Ar 么l i chi gael eich penodi'n warcheidwad

Bydd y gorchymyn gwarcheidiaeth yn dweud wrthych pryd gallwch ddechrau gwneud penderfyniadau ar ran yr unigolyn聽a pha fath o benderfyniad y gallwch ei wneud.

Bydd y gorchymyn hefyd yn dweud wrthych chi am ba hyd rydych chi鈥檔 warcheidwad.

Cysylltwch 芒鈥檙 Uchel Lys os oes camgymeriadau ar y gorchymyn.

Bydd angen i chi wneud cais arall i聽wneud penderfyniad ar unrhyw beth nad yw鈥檔 rhan o鈥檙 gorchymyn.

Rhoi gwybod i bobl eich bod chi鈥檔 warcheidwad

Efallai y bydd y llys yn rhoi鈥檙 hawl i chi wybod ble mae gan yr unigolyn gyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, os nad ydych chi鈥檔 gwybod hynny鈥檔 barod. Bydd angen i chi ysgrifennu at y banciau a鈥檙 cymdeithasau adeiladu i gael gwybod.

Os yw鈥檙 gorchymyn yn cyfeirio at bobl neu sefydliadau, rhowch wybod iddynt mai chi yw鈥檙 gwarcheidwad.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • banciau neu gymdeithasau adeiladu
  • cwmn茂au yswiriant bywyd
  • talwr unrhyw bensiynau preifat
  • y cyfreithiwr sy鈥檔 dal ewyllys neu weithredoedd eiddo yr unigolyn
  • darparwyr cyfleustodau
  • y cwmni lle mae gan yr unigolyn forgais

Anfonwch y canlynol:

  • y gorchymyn gwarcheidiaeth
  • prawf o鈥檆h enw a鈥檆h cyfeiriad
  • prawf o enw a chyfeiriad yr unigolyn rydych chi鈥檔 warcheidwad iddo

Gallai prawf o enw a chyfeiriad fod yn drwydded yrru neu鈥檔 fil cyfleustodau. Holwch y sefydliad:

  • pa brawf o enw a chyfeiriad mae鈥檔 ei dderbyn
  • a fydd yn derbyn llungopi o鈥檙 gorchymyn gwarcheidiaeth neu dim ond y gwreiddiol

Gofynnwch i鈥檙 sefydliadau anfon eich gorchymyn gwarcheidiaeth yn 么l atoch pan fyddwch chi鈥檔 ei anfon, neu efallai y byddwch yn mynd yn brin o gop茂au.

Talu biliau a chanslo taliadau

Ar 么l i chi gael mynediad at gyfrifon yr unigolyn a phan fyddwch yn gwybod o ble daw eu hincwm a鈥檜 hasedau, gallwch lunio rhestr lawn o鈥檙 hyn sydd ganddynt yn eu hystad er mwyn i chi wybod beth rydych chi鈥檔 gyfrifol amdanynt. Os bydd y gorchymyn gwarcheidiaeth yn rhoi caniat芒d i chi, talwch unrhyw filiau sy鈥檔 ddyledus a chanslo unrhyw daliadau nad ydynt yn berthnasol mwyach.