Ysgrifennydd Gwladol Cymru鈥檔 cadeirio trafodaethau ynghylch datganoli
Ysgrifennydd Cymru鈥檔 trafod y setliad datganoli ar gyfer Cymru ag arweinwyr Cynulliad Cymru
Devolution discussions
Heddiw (8 Rhagfyr 2014), cadeiriodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb AS gyfarfod ag arweinwyr Cynulliad Cymru ynghylch sut i greu setliad clir, cadarn a hirhoedlog ar gyfer Cymru.
Trafododd Mr Crabb ystod o faterion ag arweinwyr y Cynulliad, gan gynnwys yr achos dros fodel cadw pwerau i Gymru a鈥檙 argymhellion yn ail Adroddiad Silk 芒鈥檙 Prif Weinidog Carwyn Jones (Llafur), Andrew R T Davies (Ceidwadwyr), Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol) a Leanne Wood (Plaid Cymru).
Y cyfarfod heddiw yw鈥檙 diweddaraf mewn cyfres o drafodaethau y mae Mr Crabb wedi bod yn eu harwain 芒 gwleidyddion Cymru i helpu i sicrhau consensws trawsbleidiol ynghylch dyfodol datganoli yng Nghymru.
Dywedodd Mr Crabb:
Rwyf wedi nodi dyddiad uchelgeisiol, sef Dydd G诺yl Dewi y flwyddyn nesaf, ar gyfer cyhoeddi canllaw ar gyfer newid y modd y caiff Cymru ei llywodraethu.
Rwyf am ddod 芒鈥檙 drafodaeth ynghylch pa bwerau ddylai gael eu datganoli i Gymru a pha rai ddylai aros yn San Steffan i ben a chanolbwyntio ar y pethau sydd wir yn bwysig i bobl - swyddi, yr economi a gwell gwasanaethau cyhoeddus. Dyna pam fy mod i鈥檔 gweithio i sicrhau consensws trawsbleidiol i nodi鈥檙 materion rydym yn cytuno arnynt, er mwyn i ni gytuno鈥檔 gyffredinol ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer datganoli yng Nghymru.
Cynhaliwyd y cyfarfod yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays.
Y mis diwethaf, cyflwynodd Mr Crabb ei weledigaeth ar gyfer datganoli yng Nghymru. Darllenwch araith Mr Crabb yma