Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Rhoi gwybod am dwyll neu wybodaeth anghywir
Os ydych chi鈥檔 credu bod y rhiant arall yn darparu gwybodaeth anghywir am ei incwm neu ei amgylchiadau, gallwch chi roi gwybod i鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Pryd y gallwch roi gwybod am riant sy鈥檔 talu
Gallwch roi gwybod os ydych yn meddwl bod y canlynol yn wir am y rhiant sy鈥檔 talu, er enghraifft:
- nid ydynt yn datgan eu holl incwm i Gyllid a Thollau EF (CthEF)
- nid ydynt yn datgan incwm tramor neu eiddo tramor maent yn berchen arno
- maent yn cuddio incwm, er enghraifft trwy roi rhywfaint i aelodau o鈥檙 teulu neu bartner newydd
- nid ydynt yn talu digon trwy eu henillion
- maent yn honni ar gam fod ganddynt gyfrifoldeb ariannol dros blentyn arall
Pryd y gallwch roi gwybod am riant sy鈥檔 derbyn taliad
Gallwch roi gwybod am y rhiant sy鈥檔 derbyn taliad, er enghraifft, os ydych yn meddwl:
- eu bod yn hawlio dros blentyn nad ydynt bellach yn gymwys ar gyfer cynhaliaeth plant
- nid ydynt yn byw gyda phlentyn sy鈥檔 gymwys ar gyfer cynhaliaeth plant
Sut i adrodd
I adrodd am rywun, cysylltwch 芒鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Bydd angen i chi ddweud wrthynt:
- eich enw
- eich rhif Yswiriant Gwladol neu rif cyfeirnod cynhaliaeth plant
- enw鈥檙 person rydych yn rhoi gwybod amdanynt
- manylion y twyll neu wybodaeth anghywir
Ni allwch adrodd yn ddienw. Fodd bynnag, gallwch ofyn i鈥檙 Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant peidio 芒 rhannu eich lleoliad neu wybodaeth bersonol 芒鈥檙 rhiant arall.
Ar 么l i chi adrodd
Ar 么l i chi adrodd, bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn archwilio.
Os ydy鈥檙 rhiant arall wedi twyllo neu ddarparu gwybodaeth anghywir, bydd eich cynhaliaeth plant yn cael eu hail-gyfrifo. Gall y swm hefyd cael ei 么l-ddyddio felly bydd y rhiant arall yn ad-dalu鈥檙 hyn sy鈥檔 ddyledus i chi.