Treuliau os ydych yn hunangyflogedig
Printable version
1. Trosolwg
Os ydych yn hunangyflogedig, bydd gan eich busnes amryw o gostau rhedeg. Gallwch ddidynnu rhai o’r costau hyn i gyfrifo’ch elw trethadwy, cyn belled â’u bod yn dreuliau caniataol.
Er enghraifft, os yw’ch trosiant yn £40,000 ac rydych yn hawlio £10,000 mewn treuliau caniataol, byddwch ond yn talu treth ar y £30,000 sy’n weddill – sef eich ‘elw trethadwy’.
Os ydych yn rhedeg eich cwmni cyfyngedig eich hun (yn agor tudalen Saesneg), mae angen i chi ddilyn rheolau gwahanol. Gallwch ddidynnu unrhyw gostau busnes o’ch elw cyn treth. Os ydych yn defnyddio unrhyw eitem at ddibenion personol, mae’n rhaid i chi ei nodi fel buddiant cwmni.
Nid yw treuliau caniataol yn cynnwys arian a gymerwyd o’ch busnes i dalu am bryniannau preifat.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Costau y gallwch eu hawlio fel treuliau caniataol
Gallwch ond hawlio ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â phryniannau busnes, gan gynnwys:
- costau swyddfa, er enghraifft deunydd ysgrifennu neu filiau ffôn
- costau teithio, er enghraifft tanwydd, parcio, tocynnau trên neu docynnau bws
- treuliau dillad, er enghraifft gwisgoedd unffurf
- costau staff, er enghraifft cyflogau neu gostau isgontractwyr
- pethau yr ydych yn eu prynu er mwyn eu gwerthu ymlaen, er enghraifft stoc neu ddeunyddiau crai
- costau ariannol, er enghraifft costau banc neu yswiriant
- costau eich safle busnes, er enghraifft costau gwresogi, costau goleuo, ardrethi busnes
- hysbysebu neu farchnata, er enghraifft costau gwefan
- cyrsiau hyfforddi sy’n gysylltiedig â’ch busnes, er enghraifft cyrsiau gloywi
Ni allwch hawlio treuliau os ydych yn defnyddio’ch ‘lwfans masnachu’ rhydd o dreth gwerth £1,000.
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Costau y gallwch eu hawlio fel lwfansau cyfalaf
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf pan rydych yn prynu’r canlynol:
- offer
- peiriannau
- cerbydau busnes, er enghraifft ceir, faniau, lorïau, beiciau
Ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf os ydych yn defnyddio’ch ‘lwfans masnachu’ rhydd o dreth gwerth £1,000.
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gost y pryniant. Fodd bynnag, dylid hawlio am bob eitem arall yr ydych yn ei phrynu ac yn ei chadw ar gyfer eich busnes fel traul ganiataol yn y modd arferol.
Os ydych yn defnyddio rhywbeth at ddibenion busnes a dibenion personol
Gallwch ond hawlio treuliau caniataol ar gyfer y costau busnes.
Enghraifft
Mae’ch biliau ffôn symudol am y flwyddyn yn dod i gyfanswm o £200. O’r swm hwn, rydych yn gwario £130 ar alwadau personol a £70 ar alwadau busnes.
Gallwch hawlio £70 fel treuliau busnes.
Os ydych yn gweithio gartref
Efallai y byddwch yn gallu hawlio cyfran o’ch costau am bethau fel:
- costau gwresogi
- costau trydan
- Treth Gyngor
- llog morgais neu rent
- defnydd o’r rhyngrwyd a’r ffôn
Bydd angen i chi ddod o hyd i ddull rhesymol o rannu eich costau, er enghraifft drwy ystyried nifer yr ystafelloedd rydych yn eu defnyddio at ddibenion busnes neu faint o amser rydych yn ei dreulio’n gweithio gartref.
Enghraifft
Mae gennych 4 ystafell yn eich cartref, ac rydych yn defnyddio un o’r rheiny fel swyddfa’n unig.
Eich bil trydan am y flwyddyn yw £1120. Gan gymryd bod yr holl ystafelloedd yn eich cartref yn defnyddio symiau cyfartal o drydan, gallwch hawlio £280 fel treuliau caniataol (£1120 wedi ei rannu â 4).
Os ydych yn gweithio gartref am un diwrnod yr wythnos yn unig, gallech hawlio £40 fel treuliau caniataol (£280 wedi ei rannu â 7).
Treuliau symlach
Gallwch ddefnyddio treuliau symlach er mwyn osgoi defnyddio cyfrifiadau cymhleth i gyfrifo’ch treuliau busnes. Mae treuliau symlach yn gyfraddau unffurf y gellir eu defnyddio ar gyfer:
- cerbydau
- gweithio gartref
- byw ar eich safle busnes
2. Swyddfa ac offer
Gallwch hawlio ar gyfer eitemau y byddech yn eu defnyddio am 2 flynedd neu lai fel treuliau caniataol, er enghraifft:
- deunydd ysgrifennu
- costau rhent, ardrethi, pŵer ac yswiriant
O ran yr offer yr ydych yn eu cadw i’w defnyddio yn eich busnes, er enghraifft cyfrifiaduron neu argraffwyr, gallwch eu hawlio fel:
- treuliau caniataol os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg)
- lwfansau cyfalaf os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol
Ni allwch hawlio ar gyfer unrhyw ddefnydd o’r safle, neu ddefnydd o’r ffonau neu adnoddau eraill o’r swyddfa os nad yw at ddibenion busnes.
Deunydd ysgrifennu
Gallwch hawlio treuliau ar gyfer costau fel:
- biliau ffôn, ffôn symudol, ffacs neu ryngrwyd
- costau postio
- deunydd ysgrifennu
- costau argraffu
- inc a chetris peiriant argraffu
- meddalwedd gyfrifiadurol y mae’ch busnes yn ei defnyddio am lai na 2 flynedd
- meddalwedd gyfrifiadurol os yw’ch busnes yn gwneud taliadau rheolaidd i adnewyddu’r drwydded (hyd yn oed os ydych yn defnyddio’r feddalwedd hon am fwy na 2 flynedd)
Gallwch hawlio meddalwedd arall ar gyfer eich busnes fel lwfansau cyfalaf, oni bai eich bod yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Costau rhent, ardrethi, pŵer ac yswiriant
Gallwch hawlio treuliau ar gyfer costau fel:
- rhent ar gyfer safle busnes
- ardrethi busnes a threthi dŵr
- biliau cyfleustodau
- yswiriant eiddo
- diogelwch
- defnyddio’ch cartref fel swyddfa (dim ond y rhan a ddefnyddir at ddibenion busnes)
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â CThEF.
Safle’r busnes
Os ydych yn adeiladu, prynu neu’n prydlesu strwythur, efallai y byddwch yn gallu hawlio lwfans strwythurau ac adeiladau.
Gallwch hawlio treuliau ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw safle busnes ac offer.
O ran addasiadau er mwyn gosod offer, neu er mwyn eu disodli, gallwch eu hawlio fel:
- treuliau caniataol os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg)
- lwfansau cyfalaf os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer rhai rhannau annatod o’r adeilad, er enghraifft systemau gwresogi dŵr
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â CThEF.
3. Treuliau car, fan a theithio
Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer costau fel:
- yswiriant cerbyd
- atgyweiriadau a gwasanaethu
- tanwydd
- parcio
- costau hurio
- ffioedd trwydded cerbydau
- yswiriant torri i lawr
- tocynnau trên, tocynnau bws, tocynnau tram, tocynnau awyren a chostau tacsi
- ystafelloedd gwesty
- prydau bwyd ar deithiau busnes dros nos
Ni allwch hawlio ar gyfer:
- costau moduro a theithio nad ydynt yn gysylltiedig â’r busnes
- dirwyon neu gosbau
- teithio rhwng cartref a’r gwaith
Efallai y byddwch yn gallu cyfrifo’ch treuliau car, fan neu feic modur gan ddefnyddio cyfradd unffurf (a elwir yn ‘treuliau symlach’) i gyfrifo’r milltiroedd yn lle cyfrifo’r costau gwirioneddol o brynu a rhedeg eich cerbyd.
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Prynu cerbydau
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol ac yn prynu cerbyd ar gyfer eich busnes, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gost y pryniant.
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch hawlio’r gost hon fel lwfans cyfalaf ar yr amod nad ydych yn defnyddio treuliau symlach.
Gallwch hawlio pob math arall o gerbyd fel traul ganiataol.
4. Treuliau dillad
Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer costau fel:
- gwisgoedd unffurf
- dillad amddiffynnol sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gwaith
- gwisgoedd ar gyfer actorion neu ddiddanwyr
Ni allwch hawlio ar gyfer dillad bob dydd (hyd yn oed os ydych eu gwisgo i’r gwaith).
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).
5. Treuliau staff
Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer costau fel:
- cyflogau staff
- bonysau
- pensiynau
- buddiannau
- ffioedd asiantaeth
- isgontractwyr
- Yswiriant Gwladol y cyflogwr
- cyrsiau hyfforddi sy’n gysylltiedig â’ch busnes
Ni allwch hawlio ar gyfer gofalwyr neu help domestig, er enghraifft nanis.
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).
6. Ailwerthu nwyddau
Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer costau fel:
- nwyddau i’w hailwerthu (stoc)
- deunyddiau crai
- costau uniongyrchol o gynhyrchu nwyddau
Ni allwch hawlio ar gyfer:
- unrhyw nwyddau neu ddeunyddiau a brynwyd at ddibenion preifat
- dibrisiad offer
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).
7. Costau cyfreithiol ac ariannol
Gall ffioedd cyfrifyddu, ffioedd cyfreithiol a ffioedd proffesiynol eraill gael eu hystyried yn dreuliau busnes caniataol.
Gallwch hawlio ar gyfer costau fel:
- cyflogi cyfrifydd, cyfreithiwr, syrfëwr a phensaer at ddibenion busnes
- premiymau yswiriant indemniad proffesiynol
Ni allwch hawlio ar gyfer:
- costau cyfreithiol a godwyd wrth brynu eiddo neu beiriannau – os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio’r costau hyn fel lwfansau cyfalaf
- dirwyon am dorri’r gyfraith
- y gost o baratoi a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Costau banc, costau cardiau credyd a thaliadau ariannol eraill
Gallwch hawlio ar gyfer costau busnes fel:
- costau banc, costau gorddrafft a chostau cardiau credyd
- llog ar fenthyciadau banc a benthyciadau busnes
- llog ar hurbwrcas
- taliadau prydlesi
- taliadau gan ddefnyddio cyllid amgen, er enghraifft ‘Islamic finance’
Ni allwch hawlio ar gyfer ad-daliadau o fenthyciadau, gorddrafftiau neu drefniadau ariannu.
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â CThEF.
Polisïau yswiriant
Gallwch hawlio ar gyfer unrhyw bolisi yswiriant ar gyfer eich busnes, er enghraifft yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
Os na fydd eich cwsmer yn eich talu
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio ar gyfer symiau o arian sydd wedi’u nodi yn eich trosiant, ond na fyddwch byth yn eu cael (‘drwgddyledion’). Fodd bynnag, gallwch dim ond dileu’r dyledion hyn os ydych yn sicr ni fyddant yn cael eu hadennill o’ch cwsmer yn y dyfodol.
Ni allwch hawlio ar gyfer:
- dyledion sydd heb eu cynnwys yn eich trosiant
- dyledion sy’n gysylltiedig â gwaredu asedion sefydlog, er enghraifft tir, adeiladau, peiriannau
- drwgddyledion na chawsant eu cyfrifo’n iawn, er enghraifft ni allwch amcangyfrif bod eich dyledion yn hafal i 5% o’ch trosiant
Ni allwch hawlio ar gyfer drwgddyledion os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg), oherwydd nid ydych wedi cael yr arian gan eich dyledwyr. Wrth ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod, rydych ond yn cofnodi’r incwm rydych wedi’i gael yn wirioneddol ar eich Ffurflen Dreth.
8. Marchnata, adloniant a thanysgrifiadau
Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer costau fel:
- hysbysebu mewn papurau newydd neu gyfeirlyfrau
- hysbysebu mewn swmp ar un tro (ymgyrch bostio)
- samplau yn rhad ac am ddim
- costau gwefan
Ni allwch hawlio ar gyfer:
- gwesteia cleientiaid, cyflenwyr a chwsmeriaid
- lletygarwch ar gyfer digwyddiadau
- rhoddion, gan amlaf
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Tanysgrifiadau
Gallwch hawlio ar gyfer costau fel:
- cylchgronau masnach neu gylchgronau proffesiynol
- aelodaeth â chorff masnachol neu sefydliad proffesiynol, os yw’n gysylltiedig â’ch busnes
Ni allwch hawlio ar gyfer:
- taliadau i bleidiau gwleidyddol
- ffioedd aelodaeth â champfa
- cyfraniadau i elusen – fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu hawlio ar gyfer taliadau nawdd (yn agor tudalen Saesneg)
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).
9. Cyrsiau hyfforddi
Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer hyfforddiant sy’n eich helpu i wneud y canlynol:
- gwella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth ar gyfer eich busnes
- bod yn ymwybodol o’r dechnoleg ddiweddaraf a ddefnyddir yn eich diwydiant
- datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd sy’n gysylltiedig â newidiadau i’ch diwydiant
- datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd er mwyn helpu’ch busnes – gan gynnwys sgiliau gweinyddol
Ni allwch hawlio ar gyfer hyfforddiant sy’n eich helpu i wneud y canlynol:
- dechrau busnes newydd
- ehangu’ch busnes i faes newydd nad yw’n gysylltiedig â’ch diwydiant
Gallwch ddarllen yr enghreifftiau hyn ynghylch pa hyfforddiant y gallwch hawlio ar ei gyfer, a pha hyfforddiant na allwch hawlio ar ei gyfer (yn agor tudalen Saesneg).
10. Sut i hawlio
Bydd angen i chi gadw cofnodion o’ch holl dreuliau busnes fel tystiolaeth o’ch costau.
Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am eich treuliau caniataol ar gyfer y flwyddyn dreth gan eu nodi ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Nid oes angen i chi anfon tystiolaeth o’ch treuliau pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth. Fodd bynnag, dylech gadw tystiolaeth a chofnodion fel y gallwch eu dangos i CThEF, os gofynnir i chi wneud hynny.
Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich cofnodion yn gywir.