Tâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol: arweiniad i gyflogwyr
Printable version
1. Trosolwg
Gall cyflogai fod yn gymwys i gael Tâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol os oes ganddo ef neu ei bartner faban sydd angen gofal newyddenedigol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
‘Gofal newyddenedigol’ yw’r enw a roddir i ofal am fabanod newydd sy’n dechrau yn y 28 diwrnod cyntaf ar ôl genedigaeth. Gall hyn fod ar gyfer:
- gofal ysbyty
- gofal meddygol ar ôl gadael yr ysbyty
- gofal lliniarol neu ofal diwedd oes
Mae’n rhaid i ofal meddygol ar ôl gadael yr ysbyty gael ei oruchwylio gan ymgynghorydd a chynnwys ymweliadau parhaus neu wiriadau a drefnwyd gan yr ysbyty lle cafodd y baban ei drin.
Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am y baban:
- mae’n rhaid i’r baban fynd i ofal newyddenedigol o fewn 28 diwrnod i’r enidigaeth
- mae’n rhaid i’r baban dreulio o leiaf 7 diwrnod yn olynol mewn gofal newyddenedigol
Mae’n rhaid i’r rhieni fod yn gyflogedig yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban.
Mae’n rhaid i’r dyddiad geni fod ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025.
Gofal Newyddenedigol
Gall cyflogai gymryd hyd at uchafswm o 12 wythnos o Absenoldeb Gofal Newyddenedigol o ddiwrnod cyntaf ei gyflogaeth.
Gall un wythnos o absenoldeb gael ei gymryd am bob 7 diwrnod llawn yn olynol y mae’r baban mewn gofal newyddenedigol.
Mae’n rhaid i gyflogai gymryd ei holl absenoldeb o fewn 68 wythnos o ddyddiad geni’r baban.
Gall gymryd absenoldeb yn yr achosion canlynol:
- tra bod y baban mewn gofal newyddenedigol, neu yn yr wythnos gyntaf ar ôl hynny (gelwir hyn yn ‘haen 1’)
- mwy nag wythnos ar ôl i’r baban adael gofal newyddenedigol (gelwir hyn yn ‘haen 2’)
Sut mae’r absenoldeb yn cael ei gymryd
Os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol, neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl i’r baban gadael gofal newyddenedigol, gall cyflogeion gymryd absenoldeb mewn blociau sy’n cwmpasu o leiaf wythnos ar y tro. Nid oes rhaid iddynt gymryd yr wythnosau hyn i gyd ar yr un pryd.
Os yw wythnos neu fwy wedi mynd heibio ers i’r baban adael gofal newyddenedigol, mae’n rhaid i gyflogeion gymryd unrhyw absenoldeb y mae ganddynt hawl iddo mewn un bloc parhaus.
Mae’n rhaid iddynt roi’r rhybudd cywir i chi am eu habsenoldeb.
Cymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol gyda mathau eraill o absenoldeb statudol
Mae’n rhaid i gyflogeion gymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol ar ôl unrhyw Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu Statudol.
Os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol, neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl i’r baban gadael gofal newyddenedigol, gall fathau eraill o absenoldeb i rieni a drefnwyd ymlaen llaw (fel Absenoldeb Tadolaeth neu Absenoldeb ar y Cyd i Rieni), tarfu ar Absenoldeb Gofal Newyddenedigol. Gellir ychwanegu’r cyfnod o Absenoldeb Gofal Newyddenedigol sy’n weddill at ddiwedd y math arall o absenoldeb i rieni.
Os yw’r absenoldeb yn cael ei gymryd yn hwyrach na’r wythnos gyntaf ar ôl i’r baban adael gofal newyddenedigol, dim ond mewn un bloc y gellir ei gymryd, a hynny cyn neu ar ôl unrhyw hawl presennol o ran absenoldeb arall i rieni.
Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Mae Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol ar gyfer cyflogai cymwys naill ai’n £187.18 yr wythnos neu’n 90% o’i enillion wythnosol cyfartalog, pa un bynnag sydd isaf.
Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.
Dysgwch sut i hawlio taliadau yn ôl neu wneud cais am daliad ymlaen llaw os na allwch fforddio taliadau.
Absenoldeb neu dâl ychwanegol
Gallwch gynnig mwy na’r symiau statudol os oes gennych gynllun cwmni ar gyfer Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol. Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod polisïau eich cynlluniau yn eglur ac ar gael i staff.
Hawliau cyflogaeth
Diogelir hawliau’r cyflogai (yn agor tudalen Saesneg) (fel yr hawl i godiad cyflog, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod Absenoldeb Gofal Newyddenedigol.
Os ydych chi’n diswyddo cyflogai, mae’n rhaid i chi dalu unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol sydd heb ei dalu.
Mae’n rhaid i chi dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.
2. Cymhwystra
Mae’n rhaid i gyflogai fod yn gymwys i gael Absenoldeb Gofal Newyddenedigol a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol fel rhiant â chyfrifoldeb gofalu am y baban, ac fel cyflogai.
Yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban, gall cyflogai gael hyd at 12 wythnos o dâl ac absenoldeb os yw’r canlynol yn wir am ei faban:
- ganwyd y baban ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025
- mae’r baban yn treulio 7 diwrnod neu fwy mewn gofal newyddenedigol yn olynol
Er mwyn cael absenoldeb a thâl, mae’n rhaid i’r cyflogai gael ei ystyried fel cyflogai (yn agor tudalen Saesneg) – mae hyn yn golygu bod ganddo gontract cyflogaeth.
Gall cyflogai fod yn gymwys os yw’n cymryd absenoldeb a thâl i ofalu am y baban ac mae un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae’n rhiant i’r baban, (biolegol, mabwysiadol, neu blentyn a anwyd i fam benthyg) gyda chyfrifoldeb gofalu am y baban
- mae’n partner i fam y baban, gyda chyfrifoldebau gofalu ar y cyd
Os yw’r cyflogai neu ei bartner yn rhiant mabwysiadol
Gall cyflogai fod yn gymwys i gael absenoldeb a thâl os yw’n cymryd yr absenoldeb i ofalu am y plentyn ac mae’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- mae’r plentyn wedi’i osod gydag ef i’w fabwysiadu (neu wedi’i gymeradwyo ar gyfer mabwysiadu)
- ei fod yn bartner i’r mabwysiadwr ac mae ganddo gyfrifoldebau gofalu ar y cyd
Gall cyflogai fod yn gymwys os yw’n mabwysiadu baban o dramor, neu os yw ei bartner yn mabwysiadu baban o dramor, ac mae’r canlynol yn wir:
- bydd ganddo gyfrifoldeb gofalu am y baban
- mae’r baban wedi’i osod gydag ef
- mae ganddo’r ‘hysbysiad swyddogol’ sy’n cadarnhau ei fod yn cael mabwysiadu
Os cafodd y cyflogai faban gyda chymorth mam fenthyg
Mae cyflogai yn gymwys os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- mae ganddynt gyfrifoldeb am fagu’r plentyn
- maent yn gwneud cais am orchymyn rhieni cyn pen 6 mis o enedigaeth y plentyn
Gofal Newyddenedigol
Mae cyflogeion yn gymwys o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth.
Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Mae’n rhaid i’r cyflogai fod wedi bod yn gyflogedig am o leiaf 26 wythnos hyd at ddiwedd yr ‘wythnos gymhwysol’.
Os oes gan eich cyflogai hawl i Dâl Mamolaeth neu Dadolaeth yn barod, dyma’r 15fed wythnos cyn i ddyddiad disgwyl y baban. Os oes ganddo hawl i Dâl Mabwysiadu Statudol yn barod, dyma’r wythnos y dywedwyd wrth y cyflogai ei fod wedi cael ei baru â’r baban i’w fabwysiadu.
Fel arall, yr wythnos gymhwysol yw’r wythnos yn union cyn i’r baban fynd i ofal newyddenedigol.
Mae’n rhaid i’r cyflogai hefyd:
- barhau i fod yn gyflogedig hyd at yr wythnos cyn iddo hawlio’r tâl
- ennill o leiaf £125 yr wythnos ar gyfartaledd (cyn treth) dros gyfnod o 8 wythnos
3. Cyfnod rhybudd
Mae’n rhaid i gyflogeion roi rhybudd am y canlynol:
- Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
- Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Os ydyn nhw’n gymwys, dylent roi rhybudd i chi am dâl ac absenoldeb ar yr un pryd.
Gofal Newyddenedigol
Mae’r rheolau ar gyfer rhoi rhybudd yn dibynnu ar p’un a yw’r cyflogai yn cymryd yr absenoldeb yn ystod yr adegau canlynol:
- tra bod y baban mewn gofal newyddenedigol, neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny (gelwir hyn yn ‘haen 1’)
- mwy nag wythnos ar ôl i’r baban adael gofal newyddenedigol (gelwir hyn yn ‘haen 2’)
Dylai cyflogeion roi rhybudd am absenoldeb yn ysgrifenedig, er enghraifft drwy e-bost neu lythyr. Fodd bynnag, os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol (neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny), gallant roi rhybudd drwy neges lais, neges destun, neu dros y ffôn.
Gallwch gytuno â’ch cyflogai i hepgor y gofyniad i roi rhybudd am absenoldeb.
Os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol (neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny)
Dylai cyflogeion roi rhybudd i chi eu bod yn cymryd absenoldeb cyn gynted â phosibl, ac yn ddelfrydol cyn yr amser y maent fel arfer yn dechrau gwaith.
Os oes angen i’r absenoldeb barhau, dylai cyflogeion roi rhybudd eto erbyn diwedd yr wythnos flaenorol.
Gallwch gytuno ar amlder gwahanol o rybudd gyda’ch cyflogai – er enghraifft os yw’r baban yn debygol o aros mewn gofal newyddenedigol am amser hir.
Dylai cyflogeion hefyd roi gwybod i chi pryd mae’r baban yn gadael gofal newyddenedigol cyn gynted â phosibl.
Os oedd y baban wedi gadael gofal newyddenedigol fwy nag wythnos yn ôl
Mae’n rhaid i gyflogai sydd am gymryd absenoldeb roi’r rhybudd canlynol:
- 15 diwrnod o rybudd ar gyfer un wythnos o absenoldeb
- 28 diwrnod o rybudd ar gyfer 2 wythnos neu fwy o absenoldeb
Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Mae’n rhaid i gyflogeion roi rhybudd am Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol yn ysgrifenedig – er enghraifft, e-bost neu lythyr.
Os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol (neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny)
Mae’n rhaid i gyflogeion roi rhybudd am dâl cyn pen 28 diwrnod o ddechrau eu habsenoldeb.
Os oedd y baban wedi gadael gofal newyddenedigol fwy nag wythnos yn ôl
Mae’n rhaid i gyflogeion sydd am gymryd Tâl Gofal Newyddenedigol roi’r rhybudd canlynol:
- 15 diwrnod o rybudd ar gyfer un wythnos o dâl
- 28 diwrnod o rybudd ar gyfer 2 wythnos neu fwy o dâl
Yr hyn y mae angen i gyflogeion ei rannu â chi
Dylai cyflogeion rannu’r canlynol â chi:
- enw’r baban
- dyddiad geni’r baban ac, os cafodd ei fabwysiadu, y dyddiad y cafodd ei osod gyda nhw (neu’r dyddiad y daeth y baban i mewn i Brydain Fawr os yw’n cael ei fabwysiadu o dramor)
- dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben gofal newyddenedigol y baban
- pryd y maent eisiau dechrau eu habsenoldeb gofal newyddenedigol
- faint o wythnosau o absenoldeb maen nhw’n eu cymryd
Yn achos genedigaethau lluosog, dylent ddarparu’r wybodaeth hon ar gyfer pob plentyn.
Mae’n rhaid iddynt hefyd gadarnhau bod y canlynol yn wir:
- maen nhw’n cymryd yr absenoldeb a’r tâl i ofalu am y plentyn
- mae ganddynt gyfrifoldeb rhieni am y plentyn, os mai dyma’r tro cyntaf iddynt roi rhybudd am Dâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
Canslo absenoldeb a thâl
Canslo Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
Ni all cyflogeion ganslo rhybudd am absenoldeb os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol (neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny).
Os yw’n fwy nag wythnos ers i’r baban adael gofal newyddenedigol, gall cyflogai ganslo absenoldeb drwy roi rhybudd ysgrifenedig:
- am wythnos o absenoldeb – o leiaf 15 diwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau
- am 2 wythnos neu fwy o absenoldeb – o leiaf 28 diwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau
Canslo Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Ni all cyflogeion ganslo rhybudd am dâl os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol (neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny).
Os yw’n fwy nag wythnos ers i’r baban adael gofal newyddenedigol, gall cyflogai ganslo tâl drwy roi rhybudd ysgrifenedig:
- am wythnos o dâl – o leiaf 15 diwrnod cyn i’r cyfnod cyflog ddechrau
- am 2 wythnos neu fwy o dâl – o leiaf 28 diwrnod cyn i’r cyfnod cyflog ddechrau
Rhoi gwybod i gyflogai nad yw’n gymwys
Os ydych chi’n meddwl nad yw cyflogai yn gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, mae’n rhaid i chi roi gwybod iddo cyn pen 28 diwrnod o gael rhybudd am dâl.
Gallwch wneud hyn drwy ysgrifennu at y cyflogai neu ddefnyddio ffurflen NEO1 gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae angen i chi gynnwys y canlynol:
- enw llawn y cyflogai, ei gyfeiriad a’i rif Yswiriant Gwladol
- dyddiad dechrau ar gyfer y cyfnod pan nad yw’n gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, a dyddiad dod i ben y cyfnod hwnnw (os oes un)
- rheswm nad oedd y cyflogai yn gymwys (er enghraifft, nid oedd ei faban wedi treulio o leiaf 7 diwrnod yn olynol mewn gofal newyddenedigol)
- manylion y person sy’n gyfrifol am ddelio â’i hawliad
Os yw’r cyflogai’n anghytuno â’ch penderfyniad
Dylai’ch cyflogai gysylltu â chi yn gyntaf i drafod y penderfyniad.
Os yw’n dal i anghytuno, gall gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Mae’n rhaid iddo wneud hyn cyn pen 6 mis o ddyddiad y penderfyniad hwn.
4. Cadw cofnodion
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol ar gyfer Cyllid a Thollau EF (CThEF), gan gynnwys y canlynol:
- y dyddiad dechrau ar gyfer unrhyw gyfnod y cafodd Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol ei dalu
- y taliadau rydych chi wedi’u gwneud a’r dyddiadau y gwnaethoch y taliadau hyn
- manylion unrhyw wythnosau pan y gwnaeth y cyflogai hawlio Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol ond na wnaethoch ei dalu, a’r rheswm dros hynny
Bydd angen i chi hefyd gadw cofnodion o’r canlynol:
- datganiad ysgrifenedig y cyflogai, sy’n nodi ei gyfrifoldebau gofalu am y baban a’i berthynas â nhw
- enw’r baban
- y dyddiad y dechreuodd ofal newyddenedigol
- y dyddiad y gadawodd ofal newyddenedigol (gellir darparu hyn yn ddiweddarach os oedd y baban yn dal i fod mewn gofal newyddenedigol ar adeg cwblhau’r datganiad)
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi. Gallwch ddefnyddio ffurflen cadw cofnodion CThEF (NEO2) neu eich un chi.
5. Help gyda thâl statudol
I gael cymorth ariannol gyda thâl statudol, gallwch:
- adennill taliadau
- wneud cais am daliad ymlaen llaw os na allwch fforddio taliadau
Gwneud cais am daliad ymlaen llaw os na allwch fforddio taliadau
Gallwch wneud cais ar-lein am daliad ymlaen llaw i dalu am Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol cyflogai. Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os oes gennych gwestiynau am daliadau ymlaen llaw.
Cyn i chi ddechrau, bydd angen y canlynol arnoch:
- eich Cyfeirnod TWE y Cyflogwr
- eich cyfeirnod talu neu’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon – mae hwn i’w weld ar y llythyr a gawsoch ar ôl i chi gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf
- swm y dreth neu’r Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus i CThEF
- manylion banc neu gymdeithas adeiladu ar eich cyfer chi neu ar gyfer y trydydd parti y mae’n cael ei dalu iddo
- ffurflen R38 (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i llenwi os yw’r taliad ymlaen llaw yn cael ei dalu i drydydd parti
- eich cyfeiriad e-bost, neu eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth
Bydd angen gwybodaeth arnoch hefyd am y cyflogai, gan gynnwys:
- rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai
- ei enillion wythnosol cyfartalog
- ei drefniadau Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol
.
Ar ôl i chi wneud cais
Os yw’r taliad ymlaen llaw yn cael ei dalu i drydydd parti a’ch bod yn anfon ffurflen R38 wedi’i llenwi drwy’r post, anfonwch hi i CThEF cyn pen 4 wythnos ar ôl gwneud cais am daliad ymlaen llaw.
Trysorlys Corfforaethol / Corporate Treasury
CThEF
BX9 1BG
Ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo, bydd yr arian yn cael ei dalu i’r cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a ddarparwyd gennych neu byddwch yn cael siec, yn dibynnu ar ba opsiwn talu gwnaethoch ei ddewis. Os oes unrhyw broblemau gyda’ch cais, bydd CThEF yn cysylltu â chi.
Ad-dalu’ch taliad ymlaen llaw
Bydd angen i chi ad-dalu’ch taliad ymlaen llaw drwy Grynodeb o Daliadau Cyflogwr (EPS) (yn agor tudalen Saesneg).