TAW ar gyfer elusennau

Printable version

1. Trosolwg

Fel elusen, nid ydych yn talu TAW wrth brynu rhai nwyddau a gwasanaethau (yn agor tudalen Saesneg).

Nid yw Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CChAC) yn gymwys i gael yr un math o ryddhadau TAW (yn agor tudalen Saesneg) ag elusennau.

Sut i gael rhyddhad TAW

Mae angen i chi brofi i’r person sy’n gwerthu’r nwyddau neu’r gwasanaethau i chi eich bod yn gymwys i gael rhyddhad (yn agor tudalen Saesneg). Nid oes angen i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW.

Pryd mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os yw trosiant trethadwy TAW eich elusen (yn agor tudalen Saesneg) (cyfanswm gwerth popeth yr ydych yn ei werthu nad yw wedi’i esemptio rhag TAW) yn fwy na £90,000.

Gallwch ddewis cofrestru os yw’r swm yn is na hynny, er enghraifft os ydych am adhawlio TAW ar eich cyflenwadau.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cael help gyda TAW

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os oes gennych gwestiynau ynghylch TAW ar gyfer eich elusen.

2. Yr hyn sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad TAW

Mae elusennau yn talu TAW ar yr holl nwyddau a gwasanaethau cyfradd safonol y byddant yn eu prynu gan fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW. Maent yn talu TAW ar gyfradd is (5%), neu ar y gyfradd sero ar rai nwyddau a gwasanaethau.

Yr hyn sy’n gymwys ar gyfer y gyfradd is

Bydd eich elusen yn talu TAW ar gyfradd o 5% ar gyfer tanwydd a phŵer os ydynt yn cael eu defnyddio at ddibenion y canlynol:

  • llety preswyl (er enghraifft, cartref plant neu gartref gofal i’r henoed)

  • gweithgareddau elusennol nad ydynt yn ymwneud â busnes (er enghraifft, gofal dydd am ddim ar gyfer pobl ag anabledd)

  • defnydd ar raddfa llai (hyd at 1,000 kilowat yr awr o drydan y mis, neu gyflenwad o 2,300 litr o olew nwy)

Os yw llai na 60% o’r tanwydd a’r pŵer yn cael eu defnyddio ar gyfer rhywbeth sy’n gymwys, byddwch yn talu’r gyfradd TAW is ar y rhan sy’n gymwys, a’r gyfradd TAW safonol (20%) ar gyfer y gweddill.

Mae tanwydd a phŵer sy’n gymwys yn cynnwys nwyon, trydan, olew a thanwyddau solet (megis glo). Nid yw’n cynnwys tanwydd ar gyfer cerbydau.

Yr hyn sy’n gymwys ar gyfer y gyfradd sero

Dysgwch am yr amodau sydd angen i chi eu bodloni fel nad yw eich elusen yn talu TAW (y gyfradd sero) pan y byddwch yn prynu:

Nwyddau sy’n rhydd o TAW o’r tu allan i’r DU

Nid oes rhaid i elusennau dalu TAW ar nwyddau sydd wedi’u mewnforio o’r tu allan i’r DU, cyn belled â’u bod yn cael eu defnyddio er budd pobl sydd mewn angen, a hynny drwy ddarparu’r canlynol:

  • hanfodion sylfaenol

  • offer a deunyddiau swyddfa er mwyn eich helpu i redeg eich sefydliad er budd pobl sydd mewn angen

  • nwyddau a gaiff eu defnyddio neu eu gwerthu mewn digwyddiadau elusennol

Gallwch wirio pa nwyddau y gallwch hawlio rhyddhad TAW ar eu cyfer (yn agor tudalen Saesneg), yn ogystal â sut i hawlio.

3. Sut i hawlio rhyddhad TAW

Er mwyn cael rhyddhad TAW, mae’n rhaid i chi ddarparu’r canlynol i’ch cyflenwr:

  • tystiolaeth eich bod yn elusen

  • datganiad ysgrifenedig, neu dystysgrif sy’n cadarnhau eich bod yn gymwys i gael y rhyddhad

Tystiolaeth o statws elusennol

Gall hyn fod yn un o’r canlynol:

  • eich rhif cofrestru ar gyfer y Comisiwn Elusennau

  • eich llythyr o gydnabyddiaeth gan Gyllid a Thollau EF (CThEF)

Mae’n rhaid i elusennau o’r Alban ac o Ogledd Iwerddon ddarparu’r llythyr o gydnabyddiaeth gan CThEF.Ìý

Datganiad ysgrifenedig

Mae’n rhaid i chi roi datganiad cymhwystra neu dystysgrif i’ch cyflenwr pan y byddant yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau i chi ar y gyfradd TAW sero. Dyma enghreifftiau o ddatganiadau a thystysgrifau ar gyfer nwyddau amrywiol (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn prynu gwasanaethau adeiladu ar y gyfradd TAW sero, mae’n rhaid i’r dystysgrif ddilyn fformat penodol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n rhaid i’r datganiad ysgrifenedig neu’r dystysgrif fod ar wahân i’r ffurflen archebu neu’r taleb ar gyfer y nwyddau a’r gwasanaethau y mae eich elusen yn eu prynu.

4. Elusennau a chofrestru ar gyfer TAW

Fel elusen, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) os yw eich trosiant trethadwy TAW yn fwy na £90,000.

Gallwch ddewis cofrestru os yw’r swm yn is na hynny, er enghraifft i adhawlio TAW ar eich cyflenwadau.

Os ydych yn ysgol breifat sy’n elusen, mae’n rhaid i chi wirio sut i gofrestru ar gyfer TAW.

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen TAW pob 3 mis.

Cyfrifo’ch trosiant trethadwy

Er mwyn cyfrifo eich trosiant trethadwy TAW, mae angen i chi adio gwerth popeth yr ydych yn ei werthu mewn cyfnod o 12 mis sydd ddim yn bodloni un o’r amodau canlynol:

  • wedi’i eithrio rhag TAW

  • y tu hwnt i gwmpas TAW

Gwiriwch pa gyfradd TAW sy’n berthnasol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer gweithgarwch eich elusen.

Wedi’i esemptio rhag TAW

Ni allwch godi TAW ar nwyddau a gwasanaethau sydd wedi’u hesemptio (fel y ddarpariaeth o wasanaethau lles). Fel arfer, ni allwch adhawlio TAW ar unrhyw nwyddau na gwasanaethau sydd wedi’u prynu mewn perthynas â gweithgarwch busnes sydd wedi’i esemptio.

Ni allwch gofrestru ar gyfer TAW os yw holl weithgarwch eich busnes wedi’i esemptio rhag TAW.

Y tu hwnt i gwmpas TAW

Mae incwm o weithgarwch nad yw’n ymwneud â busnes y ‘tu hwnt i gwmpas’ TAW (ni allwch godi na hawlio TAW ar y gweithgarwch hwn). Mae hyn yn cynnwys:

  • cyfraniadau ble na roddir unrhyw beth yn ôl

  • cyllid grant sydd wedi’i roi i gefnogi gweithgarwch elusennol ble na roddir unrhyw beth yn ôlÌý

  • gweithgarwch ble nad yw’ch sefydliad yn codi tâl

Dysgwch fragor ynghylch yr hyn sy’n cyfrif fel gweithgarwch busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Codi TAW

Unwaith eich bod wedi cofrestru, bydd angen i chi godi TAW ar y gyfradd gywir ar bopeth y byddwch yn eu darparu.

Adhawlio TAW

Os ydych wedi cofrestru, mae’n bosibl y byddwch yn gallu adhawlio TAW pan y byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW.

Gallwch adhawlio’r TAW a godwyd arnoch ar nwyddau a gwasanaethau mewn perthynas â’ch gweithgarwch busnes trethadwy.

Allforion y tu allan i’r DU

Os y byddwch yn darparu nwyddau y tu allan i’r DU yn ddi-dal (er enghraifft fel cymorth), gallwch drin hyn fel gweithgarwch busnes ar y gyfradd sero (TAW 0%) fel y gallwch adhawlio’r TAW ar unrhyw gostau cysylltiedig.