Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i unigolion: cam wrth gam
Dysgwch sut i ddefnyddio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i gofrestru鈥檆h busnes os ydych yn gymwys.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael聽yn Saesneg.
Mae鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd i unig fasnachwyr a landlordiaid adrodd am eu hincwm a鈥檜 treuliau i CThEF.鈥
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae鈥檔 rhaid i rai unig fasnachwyr a landlordiaid ei ddefnyddio, yn seiliedig ar gyfanswm eu hincwm blynyddol o hunangyflogaeth ac eiddo.
Bydd angen i chi, neu鈥檆h asiant os oes gennych un, ddefnyddio meddalwedd sy鈥檔 cydweddu 芒鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn:
- creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o鈥檆h hunangyflogaeth ynghyd ag incwm a threuliau eiddo
- anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF
- cyflwyno eich Ffurflen Dreth a thalu鈥檙 dreth sy鈥檔 ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol
Mae鈥檙 llywodraeth wedi gosod cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn聽ei gwneud hi鈥檔 ofynnol i gwsmeriaid gyflwyno鈥檜 Ffurflenni Treth drwy eu meddalwedd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).
Pwy sydd angen cofrestru
Bydd angen i chi ddefnyddio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw鈥檙 canlynol i gyd yn berthnasol. Rydych:
-
yn unigolyn sydd wedi cofrestru ar gyfer聽Hunanasesiad
-
yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu鈥檙 ddau
-
ag incwm cymwys o fwy na 拢20,000 鈥 darllenwch ragor ynghylch beth yw incwm cymwys a beth sy鈥檔 cael ei gynnwys
1. Cyfrifwch eich incwm cymhwysol
Dysgwch am beth sydd wedi鈥檌 gynnwys yn eich incwm cymhwysol at ddibenion y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn gwirio a oes angen i chi gofrestru.
2. Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio鈥檙 cynllun
Gwiriwch a oes angen i chi ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn i roi gwybod am eich busnes fel unig fasnachwr a鈥檆h incwm o eiddo. Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i ddysgu pryd mae angen i chi ddechrau arni.
3. Cael meddalwedd gydnaws
Dysgwch am yr opsiynau sydd ar gael gan wahanol ddarparwyr o ran meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i ddewis y feddalwedd gywir at eich anghenion. Cofiwch gysylltu鈥檆h cyfrif presennol ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF 芒鈥檙 feddalwedd o鈥檆h dewis.
4. Cofrestrwch ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Dysgwch pa dasgau y mae angen i chi eu cwblhau cyn defnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein i gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
5. Defnyddio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Dysgwch am beth sydd angen i chi ei wneud ar 么l cofrestru a鈥檙 gwahanol dasgau y mae angen i chi eu gwneud yn ystod y flwyddyn dreth. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys creu cofnodion digidol a鈥檜 cadw, anfon diweddariadau chwarterol, a beth i鈥檞 wneud os bydd newid yn eich amgylchiadau.