Tâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol: arweiniad i gyflogwyr
Trosolwg
Gall cyflogai fod yn gymwys i gael Tâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol os oes ganddo ef neu ei bartner faban sydd angen gofal newyddenedigol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
‘Gofal newyddenedigol’ yw’r enw a roddir i ofal am fabanod newydd sy’n dechrau yn y 28 diwrnod cyntaf ar ôl genedigaeth. Gall hyn fod ar gyfer:
- gofal ysbyty
- gofal meddygol ar ôl gadael yr ysbyty
- gofal lliniarol neu ofal diwedd oes
Mae’n rhaid i ofal meddygol ar ôl gadael yr ysbyty gael ei oruchwylio gan ymgynghorydd a chynnwys ymweliadau parhaus neu wiriadau a drefnwyd gan yr ysbyty lle cafodd y baban ei drin.
Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am y baban:
- mae’n rhaid i’r baban fynd i ofal newyddenedigol o fewn 28 diwrnod i’r enidigaeth
- mae’n rhaid i’r baban dreulio o leiaf 7 diwrnod yn olynol mewn gofal newyddenedigol
Mae’n rhaid i’r rhieni fod yn gyflogedig yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban.
Mae’n rhaid i’r dyddiad geni fod ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025.
Gofal Newyddenedigol
Gall cyflogai gymryd hyd at uchafswm o 12 wythnos o Absenoldeb Gofal Newyddenedigol o ddiwrnod cyntaf ei gyflogaeth.
Gall un wythnos o absenoldeb gael ei gymryd am bob 7 diwrnod llawn yn olynol y mae’r baban mewn gofal newyddenedigol.
Mae’n rhaid i gyflogai gymryd ei holl absenoldeb o fewn 68 wythnos o ddyddiad geni’r baban.
Gall gymryd absenoldeb yn yr achosion canlynol:
- tra bod y baban mewn gofal newyddenedigol, neu yn yr wythnos gyntaf ar ôl hynny (gelwir hyn yn ‘haen 1’)
- mwy nag wythnos ar ôl i’r baban adael gofal newyddenedigol (gelwir hyn yn ‘haen 2’)
Sut mae’r absenoldeb yn cael ei gymryd
Os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol, neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl i’r baban gadael gofal newyddenedigol, gall cyflogeion gymryd absenoldeb mewn blociau sy’n cwmpasu o leiaf wythnos ar y tro. Nid oes rhaid iddynt gymryd yr wythnosau hyn i gyd ar yr un pryd.
Os yw wythnos neu fwy wedi mynd heibio ers i’r baban adael gofal newyddenedigol, mae’n rhaid i gyflogeion gymryd unrhyw absenoldeb y mae ganddynt hawl iddo mewn un bloc parhaus.
Mae’n rhaid iddynt roi’r rhybudd cywir i chi am eu habsenoldeb.
Cymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol gyda mathau eraill o absenoldeb statudol
Mae’n rhaid i gyflogeion gymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol ar ôl unrhyw Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu Statudol.
Os yw’r baban mewn gofal newyddenedigol, neu yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl i’r baban gadael gofal newyddenedigol, gall fathau eraill o absenoldeb i rieni a drefnwyd ymlaen llaw (fel Absenoldeb Tadolaeth neu Absenoldeb ar y Cyd i Rieni), tarfu ar Absenoldeb Gofal Newyddenedigol. Gellir ychwanegu’r cyfnod o Absenoldeb Gofal Newyddenedigol sy’n weddill at ddiwedd y math arall o absenoldeb i rieni.
Os yw’r absenoldeb yn cael ei gymryd yn hwyrach na’r wythnos gyntaf ar ôl i’r baban adael gofal newyddenedigol, dim ond mewn un bloc y gellir ei gymryd, a hynny cyn neu ar ôl unrhyw hawl presennol o ran absenoldeb arall i rieni.
Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Mae Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol ar gyfer cyflogai cymwys naill ai’n £187.18 yr wythnos neu’n 90% o’i enillion wythnosol cyfartalog, pa un bynnag sydd isaf.
Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.
Dysgwch sut i hawlio taliadau yn ôl neu wneud cais am daliad ymlaen llaw os na allwch fforddio taliadau.
Absenoldeb neu dâl ychwanegol
Gallwch gynnig mwy na’r symiau statudol os oes gennych gynllun cwmni ar gyfer Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol. Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod polisïau eich cynlluniau yn eglur ac ar gael i staff.
Hawliau cyflogaeth
Diogelir hawliau’r cyflogai (yn agor tudalen Saesneg) (fel yr hawl i godiad cyflog, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod Absenoldeb Gofal Newyddenedigol.
Os ydych chi’n diswyddo cyflogai, mae’n rhaid i chi dalu unrhyw Dâl Gofal Newyddenedigol sydd heb ei dalu.
Mae’n rhaid i chi dalu Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.