500 | 拢20,000 | 拢20,500 |
2020 i 2021 | 拢400 | 拢5,000 | 拢5,400 |
Byddwch yn defnyddio 拢20,500 ar gyfer 2019 i 2020 a 拢5,400 ar gyfer 2020 i 2021.
Cael help i gyfrifo鈥檆h trosiant
Gallwch wylio fideos a chofrestru ar gyfer gweminarau rhad ac am ddim er mwyn dysgu rhagor am sut i gyfrifo鈥檆h trosiant busnes.
Cysylltu 芒 CThEM
Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Mae cysylltu 芒 CThEM yn ddiangen yn peryglu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Gallwch gysylltu 芒 CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.
Updates to this page
-
New guidance for subcontractors under the Construction Industry Scheme added to sections 'How to work out your April 2020 to April 2021 turnover' and 'Find a previous year鈥檚 turnover to use as a reference year'. Edited 'If you're a member of a partnership' section under 'How to work out your April 2020 to April 2021 turnover' - if you joined a partnership between April 2020 and April 2021, you'll need to work out your percentage share of the partnership鈥檚 turnover.
-
Guidance about working out your turnover for the fifth SEISS grant if you are a member of a partnership has been updated.
-
Introduction edited to explain that you鈥檒l need to tell HMRC about your turnover if you traded in 2019 to 2020 as well as any of the other tax years listed. The section 'How to work out your April 2020 to April 2021 turnover' has been updated with examples of start dates you can use.
-
First published.