Canllawiau

Gwirio a oes rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn cael ffioedd ysgolion preifat

Os ydych chi鈥檔 ddarparwr addysg, gwiriwch a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW - a phryd y dylech wneud hynny - er mwyn paratoi ar gyfer talu TAW ar ffioedd ysgol ac ysgolion preswyl.

Mae CThEF yn cynnal gweminarau byw ynghylch TAW ar ffioedd ysgolion preifat. Yn y rhain, gallwch ddysgu am y canlynol:

  • gwirio a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW fel darparwr addysg a phryd mae angen gwneud hyn

  • adnabod y nwyddau a鈥檙 gwasanaethau y mae angen i chi godi TAW arnynt ac adhawlio TAW ar eu cyfer

Dysgwch sut i wylio recordiad o weminarau yn y canllaw ar diweddariadau gan CThEF drwy e-byst, yn ogystal 芒 fideos a gweminarau ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Ers 1 Ionawr 2025, mae holl wasanaethau a hyfforddi galwedigaethol y mae ysgolion preifat yn y DU yn eu cyflenwi am d芒l wedi bod yn agored i TAW ar y gyfradd safonol o 20%. Mae hyn hefyd yn berthnasol i wasanaethau ysgol breswyl y mae ysgolion preifat yn eu cyflenwi.

Mae鈥檔 rhaid i ddarparwyr addysg sy鈥檔 codi ffioedd ysgol a phreswylio wirio a oes angen iddynt gofrestru ar gyfer TAW oherwydd y newidiadau hyn.

Pwy sy鈥檔 gorfod cofrestru ar gyfer TAW

Mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn ysgol breifat, neu鈥檔 berson cysylltiedig, sy鈥檔 darparu gwasanaethau addysg neu hyfforddiant galwedigaethol, neu鈥檔 darparu gwasanaethau preswylio sy鈥檔 ymwneud yn agos ag addysg neu hyfforddiant galwedigaethol, a bod y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn wir:

  • mae cyfanswm eich trosiant trethadwy ar gyfer y 12 mis diwethaf dros 拢90,000

  • rydych yn disgwyl cael taliadau dros 拢90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf

Trosiant trethadwy yw cyfanswm gwerth popeth rydych chi鈥檔 ei werthu nad yw wedi鈥檌 esemptio rhag TAW neu sydd 鈥榶 tu allan i gwmpas鈥 TAW.

Gweler y ffordd i brofi a yw person yn berson cysylltiedig yn adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg). Mae鈥檔 bosibl y gall corff cymwys hefyd gael ei drin fel corff cysylltiedig os roddir trefniadau ar waith gan yr ysgol breifat a鈥檙 corff cymwys hwnnw i elwa鈥檔 bennaf o gael esemptiad TAW ar nwyddau y dylai fod yn drethadwy. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyrff hynny sy鈥檔 agored i TAW yn adran 4 o听Addysg a hyfforddiant galwedigaethol (Hysbysiad TAW 701/30) (yn agor tudalen Saesneg).

At ddibenion TAW, diffinnir 鈥榶sgol breifat鈥 fel unrhyw ysgol neu sefydliad sy鈥檔 darparu addysg amser llawn am ffi i鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:

  • disgyblion sydd o oedran ysgol gorfodol

  • disgyblion 16 i 19 oed, lle mae鈥檙 sefydliad hwnnw鈥檔 ymwneud yn bennaf, neu鈥檔 gyfan gwbl, 芒 darparu addysg sy鈥檔 addas ar gyfer yr oedrannau hyn

Mae hyn yn cynnwys:

  • ysgolion preifat

  • ysgolion annibynnol

  • colegau chweched dosbarth preifat

Bydd dosbarthiadau meithrin a ddarperir gan ysgolion preifat sy鈥檔 cynnwys plant o dan oedran ysgol gorfodol yn bennaf, neu鈥檔 gyfan gwbl, wedi鈥檜 hesemptio rhag TAW. Er enghraifft, bydd dosbarth meithrin sy鈥檔 cynnwys 90% o blant o dan oedran ysgol gorfodol wedi鈥檌 esemptio rhag TAW. Os ydych yn ysgol sydd ond yn darparu addysg ar lefel dosbarth meithrin yn unig, ni fydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW.

Pryd mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru

Bydd yr union ddyddiad y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW yn dibynnu ar y canlynol:

  • swm y taliadau o ffioedd ysgol a gewch ar gyfer tymhorau sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ionawr 2025

  • y dyddiad y bydd y taliadau鈥檔 dod i law

Mae鈥檙 taliadau鈥檔 cynnwys ffioedd cofrestru a delir yn ystod y broses ymgeisio i fynychu ysgol.

Os ydych yn rhedeg ysgol breifat, dysgwch a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW.

Os ydych yn cofrestru oherwydd eich bod wedi mynd dros y trothwy TAW, sef 拢90,000, yn ystod y 12 mis blaenorol, mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd y mis pan aethoch dros y trothwy. Y dyddiad y daw鈥檆h cofrestriad i rym fydd diwrnod cyntaf yr ail fis ar 么l i chi fynd dros y trothwy.

Os ydych yn cofrestru oherwydd eich bod yn disgwyl cael taliadau sy鈥檔 fwy na 拢90,000 yn ystod y cyfnod 30 diwrnod nesaf, mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru yn ystod y 30 diwrnod nesaf. Y dyddiad y daw鈥檆h cofrestriad i rym fydd y dyddiad pan wnaethoch sylweddoli y byddwch yn mynd dros y trothwy.

Ni ddylech godi TAW na pharatoi anfonebau TAW nes eich bod wedi cofrestru ar gyfer TAW.

Os oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW, ac os na fyddwch yn gwneud hynny, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb am gofrestru鈥檔 hwyr.

Gallwch ddefnyddio鈥檙 offeryn hwn i wirio pryd mae angen i chi gofrestru ar gyfer TAW ar gyfer ffioedd ysgol preifat. Mae ar gyfer arweiniad yn unig.

Taliadau a ddaeth i law cyn 29 Gorffennaf 2024

Bydd y ffordd y caiff taliadau a wnaed cyn 29 Gorffennaf 2024 eu trin yn dibynnu ar delerau penodol unrhyw gytundeb ar gyfer y taliad dan sylw.

Lle bo鈥檙 taliad yn creu pwynt treth at ddibenion TAW pan fydd y taliad hwnnw鈥檔 cael ei wneud, ni fydd TAW yn ddyledus. Bydd pwynt treth fel arfer yn cael ei greu pan fydd gwasanaeth yn cael ei ddarparu, neu pan fydd taliad yn cael ei gymryd am gyflenwi nwyddau neu wasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am bwyntiau treth, darllenwch:

Taliadau a ddaeth i law rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024

Bydd unrhyw daliadau ffioedd a ddaeth i law rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024 ar gyfer tymhorau ysgol sy鈥檔 dechrau o 1 Ionawr 2025 ymlaen yn agored i TAW o鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 dyddiadau canlynol, p鈥檜n bynnag sydd hwyraf:

  • dyddiad cyntaf y tymor ysgol y talwyd y ffioedd amdano

  • 1 Ionawr 2025

Ni ddylech godi TAW na pharatoi anfonebau TAW nes eich bod wedi cofrestru ar gyfer TAW.

Ni allwch gynnwys TAW ar eich anfonebau hyd nes eich bod yn cael eich rhif cofrestru TAW, ond gallwch godi鈥檆h prisiau i roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu i CThEF.

Enghraifft

Ar 28 Hydref 2024, cawsoch 拢100,000 ar gyfer addysg ysgol breifat ar gyfer y tymor ysgol sy鈥檔 dechrau ar 6 Ionawr 2025.

Gan nad yw hwn yn cael ei ystyried yn agored i TAW eto, nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW ar unwaith.

Bydd y taliadau hyn yn agored i TAW o 6 Ionawr 2025 ymlaen, pan fydd tymor yr ysgol yn dechrau. Mae hyn yn golygu, ar 8 Rhagfyr 2024 鈥 30 diwrnod cyn 6 Ionawr 2025 鈥 eich bod yn ymwybodol y byddwch yn mynd dros y trothwy TAW sef 拢90,000 ar 6 Ionawr 2025, ac mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW.

Bydd gennych 30 diwrnod i gofrestru ar gyfer TAW o 8 Rhagfyr 2024 ymlaen, gan mai dyna鈥檙 dyddiad y daw鈥檆h cofrestriad i rym.

Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd dalu unrhyw TAW a allai fod yn ddyledus ar ffioedd a dalwyd o 8 Rhagfyr 2024 ymlaen, er na fyddwch wedi cael eich rhif cofrestru TAW eto.

Taliadau i ysgolion arbennig nas cynhelir

Caiff taliadau a wnaed i ysgolion arbennig nas cynhelir rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024 eu trin yn wahanol yn dibynnu ar delerau penodol unrhyw gytundeb ar gyfer y taliad dan sylw.

Lle bo鈥檙 taliad yn creu pwynt treth at ddibenion TAW pan fydd y taliad hwnnw鈥檔 cael ei wneud, ni fydd TAW yn ddyledus. Bydd pwynt treth fel arfer yn cael ei greu pan fydd gwasanaeth yn cael ei ddarparu, neu pan fydd taliad yn cael ei gymryd am gyflenwi nwyddau neu wasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am bwyntiau treth, darllenwch:

Taliadau a ddaw i law ar ac ar 么l 30 Hydref 2024

Bydd unrhyw ffioedd a ddaw i law o 30 Hydref 2024 ymlaen, a鈥檙 rheini ar gyfer tymhorau ysgol o 1 Ionawr 2025 ymlaen, yn agored i TAW ar y dyddiad y cawsoch y taliad.

Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF cyn pen 30 diwrnod os ydych yn sylweddoli y bydd swm y taliadau a ddaw i law yn fwy na 拢90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf.

Os na fyddant yn fwy na 拢90,000, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd y mis fod cyfanswm y taliadau a ddaw i law 鈥 ynghyd ag unrhyw gyflenwadau trethadwy eraill y gallech fod yn eu gwneud 鈥 yn fwy na 拢90,000.

Wrth gyfrifo eich trosiant trethadwy ar gyfer eich 12 mis diwethaf, dylech wneud y canlynol:听

  • dim ond cynnwys ffioedd ysgol sy鈥檔 berthnasol i dymhorau ysgol a gychwynnwyd ar neu ar 么l 1 Ionawr 2025听

  • cynnwys ffioedd o 30 Hydref 2024 wrth i鈥檙 rhain ddod i law听

  • cynnwys ffioedd a gafwyd rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024 a p鈥檙un bynnag sydd hwyraf o 1 Ionawr 2025 neu ddyddiad cychwyn y tymor sydd dan sylw

Ni allwch gynnwys TAW ar eich anfonebau hyd nes eich bod yn cael eich rhif cofrestru TAW, ond gallwch godi鈥檆h prisiau i roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu i CThEF.

Enghraifft

Ar 5 Tachwedd 2024, rydych yn ymwybodol y byddwch yn cael taliadau o ffioedd ysgol dros 拢90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf, ar gyfer tymhorau sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ionawr 2025.

Mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW, a rhoi gwybod i CThEF erbyn diwedd y cyfnod 30 diwrnod hwnnw 鈥 hynny yw, erbyn 4 Rhagfyr 2024.

Y dyddiad y daw鈥檆h cofrestriad i rym fydd 5 Tachwedd 2024, gan mai dyma鈥檙 dyddiad pan wnaethoch sylweddoli y byddech yn mynd dros y 拢90,000 cyn pen y 30 diwrnod nesaf.

Mae鈥檔 rhaid i chi dalu unrhyw TAW a allai fod yn ddyledus ar ffioedd a dalwyd o 5 Tachwedd 2024 ymlaen, er na fyddwch wedi cael eich rhif cofrestru TAW eto.

Cyfanswm y taliadau sy鈥檔 mynd dros y trothwy TAW yn ystod cyfnod treigl o 12 mis

Os ydych yn cael taliadau sy鈥檔 llai na 拢90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf, ni fydd angen i chi gofrestru hyd nes bod cyfanswm eich cyflenwadau trethadwy yn mynd y tu hwnt i鈥檙 swm hwnnw, a hynny yn ystod cyfnod treigl o 12 mis.

Ni fydd taliadau a ddaw i law rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 29 Hydref 2024 yn agored i TAW tan ddiwrnod cyntaf y tymor neu 1 Ionawr 2025, p鈥檜n bynnag sydd hwyraf. Ni ddylech godi TAW na pharatoi anfonebau TAW tan hynny.

Enghraifft

Mae鈥檔 31 Ionawr 2025, ac rydych yn sylweddoli, ers y newid o ran triniaeth TAW ar 30 Hydref 2024, bod cyfanswm o 拢95,000 o ffioedd wedi dod i law ar gyfer tymhorau sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ionawr 2025.

Gan eich bod wedi mynd dros y trothwy sef 拢90,000 yn ystod y 12 mis diwethaf, mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW gyda CThEF cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd mis Ionawr (y mis pan aethoch dros y trothwy).

Y dyddiad y daw鈥檆h cofrestriad i rym fydd 1 Mawrth 2025.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ddechrau codi TAW o 1 Mawrth 2025 ymlaen.

Cofrestru ar gyfer TAW yn wirfoddol

Os ydych yn ddarparwr addysg sydd eisoes yn darparu gwasanaethau neu nwyddau sy鈥檔 agored i TAW, ac os nad oes gofyn i chi gofrestru eto, gallwch gofrestru ar gyfer TAW ar unrhyw adeg.

Os ydych yn ddarparwr addysg nad yw鈥檔 darparu gwasanaethau neu nwyddau sy鈥檔 agored i TAW ar hyn o bryd, gallwch gofrestru ar gyfer TAW o 30 Hydref 2024 ymlaen os ydych yn darparu addysg breifat ar gyfer tymhorau sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ionawr 2025, neu鈥檔 bwriadu gwneud hynny.

Os byddwch yn cofrestru鈥檔 wirfoddol, bydd angen i chi fodloni ymrwymiadau TAW o hyd, megis cyflwyno Ffurflenni TAW a chadw cofnodion TAW. Bydd angen i chi hefyd codi TAW ar nwyddau a gwasanaethau trethadwy a gyflenwir gennych.

Bydd pryd y bydd angen i chi godi TAW ar ffioedd ysgol yn dibynnu ar yr 鈥榓mser cyflenwi鈥 (neu鈥檙 pwynt treth). Ceir rhagor o wybodaeth am yr 鈥榓mser cyflenwi鈥 yn adran 14 o Hysbysiad TAW 700 (yn agor tudalen Saesneg).

Sut i gofrestru

Dysgwch sut i gofrestru ar gyfer TAW.

Pan fyddwch yn cofrestru, dylech wneud y canlynol:

  • nodi 鈥楧arparwr Addysg Breifat鈥 yn adran 鈥楪weithgarwch busnes鈥 y cais ar-lein

  • defnyddio鈥檙 arweiniad sydd ar gael wrth i chi wneud y cais ar-lein i鈥檆h helpu i ddewis y cod Dosbarthiad Diwydiannol Safonol sy鈥檔 berthnasol i chi

Sut i ddewis eich endid busnes

I gofrestru, bydd angen i chi wybod pa fath o endid busnes sy鈥檔 berthnasol i鈥檆h ysgol.

Mae sefydliadau corfforedig elusennol yn strwythur corfforedig sydd wedi鈥檌 gynllunio ar gyfer elusennau sydd wedi鈥檜 cofrestru gyda鈥檙 Comisiwn Elusennau.

Cwmni cyfyngedig yw cwmni 鈥榗yfyngedig drwy gyfranddaliadau鈥 neu 鈥榗yfyngiedig drwy warant鈥.

Cofrestru fel sefydliad corfforedig elusennol

Os ydych yn cofrestru fel sefydliad corfforedig elusennol, ac mae Rhif Cofrestru eich Cwmni鈥檔 dechrau gyda鈥檙 rhagddodiad CE neu CS, dylech wneud y canlynol pan fyddwch yn cofrestru:

  • dewis 鈥楢rall鈥 pan ofynnir i chi pa fath o fusnes rydych chi鈥檔 ei gofrestru

  • dewis 鈥楥ymdeithas Anghorfforedig neu Elusen Berthnasol Arall鈥 pan ofynnir i chi pa fath penodol o endid ydych chi

  • gadael y blwch yn wag pan ofynnir i chi nodi Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu gyfeirnod CThEF

Os yw鈥檆h ysgol yn sefydliad corfforedig elusennol ac mae ganddi Rif Cofrestru鈥檙 Cwmni nad yw鈥檔 dechrau gyda鈥檙 rhagddodiad CE neu CS, gallwch gofrestru gyda Rhif Cofrestru eich Cwmni. Os nad ydych yn si诺r beth yw鈥檆h rhif cofrestru, gallwch .

Os nad ydych wedi cofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol, mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch sefydlu elusen a鈥檙听gwahanol strwythurau y gallwch eu dewis (yn agor tudalen Saesneg).

Cofrestru fel cwmni cyfyngedig yn y DU

Os yw鈥檆h ysgol yn gwmni cyfyngedig yn y DU ac nid yw鈥檔 sefydliad corfforedig elusennol, bydd angen eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Treth Gorfforaeth arnoch, yn ogystal 芒 Rhif Cofrestru鈥檆h Cwmni. Bydd y cyfeirnod hwn ar Ffurflenni Treth ac unrhyw ohebiaeth arall a anfonwyd atoch gan CThEF.

Os nad ydych yn gwybod beth yw鈥檆h UTR, gallwch os oes gennych Rif Cofrestru鈥檙 Cwmni.听Os nad oes gennych Rif Cofrestru鈥檙 Cwmni, bydd angen i chi gofrestru 芒 Th欧鈥檙 Cwmn茂au (yn agor tudalen Saesneg) a bydd CThEF yn anfon eich UTR ar gyfer Treth Gorfforaeth atoch cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Cofrestru fel gr诺p TAW

Os oes gan eich ysgol fwy nag un endid busnes (er enghraifft, yn ogystal 芒 busnes sy鈥檔 darparu addysg y mae busnes arall, sef siop sy鈥檔 gwerthu offer chwaraeon yr ysgol) efallai y bydd modd iddi gofrestru fel gr诺p TAW.听

Ceir rhagor o wybodaeth yn:听

Ychwanegu manylion am gyfarwyddwyr 芒鈥檜 cysylltiad 芒鈥檙 ysgol

Wrth lenwi鈥檙 adran hon o鈥檙 cais ar-lein, does dim angen i chi ychwanegu manylion am fwrsariaid neu lywodraethwyr eich ysgol.

Ar 么l i chi gofrestru

Byddwch yn cael llythyr gan CThEF sy鈥檔 cadarnhau鈥檆h rhif cofrestru TAW ac yn esbonio鈥檙 hyn y mae鈥檔 rhaid i chi ei wneud nesaf.

Dylech gyfeirio at eich cyfrif ar-lein am yr holl wybodaeth yngl欧n 芒鈥檆h ymrwymiadau TAW, gan gynnwys manylion am ddyddiad eich Ffurflen TAW gyntaf.

Yn ogystal, gallwch ddod o hyd i arweiniad am y canlynol:

Byddwch hefyd yn gallu adhawlio TAW ar dreuliau busnes.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch hefyd ddysgu rhagor ynghylch:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Mawrth 2025 show all updates
  1. Welsh translation updated.

  2. More guidance has been added about using your online account to find information about your VAT obligations once you are registered.

  3. Information about education services and vocational training provided by private schools being subject to VAT at the standard rate of 20% has been updated. Information about finding out if you need to register for VAT if you run a private school has been added.

  4. Welsh updated.

  5. Guidance has been added to the "How to register" section to help you work out what business entity your school is.

  6. Welsh updated.

  7. More guidance has been added on how to calculate your taxable turnover from the past 12 months.

  8. Guidance on how to register as a charitable incorporated organisation has been added.

  9. Information about how to register for VAT has been updated to include further detail for charities and limited companies on what you'll need to do to register based on your school's circumstances.

  10. The 'How to register' section has been updated with guidance on how to find your Unique Taxpayer Reference so you can register for VAT.

  11. The 'When you must register' section has been updated with a link to a tool to help you check when you need to register for VAT for private school fees. Guidance has also been added for payments received by non-maintained special schools between 29 July 2024 and 29 October 2024.

  12. Details on how to attend webinars about VAT on private school fees have been added to the 鈥楪et more information鈥 section.

  13. The guidance has been updated to show private sixth form colleges will be affected by VAT changes on school fees. Information has also been added to show that affected education providers cannot include VAT on their invoices until they get their VAT registration number for school fee payments received from 29 July 2024.

  14. The 'Who must register for VAT' section of the guidance has been updated to show private schools, independent schools and sixth form colleges will need to check if they must register for VAT.

  15. Added translation

Argraffu'r dudalen hon