Tâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol: arweiniad i gyflogwyr
Cyfnod rhybudd
Mae’n rhaid i gyflogeion roi rhybudd am y canlynol:
- Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
- Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Os ydyn nhw’n gymwys, dylent roi rhybudd i chi am dâl ac absenoldeb ar yr un pryd.
Gofal Newyddenedigol
Mae’r rheolau ar gyfer rhoi rhybudd yn dibynnu ar p’un a yw’r cyflogai yn cymryd yr absenoldeb yn ystod yr adegau canlynol:
- tra bod y baban mewn gofal newyddenedigol, neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny (gelwir hyn yn ‘haen 1’)
- mwy nag wythnos ar ôl i’r baban adael gofal newyddenedigol (gelwir hyn yn ‘haen 2’)
Dylai cyflogeion roi rhybudd am absenoldeb yn ysgrifenedig, er enghraifft drwy e-bost neu lythyr. Fodd bynnag, os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol (neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny), gallant roi rhybudd drwy neges lais, neges destun, neu dros y ffôn.
Gallwch gytuno â’ch cyflogai i hepgor y gofyniad i roi rhybudd am absenoldeb.
Os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol (neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny)
Dylai cyflogeion roi rhybudd i chi eu bod yn cymryd absenoldeb cyn gynted â phosibl, ac yn ddelfrydol cyn yr amser y maent fel arfer yn dechrau gwaith.
Os oes angen i’r absenoldeb barhau, dylai cyflogeion roi rhybudd eto erbyn diwedd yr wythnos flaenorol.
Gallwch gytuno ar amlder gwahanol o rybudd gyda’ch cyflogai – er enghraifft os yw’r baban yn debygol o aros mewn gofal newyddenedigol am amser hir.
Dylai cyflogeion hefyd roi gwybod i chi pryd mae’r baban yn gadael gofal newyddenedigol cyn gynted â phosibl.
Os oedd y baban wedi gadael gofal newyddenedigol fwy nag wythnos yn ôl
Mae’n rhaid i gyflogai sydd am gymryd absenoldeb roi’r rhybudd canlynol:
- 15 diwrnod o rybudd ar gyfer un wythnos o absenoldeb
- 28 diwrnod o rybudd ar gyfer 2 wythnos neu fwy o absenoldeb
Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Mae’n rhaid i gyflogeion roi rhybudd am Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol yn ysgrifenedig – er enghraifft, e-bost neu lythyr.
Os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol (neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny)
Mae’n rhaid i gyflogeion roi rhybudd am dâl cyn pen 28 diwrnod o ddechrau eu habsenoldeb.
Os oedd y baban wedi gadael gofal newyddenedigol fwy nag wythnos yn ôl
Mae’n rhaid i gyflogeion sydd am gymryd Tâl Gofal Newyddenedigol roi’r rhybudd canlynol:
- 15 diwrnod o rybudd ar gyfer un wythnos o dâl
- 28 diwrnod o rybudd ar gyfer 2 wythnos neu fwy o dâl
Yr hyn y mae angen i gyflogeion ei rannu â chi
Dylai cyflogeion rannu’r canlynol â chi:
- enw’r baban
- dyddiad geni’r baban ac, os cafodd ei fabwysiadu, y dyddiad y cafodd ei osod gyda nhw (neu’r dyddiad y daeth y baban i mewn i Brydain Fawr os yw’n cael ei fabwysiadu o dramor)
- dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben gofal newyddenedigol y baban
- pryd y maent eisiau dechrau eu habsenoldeb gofal newyddenedigol
- faint o wythnosau o absenoldeb maen nhw’n eu cymryd
Yn achos genedigaethau lluosog, dylent ddarparu’r wybodaeth hon ar gyfer pob plentyn.
Mae’n rhaid iddynt hefyd gadarnhau bod y canlynol yn wir:
- maen nhw’n cymryd yr absenoldeb a’r tâl i ofalu am y plentyn
- mae ganddynt gyfrifoldeb rhieni am y plentyn, os mai dyma’r tro cyntaf iddynt roi rhybudd am Dâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
Canslo absenoldeb a thâl
Canslo Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
Ni all cyflogeion ganslo rhybudd am absenoldeb os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol (neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny).
Os yw’n fwy nag wythnos ers i’r baban adael gofal newyddenedigol, gall cyflogai ganslo absenoldeb drwy roi rhybudd ysgrifenedig:
- am wythnos o absenoldeb – o leiaf 15 diwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau
- am 2 wythnos neu fwy o absenoldeb – o leiaf 28 diwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau
Canslo Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Ni all cyflogeion ganslo rhybudd am dâl os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol (neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl hynny).
Os yw’n fwy nag wythnos ers i’r baban adael gofal newyddenedigol, gall cyflogai ganslo tâl drwy roi rhybudd ysgrifenedig:
- am wythnos o dâl – o leiaf 15 diwrnod cyn i’r cyfnod cyflog ddechrau
- am 2 wythnos neu fwy o dâl – o leiaf 28 diwrnod cyn i’r cyfnod cyflog ddechrau
Rhoi gwybod i gyflogai nad yw’n gymwys
Os ydych chi’n meddwl nad yw cyflogai yn gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, mae’n rhaid i chi roi gwybod iddo cyn pen 28 diwrnod o gael rhybudd am dâl.
Gallwch wneud hyn drwy ysgrifennu at y cyflogai neu ddefnyddio ffurflen NEO1 gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae angen i chi gynnwys y canlynol:
- enw llawn y cyflogai, ei gyfeiriad a’i rif Yswiriant Gwladol
- dyddiad dechrau ar gyfer y cyfnod pan nad yw’n gymwys i gael Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol, a dyddiad dod i ben y cyfnod hwnnw (os oes un)
- rheswm nad oedd y cyflogai yn gymwys (er enghraifft, nid oedd ei faban wedi treulio o leiaf 7 diwrnod yn olynol mewn gofal newyddenedigol)
- manylion y person sy’n gyfrifol am ddelio â’i hawliad
Os yw’r cyflogai’n anghytuno â’ch penderfyniad
Dylai’ch cyflogai gysylltu â chi yn gyntaf i drafod y penderfyniad.
Os yw’n dal i anghytuno, gall gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Mae’n rhaid iddo wneud hyn cyn pen 6 mis o ddyddiad y penderfyniad hwn.