Rhywun yn mynd â chi i dribiwnlys cyflogaeth
Printable version
1. Trosolwg
Gall cyflogai neu rywun arall (er enghraifft ymgeisydd am swydd neu undeb llafur) fynd â chi i dribiwnlys cyflogaeth am amryw faterion, gan gynnwys:
- cyflog
- diswyddo
- gwahaniaethu
Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth a bydd yn gwrando arnoch chi (yr ‘atebydd’) a’r parti arall (yr ‘hawlydd’) cyn gwneud penderfyniad.
Os byddwch yn colli’r achos, efallai y bydd rhaid i chi dalu iawndal neu ailbenodi’r hawlydd i’w swydd.
Datrys yr anghydfod heb wrandawiad
Bydd y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cysylltu â chi os bydd rhywun eisiau gwneud hawliad yn eich erbyn. Byddant yn cynnig gweithio gyda chi a’r hawlydd i geisio datrys y broblem heb fynd i dribiwnlys - gelwir hyn yn ‘cymodi’.
Ffoniwch Acas i gael cymorth a chyngor.
Acas
Rhif ffôn: 0300 123 11 00
Ffôn testun: 18001 0300 123 1100
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Ymateb i hawliad
Bydd y tribiwnlys yn anfon llythyr atoch (a elwir yn ‘pecyn ymateb’) os oes hawliad wedi’i wneud yn eich erbyn ac nid yw cymodi wedi gweithio.
Cyn i chi ymateb, darllenwch y cyfarwyddyd ar ymateb i hawliad.
Rhaid i chi ymateb i’r hawliad o fewn 28 diwrnod.
Efallai y gallwch gael mwy o amser i ymateb - gofynnwch i’r tribiwnlys. Os byddwch yn hwyr yn ymateb neu ddim yn ymateb o gwbl, efallai y bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad yn eich erbyn heb gynnal gwrandawiad.
Ymateb i hawliad ar-lein
Gallwch ymateb .
Os ydych yn weithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith neu’n fath arall o weithiwr proffesiynol a bod yna gyfeirnod 16 digid yn eich pecyn ymateb, gallwch ymateb ar-lein drwy ddefnyddio cyfrif MyHMCTS.
Defnyddio ffurflen bapur i ymateb i hawliad
Gallwch ddefnyddio ffurflen bapur i ymateb a naill ai:
- llenwi a dychwelyd y pecyn ymateb a gewch
- lawrlwytho’r ffurflen ymateb ei llenwi a’i dychwelyd.
Gallwch ei dychwelyd i un o’r cyfeiriadau canlynol.
Swyddfa Ganolog y Tribiwnlys Cyflogaeth (Cymru a Lloegr)
PO Box 11225
Crown House
Loughborough
LE11 9PX
Swyddfa Ganolog y Tribiwnlys Cyflogaeth (Yr Alban)
PO Box 27105
Glasgow
G2 9JR
Gallwch hefyd ei danfon â llaw i un o brif swyddfeydd y Tribiwnlys Cyflogaeth. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o’r swyddfeydd yn y cyfarwyddyd ymateb.
Cynnig iawndal i’r hawlydd
Gallwch geisio setlo’r achos unrhyw adeg trwy gynnig talu iawndal i’r hawlydd (a elwir yn ‘’).
Cael cymorth neu gyngor cyfreithiol
Efallai byddwch eisiau cael cyngor cyfreithiol os bydd hawliad yn cael ei wneud yn eich erbyn.
Ffoniwch llinell ymholiadau’r tribiwnlys cyflogaeth i gael arweiniad cyffredinol ar sut mae’r broses yn gweithio neu os ydych chi’n cael problemau technegol gyda’r gwasanaeth ar-lein. Ni allant roi cyngor cyfreithiol i chi.
Canolfan gyswllt cwsmeriaid y Tribiwnlys Cyflogaeth
Rhif ffôn: 0300 303 5176 (Llinell Iaith Gymraeg)
Rhif ffôn: 0300 123 1024 (Siaradwyr Saesneg yng Nghymru a Lloegr)
Rhif ffôn: 0300 790 6234 (Yr Alban)
Ffôn testun: 18001 0300 123 1024 (Cymru a Lloegr)
Ffôn testun: 18001 0300 790 6234 (Yr Alban)
Gwybodaeth am gost galwadau
Cymorth i ymateb ar-lein
Cysylltwch â We Are Group os ydych eisiau ymateb ar-lein ond nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, neu nid ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r we.
Ìý
We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Bydd yn delio â’ch achos.
2. Cyn y gwrandawiad
Byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd cyn y gwrandawiad - byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau hyn. Rhaid i chi baratoi dogfennau a gwneud trefniadau i dystion fynychu ymlaen llaw.
‘Gwrandawiad Rhagarweiniol’
Efallai gofynnir i chi fynychu gwrandawiad cychwynnol (a elwir yn wrandawiad rhagarweiniol) gyda’r barnwr i benderfynu ar bethau fel:
- dyddiad ac amser y gwrandawiad
- pa mor hir dylai’r gwrandawiad bara
Bydd y tribiwnlys yn rhoi gwybod i chi os bydd rhaid i chi roi tystiolaeth neu ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Trefnu dogfennau
Gallwch ofyn i’r hawlydd am ddogfennau a fydd yn eich helpu gyda’r achos, a gallant ofyn am ddogfennau gennych chi hefyd.
Mae enghreifftiau o ddogfennau yn cynnwys:
- contract cyflogaeth
- slipiau cyflog
- manylion cynllun pensiwn
- nodiadau cyfarfodydd perthnasol
Fel arfer bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn yn pennu amserlen ar gyfer pryd y dylech gyfnewid dogfennau.
Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych sawl copi o bob dogfen y dylech ddod gyda chi i’r gwrandawiad.
Trefnu tystion
Gallwch ddod â thystion i’r gwrandawiad os ydynt yn gallu rhoi tystiolaeth sy’n berthnasol yn uniongyrchol i’r achos.
Os byddwch yn gofyn i dyst fod yn bresennol ond nid ydyw eisiau gwneud hyn, gallwch ofyn i’r tribiwnlys orchymyn iddynt fod yn bresennol. Mae’n rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig i’r swyddfa tribiwnlys sy’n delio â’r achos, gan roi:
- enw a chyfeiriad y tyst
- manylion o ran beth all y tyst ddweud a sut bydd yn helpu’r achos
- y rheswm pam bod y tyst wedi gwrthod mynychu (os ydynt wedi rhoi rheswm)
Mwy na thebyg, chi fydd yn gyfrifol am dalu costau’r tyst.
3. Yn y gwrandawiad
Fel arfer cynhelir achosion yn y swyddfa tribiwnlys cyflogaeth sydd agosaf at lle roeddech yn gweithio.
Mae’n rhaid i chi ddod â’r dogfennau rydych yn eu defnyddio i gefnogi’r achos gyda chi.
Ni allwch hawlio costau teithio am ddod i’r gwrandawiad.
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
Byddwch yn cyflwyno’r achos i’r tribiwnlys - gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan, megis cyfreithiwr, ffrind neu aelod o’ch teulu. Bydd yr hawlydd yn cyflwyno eu hachos yn eich erbyn.
Efallai bydd y bobl canlynol yn gofyn cwestiynau i chi:
- y barnwr
- yr hawlydd
- y 2 aelod arall o’r panel tribiwnlys (dim ond mewn tribiwnlysoedd penodol)
Cael penderfyniad
Bydd y penderfyniad yn cael ei anfon atoch yn y post ychydig ddyddiau neu wythnosau ar ôl y gwrandawiad. Bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar ÌìÃÀÓ°Ôº. Mewn rhai achosion efallai byddwch yn cael y penderfyniad yn y gwrandawiad.
Os byddwch yn ennill yr achos
Gyda’r mwyafrif o achosion, ni fyddwch yn cael iawndal os byddwch yn ennill. Fodd bynnag, os bu i’r hawlydd ymddwyn yn afresymol neu os nad oedd unrhyw obaith y byddant yn llwyddiannus, gallwch ofyn i’r tribiwnlys ddyfarnu iawndal costau i chi.
4. Os byddwch yn colli’r achos
Os byddwch yn colli, gall y tribiwnlys eich gorchymyn i wneud pethau penodol, yn ddibynnol ar y math o achos. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys:
- ailbenodi’r hawlydd i’w swydd
- talu iawndal os nad yw’n bosib ailbenodi’r hawlydd i’w swydd
- talu treuliau tyst(ion)
- talu iawndal neu enillion a gollir
Talu iawndal
Talu iawndal yw’r canlyniad mwyaf cyffredin mewn achos tribiwnlys. Gall fod terfynau ar faint o arian gall tribiwnlys ei ddyfarnu. Nid oes terfyn mewn achosion gwahaniaethu.
Fel arfer, bydd y tribiwnlys yn cyfrifo’r swm yn seiliedig ar y golled ariannol mae’r unigolyn wedi’i brofi o ganlyniad i’ch gweithredoedd.
Cyfrifir llog o’r dyddiad cafwyd y dyfarniad, ond ni fydd rhaid i chi dalu llog os byddwch yn talu’r iawndal yn ei gyfanrwydd o fewn 14 diwrnod.
Gallwch gael eich galw i’r llys a’ch gorfodi i dalu. Gallwch hefyd gael dirwy a’ch enwi ar-lein os na fyddwch yn talu.
Ad-dalu budd-daliadau gwladol
Efallai bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) mae’r hawlydd wedi hawlio wrth ddod a’u hachos i’r tribiwnlys.
Mae hyn er mwyn osgoi eu bod yn cael eu talu ddwywaith.
Bydd y tribiwnlys a’r Uned Adennill Iawndal yn dweud wrthych beth fydd rhaid i chi ei wneud a faint i’w dalu.
5. Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y tribiwnlys
Gallwch ofyn i’r tribiwnlys ailystyried y penderfyniad os ydych yn colli’r achos.
Mae’n rhaid i chi ysgrifennu i swyddfa’r tribiwnlys o fewn 14 diwrnod i chi gael y penderfyniad, gan ddweud pam eich bod eisiau i’r penderfyniad gael ei ailystyried.
Mae rhaid i chi roi rhesymau da, er enghraifft:
- mae’r tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad yn y ffordd y daeth i’w benderfyniad
- ni chawsoch eich hysbysu am y gwrandawiad
- mae tystiolaeth newydd wedi dod i’r amlwg ers y gwrandawiad
Anfonwch eich llythyr i swyddfa’r tribiwnlys a wnaeth ddelio â’r achos.
Apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth
Gallwch hefyd apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth os ydych yn credu bod y tribiwnlys cyflogaeth wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.
6. Deddfwriaeth
Mae’r Tribiwnlys Cyflogaeth yn dilyn rheolau a phrosesau penodol a rhaid i chi eu dilyn hefyd.
Gallwch hefyd ddarllen eraill.
Gallwch ddarllen mwy am a .
Ìý
Gallwch hefyd ddarllen yr arweiniad am .