Pryd i wneud cais

Gwirio pryd i wneud cais am 30 awr o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim.

Gan fod y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am 15 awr o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim wedi mynd heibio, byddwch nawr yn gwneud cais am 30 awr yn lle hynny.

Os ydych eisoes yn cael 15 awr o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim, byddwch yn cael 30 awr o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim yn awtomatig o fis Medi ymlaen, cyn belled 芒鈥檆h bod yn dal i fod yn gymwys. Bydd angen i chi gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol yn y ffordd arferol a rhoi鈥檙 cod i鈥檆h darparwr gofal plant.

Holwch eich darparwr gofal plant i gael gwybod yn union pryd bydd eich gofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim yn dechrau.

Pryd i wneud cais am 30 awr o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim

Gallwch wneud cais o鈥檙 adeg pan fydd eich plentyn yn 23 wythnos oed. Bydd y dyddiad pryd y cewch chi eich oriau yn dibynnu ar y dyddiad y bydd eich plentyn yn troi鈥檔 9 mis oed.

Pryd bydd eich plentyn yn troi鈥檔 9 mis oed聽 O ba bryd y gallwch gael eich oriau Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
Rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr 1 Ionawr 31 Rhagfyr
Rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 1 Ebrill 31 Mawrth
Rhwng 1 Ebrill a 31 Awst 1 Medi 31 Awst

Pryd i wneud cais os byddwch yn dychwelyd i鈥檙 gwaith ar 么l absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb ar y cyd i rieni neu absenoldeb mabwysiadu

Bydd y dyddiad rydych yn dychwelyd i鈥檙 gwaith yn effeithio ar ba bryd y gallwch wneud cais am ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim.聽

Gallwch wneud cais o鈥檙 adeg pan fydd eich plentyn yn 23 wythnos oed. Bydd y dyddiad pryd y cewch chi eich oriau yn dibynnu ar y dyddiad y bydd eich plentyn yn troi鈥檔 9 mis oed.

Dyddiad dychwelyd i鈥檙 gwaith O ba bryd y gallwch gael eich oriau Pryd i wneud cais聽
Rhwng 1 Hydref a 31 Ionawr 1 Ionawr 1 Medi i 31 Rhagfyr
Rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill 1 Ebrill 1 Ionawr i 31 Mawrth
Rhwng 1 Mai i 30 Medi 1 Medi 1 Ebrill i 31 Awst

Os ydych ar absenoldeb ar y cyd i rieni ar gyfer y plentyn rydych yn gwneud cais amdano

Gallwch wneud cais os bydd un ohonoch yn dychwelyd i鈥檙 gwaith o fewn mis i ddechrau tymor yr hydref, y gwanwyn neu鈥檙 haf. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i un ohonoch ddychwelyd erbyn:

  • 30 Medi
  • 31 Ionawr聽
  • 30 Ebrill聽

Gall y rhiant arall aros ar absenoldeb ar y cyd i rieni tan ddyddiad diweddarach.

Pryd i wneud cais os byddwch yn dechrau swydd newydd

Gallwch wneud cais am ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim os ydych yn dechrau swydd newydd. Bydd y dyddiad y byddwch yn dechrau yn effeithio ar ba bryd y gallwch gael gofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim.聽

Gallwch wneud cais o鈥檙 adeg pan fydd eich plentyn yn 23 wythnos oed. Bydd y dyddiad pryd y cewch chi eich oriau yn dibynnu ar y dyddiad y bydd eich plentyn yn troi鈥檔 9 mis oed.

Os ydych yn gwneud cais dros 31 diwrnod cyn i chi ddechrau eich swydd newydd, mae angen i chi gysylltu 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael cymorth gyda鈥檆h cais.

Dyddiad dechrau gweithio O ba bryd y gallwch gael eich oriau Pryd i wneud cais
Rhwng 1 Hydref i 31 Ionawr 1 Ionawr 1 Medi i 31 Rhagfyr
Rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill 1 Ebrill 1 Ionawr i 31 Mawrth
Rhwng 1 Mai i 30 Medi 1 Medi 1 Ebrill i 31 Awst