Rheoli cyllid ac eiddo unigolyn sydd ar goll
Cadw cofnodion, rhoi rhoddion a hawlio treuliau
Rhaid i chi gadw cofnodion a chyfrifon ariannol. Dilynwch y rheolau ar gyfer rhoddion a threuliau. Rhaid i chi hefyd gofnodi鈥檙 trafodion yn聽eich adroddiad gwarcheidiaeth.
Cadw cofnodion
Cadwch gofnod os ydych chi鈥檔 gwneud y canlynol:
- gwneud buddsoddiad ar ran yr unigolyn
- gwerthu cartref, car neu unrhyw beth arall o werth sydd gan yr unigolyn
- defnyddio arian yr unigolyn i brynu anrheg i rywun
- gofyn i rywun am gyngor ac unrhyw anghytuno
- cau cyfrif
- talu bil
Rhaid i chi gadw cop茂au o鈥檙 canlynol:
- cyfriflenni banc a derbynebau
- anfonebau
- contractau ar gyfer gwasanaethau neu fasnachwyr
- llythyrau a negeseuon e-bost am eich gweithgareddau fel gwarcheidwad
Gallai Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus ofyn i chi anfon y rhain pan fydd yn adolygu eich adroddiad gwarcheidwad.
Rhoi rhoddion
Bydd eich gorchymyn gwarcheidiaeth yn dweud a gewch chi brynu anrhegion neu roi arian yn rhodd ar ran yr unigolyn, gan gynnwys rhoi i elusennau. Bydd hefyd yn dweud os bydd cyfyngiad ar faint y gallwch ei wario.
Rhaid i chi fod yn si诺r bod yr unigolyn yn gallu fforddio鈥檙 rhodd.
Costau
Darllenwch eich gorchymyn gwarcheidiaeth i weld a ydych chi鈥檔 gallu hawlio treuliau neu beidio. Dim ond os yw鈥檙 gorchymyn yn rhoi caniat芒d i chi y cewch hawlio treuliau, a dim ond ar gyfer y pethau y mae鈥檔 rhaid i chi eu gwneud yn eich r么l fel gwarcheidwad, er enghraifft:
- cyflogi gweithiwr proffesiynol i wneud pethau fel llenwi ffurflen dreth yr unigolyn
- costau teithio
- nwyddau ysgrifennu
- costau postio
- galwadau ff么n
Os byddwch chi鈥檔 camddefnyddio arian yr unigolyn neu鈥檔 gwneud penderfyniadau a fydd yn arwain at fudd i chi鈥檆h hun, mae鈥檔 bosibl y gorchmynnir i chi ei dalu鈥檔 么l.
Cadwch eich derbynebau a rhoi anfoneb i鈥檙 unigolyn am eich treuliau.