Cael gofal plant - sy鈥檔 rhad ac am ddim os ydych yn gweithio
Gwneud cais am ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim os ydych yn gweithio ac yn byw yn Lloegr.
Os yw eich plentyn rhwng 2 a 3 oed a rydych yn cael cymorth ychwanegol, bydd angen i chi gysylltu 芒鈥檆h cyngor lleol cyn gwneud cais am ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim i rieni sy鈥檔 gweithio. Cysylltwch 芒鈥檙 t卯m blynyddoedd cynnar neu鈥檙 Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwch yn cael cod 11 digid sy鈥檔 profi eich bod yn gymwys i gael gofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim. Bydd angen i chi roi鈥檙 cod hwn i鈥檆h darparwr gofal plant.
Bydd CThEF yn gwirio a ydych yn gymwys i gael Gofal Plant sy鈥檔 Rhydd o Dreth pan fyddwch yn gwneud cais am ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim os ydych yn gweithio.
Yr hyn sydd ei angen arnoch i wneud cais
Bydd angen y canlynol arnoch chi (ynghyd 芒 rhai eich partner, os oes gennych un):
- rhif Yswiriant Gwladol
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os ydych chi鈥檔 hunangyflogedig (os oes gennych UTR)
Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
- cyfeirnod tystysgrif geni鈥檙 DU (os oes gennych un) ar gyfer unrhyw blentyn rydych yn gwneud cais ar ei gyfer
- y dyddiad y gwnaethoch ddechrau gweithio, neu鈥檙 dyddiad yr ydych yn bwriadu dechrau gweithio (gall y dyddiad hwn fod yn amcangyfrif os yw鈥檔 bellach na 3 mis yn 么l)
Os ydych yn gyfarwyddwr
Bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni鈥檙 gofynion o ran isafswm incwm er mwyn bod yn gymwys. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ceisio gwirio hyn gan ddefnyddio鈥檆h cofnodion TWE.
Os nad ydych yn cyflwyno gwybodaeth TWE yn rheolaidd, mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos eich bod yn gweithio ac yn disgwyl bodloni鈥檙 gofynion o ran isafswm incwm am y 3 mis nesaf. Er enghraifft:
- slipiau cyflog
- cyfriflenni banc
- datganiad gan eich cyfrifydd
- cop茂au o anfonebau
Os nad ydych yn cael eich talu鈥檔 rheolaidd (er enghraifft, unwaith y flwyddyn) mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth arall i brofi y byddwch yn bodloni鈥檙 gofynion o ran isafswm incwm, megis:
- slipiau cyflog blynyddol
- y gyflogres ar ddiwedd blwyddyn
- llythyr gan eich asiant neu鈥檆h ymgynghorydd treth yn cadarnhau bod eich cyflog wedi cael ei dalu a鈥檌 drethu
Bydd angen i chi wneud hyn pan fyddwch yn gwneud cais am y tro cyntaf, a phob tro y byddwch yn ail-gadarnhau eich bod yn gymwys.
Os oes gennych bartner
Mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys eich partner yn eich cais os ydych naill ai:
- yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn byw gyda鈥檆h gilydd
- yn byw gyda鈥檆h gilydd fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Ni fydd ei gyflogaeth na鈥檌 incwm yn effeithio ar eich cymhwystra os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- mae鈥檔 absennol, neu mi fydd yn absennol, o鈥檆h aelwyd am fwy na 6 mis
- mae鈥檔 garcharor
Ni allwch chi a鈥檆h partner fod 芒 chod ar gyfer yr un plentyn.
Os ydych wedi gwahanu
Mae angen i chi a鈥檆h cyn-bartner benderfynu pwy ddylai wneud cais os ydych chi鈥檔 gyd-gyfrifol am eich plentyn.
Os na allwch benderfynu, bydd angen i鈥檙 ddau ohonoch wneud cais ar wah芒n a bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn penderfynu pwy fydd yn cael cod gofal plant.
Gwneud cais
I wneud cais, bydd angen i chi greu cyfrif gofal plant.
Fel arfer, mae鈥檔 cymryd 20 munud i wneud cais.
Os nad ydych chi wedi gallu defnyddio鈥檙 gwasanaeth
Efallai y gallwch hawlio iawndal os ydych chi wedi cael problemau technegol gyda鈥檆h cyfrif.
Ar 么l i chi wneud cais
Fel arfer, byddwch yn cael gwybod ar unwaith a ydych yn gymwys, ond mae鈥檔 gallu cymryd hyd at 7 diwrnod.
Unwaith bydd eich cais wedi鈥檌 gymeradwyo
Byddwch yn cael cod 11 digid yn eich cyfrif gofal plant.
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi drwy neges destun neu e-bost fod y cod yn eich cyfrif.
Rhowch y cod i鈥檆h darparwr ynghyd 芒鈥檙 canlynol:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- dyddiad geni eich plentyn
Os nad ydych wedi clywed gan CThEF
Cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os gwnaethoch gais dros 7 diwrnod yn 么l ac nad ydych wedi clywed gan CThEF ers hynny.
Ail-gadarnhau eich bod yn gymwys
Er mwyn parhau i gael gofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim, mae鈥檔 rhaid i chi gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol drwy fewngofnodi i鈥檆h cyfrif gofal plant bob 3 mis.
Os byddwch yn gwneud cais fwy na 3 mis cyn i鈥檙 tymor ddechrau, bydd yn rhaid i chi ail-gadarnhau eich bod yn gymwys yn eich cyfrif er mwyn cadw eich cod yn ddilys.