Tâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
Yr hyn y gallwch ei gael
Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i Absenoldeb Gofal Newyddenedigol, Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, neu’r ddau.
Gallwch gael un wythnos o absenoldeb am bob 7 diwrnod llawn yn olynol y mae’ch baban mewn gofal newyddenedigol.
Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
Gallwch gael hyd at 12 wythnos o Absenoldeb Gofal Newyddenedigol os ydych chi’n cael eich ystyried fel cyflogai (yn agor tudalen Saesneg). Does dim ots pa mor hir rydych wedi bod gyda’ch cyflogwr.
Mae’n rhaid i chi gymryd eich absenoldeb o fewn 68 wythnos (ychydig yn llai na 16 mis) o ddyddiad geni eich baban.
Bydd y cyfnod rhybudd y mae’n rhaid i chi ei roi i’ch cyflogwr yn dibynnu ar p’un a ydych yn cymryd absenoldeb:
- tra bod eich baban mewn gofal newyddenedigol, neu hyd at wythnos ar ôl gadael gofal newyddenedigol (weithiau, cyfeirir at hyn fel ‘haen 1’)
- mwy nag wythnos ar ôl i’ch baban adael gofal newyddenedigol (weithiau, cyfeirir at hyn fel ‘haen 2’)
Sut i gymryd yr absenoldeb
Tra bod eich baban mewn gofal newyddenedigol, neu hyd at wythnos ar ôl i’r baban gadael gofal newyddenedigol, gallwch gymryd absenoldeb mewn blociau ar wahân sy’n cwmpasu o leiaf wythnos ar y tro.
Ar ôl hyn, mae’n rhaid i chi gymryd yr absenoldeb mewn un bloc parhaus.
Os ydych eisoes yn cymryd absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu
Os yw’ch baban mewn gofal newyddenedigol tra’ch bod ar Absenoldeb Mamolaeth Statudol neu Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, mae’n rhaid i chi gymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol ar ôl i’ch absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu ddod i ben.
Enghraifft
Mae’ch baban newydd yn sâl ac mae’n rhaid iddo aros mewn gofal newyddenedigol am 56 diwrnod. Rydych eisoes yn cymryd Absenoldeb Mamolaeth Statudol.
Yn lle colli 56 diwrnod (8 wythnos) o’ch absenoldeb, rydych yn ychwanegu Absenoldeb Gofal Newyddenedigol i ddiwedd y 39 wythnos o’ch absenoldeb mamolaeth.
Os ydych yn cymryd Absenoldeb ar y cyd i Rieni neu Absenoldeb Tadolaeth Statudol
Gallwch naill ai gymryd Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol:
- cyn i chi ddechrau Absenoldeb Tadolaeth Statudol neu Absenoldeb ar y cyd i Rieni
- rhwng blociau o Absenoldeb ar y cyd i Rieni a drefnwyd gennych cyn i’ch baban ddechrau gofal newyddenedigol (mae hyn yn cynnwys os yw’r Absenoldeb ar y cyd i Rieni ar gyfer plentyn arall)
Os ydych yn defnyddio’ch absenoldeb a’ch tâl am o leiaf un wythnos ar ôl i’ch baban adael gofal newyddenedigol, mae’n rhaid i chi gymryd y cyfan mewn un bloc. Gallwch wneud hyn cyn neu ar ôl eich Absenoldeb ar y cyd i Rieni neu Absenoldeb Tadolaeth Statudol.
Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Os ydych yn hawlio Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol os ydych yn gymwys i wneud hynny.
Gallwch gael £187.18 yr wythnos, neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sydd isaf).
Mae unrhyw arian a gewch yn cael ei dalu yn yr un ffordd â’ch cyflog, er enghraifft yn wythnosol neu’n fisol, ynghyd â didyniadau ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol.
Os oes gennych fwy nag un baban mewn gofal newyddenedigol
Os yw’ch babanod mewn gofal newyddenedigol ar yr un pryd (er enghraifft, os oes gennych efeilliaid), gallwch ond hawlio Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol am un baban, hyd at uchafswm o 12 wythnos.
Os yw’ch babanod mewn gofal newyddenedigol ar adegau ar wahân, byddwch yn gallu hawlio am bob un baban – hyd at uchafswm o 12 wythnos at ei gilydd.