TAW ar gyfer elusennau
Sut i hawlio rhyddhad TAW
Er mwyn cael rhyddhad TAW, mae’n rhaid i chi ddarparu’r canlynol i’ch cyflenwr:
-
tystiolaeth eich bod yn elusen
-
datganiad ysgrifenedig, neu dystysgrif sy’n cadarnhau eich bod yn gymwys i gael y rhyddhad
Tystiolaeth o statws elusennol
Gall hyn fod yn un o’r canlynol:
-
eich rhif cofrestru ar gyfer y Comisiwn Elusennau
-
eich llythyr o gydnabyddiaeth gan Gyllid a Thollau EF (CThEF)
Mae’n rhaid i elusennau o’r Alban ac o Ogledd Iwerddon ddarparu’r llythyr o gydnabyddiaeth gan CThEF.Ìý
Datganiad ysgrifenedig
Mae’n rhaid i chi roi datganiad cymhwystra neu dystysgrif i’ch cyflenwr pan y byddant yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau i chi ar y gyfradd TAW sero. Dyma enghreifftiau o ddatganiadau a thystysgrifau ar gyfer nwyddau amrywiol (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn prynu gwasanaethau adeiladu ar y gyfradd TAW sero, mae’n rhaid i’r dystysgrif ddilyn fformat penodol (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i’r datganiad ysgrifenedig neu’r dystysgrif fod ar wahân i’r ffurflen archebu neu’r taleb ar gyfer y nwyddau a’r gwasanaethau y mae eich elusen yn eu prynu.