Tâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Sgipio cynnwys

Cymhwystra

Mae’n rhaid i gyflogai fod yn gymwys i gael Absenoldeb Gofal Newyddenedigol a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol fel rhiant â chyfrifoldeb gofalu am y baban, ac fel cyflogai.

Yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban, gall cyflogai gael hyd at 12 wythnos o dâl ac absenoldeb os yw’r canlynol yn wir am ei faban:

  • ganwyd y baban ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025
  • mae’r baban yn treulio 7 diwrnod neu fwy mewn gofal newyddenedigol yn olynol

Er mwyn cael absenoldeb a thâl, mae’n rhaid i’r cyflogai gael ei ystyried fel cyflogai (yn agor tudalen Saesneg) – mae hyn yn golygu bod ganddo gontract cyflogaeth.

Gall cyflogai fod yn gymwys os yw’n cymryd absenoldeb a thâl i ofalu am y baban ac mae un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’n rhiant i’r baban, (biolegol, mabwysiadol, neu blentyn a anwyd i fam benthyg) gyda chyfrifoldeb gofalu am y baban
  • mae’n partner i fam y baban, gyda chyfrifoldebau gofalu ar y cyd

Os yw’r cyflogai neu ei bartner yn rhiant mabwysiadol

Gall cyflogai fod yn gymwys i gael absenoldeb a thâl os yw’n cymryd yr absenoldeb i ofalu am y plentyn ac mae’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r plentyn wedi’i osod gydag ef i’w fabwysiadu (neu wedi’i gymeradwyo ar gyfer mabwysiadu)
  • ei fod yn bartner i’r mabwysiadwr ac mae ganddo gyfrifoldebau gofalu ar y cyd

Gall cyflogai fod yn gymwys os yw’n mabwysiadu baban o dramor, neu os yw ei bartner yn mabwysiadu baban o dramor, ac mae’r canlynol yn wir:

  • bydd ganddo gyfrifoldeb gofalu am y baban
  • mae’r baban wedi’i osod gydag ef
  • mae ganddo’r ‘hysbysiad swyddogol’ sy’n cadarnhau ei fod yn cael mabwysiadu

Os cafodd y cyflogai faban gyda chymorth mam fenthyg

Mae cyflogai yn gymwys os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • mae ganddynt gyfrifoldeb am fagu’r plentyn
  • maent yn gwneud cais am orchymyn rhieni cyn pen 6 mis o enedigaeth y plentyn

Gofal Newyddenedigol

Mae cyflogeion yn gymwys o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth.

Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol

Mae’n rhaid i’r cyflogai fod wedi bod yn gyflogedig am o leiaf 26 wythnos hyd at ddiwedd yr ‘wythnos gymhwysol’.

Os oes gan eich cyflogai hawl i Dâl Mamolaeth neu Dadolaeth yn barod, dyma’r 15fed wythnos cyn i ddyddiad disgwyl y baban. Os oes ganddo hawl i Dâl Mabwysiadu Statudol yn barod, dyma’r wythnos y dywedwyd wrth y cyflogai ei fod wedi cael ei baru â’r baban i’w fabwysiadu.

Fel arall, yr wythnos gymhwysol yw’r wythnos yn union cyn i’r baban fynd i ofal newyddenedigol.

Mae’n rhaid i’r cyflogai hefyd:

  • barhau i fod yn gyflogedig hyd at yr wythnos cyn iddo hawlio’r tâl
  • ennill o leiaf £125 yr wythnos ar gyfartaledd (cyn treth) dros gyfnod o 8 wythnos