Tâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Sgipio cynnwys

Help gyda thâl statudol

I gael cymorth ariannol gyda thâl statudol, gallwch:

Gwneud cais am daliad ymlaen llaw os na allwch fforddio taliadau

Gallwch wneud cais ar-lein am daliad ymlaen llaw i dalu am Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol cyflogai. Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os oes gennych gwestiynau am daliadau ymlaen llaw.

Cyn i chi ddechrau, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich Cyfeirnod TWE y Cyflogwr
  • eich cyfeirnod talu neu’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon – mae hwn i’w weld ar y llythyr a gawsoch ar ôl i chi gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf
  • swm y dreth neu’r Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus i CThEF
  • manylion banc neu gymdeithas adeiladu ar eich cyfer chi neu ar gyfer y trydydd parti y mae’n cael ei dalu iddo
  • ffurflen R38 (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i llenwi os yw’r taliad ymlaen llaw yn cael ei dalu i drydydd parti
  • eich cyfeiriad e-bost, neu eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth

Bydd angen gwybodaeth arnoch hefyd am y cyflogai, gan gynnwys:

  • rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai
  • ei enillion wythnosol cyfartalog
  • ei drefniadau Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol

.

Ar ôl i chi wneud cais

Os yw’r taliad ymlaen llaw yn cael ei dalu i drydydd parti a’ch bod yn anfon ffurflen R38 wedi’i llenwi drwy’r post, anfonwch hi i CThEF cyn pen 4 wythnos ar ôl gwneud cais am daliad ymlaen llaw.

Trysorlys Corfforaethol / Corporate Treasury
CThEF
BX9 1BG

Ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo, bydd yr arian yn cael ei dalu i’r cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a ddarparwyd gennych neu byddwch yn cael siec, yn dibynnu ar ba opsiwn talu gwnaethoch ei ddewis. Os oes unrhyw broblemau gyda’ch cais, bydd CThEF yn cysylltu â chi.

Ad-dalu’ch taliad ymlaen llaw

Bydd angen i chi ad-dalu’ch taliad ymlaen llaw drwy Grynodeb o Daliadau Cyflogwr (EPS) (yn agor tudalen Saesneg).