Rhoi gwybod am eich t芒l ar fenthyciad t芒l cuddiedig a rhoi cyfrif amdano
Sut i roi gwybod am fanylion eich cynllun benthyciad t芒l cuddiedig a rhoi cyfrif am eich rhwymedigaeth o ran t芒l ar fenthyciad.
Bydd y canllaw hwn yn cael ei ddiweddaru鈥檔 llawn ar ddechrau 2024.
Darllenwch friff gwybodaeth CThEF: setlo defnydd cynllun t芒l cuddiedig a/neu dalu鈥檙 t芒l ar fenthyciad (yn Saesneg) i gael yr arweiniad diweddaraf ynghylch setlo defnydd cynllun t芒l cuddiedig a thalu鈥檙 t芒l ar fenthyciad.
Adolygiad o鈥檙 t芒l ar fenthyciad
惭补别鈥檙 adolygiad o鈥檙 t芒l ar fenthyciad (yn Saesneg) bellach wedi ei gwblhau. Cyhoeddodd y llywodraeth ei hymateb (yn Saesneg) ar 20 Rhagfyr 2019.
惭补别鈥檙 canllaw hwn yn adlewyrchu鈥檙 newidiadau i鈥檙 t芒l ar fenthyciad o ganlyniad i鈥檙 adolygiad. Mae hefyd arweiniad manylach (yn Saesneg) ar gael ar y newidiadau allweddol a鈥檙 hyn y maent yn ei olygu i chi.
Trosolwg
Defnyddir cynlluniau benthyciad t芒l cuddiedig er mwyn osgoi talu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Ystyrir bod gennych fenthyciad t芒l cuddiedig pan gewch eich talu am waith neu wasanaethau ar ffurf benthyciad neu fath arall o gredyd, mewn modd sy鈥檔 golygu ei fod yn annhebygol o gael ei ad-dalu.
Os cawsoch gredyd neu fenthyciad t芒l cuddiedig ar neu ar 么l 9 Rhagfyr 2010, mae鈥檔 bosibl ei fod yn agored i d芒l treth, oni bai eich bod chi neu鈥檆h cyflogwr wedi rhoi cyfrif yn flaenorol am yr holl dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy鈥檔 ddyledus ar yr incwm a gafwyd fel benthyciad.
Yr enw ar y t芒l treth hwn yw 鈥榯芒l ar fenthyciad鈥.
Bydd y t芒l ar fenthyciad yn berthnasol i fenthyciadau t芒l cuddiedig a wnaed ar, neu ar 么l, 9 Rhagfyr 2010, ac a oedd yn dal i fod heb eu talu ar 5 Ebrill 2019. Ni fydd yn berthnasol i fenthyciadau a wnaed rhwng 9 Rhagfyr 2010 a 5 Ebrill 2016 os cafodd y trefniadau benthyca eu datgelu i CThEM yn rhesymol (yn Saesneg) ar gyfer y flwyddyn dreth honno, ac os na wnaeth CThEM gymryd camau (er enghraifft, drwy agor ymchwiliad).
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i CThEM am bob benthyciad sy鈥檔 destun y t芒l ar fenthyciad ac, os yw鈥檔 briodol, i鈥檆h cyflogwr hefyd.
Os ydych chi neu鈥檆h cyflogwr wedi talu鈥檔 gywir y dreth incwm a鈥檙 cyfraniadau Yswiriant Gwladol a oedd yn ddyledus ar fenthyciadau heb eu talu ar neu cyn 5 Ebrill 2019, ac wedi rhoi gwybod am hynny, ni fydd yn rhaid i chi roi gwybod am y t芒l ar fenthyciad.
Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy鈥檔 seiliedig ar gyflogaeth, mae鈥檔 bosibl y bydd y t芒l ar fenthyciad yn berthnasol i fenthyciadau heb eu talu a wnaed rhwng 9 Rhagfyr 2010 a 5 Ebrill 2019.
Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy鈥檔 seiliedig ar fasnach neu hunangyflogaeth, mae鈥檔 bosibl y bydd y t芒l ar fenthyciad yn berthnasol i fenthyciadau heb eu talu a wnaed rhwng 9 Rhagfyr 2010 a 5 Ebrill 2017. Mae unrhyw fenthyciadau t芒l cuddiedig sy鈥檔 dod i law ar 么l y dyddiadau hyn yn dal yn agored i Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn berthnasol.
Y t芒l ar fenthyciad
惭补别鈥檙 t芒l ar fenthyciad yn effeithio ar unigolion sydd wedi defnyddio cynlluniau arbed treth t芒l cuddiedig ac sydd heb ad-dalu eu benthyciadau, neu sydd heb roi鈥檙 holl wybodaeth setlo angenrheidiol i CThEM cyn neu ar 5 Ebrill 2019.
惭补别鈥檙 t芒l ar fenthyciad hefyd yn effeithio ar gyflogwyr a roddodd gyllid benthyciad drwy gynlluniau arbed treth t芒l cuddiedig os na wnaeth eu cyflogeion neu eu cyn-gyflogeion ad-dalu eu benthyciadau, na rhoi鈥檙 holl wybodaeth setlo angenrheidiol i CThEM, a hynny erbyn 5 Ebrill 2019.
Nid yw talu鈥檙 t芒l ar fenthyciad yn datrys anghydfod treth sylfaenol gyda CThEM ar gyfer y blynyddoedd y gwnaed y benthyciadau ynddynt. Bydd yn dal i fod angen mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 blynyddoedd treth sy鈥檔 destun ymchwiliad agored neu asesiad.
Os hoffech ddatrys eich holl faterion treth sy鈥檔 ymwneud 芒 chynlluniau t芒l cuddiedig, ac nad ydych eisoes yn y broses o鈥檜 setlo, dylech gysylltu 芒 CThEM.
Cyfrifo鈥檆h t芒l ar fenthyciad
Mae benthyciad yn cael ei ystyried yn un heb ei dalu os yw鈥檙 cyfansymiau a fenthycwyd yn fwy na chyfanswm yr ad-daliadau sydd wedi鈥檜 gwneud. Mae pob benthyciad t芒l cuddiedig o fewn cwmpas y t芒l ar fenthyciad (yn Saesneg), sydd heb ei dalu ar neu cyn 5 Ebrill 2019, yn cael ei drin fel incwm cyflogaeth a gafwyd ar y dyddiad hwnnw, neu elw masnachu yn ystod blwyddyn dreth 2018 i 2019, yn dibynnu ar y math o gynllun a ddefnyddiwyd.
Mae hyn yn golygu y bydd benthyciadau sydd heb eu talu ar 5 Ebrill 2019 yn agored i Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol fel pe baent yn enillion neu鈥檔 elw a gafwyd yn ystod blwyddyn dreth 2018 i 2019.
Fel rhan o鈥檙 adolygiad o鈥檙 t芒l ar fenthyciad, llwyddodd unigolyn i ddewis rhannu (yn Saesneg) balans ei fenthyciad yn gyfartal dros 3 blynedd dreth (2018 i 2019, 2019 i 2020 a 2020 i 2021). Roedd yn rhaid iddo wneud hyn ar neu cyn 30 Medi 2020 er mwyn i ddewis cael ei wneud mewn pryd.
Os na wnaethoch ddewis ar neu cyn 30 Medi 2020, mae鈥檔 bosibl y gallwch wneud dewis hwyr. Mae yna amgylchiadau cyfyngedig (yn Saesneg) lle gallwn dderbyn dewis hwyr. 惭补别鈥檙 Datganiad Ymarfer (yn Saesneg) yn nodi鈥檙 meini prawf y byddwn yn eu hystyried ar gyfer dewisiadau hwyr a鈥檙 broses ar gyfer gwneud dewis hwyr.
I wneud cais am ddewis hwyr i rannu鈥檆h balans dros 3 blynedd dreth, bydd angen i chi ofyn am fersiwn bapur o鈥檙 ffurflen adrodd am y t芒l ar fenthyciad naill ai drwy:
- anfon e-bost at ca.loancharge@hmrc.gov.uk gan ddefnyddio 鈥榙ewis hwyr o ran t芒l ar fenthyciad鈥 鈥 鈥榣ate loan charge election鈥 鈥 yn y llinell pwnc
- ff么nio 0300 322 9494
Pan fyddwch yn anfon y ffurflen yn 么l, dylech roi gwybod i ni pam yr ydych yn gwneud dewis hwyr.
Os byddwch yn ceisio gwneud dewis hwyr, dylech gynnwys eich benthyciad llawn sydd heb ei dalu yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2018 i 2019, nes bod un o swyddogion CThEM wedi rhoi cadarnhad bod y dewis hwyr wedi鈥檌 dderbyn. Byddwn yn ystyried dewisiadau hwyr fesul achos ac yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am ein penderfyniad.
I gyfrifo gwerth eich benthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu, efallai y bydd yn rhaid i chi wirio:
- slipiau cyflog neu anfonebau a gawsoch ar gyfer gwaith a wnaed wrth ddefnyddio鈥檙 trefniadau hyn
- unrhyw gontractau cyflogaeth neu gontractau gwasanaeth y gwnaethoch ymrwymo iddynt
- cytundebau benthyciad a lofnodwyd gennych, neu unrhyw ddogfennau eraill a oedd yn rhan o鈥檙 trefniant t芒l cuddiedig, fel llythyrau oddi wrth eich cyflogwr
- eich cyfriflenni banc neu gwiriwch gyda鈥檆h banc a oedd eich benthyciad wedi鈥檌 dalu鈥檔 uniongyrchol i鈥檆h cyfrif banc (efallai y bydd rhai banciau鈥檔 codi ffi am chwilio drwy hen gofnodion)
- eich P60
- gyda鈥檙 bobl y cawsoch y benthyciad oddi wrthynt (ymddiriedolwyr mewn ymddiriedolaeth fel rheol), am wybodaeth am y benthyciadau
Budd-daliadau
Ni fydd balans eich benthyciad t芒l cuddiedig sydd heb ei dalu鈥檔 cael ei drin fel enillion wrth gyfrifo鈥檆h hawl i rai budd-daliadau sy鈥檔 ymwneud ag incwm, megis:
- Credyd Cynhwysol
- Budd-dal Tai
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credyd Pensiwn
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Gofalwr
- Credydau Treth
Ad-daliadau benthyciad i鈥檞 diystyru
Os ydych wedi ad-dalu rhai o鈥檆h benthyciadau, neu bob un ohonynt, mae鈥檔 bosibl y byddwn yn ystyried hyn at ddibenion cyfrifo swm y benthyciadau sydd heb eu talu. Dim ond ad-daliadau dilys a wnaed ar neu cyn 5 Ebrill 2019 y gellir eu derbyn fel ad-daliadau benthyciad dilys.
Mae ad-daliadau didwyll yn cynnwys y rheiny lle nad yw swm yr ad-daliad yn cael ei gyfeirio鈥檔 么l mewn rhyw fodd at y person a gafodd y benthyciad gwreiddiol, a鈥檙 rheiny lle nad yw鈥檙 ad-daliad yn gysylltiedig 芒 chynllun pellach i arbed treth.
Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy鈥檔 seiliedig ar gyflogaeth, mae ad-daliadau a ddiystyrir yn cynnwys unrhyw ad-daliadau:
- nad oeddent ar ffurf arian ac a wnaed ar neu ar 么l 17 Mawrth 2016
- a oedd yn gysylltiedig 芒 chynllun arbed ac a wnaed ar neu ar 么l 17 Mawrth 2016
- a wnaed ar neu ar 么l 17 Mawrth 2016 gyda鈥檙 arian neu鈥檙 ased a ddefnyddiwyd yn yr ad-daliad yn destun 鈥榗am perthnasol鈥 dilynol, sy鈥檔 golygu bod y swm sy鈥檔 cael ei ad-dalu鈥檔 cael ei gyfeirio鈥檔 么l wedyn atoch ar ryw ffurf
Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun seiliedig ar fasnach (a ddefnyddir gan fasnachwyr hunangyflogedig a phartneriaid mewn partneriaethau masnachu), mae ad-daliadau a ddiystyrir yn cynnwys y rheiny a wnaed ar neu ar 么l 5 Rhagfyr 2016:
- nad ydynt ar ffurf arian
- sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chynllun arbed treth
Hefyd, efallai y bydd yn rhaid i chi roi gwybodaeth o hyd am eich benthyciad a thalu鈥檙 t芒l ar fenthyciad os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- mae鈥檙 benthyciad wedi cael ei ddileu neu ei ryddhau gan y benthyciwr heb setlo鈥檙 dreth ddyledus
- rydych wedi ymrwymo i drefniadau dilynol sy鈥檔 ceisio cael gwared ar y rhwymedigaeth treth ar y symiau a roddwyd drwy鈥檙 cynllun
Bydd ad-daliadau a wnaed i unrhyw fenthyciad t芒l cuddiedig ar neu cyn 5 Ebrill 2019 mewn arian cyfred dibrisiedig ond yn cyfrif hyd at werth sterling yr ad-daliad hwnnw.
Hysbysiadau i wneud Taliadau Cyflymedig
Os ydych wedi talu Hysbysiad i wneud Taliad Cyflymedig (APN) (yn Saesneg) ar gyfer cynllun arbed treth sy鈥檔 dod o dan y t芒l ar fenthyciad, efallai y byddwch yn gallu gosod eich taliadau APN yn erbyn y t芒l cyfan neu ran ohono.
Dim ond os yw鈥檙 APN ar gyfer yr un cynllun arbed treth ag y mae鈥檙 t芒l ar fenthyciad yn berthnasol iddo, ac ar yr amod ei fod yn ymwneud 芒鈥檆h benthyciad t芒l cuddiedig heb ei dalu, y gallwch wneud hyn.
惭补别鈥檙 ffordd rydych yn gwneud cais i osod yn erbyn eich taliadau APN yn wahanol yn dibynnu ar p鈥檜n a wnaethoch ddefnyddio cynllun sy鈥檔 seiliedig ar gyflogaeth neu gynllun sy鈥檔 seiliedig ar fasnach.
Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy鈥檔 seiliedig ar gyflogaeth
Pan anfonwyd APN atoch mewn perthynas 芒 benthyciad rydych yn agored i dalu鈥檙 t芒l ar fenthyciad ar ei gyfer, gallwch osod y taliad APN yn ei erbyn yn ffurfiol neu鈥檔 anffurfiol.
Pan anfonwyd APN at berson arall (er enghraifft, eich cyflogwr) mewn perthynas 芒 benthyciad rydych yn agored i dalu鈥檙 t芒l ar fenthyciad ar ei gyfer, gallwch osod y taliad APN yn ei erbyn yn anffurfiol yn unig. Dim ond hyd nes y bydd unrhyw ap锚l yn cael ei datrys y bydd y weithred hon o osod yn erbyn y taliad hwn yn ddilys.
Gofyn am osod yn erbyn taliad yn ffurfiol
Gallwch wneud cais i CThEM am i鈥檆h taliadau APN ddod yn daliadau na ellir eu had-dalu ar gyfer y dreth sy鈥檔 ddyledus ar naill ai:
- y t芒l ar fenthyciad
- unrhyw d芒l cynharach ar yr un incwm
I ddefnyddio鈥檆h taliad APN fel hyn ni ddylech fod wedi defnyddio鈥檙 taliad APN i dalu am d芒l treth arall a bydd rhaid i chi roi gwybod y canlynol i CThEM:
- enw ac SRN ar gyfer y cynllun mae鈥檙 APN yn berthnasol iddo
- dyddiadau a symiau鈥檙 benthyciad gwreiddiol o dan yr APN
- balans y benthyciad o dan yr APN ar 5 Ebrill 2019
Os ydych yn defnyddio鈥檆h taliad APN fel hyn, ni ellir byth ei ad-dalu i chi, hyd yn oed os caiff y cynllun y mae鈥檙 APN yn berthnasol iddo ei herio ac nid yw CThEM yn ennill.
Er mwyn gwneud cais, dylech anfon e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk gan nodi ei fod yn gais i osod yn erbyn taliad yn ffurfiol (o dan adran 554Z11E ITEPA 2003). Yn yr e-bost, dylech gadarnhau eich bod yn derbyn nad oes modd tynnu鈥檙 cais pe bai CThEM yn ei dderbyn.
Gofyn am osod yn erbyn taliad yn anffurfiol
Dylech ofyn am osod yn erbyn taliad yn anffurfiol drwy鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2018 i 2019. Dylech nodi swm yr APN rydych wedi鈥檌 dalu (neu draean os ydych wedi dewis lledaenu鈥檙 balans) ym mlwch 15 y crynodeb o鈥檙 cyfrifiad treth (SA110) atodol. Dylech gynnwys nodyn ym mlwch 17 yn rhoi manylion, gan gynnwys enw a chyfeirnod y cynllun y mae鈥檙 APN yn berthnasol iddo (mae鈥檙 rhifau hyn yn ymwneud 芒鈥檙 ffurflen bapur).
Os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy鈥檔 seiliedig ar fasnachu
Os ydych wedi talu APN, ac nad yw balans y benthyciad sy鈥檔 ddyledus ar 5 Ebrill 2019 yn fwy na swm yr APN, gallwch wneud cais am addasiad i鈥檙 t芒l yr anfonwyd yr APN ar ei gyfer. Gallwch ofyn i鈥檙 swm y gwnaethoch ei dalu ar gyfer yr APN gael ei osod yn erbyn symiau鈥檙 t芒l ar fenthyciad sy鈥檔 ddyledus.
Er mwyn gwneud cais, anfonwch e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk
Bydd yn rhaid i chi roi gwybod y canlynol i CThEM:
- enw a Chyfeirnod y Cynllun (SRN) ar gyfer y cynllun mae鈥檙 APN yn berthnasol iddo
- dyddiadau a symiau鈥檙 benthyciad gwreiddiol o dan yr APN
- balans y benthyciad o dan yr APN ar 5 Ebrill 2019
- cadarnhad eich bod am ddefnyddio swm yr APN a dalwyd yn erbyn symiau鈥檙 t芒l ar fenthyciad sy鈥檔 ddyledus
Rhyddhad Trethiant Dwbl
Os yw鈥檆h benthyciad t芒l cuddiedig yn destun t芒l treth cynharach, gallwch ofyn i CThEM gredydu unrhyw swm a dalwyd eisoes neu y rhoddwyd cyfrif amdano pan fyddwch yn talu鈥檙 t芒l ar fenthyciad.
Sut i roi gwybod am fenthyciad t芒l cuddiedig
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod yn gywir i CThEM am unrhyw fenthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu sy鈥檔 agored i鈥檙 t芒l ar fenthyciad, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Gallwch wneud hyn ar y ffurflen adrodd am y t芒l ar fenthyciad.
Nid ydych bellach yn gallu cyflwyno鈥檙 ffurflen ar-lein. Dylech ofyn am fersiwn papur o鈥檙 ffurflen adrodd am y t芒l benthyciad drwy gysylltu 芒 ni naill ai drwy:
- anfon e-bost atom yn ca.loancharge@hmrc.gov.uk gan ddefnyddio 鈥榣oan charge reporting form request鈥 yn y llinell pwnc
- drwy ein ffonio ar 0300 322 9494
Os ydych yn llenwi鈥檙 ffurflen ar ran rhywun arall, rhaid i chi gael ei rif Yswiriant Gwladol. Os oes gan y person hwnnw Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad, bydd angen y rhif hwnnw arnoch hefyd.
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybodaeth am fenthyciadau o dan bob cynllun ar wah芒n. Dylid adio benthyciadau misol a wneir fel rhan o鈥檙 un trefniant at ei gilydd a鈥檜 dychwelyd fel un ar gyfer pob blwyddyn dreth.
Bydd rhaid i chi ddarparu manylion y trefniadau benthyca y gwnaethoch eu defnyddio ym mhob blwyddyn dreth. Bydd y manylion hyn yn cynnwys:
- enw鈥檙 cynllun
- dyddiadau dechrau a gorffen y cynlluniau a ddefnyddiwyd gennych
- unrhyw gyfeirnod achos gan CThEM sydd gennych
- eich rhif Datgelu Cynllun Arbed Treth, os oes gennych un
- cyfanswm y benthyciad ym mhob blwyddyn dreth, gan gynnwys unrhyw symiau a ad-dalwyd neu a ddil毛wyd
- unrhyw symiau o dreth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych wedi鈥檜 setlo eisoes
Bydd CThEM yn gwirio鈥檙 manylion a anfonwch ac yn cysylltu 芒 chi os bydd angen i chi roi rhagor o wybodaeth. Os oes angen i chi ychwanegu cynllun arall, neu newid y manylion rydych wedi鈥檜 hanfon, bydd angen i chi anfon eich manylion eto ynghyd 芒鈥檙 newidiadau neu鈥檙 wybodaeth newydd.
Bydd y math o gynllun roeddech yn ei ddefnyddio yn dylanwadu ar sut a phryd bydd yn rhaid i chi roi鈥檙 wybodaeth i CThEM.
Caiff nodweddion cyffredinol y prif fathau o gynlluniau eu hesbonio isod. 惭补别鈥檙 gofynion o ran rhoi gwybod yn dibynnu ar natur y cynllun a ddefnyddiwyd, ac nid ar eich statws cyflogaeth nawr neu yn y gorffennol.
Er enghraifft, mae hyn yn golygu os gwnaethoch ddefnyddio cynllun sy鈥檔 seiliedig ar gyflogaeth, bydd yn rhaid i chi fodloni鈥檙 gofynion o ran rhai gwybod ar gyfer y cynllun hwnnw, hyd yn oed os ydych yn eich ystyried eich hun yn hunangyflogedig ar hyn o bryd.
Cynlluniau sy鈥檔 seiliedig ar gyflogaeth
Mae鈥檆h cyflogwr yn darparu cyllid i drydydd parti (ymddiriedolaeth fel rheol) sy鈥檔 benthyca鈥檙 cyllid hwnnw i chi. Fel arfer, bydd gennych gontract cyflogaeth gyda鈥檆h cyflogwr, a ddylai roi slipiau cyflog i chi.
Contractwr cyflogedig
Rydych yn darparu鈥檆h gwasanaethau drwy drydydd parti a elwir yn 鈥榞yfryngwr鈥, sydd wedi鈥檌 leoli鈥檔 alltraeth fel rheol ac sy鈥檔 darparu cyllid i drydydd parti arall (ymddiriedolaeth yn aml). Wedyn mae鈥檙 ymddiriedolaeth yn benthyca鈥檙 cyllid hwnnw i chi.
Fel arall, mae鈥檔 bosibl eich bod wedi cael benthyciadau oddi wrth eich cyflogwr, ond efallai bod eich cyflogwr wedi trosglwyddo鈥檙 hawliau i ad-daliadau鈥檆h benthyciad i drydydd parti.
Fel arfer, bydd gennych gontract cyflogaeth gyda鈥檙 cyfryngwr, a ddylai roi slipiau cyflog i chi.
Cynlluniau sy鈥檔 seiliedig ar fasnach
Efallai bod gennych gontract ar gyfer gwasanaethau, sy鈥檔 golygu eich bod yn gweithio鈥檔 hunangyflogedig, ar eich pen eich hun neu mewn partneriaeth, ac efallai y bydd taliadau wedi鈥檜 cyfeirio drwy ymddiriedolaeth alltraeth sy鈥檔 rhoi benthyg y cyllid hwnnw i chi. Gan eich bod yn hunangyflogedig, ni fyddai gennych gontract cyflogaeth na slip cyflog.
Os nad ydych yn si诺r pa fath o gynllun rydych wedi鈥檌 ddefnyddio, gallwch ffonio: 0300 200 1900 neu anfon e-bost at: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk
Cosbau
Os na wnaethoch roi gwybod i CThEM am fanylion eich benthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu erbyn 30 Medi 2020, neu os nad yw鈥檙 wybodaeth yn gyflawn ac yn gywir, mae鈥檔 bosibl y byddwch yn agored i鈥檙 canlynol:
- cosb gychwynnol o 拢300
- cosb bellach o hyd at 拢60 y diwrnod cyhyd 芒 bod yr wybodaeth heb ddod i law o hyd, hyd at uchafswm o 90 diwrnod
- cosb nad yw鈥檔 fwy na 拢3,000 ar gyfer pob anghywirdeb sy鈥檔 cael ei gynnwys yn fwriadol neu鈥檔 ddiofal yn yr wybodaeth a roddir, neu sy鈥檔 cael ei ddarganfod ar 么l i鈥檙 wybodaeth gael ei chyflwyno ac nid ydych yn rhoi gwybod i CThEM
Cyflogeion a chontractwyr sy鈥檔 defnyddio cynlluniau cyflogaeth
惭补别鈥檙 hyn y mae鈥檔 rhaid i chi ei wneud yn dibynnu ar statws presennol y cyflogwr yr oedd gennych drefniant benthyciad t芒l cuddiedig gydag ef.
O ran eich cyflogwr neu gyn-gyflogwr:
- os yw鈥檔 bodoli ac wedi鈥檌 leoli yn y DU, rhaid iddo roi cyfrif am y t芒l ar fenthyciad a鈥檌 dalu ar eich rhan gan ddefnyddio TWE
- os nad yw ar y gofrestr o gwmn茂au bellach, neu os nad yw wedi鈥檌 leoli yn y DU, bydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 t芒l ar fenthyciad drwy eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Cyflogwr yn bodoli ac wedi鈥檌 leoli yn y DU
Bydd CThEM yn gyntaf yn mynd at y cyflogwr a roddodd y benthyciad t芒l cuddiedig i chi er mwyn casglu鈥檙 t芒l ar fenthyciad. Os nad yw鈥檆h cyflogwr yn gallu talu鈥檙 t芒l ar fenthyciad, efallai y bydd CThEM yn trosglwyddo hwn i chi (yn Saesneg) yn y dyfodol.
Dylech fod wedi rhoi gwybod i unrhyw gyflogwyr yr oedd gennych drefniadau benthyciad t芒l cuddiedig 芒 nhw am eich benthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu. Dylech fod wedi gwneud hyn erbyn 15 Ebrill 2019. Os na wnaethoch hynny, mae鈥檔 rhaid i chi ei wneud nawr, a rhoi gwybod i CThEM. Ff么n: 0300 200 1900.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gwmni (yn Saesneg) os nad oes gennych unrhyw fanylion cyswllt ar gyfer y cyflogwr.
Os yw鈥檙 cwmni鈥檔 ansolfent, dylech fod wedi anfon yr wybodaeth at yr ymarferydd ansolfedd sydd wedi鈥檌 benodi. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ansolfedd (yn Saesneg) am y cwmni os nad oes gennych ei fanylion cyswllt.
Dylech hefyd fod wedi i CThEM, a鈥檌 gynnwys ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019. Mae unrhyw Ffurflenni Treth 2018 i 2019 a gyflwynir nawr yn hwyr a byddant yn agored i gosbau cyflwyno a thalu鈥檔 hwyr a llog ar unrhyw swm sy鈥檔 ddyledus, a godir o 1 Chwefror 2020.
Os gwnaethoch ddewis lledaenu balans eich benthyciad sydd heb ei dalu yn gyfartal dros 3 blynedd, bydd yn rhaid i chi hefyd gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 cyn neu ar 31 Ionawr 2021. Bydd angen cyflwyno鈥檙 Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 cyn neu ar 31 Ionawr 2022.
Bydd angen i chi gynnwys y t芒l ar fenthyciad ar gyfer pob blwyddyn dreth berthnasol gan ddefnyddio tudalennau atodol SA102. Dylech gynnwys yr holl incwm trethadwy sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 flwyddyn dreth ym mhob Ffurflen Dreth, nid dim ond eich benthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu.
Os yw鈥檙 cyflogwr perthnasol wedi鈥檌 leoli yn y DU, dylai fod wedi rhoi gwybod am unrhyw d芒l ar fenthyciad t芒l cuddiedig a鈥檌 dalu ar eich rhan. Os rhoddwyd gwybod am y t芒l ar fenthyciad ar eich rhan, mae鈥檔 bosibl y byddai鈥檙 dreth hon wedi鈥檌 didynnu o unrhyw daliadau a wnaeth eich cyflogwr i chi drwy TWE. Fel arall, mae鈥檔 bosibl y gwnaethoch ad-dalu鈥檙 dreth i鈥檆h cyflogwr.
Os na all eich cyflogwr ddidynnu鈥檙 rhwymedigaeth o ran t芒l ar fenthyciad o鈥檆h cyflog ym mhob blwyddyn dreth y mae鈥檆h benthyciad sydd heb ei dalu wedi鈥檌 rannu iddi, dylech gytuno sut rydych yn mynd i ad-dalu鈥檆h cyflogwr. Dylech ad-dalu鈥檆h cyflogwr, a elwir yn 鈥榞wneud iawn鈥, erbyn 5 Gorffennaf 2021 ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021. Os na wnewch hyn, mae鈥檔 bosibl y bydd t芒l treth pellach yn cael ei godi arnoch, a hynny ar y buddiant pan fydd eich cyflogwr yn talu鈥檆h treth. Os na wnaethoch yn iawn unrhyw dreth a dalwyd gan eich cyflogwr ar gyfer blwyddyn 2019 i 2020 erbyn 5 Gorffennaf 2020, mae鈥檔 bosibl y bydd t芒l treth pellach hefyd yn cael ei godi arnoch.
Dylai eich incwm cyflogaeth yn ystod pob blwyddyn dreth berthnasol gynnwys swm priodol y benthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu, yn ogystal ag unrhyw incwm cyflogaeth arall. Mae鈥檆h incwm cyflogaeth i鈥檞 weld ar eich P60, neu wybodaeth arall a roddwyd gan eich cyflogwr os ydych wedi gadael ei gyflogaeth.
Bydd yn rhaid i chi roi manylion eich incwm cyflogaeth sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 t芒l ar fenthyciad ar eich Ffurflen Dreth, ynghyd ag unrhyw incwm cyflogaeth arall a gawsoch yn ystod pob blwyddyn dreth berthnasol. Dylid dangos y benthyciadau a gawsoch drwy gynlluniau sy鈥檔 seiliedig ar fasnach ar wah芒n i鈥檙 symiau ar gyfer cynlluniau sy鈥檔 seiliedig ar gyflogaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr arweiniad sydd ynghlwm wrth eich Ffurflen Dreth.
Cyflogwr ddim yn bodoli mwyach neu ddim wedi鈥檌 leoli yn y DU
Os nad yw鈥檆h cyflogwr wedi鈥檌 leoli yn y DU, mae鈥檙 cyfrifoldeb am dalu鈥檙 dreth ar y t芒l ar fenthyciad yn trosglwyddo i chi (yn Saesneg).
Bu鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i CThEM (yn Saesneg) am unrhyw fenthyciadau t芒l cuddiedig heb eu talu erbyn 30 Medi 2020 ar y ffurflen adrodd am daliadau benthyciadau a Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2018 i 2019. Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, rhowch wybod i ni nawr. Mae unrhyw Ffurflenni Treth 2018 i 2019 a gyflwynir nawr yn hwyr a byddwch yn agored i gosbau cyflwyno a thalu鈥檔 hwyr yn ogystal 芒 llog ar unrhyw swm sy鈥檔 ddyledus, a godir o 1 Chwefror 2020.
Os gwnaethoch ddewis lledaenu balans eich t芒l ar fenthyciad yn gyfartal dros 3 blynedd dreth, bydd yr incwm yn cael ei ystyried yn incwm o gyflogaeth yn ystod blynyddoedd treth 2018 i 2019, 2019 i 2020 a 2020 i 2021. Dylech roi gwybod am hyn ar y dudalen 鈥榞wybodaeth ychwanegol鈥 ar eich Ffurflenni Treth, blychau 21 i 24.
Dylech gynnwys yr holl incwm trethadwy sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 flwyddyn dreth ym mhob Ffurflen Dreth, nid dim ond eich benthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu.
Os ydych yn dewis talu鈥檆h t芒l ar fenthyciad yn llawn, mae cyfanswm eich benthyciadau sydd heb eu talu鈥檔 cael eu hystyried fel incwm cyflogaeth ym mlwyddyn dreth 2018 i 2019.
Hefyd, bydd angen i chi gynnwys unrhyw incwm cyflogaeth arall a gafwyd yn ystod pob blwyddyn dreth berthnasol. Os cawsoch fenthyciadau drwy gynlluniau sy鈥檔 seiliedig ar fasnach, dylech gynnwys y symiau hyn yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, ar wah芒n i鈥檙 symiau ar gyfer cynlluniau鈥檔 seiliedig ar gyflogaeth.
Os nad ydym wedi gofyn i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2018 i 2019, dylech fod wedi rhoi gwybod i ni o鈥檆h rhwymedigaeth i鈥檙 t芒l ar fenthyciad. Os nad ydych wedi gwneud hynny dylech wneud hynny cyn gynted 芒 phosibl. Wedyn, byddwn yn anfon hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth atoch. Dysgwch sut i gofrestru a chyflwyno Ffurflen Dreth. Gall hyn gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith.
Mae cymorth (yn Saesneg) ar gael i鈥檆h helpu i lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Cyflogeion a chontractwyr sy鈥檔 defnyddio cynlluniau sy鈥檔 seiliedig ar fasnach
Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, dylech gynnwys symiau鈥檙 benthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu o gynlluniau sy鈥檔 seiliedig ar fasnach yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2018 i 2019. Mae unrhyw Ffurflenni Treth 2018 i 2019 a gyflwynir nawr yn hwyr a byddwch yn agored i gosbau cyflwyno a thalu鈥檔 hwyr yn ogystal 芒 llog ar unrhyw swm sy鈥檔 ddyledus, a godir o 1 Chwefror 2020.
Os gwnaethoch ddewis rhannu balans eich rhwymedigaeth o ran benthyciad sydd heb ei dalu (yn Saesneg) dros 3 blynedd dreth, bydd angen i swm y benthyciad sydd heb ei dalu gael ei rannu鈥檔 gyfartal rhwng eich Ffurflenni Treth Hunanasesiad ym mlynyddoedd treth 2018 i 2019, 2019 i 2020 a 2020 i 2021. Wedyn, rhoddir gwybod am yr incwm o d芒l ar fenthyciad yn y Ffurflen Dreth ar gyfer pob un o鈥檙 blynyddoedd hynny, yn lle rhoi gwybod yn llawn yn y Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019.
Masnachu鈥檔 bodoli pan roddir gwybod am incwm o d芒l ar fenthyciad
Os gwnaeth y fasnach y cawsoch y benthyciadau t芒l cuddiedig ar ei chyfer barhau yn y blynyddoedd treth pan roddir gwybod am yr incwm o d芒l ar fenthyciad, dylech gynnwys y benthyciadau fel 鈥榶chwanegiadau t芒l cuddiedig at elw鈥 ym mlwch priodol eich tudalennau atodol hunangyflogaeth SA103.
Bydd yn rhaid i鈥檆h Ffurflen Dreth gynnwys unrhyw elw arall o weithgareddau masnachu, yn ogystal ag unrhyw incwm trethadwy arall, ar gyfer pob blwyddyn dreth y rhoddir gwybod am rwymedigaeth i鈥檙 t芒l ar fenthyciad ar ei chyfer.
Masnachu wedi dod i ben
Os yw鈥檙 fasnach wedi dod i ben, bydd yr incwm hwn fel arfer yn dal i fod yn drethadwy yn y flwyddyn y rhoddir gwybod amdano, a dylech gynnwys swm y benthyciad ym mlwch 22 yn nhudalennau atodol eich ffurflen SA101 gwybodaeth ychwanegol fel 鈥榠ncwm o hunangyflogaeth neu bartneriaeth pan fo masnachu wedi dod i ben鈥 ar gyfer y blynyddoedd treth perthnasol. Gelwir incwm a gawsoch gan fasnach sydd wedi dod i ben yn 鈥榙derbyniadau 么l-derfynu鈥.
Yn dibynnu ar pryd y daeth y fasnach i ben, efallai y gallwch drin yr incwm o d芒l ar fenthyciad fel incwm trethadwy yn ystod y flwyddyn dreth pan ddaeth y fasnach i ben.
Yn yr achos hwn, peidiwch 芒 llenwi Blwch 22 yn nhudalennau atodol eich ffurflen SA101 gwybodaeth ychwanegol. Yn hytrach, llenwch flychau 23 a 24.
Yn ogystal, bydd angen i chi gyfrifo鈥檙 gwahaniaeth rhwng y rhwymedigaeth wirioneddol a dalwyd am y flwyddyn gynharach (y flwyddyn pan ddaeth y fasnach i ben), a鈥檙 rhwymedigaeth a fyddai wedi codi yn y flwyddyn gynharach honno pe bai鈥檙 incwm o鈥檙 t芒l ar fenthyciad wedi鈥檌 gynnwys yn y Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn honno.
Dylai鈥檙 cyfrifiad hwn ystyried unrhyw dderbyniadau 么l-derfynu eraill (gan gynnwys incwm o d芒l ar fenthyciad arall), yr ydych wedi dewis eu trin fel incwm trethadwy yn y flwyddyn dreth pan ddaeth y fasnach i ben.
Bydd angen i chi nodi swm y gwahaniaeth ym mlwch 14 y crynodeb o鈥檙 cyfrifiad treth (SA110) atodol. 惭补别鈥檙 addasiad yn ymwneud 芒鈥檙 flwyddyn y mae鈥檙 derbyniad 么l-fasnachu yn dod i law mewn gwirionedd, er ei fod yn cael ei gyfrifo yn 么l amgylchiadau鈥檙 flwyddyn gynharach.
Rhyddhad rhag trethiant dwbl
Os bydd mwy nag un t芒l treth yn codi ar gyfer yr un benthyciad, gallwch ofyn i CThEM gredydu鈥檙 hyn rydych yn ei dalu o dan y t芒l ar fenthyciad yn erbyn y rhwymedigaeth treth arall. Bydd hyn yn eich atal rhag gorfod talu treth ddwywaith ar yr un incwm.
Os oedd gennych fenthyciadau hefyd o gynlluniau sy鈥檔 seiliedig ar gyflogaeth, bydd angen i chi roi gwybod amdanynt ar wah芒n gan ddefnyddio鈥檙 tudalennau incwm cyflogaeth yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr arweiniad sydd ynghlwm wrth eich Ffurflenni Treth.
Os ydych yn cael trafferth i dalu
Os ydych yn meddwl y byddwch yn ei chael hi鈥檔 anodd talu鈥檙 rhwymedigaethau sy鈥檔 ddyledus, mae opsiynau ar gael i wneud talu鈥檙 t芒l ar fenthyciad yn fwy hylaw. Os na allwch dalu鈥檔 llawn ac mae angen cynllun talu arnoch, cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM. Ff么n: 0300 200 1900.
Yr hyn sy鈥檔 digwydd os ydych yn gyflogwr
Dylai unrhyw gyflogeion rydych wedi bod 芒 threfniadau benthyciad t芒l cuddiedig gyda nhw fod wedi anfon manylion am fenthyciadau heb eu talu atoch erbyn 15 Ebrill 2019, fel y gallech roi cyfrif am y t芒l ar fenthyciad.
Hefyd, mae gan fenthycwyr trydydd parti (fel arfer ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Buddiannau Cyflogeion neu gorff tebyg) ddyletswydd i roi鈥檙 wybodaeth hon i chi.
Hyd yn oed os na wnaethant roi unrhyw wybodaeth i chi, dylech fod wedi anfon datganiad t芒l ar fenthyciad i CThEM o hyd.
Mae鈥檔 bosibl y byddwch am gysylltu 芒鈥檆h cyflogeion, neu gyn-gyflogeion, i gael gwybod beth yw swm eu benthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu, a ph鈥檜n a ydynt wedi dewis rhannu balans eu benthyciad (yn Saesneg).
Cyflogwyr sydd wedi talu鈥檙 t芒l ar fenthyciad
Os ydych yn gyflogwr sydd eisoes wedi rhoi gwybod am y t芒l ar fenthyciad ac wedi rhoi cyfrif amdano (yn Saesneg) lle mae cyflogai wedi dewis rhannu balans ei fenthyciad yn gyfartal dros 3 blynedd, bydd angen i chi ddiwygio鈥檙 wybodaeth a gyflwynir.
Hefyd, bydd angen i chi ddiwygio鈥檙 wybodaeth a gyflwynwyd lle mae rhwymedigaeth y cyflogai o ran t芒l ar fenthyciad wedi gostwng o ganlyniad i鈥檙 newidiadau i鈥檙 t芒l ar fenthyciad. Yn yr achos hwn, mae鈥檔 bosibl y bydd ad-daliad yn ddyledus i chi hefyd.
Sut i roi gwybod am unrhyw newidiadau
Dylech ddiwygio swm balans y benthyciad t芒l cuddiedig heb ei dalu y rhoesoch wybod amdano ar eich cyflwyniadau Gwybodaeth Amser Real ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019. Os gallwch, dylech ddefnyddio鈥檙 un feddalwedd gyflogres y gwnaethoch ei defnyddio鈥檔 wreiddiol i roi gwybod am symiau鈥檙 benthyciadau t芒l cuddiedig heb eu talu.
Os ydych yn cywiro camgymeriad ym mlynyddoedd treth 2018 i 2019 neu 2019 i 2020, efallai y gallwch anfon FPS yn lle hynny - defnyddiwch eich meddalwedd gyflogres i wirio hynny.
Fel arall, bydd angen i chi ddefnyddio cyflwyniadau Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) drwy Offer TWE Sylfaenol (BPT) (yn Saesneg) CThEM.
Wrth i chi gyflwyno鈥檙 EYU ar gyfer pob cyflogai neu gyn-gyflogai, dylech gyfrifo鈥檙 gwahaniaeth rhwng y ffigur y rhoesoch wybod amdano鈥檔 wreiddiol a鈥檙 swm diwygiedig, a rhoi gwybod y gwahaniaeth i ni.
Os ydych yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol i lenwi cyflwyniad Diweddariad Blwyddyn Gynharach (yn Saesneg), bydd yn rhaid i chi nodi ffigurau鈥檙 flwyddyn hyd yn hyn a gyflwynwyd yn flaenorol. Hefyd bydd yn rhaid i chi gyfrifo鈥檙 dreth, y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a鈥檙 didyniadau benthyciad myfyriwr sy鈥檔 ddyledus.
Ni fydd Offer TWE Sylfaenol yn gwneud hyn ar eich rhan, felly dylech ddefnyddio鈥檆h cynnyrch meddalwedd gyflogres gyfredol i wneud eich cyfrifiadau. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd angen i chi gyfrifo鈥檙 dreth, y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a鈥檙 didyniadau benthyciad myfyriwr (yn Saesneg) 芒 llaw.
Os ydych yn rhoi gwybod am falans benthyciad t芒l cuddiedig sydd heb ei dalu ar gyfer cyn-gyflogai, dylech ddefnyddio鈥檙 arweiniad ar gyfer talu cyflogai ar 么l rhoi P45 iddo (yn Saesneg).
Blwyddyn dreth 2018 i 2019
Ar gyfer y flwyddyn dreth hon, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- cyfrifo swm diwygiedig balans y benthyciad t芒l cuddiedig sydd heb ei dalu, gan ystyried unrhyw ddewis (yn Saesneg) y mae鈥檆h cyflogai wedi鈥檌 wneud i rannu balans ei fenthyciad yn gyfartal dros 3 blynedd
- cyflwyno EYU gan nodi鈥檙 gwahaniaeth o ran balans benthyciad y cyflogai sydd heb ei dalu yn y maes, 鈥楽wm yr incwm t芒l cuddiedig Rhan 7A鈥 (dyma fydd y gwahaniaeth rhwng y swm a gyflwynwyd gennych yn flaenorol i CThEM a鈥檙 swm diwygiedig, a ffigur minws fydd e)
- nodi鈥檙 swm minws hwn yn y meysydd t芒l trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw鈥檔 berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr
- cyfrifo swm diwygiedig y dreth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw鈥檔 berthnasol, y didyniadau benthyciad myfyriwr sydd nawr yn ddyledus
- llenwi pob maes perthnasol gyda鈥檙 symiau minws (dyma fydd y gwahaniaeth rhwng y symiau a gyflwynwyd gennych yn flaenorol i CThEM a鈥檙 symiau diwygiedig)
Os yw鈥檆h cyflogai wedi dewis rhannu鈥檌 falans, dilynwch yr arweiniad isod mewn perthynas 芒 blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2020 i 2021.
Bydd angen i chi roi P60 diwygiedig i鈥檆h cyflogeion perthnasol ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019 sy鈥檔 adlewyrchu balans diwygiedig y benthyciad t芒l cuddiedig. Fel arall, dylech roi gwybod i unrhyw gyflogeion neu gyn-gyflogeion am y newidiadau hyn yn ysgrifenedig cyn gynted 芒 phosibl.
Blwyddyn dreth 2019 i 2020
Pan fyddwch wedi cael copi o ddewis (yn Saesneg) cyflogai, dylech gyflwyno EYU neu Gyflwyniad Taliadau Llawn (yn Saesneg) (FPS) gyda gwybodaeth am 鈥榶 flwyddyn hyd yn hyn鈥 (yn dibynnu ar ba fath o gyflwyniad y mae鈥檆h meddalwedd gyflogres yn ei gefnogi) i wneud diwygiadau i鈥檙 flwyddyn dreth hon.
Dylid rhoi gwybod am swm priodol balans y benthyciad heb ei dalu cyn gynted 芒 phosibl ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020.
Blwyddyn dreth 2020 i 2021
O 20 Ebrill 2021 ymlaen, ni fydd EYU bellach yn fath dilys o gyflwyniad i wneud diwygiadau i鈥檙 flwyddyn dreth sy鈥檔 dod i ben ar 5 Ebrill 2021. Bydd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i鈥檙 blynyddoedd treth hyn a鈥檙 dyfodol drwy ddefnyddio cyflwyniad FPS.
Dylid rhoi gwybod am swm priodol balans y benthyciad heb ei dalu cyn gynted 芒 phosibl ar 么l 5 Ebrill 2021 ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021.
Cyflwyniadau EYU ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 lle y bydd swm y benthyciad heb ei dalu yn cael ei rannu
Ar gyfer y flwyddyn dreth hon, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- cyflwyno EYU gan nodi traean o falans y benthyciad heb ei dalu hyd at 5 Ebrill 2019 yn y maes, 鈥楽wm yr incwm t芒l cuddiedig Rhan 7A鈥
- nodi鈥檙 un swm hwn yn y meysydd t芒l trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw鈥檔 berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr
- cyfrifo swm diwygiedig y dreth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw鈥檔 berthnasol, y didyniadau benthyciad myfyriwr sydd nawr yn ddyledus
Dylech gynnwys balans benthyciad t芒l cuddiedig ar bob P60 perthnasol ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020. Fel arall, dylech roi gwybod i unrhyw gyflogeion neu gyn-gyflogeion am y newidiadau hyn yn ysgrifenedig cyn gynted 芒 phosibl.
Cyflwyniadau FPS 鈥榶 flwyddyn hyd yn hyn鈥 ar gyfer blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2020 i 2021 lle y bydd swm y benthyciad heb ei dalu yn cael ei rannu
Mae angen i chi wneud y canlynol:
- cyflwyno FPS gan nodi traean o falans y benthyciad heb ei dalu hyd at 5 Ebrill 2019 yn y maes, 鈥楽wm yr incwm t芒l cuddiedig Rhan 7A鈥
- nodi pob ffigur 鈥榶 flwyddyn hyd yn hyn鈥, gan gynnwys swm balans y benthyciad sydd heb ei dalu yn y meysydd t芒l trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw鈥檔 berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr
Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno鈥檙 FPS ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 ar 么l 5 Ebrill 2021, ac nad yw cyflogwyr yn gweithredu TWE ar falans y benthyciad ar yr un pryd 芒 thalu cyflog rheolaidd.
Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw meddalwedd gyflogres yn didynnu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy鈥檔 ddyledus ar falans y benthyciad o unrhyw gyflog clir, a allai leihau cyflog clir yn sylweddol, neu i ddim.
Gordaliadau
Ar 么l i CThEM brosesu鈥檙 diwygiadau, bydd unrhyw rwymedigaeth a ordalwyd ar gael fel credyd ar eich cofnod cyflogwr. Mae鈥檔 bosibl y bydd ad-daliad yn ddyledus gennych i鈥檆h cyflogai pan eich bod wedi talu鈥檙 dreth a鈥檙 cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy鈥檔 ddyledus i CThEM ar falans benthyciad eich cyflogai sydd heb ei dalu pan fo un neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn wir:
- mae wedi鈥檌 ddidynnu o daliadau gwirioneddol a wnaed i鈥檆h cyflogai, neu
- mae鈥檙 cyflogai wedi ad-dalu鈥檙 dreth a鈥檙 cyfraniadau Yswiriant Gwladol i chi a oedd yn ddyledus ar falans y benthyciad sydd heb ei dalu
Cyn gwneud unrhyw ad-daliad, dylech wirio a yw鈥檆h cyflogai wedi dewis rhannu balans ei fenthyciad sydd heb ei dalu. Os yw wedi dewis gwneud hynny, mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am draean o falans y benthyciad t芒l cuddiedig sydd heb ei dalu ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, fel y nodir uchod.
Dylech ddidynnu unrhyw rwymedigaeth sy鈥檔 ddyledus mewn perthynas 芒 blwyddyn dreth 2019 i 2020 cyn ad-dalu unrhyw falans. Mae鈥檔 rhaid i chi gyfrifo鈥檙 ad-daliad yn seiliedig ar y rhwymedigaeth ddiwygiedig ar gyfer 2018 i 2019, a gwneud trefniadau i ad-dalu鈥檆h cyflogai.
Yn yr achos pan wnaethoch dalu鈥檙 dreth a鈥檙 cyfraniadau Yswiriant Gwladol a oedd yn ddyledus i CThEM ar d芒l ar fenthyciad eich cyflogai ar gyfer 2018 i 2019, ac nad yw鈥檆h cyflogai wedi ad-dalu鈥檙 dreth a鈥檙 cyfraniadau Yswiriant Gwladol i chi, does dim ad-daliad yn ddyledus i鈥檆h cyflogai.
O dan yr amgylchiadau hyn, dylech fod wedi rhoi gwybod yn flaenorol am y dreth a鈥檙 cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd gennych na chawsant eu had-dalu i chi, fel buddiant trethadwy (Blwch B) ar P11D ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019.
Os yw swm y t芒l ar fenthyciad ar gyfer 2018 i 2019 bellach wedi newid, llenwch P11D diwygiedig ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019 gyda ffigur diwygiedig y didyniadau TWE (treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol) a dalwyd gennych na chawsant eu had-dalu i chi, a rhowch gopi i鈥檆h cyflogai.
Pan fyddwch wedi cael dewis gan gyflogai i rannu balans y benthyciad sydd heb ei dalu, roedd gan eich cyflogai tan 5 Gorffennaf 2020 i ad-dalu鈥檙 rhwymedigaeth o ran t芒l ar fenthyciad i chi ar gyfer 2019 i 2020, a than 5 Gorffennaf 2021 i ad-dalu鈥檙 rhwymedigaeth o ran t芒l ar fenthyciad i chi ar gyfer 2020 i 2021.
Pan na chaiff y rhwymedigaeth ei had-dalu i chi erbyn y dyddiadau hyn, dylech fod wedi llenwi ffurflen P11D ar gyfer 2019 i 2020 erbyn 6 Gorffennaf 2020, ac erbyn 6 Gorffennaf 2021 ar gyfer 2020 i 2021. Dylech roi copi i鈥檆h cyflogai. Dylai鈥檙 ffurflenni gynnwys ffigur y didyniadau TWE (treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol) a dalwyd gennych, ac nad ydynt wedi鈥檜 had-dalu i chi erbyn y dyddiadau hyn.
Ardoll Brentisiaethau
Os ydych yn agored i鈥檙 Ardoll Brentisiaethau gan fod eich bil cyflog dros 拢3 miliwn ym mlynyddoedd treth 2018 i 2019 neu 2019 i 2020, bydd angen hefyd i chi ailgyfrifo鈥檙 ardoll hon ac anfon Crynodeb o Daliadau鈥檙 Cyflogwr (yn Saesneg) diwygiedig ar gyfer y blynyddoedd hyn.
Cyflogwyr sydd ddim wedi talu鈥檙 t芒l ar fenthyciad neu sydd ddim wedi cytuno ar setliad
Os ydych yn gyflogwr sydd ddim wedi rhoi gwybod a rhoi cyfrif am y t芒l ar fenthyciad (yn Saesneg), dylech wneud hynny nawr. Bydd llog am dalu鈥檔 hwyr yn cronni hyd nes eich bod yn talu. Mae hyn oherwydd na wnaethoch dalu erbyn y dyddiad cau statudol, sef 22 Ebrill 2019. Mae鈥檔 bosibl y bydd gofynion adrodd ychwanegol pan fydd cyflogai wedi dewis rhannu balans ei d芒l ar fenthyciad.
Sut i roi gwybod am y t芒l ar fenthyciad
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am y t芒l ar fenthyciad ar gyfer benthyciadau perthnasol a wnaed ar neu ar 么l 9 Rhagfyr 2010, a鈥檌 dalu.
Peidiwch 芒 chynnwys unrhyw fenthyciadau a wnaed cyn 6 Ebrill 2016 lle y cafodd y defnydd o鈥檙 cynllun arbed treth ei ddatgelu鈥檔 rhesymol i CThEM ac na wnaeth yr adran gymryd camau (er enghraifft, drwy agor ymchwiliad).
Yn ogystal, mae鈥檔 bosibl y bydd eich cyflogeion neu鈥檆h cyn-gyflogeion wedi dewis lledaenu swm balans eu benthyciad sydd heb ei dalu (yn Saesneg) dros 3 blynedd dreth. Dylent fod wedi rhoi copi o鈥檜 dewis i chi cyn neu ar 30 Medi 2020 i ddangos eu bod wedi gwneud hyn.
Os rhoddir copi o ddewis i chi, dylai balans y benthyciad sydd heb ei dalu gael ei rannu鈥檔 gyfartal dros y 3 blynedd dreth 2018 i 2019, 2019 i 2020, a 2020 i 2021.
Blwyddyn dreth 2018 i 2019
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am unrhyw fenthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu ar gyfer pob cyflogai a chyn-gyflogai ar EYU (yn Saesneg) ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019.
Dylech wirio gyda darparwr eich meddalwedd gyflogres a yw wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn i chi roi gwybod yn gywir am y benthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu. Os nad yw wedi gwneud hynny, bydd angen i chi ddefnyddio cyflwyniad EYU drwy Offer TWE Sylfaenol CThEM i roi gwybod am y benthyciadau t芒l cuddiedig sydd heb eu talu.
Os ydych yn rhoi gwybod am falans benthyciad t芒l cuddiedig sydd heb ei dalu ar gyfer cyn-gyflogai, dylech ddefnyddio鈥檙 arweiniad ar gyfer talu cyflogai ar 么l rhoi P45 iddo (yn Saesneg).
Wrth gyflwyno鈥檙 EYU ar gyfer pob cyflogai neu gyn-gyflogai, dylech wneud y canlynol:
- cyfrifo swm diwygiedig balans y benthyciad sydd heb ei dalu, gan ystyried unrhyw ddewis (yn Saesneg) a wnaed gan eich cyflogai i rannu鈥檌 falans yn gyfartal dros 3 blynedd
- cyflwyno EYU gan nodi swm balans benthyciad t芒l cuddiedig y cyflogai sydd heb ei dalu yn y maes, 鈥楽wm yr incwm t芒l cuddiedig Rhan 7A鈥 鈥 swm positif fydd hwn
- nodi鈥檙 un swm hwn yn y meysydd t芒l trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw鈥檔 berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr
- cyfrifo swm diwygiedig y dreth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw鈥檔 berthnasol, y didyniadau benthyciad myfyriwr sydd nawr yn ddyledus
- llenwi pob maes perthnasol gan nodi鈥檙 gwahaniaeth rhwng y symiau a gyflwynwyd gennych yn flaenorol i CThEM a鈥檙 symiau diwygiedig
Os yw鈥檆h cyflogai wedi dewis rhannu鈥檌 falans, dilynwch yr arweiniad isod mewn perthynas 芒 blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2020 i 2021.
Dylech roi P60 diwygiedig i鈥檆h cyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019 sy鈥檔 adlewyrchu balans diwygiedig y benthyciad t芒l cuddiedig. Fel arall, dylech roi gwybod i unrhyw gyflogeion neu gyn-gyflogeion am y newidiadau hyn yn ysgrifenedig cyn gynted 芒 phosibl.
Pan fyddwch yn talu鈥檙 dreth a鈥檙 cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy鈥檔 ddyledus i CThEM ar rwymedigaeth eich cyflogai o ran t芒l ar fenthyciad sydd heb ei dalu ar gyfer 2018 i 2019, llenwch P11D ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019 gyda ffigur y didyniadau TWE (treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai) na chawsant eu had-dalu i chi fel buddiant trethadwy (Blwch B) a rhowch gopi i鈥檆h cyflogai.
Os ydych yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol i gwblhau cyflwyniad EYU, bydd angen i chi nodi ffigurau鈥檙 flwyddyn hyd yn hyn a gyflwynwyd yn flaenorol. Hefyd bydd yn rhaid i chi gyfrifo鈥檙 dreth, y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a鈥檙 didyniadau benthyciad myfyriwr sy鈥檔 ddyledus.
Ni fydd Offer TWE Sylfaenol yn gwneud hyn ar eich rhan, felly dylech ddefnyddio鈥檆h cynnyrch meddalwedd gyflogres gyfredol i wneud eich cyfrifiadau. Os nad yw hynny鈥檔 bosibl, bydd angen i chi gyfrifo鈥檙 dreth, yr Yswiriant Gwladol a鈥檙 didyniadau benthyciad myfyriwr (yn Saesneg) 芒 llaw.
Blwyddyn dreth 2019 i 2020
Pan fyddwch wedi cael copi o ddewis (yn Saesneg) cyflogai, dylech gyflwyno EYU neu Gyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) gyda gwybodaeth am 鈥榶 flwyddyn hyd yn hyn鈥 (yn dibynnu ar ba fath o gyflwyniad y mae鈥檆h meddalwedd gyflogres yn ei gefnogi) i wneud diwygiadau i鈥檙 blynyddoedd hyn.
Dylid rhoi gwybod am swm priodol balans y benthyciad heb ei dalu cyn gynted 芒 phosibl ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020.
Blwyddyn dreth 2020 i 2021
O 20 Ebrill 2021 ymlaen, ni fydd EYU bellach yn fath dilys o gyflwyniad i wneud diwygiadau i鈥檙 flwyddyn dreth sy鈥檔 dod i ben ar 5 Ebrill 2021. Bydd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i鈥檙 blynyddoedd treth hyn a鈥檙 dyfodol drwy ddefnyddio cyflwyniad FPS.
Dylid rhoi gwybod am swm priodol balans y benthyciad heb ei dalu cyn gynted 芒 phosibl ar 么l 5 Ebrill 2021 ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021.
Cyflwyniadau EYU ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 lle y bydd swm y benthyciad heb ei dalu yn cael ei rannu
Ar gyfer y blynyddoedd treth hyn, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- cyflwyno EYU gan nodi traean o falans y benthyciad heb ei dalu hyd at 5 Ebrill 2019 yn y maes, 鈥楽wm yr incwm t芒l cuddiedig Rhan 7A鈥
- nodi鈥檙 un swm hwn yn y meysydd t芒l trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw鈥檔 berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr
- cyfrifo swm diwygiedig y dreth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw鈥檔 berthnasol, y didyniadau benthyciad myfyriwr sydd nawr yn ddyledus
Dylech gynnwys balans benthyciad t芒l cuddiedig ar bob P60 perthnasol ar gyfer blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2020 i 2021. Fel arall, dylech roi gwybod i unrhyw gyflogeion neu gyn-gyflogeion am y newidiadau hyn yn ysgrifenedig cyn gynted 芒 phosibl.
Cyflwyniadau FPS 鈥榶 flwyddyn hyd yn hyn鈥 ar gyfer blynyddoedd treth 2019 i 2020 a 2020 i 2021 lle y bydd swm y benthyciad heb ei dalu yn cael ei rannu
Mae angen i chi wneud y canlynol:
- cyflwyno FPS gan nodi traean o falans y benthyciad heb ei dalu hyd at 5 Ebrill 2019 yn y maes, 鈥楽wm yr incwm t芒l cuddiedig Rhan 7A鈥
- nodi pob ffigur 鈥榶 flwyddyn hyd yn hyn鈥, gan gynnwys swm balans y benthyciad sydd heb ei dalu yn y meysydd t芒l trethadwy, y meysydd enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac, os yw鈥檔 berthnasol, y meysydd didynnu benthyciad myfyriwr
Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno鈥檙 FPS ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 ar 么l 5 Ebrill 2021, ac nad yw cyflogwyr yn gweithredu TWE ar falans y benthyciad ar yr un pryd 芒 thalu cyflog rheolaidd.
Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw meddalwedd gyflogres yn didynnu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy鈥檔 ddyledus ar falans y benthyciad oddi wrth unrhyw gyflog clir gwirioneddol, a allai leihau cyflog clir yn sylweddol, neu i ddim.
Pan oedd dewis wedi dod i law, roedd gan eich cyflogai tan 5 Gorffennaf 2020 i ad-dalu鈥檙 rhwymedigaeth o ran t芒l ar fenthyciad i chi ar gyfer 2019 i 2020, a than 5 Gorffennaf 2021 i ad-dalu鈥檙 rhwymedigaeth o ran t芒l ar fenthyciad i chi ar gyfer 2020 i 2021.
Pan na chaiff y rhwymedigaeth ei had-dalu i chi erbyn y dyddiadau hyn, dylech fod wedi llenwi ffurflen P11D ar gyfer 2019 i 2020 erbyn 6 Gorffennaf 2020, ac erbyn 6 Gorffennaf 2021 ar gyfer 2020 i 2021. Dylech roi copi i鈥檆h cyflogai. Dylai鈥檙 ffurflenni gynnwys ffigur y didyniadau TWE (treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol) a dalwyd gennych, ac nad ydynt wedi鈥檜 had-dalu i chi erbyn y dyddiadau hyn.
Mae鈥檔 rhaid i chi sicrhau eich bod yn talu鈥檙 taliadau Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol i CThEM erbyn y dyddiad dyledus. Y dyddiadau talu ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 yw 19 Ebrill 2020 os ydych yn talu drwy鈥檙 post, neu 22 Ebrill 2020 os ydych yn talu drwy ddull electronig. Mae llog am dalu鈥檔 hwyr yn ddyledus os ydych yn methu鈥檙 dyddiadau talu statudol, a bydd llog yn dal i gronni hyd nes i chi dalu.
Ardoll Brentisiaethau
Os ydych yn agored i鈥檙 Ardoll Brentisiaethau gan fod eich bil cyflog dros 拢3 miliwn ym mlynyddoedd treth 2018 i 2019 neu 2019 i 2020, bydd angen hefyd i chi ailgyfrifo鈥檙 ardoll hon ac anfon Crynodeb o Daliadau鈥檙 Cyflogwr diwygiedig ar gyfer y blynyddoedd hyn.
Os nad oes gennych ddigon o arian i dalu鈥檙 TWE y rhoesoch wybod amdano, dylech ffonio: 0300 200 1900, neu e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk cyn gynted 芒 phosibl i drafod eich opsiynau.
Updates to this page
-
Page updated to reflect the recent publication by the government of the terms of reference for the new independent review of the Loan Charge.
-
Page updated to reflect government's announcement that there will be a further independent review of the loan charge.
-
Information on where to find the latest guidance on settling disguised remuneration scheme use and paying the loan charge has been added.
-
Added email information about applying for a late election.
-
The loan charge helpline telephone number has changed from 03000 599110 to 0300 322 9494.
-
The information about how to apply for a late election and how to report a disguised remuneration loan has been updated as the forms can no longer be completed online.
-
Added translation
-
Added information on making a late election.
-
We have updated the guidance with information on what customers affected by the loan charge should do now the 30 September 2020 deadline has passed.
-
Added translation
-
Information about 'How to report a disguised remuneration loan' has been updated.
-
Information added if you鈥檙e going to claim a grant through the coronavirus (COVID-19) Self-employment Income Support Scheme.
-
Welsh version of guide updated.
-
This guidance has been updated to reflect the outcome of the disguised remuneration loan charge review.
-
Added translation
-
The loan charge review section has been updated.
-
The section 'Employees and contractors using trade based schemes' has been updated to make it easier to understand.
-
'Employees and contractors using employment schemes' section has been updated with information about repaying your employer tax they have paid on your behalf, or paying HMRC directly yourself.
-
Additional guidance has been added to the 'How to report a disguised remuneration loan' section about how to send your loan charge details using the online service and a link has been added to the service.
-
First published.