Cynllun Cyfradd Unffurf TAW

Printable version

1. Trosolwg

Fel arfer, swm y TAW y mae busnes yn ei thalu neu’n ei hawlio’n ôl gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) yw’r gwahaniaeth rhwng y TAW y mae’r busnes yn ei chodi ar gwsmeriaid a’r TAW y mae’r busnes yn ei thalu ar ei bryniannau ei hunain.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os ydych yn rhan o’r Cynllun Cyfradd Unffurf:

Efallai y byddwch yn gallu ymuno â’r cynllun os yw’ch trosiant TAW yn £150,000 neu lai (heb gynnwys TAW).

I ymuno â’r cynllun, mae’n rhaid i chi wneud cais i CThEF.

Gallwch siarad â chyfrifydd neu ymgynghorydd treth os ydych am gael cyngor ynghylch a yw’r Cynllun Cyfradd Unffurf yn addas i chi.

2. Pwy sy’n gallu ymuno

Gallwch ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW
  • rydych yn disgwyl i’ch trosiant trethadwy TAW fod yn £150,000 neu lai (heb gynnwys TAW) yn ystod y 12 mis nesaf

Trosiant trethadwy TAW yw cyfanswm popeth a werthir nad yw wedi’i eithrio rhag TAW.

Eithriadau

Ni allwch ymuno â’r cynllun os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • gwnaethoch adael y cynllun yn ystod y 12 mis diwethaf
  • gwnaethoch gyflawni trosedd TAW yn ystod y 12 mis diwethaf, er enghraifft osgoi TAW
  • gwnaethoch ymuno â grŵp TAW (neu yr oeddech yn gymwys i ymuno â grŵp TAW) yn ystod y 24 mis diwethaf
  • gwnaethoch gofrestru ar gyfer TAW fel is-adran busnes yn ystod y 24 mis diwethaf
  • mae’ch busnes â chysylltiad agos â busnes arall (yn agor tudalen Saesneg)
  • rydych wedi ymuno â chynllun gorswm TAW neu gynllun nwyddau cyfalaf TAW

Ni allwch ddefnyddio’r cynllun gyda’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod. Yn lle hynny, mae gan y Cynllun Cyfradd Unffurf ei ddull ei hun o gyfrifo trosiant, a hwnnw ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).

3. Sut i ymuno

Mae’n rhaid i chi fod yn gymwys i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf.

Mae’r ffordd y byddwch yn ymuno â’r cynllun yn dibynnu ar p’un a ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW ai beidio.

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW

Dylech gofrestru ar gyfer TAW ac ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf ar yr un pryd. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW (yn agor tudalen Saesneg). Byddwch yn cael gwybod sut i ymuno â’r cynlluniau pan fyddwch yn cofrestru.Ìý

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer TAW

Gallwch wneud cais i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf ar-lein neu drwy’r post.

Os ydych am ymuno â’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW (yn agor tudalen Saesneg) bydd angen i chi wneud hynny ar wahân.

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwch yn cael cadarnhad eich bod wedi ymuno â’r cynllun:

  • drwy’ch cyfrif TAW ar-lein – os gwnaethoch gais ar-leinÌý
  • drwy’r post – os gwnaethoch gais gan ddefnyddio ffurflen bapur

4. Cyfrifwch eich cyfradd unffurf

Fel arfer, mae’r gyfradd unffurf TAW yr ydych yn ei defnyddio yn dibynnu ar eich math o fusnes. Gallwch dalu cyfradd wahanol os mai dim ond swm bach yr ydych yn ei wario ar nwyddau.

Byddwch yn cael gostyngiad o 1% os yw’ch busnes yn ei flwyddyn gyntaf o fod yn fusnes wedi’i gofrestru ar gyfer TAW.

Os ydych yn gwario swm bach ar nwyddau

Byddwch yn cael eich ystyried yn ‘busnes cost gyfyngedig’ os yw eich nwyddau’n costio llai na naill ai:

  • 2% o’ch trosiant
  • £1,000 y flwyddyn (os yw eich costau dros 2%)

Mae hyn yn golygu eich bod yn talu’r gyfradd uwch, sef 16.5%. Gallwch a chyfrifo pa nwyddau sy’n cyfrif fel costau.

Os nad ydych yn fusnes cost gyfyngedig, dylech ddefnyddio’ch math o fusnes i gyfrifo’ch cyfradd unffurf.

Cyfraddau unffurf ar gyfer mathau o fusnesau

Math o fusnes Cyfradd unffurf TAW (%)
Cyfrifyddiaeth neu gadw cyfrifon 14.5
Hysbysebu 11
Gwasanaethau amaethyddol 11
Unrhyw weithgaredd arall nad yw wedi’i restru yn unman arall 12
Pensaer, peiriannydd sifil a strwythurol neu syrfëwr 14.5
Lletya neu ofalu am anifeiliaid 12
Gwasanaethau busnes nad ydynt wedi’u rhestru yn unman arall 12
Gwasanaethau arlwyo, gan gynnwys bwytai a siopau tecawê, cyn 15 Gorffennaf 2020 12.5
Gwasanaethau arlwyo, gan gynnwys bwytai a siopau tecawê, o 15 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2021 4.5
Gwasanaethau arlwyo, gan gynnwys bwytai a siopau tecawê, o 1 Hydref 2021 i 31 Mawrth 2022 8.5
Gwasanaethau arlwyo, gan gynnwys bwytai a siopau tecawê, o 1 Ebrill 2022 12.5
Ymgynghori ynghylch cyfrifiaduron a TG neu brosesu data 14.5
Gwasanaethau trwsio cyfrifiaduron 10.5
Adloniant neu newyddiaduraeth 12.5
Gwasanaethau asiantaeth eiddo, neu wasanaethau rheoli eiddo 12
Gwasanaethau ffermio neu amaethyddiaeth nad ydynt wedi’u rhestru yn unman arall 6.5
Cynhyrchu ffilm, radio, teledu neu fideo 13
Gwasanaethau ariannol 13.5
Coedwigaeth neu bysgota 10.5
Gwasanaethau adeiladu cyffredinol* 9.5
Gwasanaethau trin gwallt neu driniaethau harddwch eraill 13
Llogi neu rentu nwyddau 9.5
Gwesty neu lety cyn 15 Gorffennaf 2020 10.5
Gwesty neu lety o 15 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2021 0
Gwesty neu lety o 1 Hydref 2021 i 31 Mawrth 2022 5.5
Gwesty neu lety cyn 1 Ebrill 2022 10.5
Ymchwilio neu ddiogelwch 12
Gwasanaethau adeiladu – llafur yn unig* 14.5
Gwasanaethau golchdy neu sychlanhau 12
Gwasanaethau cyfreithiwr neu wasanaethau cyfreithiol 14.5
Llyfrgell, archif, amgueddfa neu weithgaredd diwylliannol arall 9.5
Ymgynghori ym maes rheoli 14
Gweithgynhyrchu cynhyrchion metel gwneuthuredig 10.5
Gweithgynhyrchu bwyd 9
Gwasanaethau gweithgynhyrchu nad ydynt wedi’u rhestru yn unman arall 9.5
Gweithgynhyrchu edafedd, tecstilau neu ddillad 9
Sefydliad aelodaeth 8
Mwyngloddio neu chwarelu 10
Pecynnu 9
Ffotograffiaeth 11
Swyddfeydd Post 5
Argraffu 8.5
Cyhoeddi 11
Tafarnau cyn 15 Gorffennaf 2020 6.5
Tafarnau o 15 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2021 1
Tafarnau o 1 Hydref 2021 i 31 Mawrth 2022 4
Tafarnau o 1 Ebrill 2022 6.5
Gweithgaredd eiddo tirol nad yw wedi’i restru yn unman arall 14
Trwsio nwyddau personol neu’r nwyddau i’r tŷ 10
Trwsio cerbydau 8.5
Manwerthu bwyd, melysion, tybaco, papurau newydd neu ddillad plant 4
Manwerthu deunydd fferyllol, nwyddau meddygol, colur neu bethau ymolchi 8
Gwasanaethau manwerthu nad ydynt wedi’u rhestru yn unman arall 7.5
Manwerthu cerbydau neu danwydd 6.5
Gwasanaethau ysgrifenyddol 13
Gwaith cymdeithasol 11
Chwaraeon neu hamdden 8.5
Cludo neu storio, gan gynnwys gwasanaethau cludo, llwytho, symud a thacsis 10
Asiantaeth deithio 10.5
Meddyginiaeth filfeddygol 11
Cyfanwerthu nwyddau amaethyddol 8
Cyfanwerthu bwyd 7.5
Gwasanaethau cyfanwerthu nad ydynt wedi’u rhestru yn unman arall 8.5

*Mae ‘gwasanaethau adeiladu – llafur yn unig’ yn golygu gwasanaethau adeiladu lle mae gwerth y deunyddiau a gyflenwir yn llai na 10% o drosiant y gwasanaethau hynny. Os yw’r gwerth yn fwy na’r swm hwnnw, caiff y math o fusnes ei ystyried yn ‘Gwasanaethau adeiladu cyffredino’.

Yr hyn rydych yn ei dalu

Dylech gyfrifo’r dreth rydych yn ei thalu drwy luosi eich cyfradd unffurf TAW â’ch ‘trosiant gan gynnwys TAW’.

Enghraifft

Rydych yn bilio cwsmer am £1,000, gan ychwanegu TAW ar 20% i wneud cyfanswm o £1,200.

Rydych yn ffotograffydd, felly, y gyfradd unffurf TAW ar gyfer eich math chi o fusnes yw 11%.

Bydd eich taliad cyfradd unffurf yn 11% o £1,200, sef £132.

Mae trosiant sy’n cynnwys TAW yn wahanol i drosiant TAW safonol. Yn ogystal ag incwm busnes (megis o werthiannau), mae’n cynnwys y TAW a dalwyd ar yr incwm hwnnw.

Cyfrifo 2 gyfradd unffurf

Dylai’r cyfrifiad cyntaf gwmpasu’r cyfnod o ddiwrnod cyntaf eich cyfnod cyfrifyddu hyd at ddiwrnod olaf y gyfradd unffurf honno. Dylai’r ail gyfrifiad gwmpasu’r cyfnod o ddyddiad y gyfradd unffurf newydd hyd at ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu.

Cael help

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cynllun Cyfradd Unffurf, gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

5. Os bydd eich amgylchiadau’n newid

Mae’n rhaid i chi adael y cynllun os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych bellach yn gymwys i fod yn rhan ohono
  • ar ddiwrnod pen-blwydd eich busnes yn ymuno, roedd eich trosiant yn ystod y 12 mis diwethaf yn fwy na £230,000 (gan gynnwys TAW) – neu rydych yn disgwyl iddo fod yn y 12 mis nesaf
  • rydych yn disgwyl i gyfanswm eich incwm fod yn fwy na £230,000 (gan gynnwys TAW) yn ystod y 30 diwrnod nesaf

6. Gadael y cynllun

Gallwch ddewis gadael y cynllun ar unrhyw adeg. Mae’n rhaid i chi adael y cynllun os nad ydych bellach yn gymwys i fod yn rhan ohono.

Ar ôl i chi adael, bydd yn rhaid i chi aros 12 mis cyn i chi allu ailymuno â’r cynllun.

Sut i adael

I adael y cynllun, cysylltwch â CThEF gyda’r wybodaeth ganlynol:

  • eich enw
  • eich llofnod
  • eich rhif TAW
  • enw a chyfeiriad eich busnes

Bydd CThEF wedyn yn cadarnhau eich dyddiad gadael.

Cysylltu â CThEF

Gallwch gysylltu â CThEF drwy e-bost, drwy’r post, neu dros y ffôn.

gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk
Ffôn: 0300 200 3705
O’r tu allan i’r DU: +44 0300 200 3705
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm (ac eithrio gwyliau banc (yn agor tudalen Saesneg))
Dysgwch am gostau galwadauÌý

I gysylltu â CThEF drwy’r post, anfonwch eich llythyr i’r cyfeiriad canlynol. Mae’n rhaid i chi ei lofnodi yn gyntaf.

BT VAT
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST